Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi ysgrifennu at ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru yn eu hannog i sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan y bydd y cyfnod pontio yn dod i ben ymhen cyn lleied â 50 diwrnod, mae'r Gweinidog wedi nodi rhai o'r camau y mae'n rhaid i fusnesau eu cymryd i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE a phosibilrwydd ymadael heb gytundeb.

O 1 Ionawr 2021, bydd y DU wedi ymadael â Marchnad Sengl yr UE sy'n golygu na fydd gan fusnesau yng Nghymru fynediad mwyach i'r fasnach heb wrthdaro mewn nwyddau neu wasanaethau gydag aelod-wladwriaethau'r UE. Mae'r Gweinidog wedi pwysleisio bod camau y mae'n rhaid i fusnesau eu cymryd yn awr a bod angen iddynt wneud hyn os bydd y DU yn llwyddo i sicrhau cytundeb masnach â’r UE ai peidio.

Mae Gweinidog yr Economi hefyd wedi ail-bwysleisio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi a chynghori busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn.

Mae hyn yn cynnwys Porth Pontio UE Busnes Cymru sydd newydd ei ail-lansio sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y trefniadau pontio Ewropeaidd, a gwefannau Paratoi Cymru a Busnes Cymru sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'n busnesau. Mae rheoli effeithiau COVID-19 wedi bod yn her enfawr ynddo'i hun a chyda dim ond hanner can diwrnod o'r flwyddyn ar ôl, rhaid i gwmnïau Cymru hefyd sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

"Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi darparu buddsoddiad ychwanegol er mwyn helpu cwmnïau i hyfforddi staff, ystyried opsiynau ac wynebu’r heriau sy'n gysylltiedig â’r ffaith bod y DU yn ymadael â’r UE.

"I gefnogi hyn, cyhoeddwyd gwerth £100m o gyllid grant ar gyfer datblygu busnesau yn ddiweddar. Nod y cyllid hwn yw helpu busnesau i baratoi ar gyfer yr heriau hirdymor sydd ynghlwm wrth fywyd ar ôl COVID a bywyd y tu allan i'r UE. Er y bu'n rhaid oedi'r broses ymgeisio ar gyfer y grantiau hyn yn sgil y ffaith y derbyniwyd cynifer o geisiadau, rydym wrthi'n ystyried sut y gallwn ddarparu rhagor o gymorth i fusnesau.

"O 1 Ionawr, bydd y ffordd rydym yn masnachu gyda'r UE yn wahanol a dyma’r sefyllfa os bydd cytundeb neu beidio. Mae'n hanfodol bod cwmnïau'n cymryd camau nawr i baratoi eu hunain ar gyfer y gwahanol amodau a fydd yn bodoli o 2021 ymlaen."

Er mwyn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, mae'r Gweinidog yn annog busnesau i:

  • Wirio a oes angen trwydded arnynt i fewnforio neu allforio eu nwyddau neu a fydd newidiadau i safonau labelu a marcio.
  • Adolygu codau nwyddau a sicrhau bod y rhai cywir yn cael eu defnyddio i osgoi oedi ar y ffin a sicrhau bod y tollau cywir yn cael eu talu.
  • Sicrhau bod Incoterms® yn cael eu trafod yn ystod y cam contract er mwyn osgoi unrhyw oedi ar y ffin. Dyma'r telerau rhyngwladol safonol a ddefnyddir mewn contractau sy'n diffinio cyfrifoldebau sylfaenol y partïon am y nwyddau ar bob cam yn ystod y broses dramwy.
  • Cofrestru ar gyfer y Cynllun Cymorth i Fasnachwyr os ydynt yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn eu harwain drwy unrhyw newidiadau sy'n gysylltiedig â gweithredu Protocol Gogledd Iwerddon.
  • Cadarnhau a oes angen trwyddedau ECMT ar gyfer unrhyw deithiau cludo nwyddau o 1 Ionawr 2021. Y dyddiad cau o ran cyflwyno cais am drwydded ECMT ar gyfer 2021 yw 20 Tachwedd 2020.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cyngor wedi'i deilwra i fusnesau sy'n ymwneud â masnach ryngwladol drwy ei gwefan Busnes Cymru neu ei llinell gymorth.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rwy'n cydnabod yn llwyr fod hwn yn gyfnod gwirioneddol anodd i fusnesau, ond cofiwch ein bod yn awyddus i gefnogi ein cwmnïau a'n pobl yng Nghymru a’n bod yn gwrando ar eu barn a'u pryderon.

"Os na fydd gan y DU gytundeb erbyn diwedd y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn gweithio i ehangu’r gweithgareddau cefnogi busnesau er mwyn sicrhau y bydd cwmnïau a'r bobl yr effeithir yn andwyol arnynt yn gallu manteisio ar gymorth ychwanegol.

"Byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a'n cymunedau ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu."