Neidio i'r prif gynnwy
Agenda

Amser

Eitem

Papurau

9am

Croeso

  1. Cofnodion
  2. Camau gweithredu

9.10am

Cyfranogiad pobl ifanc i'r bwrdd

  1. Llythyr ar ffurf ddrafft at bobl ifanc

9.30am

Gweithdy Wavehill

 

11am

Egwyl

 

11.10am

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru
Diweddariad gan Keith

 

11.20am

Trafodaethau am adroddiad y bwrdd

  1. Diagram cysylltiadau polisi

12.15pm

Ailgychwyn Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a Chadeirydd Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth

  1. Cynlluniau gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

12.45pm

Bwletin/cyfathrebu ynghylch dyfodol gwaith ieuenctid

 

1pm

Diwedd y cyfarfod

 

Yn bresennol: Aelodau

Enw

Rôl

Keith Towler (KT)

Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Dusty Kennedy (DK)

Cyfarwyddwr TRM Academy

Sharon Lovell (SL)

Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)

Efa Gruffudd Jones (EGJ)

Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Eleri Thomas (ET)

Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Simon Stewart (SS)

Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Jo Sims (JS)

Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent

Yn bresennol: Llywodraeth Cymru

Donna Lemin (DL)

Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Joel Hodson (JH)

Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Cofnodion a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

  • Cytunodd pawb a oedd yn bresennol ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.

Cyfranogiad pobl ifanc i'r bwrdd

  • Gan adeiladu ar y sgyrsiau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud, cynigiodd SL Fwrdd pobl ifanc ar wahân i redeg ochr yn ochr â'r IYWB.
  • Soniodd hi fod llawer o geisiadau da wedi'u derbyn ar gyfer ymuno â'r bwrdd pan gafodd y cyfle ei hysbysebu'n flaenorol ac y byddai'n falch o hwyluso'r broses ynghyd â Llywodraeth Cymru. Awgrymwyd y gallai'r grŵp hwn ymgymryd â gwaith ymchwil a siarad am adroddiad y bwrdd â'r gweinidog ymhlith gweithgareddau eraill. Cytunodd y bwrdd i anfon llythyr cychwynnol.
  • Gofynnodd EGJ y byddai hyn yn cael ei wneud yn ddwyieithog a chytunwyd ar hynny.
  • Cefnogodd SS hyn gan gynghori y byddai'n amgylchedd lle gallai pobl ifanc fynegi eu hunain yn haws ac nad yw'n teimlo'n symbolaidd.

Gweithdy Wavehill

  • Cafodd y bwrdd gyflwyniad gan gontractwyr ymchwil Wavehill sy'n dangos cynnydd gwaith yr ymarfer mapio sy'n mynd rhagddo.

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

  • Rhannodd DL y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyhoeddi canllaw gwaith ieuenctid mewn perthynas â COVID-19.
  • Dywedodd JH mai dyma fyddai ei gyfarfod olaf gan y bydd yn gadael Llywodraeth Cymru'n fuan. Bydd James McRae, sy'n Swyddog ar y Llwybr Carlam, yn ymuno â'r Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid, a bydd yn cymryd y gwaith mae Joel yn ei wneud mewn perthynas â'r bwrdd drosodd. Bydd Dareth Edwards o'r Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid hefyd yn cymryd rhan yn fwy mewn gwaith polisi.

Diweddariad gan Keith Towler

  • Dywedodd KT ei fod wrthi'n gweithio ar drefnu dyddiad i gwrdd â'r Gweinidog Addysg.
  • Soniodd y cafodd yr Wythnos Gwaith Ieuenctid ei chynnal yn ddiweddar ac y bu'n llwyddiannus iawn.
  • Cyflwynodd KT gyfarfod diweddar SS â chadetiaid y GIG. Esboniodd SS y trefnwyd y cyfarfod hwn er mwyn cwrdd â grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli mewn addysg uwch ac i gynnig llwybrau iddynt i mewn i yrfaoedd penodol. Dywedodd y bydd yn cymryd rhan mewn cyfarfod dilynol â'r Coleg Brenhinol Nyrsio pan fyddant yn trafod menter beilot.

Trafodaethau am adroddiad y bwrdd

  • Disgrifiodd KT ei syniad ar gyfer adroddiad terfynol y bwrdd, sef sicrhau ei bod yn ddogfen denau sy'n cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i mynegi'n drylwyr. Pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod ein hargymhellion yn eglur a'u bod wedi'u gosod yn amlwg ar flaen y ddogfen.
  • Cytunwyd ar hyn a nodwyd bod yn rhaid iddo bwysleisio natur ataliol gwaith ieuenctid, bod yn glir ynglŷn â phwy fydd cynulleidfa'r adroddiad hwn, a sicrhau bod sail gref i unrhyw argymhellion

Ailgychwyn Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth

  • Soniodd JH y bydd Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth yn ailgychwyn yn fuan, a dywedodd y dylai arweinwyr y grwpiau hyn sy'n rhan o'r bwrdd drefnu bod eu cyfarfodydd yn digwydd cyn digwyddiad Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a gaiff ei gynnal yn ddigidol, o bosib, yng nghanol mis Hydref.
  • Mae angen rhywun i lenwi rôl wag arweinydd Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth Mae Gwaith Ieuenctid yn Hygyrch a Chynhwysol, ac mae KT a DK ar fin trafod hyn.

Bwletin Dyfodol Gwaith Ieuenctid

  • Roedd aelodau'r bwrdd am ddiolch i swyddogion Llywodraeth Cymru am safon uchel y bwletinau gwaith ieuenctid sydd wedi'u dosbarthu i'r sector. Gwelodd y bwrdd ystadegau o nifer y bobl a oedd yn gweld y bwletinau hyn.

Gofynnwyd ychydig o gwestiynau ynghylch ai dyma oedd y ffordd orau o ddefnyddio amser swyddogion, ond ar y cyfan teimlwyd ei bod yn werth parhau â nhw.