Neidio i'r prif gynnwy

Egluro sut i ymgeisio ar ran cleient.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Proses ymgeisio

Sicrhewch fod yr wybodaeth ar ffurflen gais y cwsmer yn gywir.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, edrychwch ar ein rhestr wirio. Mae'r rhestr wirio yn cynnwys y dogfennau a'r wybodaeth bwysig y dylai pob darpar brynwr eu darllen a'u deall, awgrymiadau ar sut i lenwi'r ffurflen gais yn gywir, a'r dogfennau ategol y dylid eu cyflwyno gyda phob cais.

Cyfrifo Cymhwysedd

Dylech ddefnyddio’r adnodd cyfrifo i asesu cynaliadwyedd darpar brynwr ar gyfer Benthyciad Ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru.

Lluniwyd yr adnodd i asesu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â’r eiddo, megis ad-daliadau morgais, taliadau gwasanaeth a chostau rhedeg.

Sylwer: 45% yw’r uchafswm y gellir ei ddefnyddio yn y cyfrifiad.

Sicrhewch eich bod wedi darllen y canllawiau gwybodaeth cyn llenwi’r ffurflen. Bwriad y canllawiau yw sicrhau bod prynu’r eiddo yn gynaliadwy yn y tymor hir i’r prynwr a diogelu’r buddsoddiad.