Neidio i'r prif gynnwy

Dafydd Elis-Thomas, Y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53 ym mis Gorffennaf er mwyn cynnig cymorth hanfodol i’r sector. Cyflwynais y newyddion diweddaraf am dair rhan y Gronfa fis diwethaf, gan dynnu sylw at hynt y gwaith o gefnogi sefydliadau yn ystod y pandemig a chanlyniad y broses a gafodd ei harwain gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Rydym mewn cyfnod cwbl ddigynsail. Mae’r galw am gyllid ar draws sector y celfyddydau a diwylliant wedi bod yn sylweddol iawn. Rwy’n cyhoeddi heddiw gyllid ychwanegol er mwyn helpu i ddiwallu’r galw yma. Bydd £10.7 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi sefydliadau ac unigolion yn ystod y pandemig. Golyga hyn fod cyfanswm o £63.7 miliwn ar gael gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol.

Caiff y cyllid ychwanegol yma ei ddefnyddio ar gyfer cymeradwyo mwy o’r nifer uchel o geisiadau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’u derbyn – gan gefnogi sefydliadau o fewn y sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth – er mwyn sicrhau bod mwy o fewn y sector yn gallu derbyn cyllid cyn gynted â phosibl.

Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i agor cam arall o’r Gronfa lwyddiannus ar gyfer Gweithwyr Llawrydd, a hefyd dargedu’r ceisiadau yr ydym eisoes wedi’u derbyn.

Mae’r Gronfa gwerth £7 miliwn ar gyfer Gweithwyr Llawrydd eisoes wedi cefnogi 2,800 o weithwyr llawrydd gyda grant o £2,500 yr un. Bydd y cyllid ychwanegol yma a gyhoeddir heddiw yn ein galluogi i gynnig cam arall o broses ymgeisio am gyllid sydd werth £3.5m, gan gefnogi 1,400 o bobl yn ychwanegol.

Bydd y trydydd cam hwn ar gael ar lefel genedlaethol, ar draws holl ardaloedd yr awdurdodau lleol o 10am ddydd Llun 23 Tachwedd.