Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cynllun Cymru Iachach wedi cydnabod bod y maes digidol yn allweddol i alluogi trawsnewid. Mae hefyd wedi cydnabod heriau cyflwyno newidiadau digidol yn gyflym ac ar raddfa fawr ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru. Mae gwaith yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal ag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd wedi tynnu sylw at yr heriau hyn. 

Mewn ymateb, fe gomisiynais ddau adolygiad mawr annibynnol o rôl y maes digidol mewn iechyd a gofal yng Nghymru a chyhoeddais y byddai Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn trosglwyddo o’u statws anstatudol presennol fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, i Awdurdod Iechyd Arbennig newydd. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sefydlu’r Awdurdod Iechyd Arbennig hwn.

Mae sefydlu ein sefydliad gwasanaethau digidol cenedlaethol fel sefydliad penodedig yn adlewyrchu pwysigrwydd technoleg ddigidol fel rhywbeth sy’n allweddol i alluogi trawsnewid. Mae hyn wedi bod yn fwy amlwg nag erioed yn y gallu i gynnig atebion digidol hyblyg yn gyflym i gefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19, gan gynnwys ein platfform olrhain cysylltiadau digidol i gefnogi’r gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, a chyfleusterau i alluogi staff i weithio o bell a galluogi cleifion i gyfathrebu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol o’u cartrefi.

Mae cynnydd o ran datblygu’r Awdurdod Iechyd Arbennig yn cymryd hirach nag y rhagwelwyd oherwydd effaith COVID-19. Y dyddiad diwygiedig bellach yw 1 Ebrill 2021 ac mae sawl carreg filltir wedi’u cyflawni:

  • Cytuno ar enw ar gyfer yr Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n adlewyrchu ei swyddogaeth i’r dyfodol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
  • Cyhoeddi dogfen ymgynghori yn amlinellu swyddogaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (https://llyw.cymru/awdurdod-iechyd-arbennig-i-gymru-yn-y-maes-digidol). Daw’r ymgynghoriad i ben ar 30 Tachwedd 2020.
  • Paratoi i osod y Ddeddfwriaeth angenrheidiol gerbron y Senedd yng Nghymru i sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig.

Heddiw mae’n bleser gennyf gyhoeddi carreg filltir arall gyda phenodiad Mr Bob Hudson OBE fel Cadeirydd Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru o 6 Tachwedd 2020, am gyfnod o 12 mis. Gwneir y penodiad hwn yn unol ag Adran 3.3 y Cod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus a chyda chydsyniad y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Bydd Mr Hudson yn goruchwylio’r gwaith o sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru, recriwtio’r bwrdd newydd a chyflawni’r fframwaith llywodraethu. Mae’r penodiad hwn, a wnaed heb gystadleuaeth, yn cefnogi’r amserlen heriol ar gyfer recriwtio Swyddogion ac aelodau nad ydynt yn Swyddogion i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae angen dechrau ar y gwaith hwn cyn diwedd y flwyddyn galendr i alluogi i Iechyd a Gofal Digidol Cymru fod yn weithredol o 1 Ebrill 2021.

Rhoddir cydnabyddiaeth tâl blynyddol o £38,844 ar gyfer y rôl, am ymrwymiad amser o 13 diwrnod y mis, ac nid yw Mr Hudson wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Mae Mr Hudson wedi cael profiad helaeth ar lefel Bwrdd yn y GIG, gan gynnwys pedair swydd fel Prif Weithredwr, gan gynnwys sefydlu Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru fel corff cenedlaethol. Yn ogystal, roedd Mr Hudson yn Gyfarwyddwr Strategaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Yn ei swydd olaf cyn ymddeol, roedd Mr Hudson yn Gyfarwyddwr Cydweithredfa GIG Cymru, lle bu’n cydlynu gwaith sefydliadau’r GIG ar draws Cymru mewn cyfres o brosiectau mawr yn ymwneud â newid strategol.

Bydd ei brofiad ar draws Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru yn fanteisiol iawn wrth sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’i le o fewn teulu GIG Cymru. Bydd profiadau Mr Hudson yn ei alluogi i ddatblygu perthnasoedd effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a’r sector iechyd a gofal yn ehangach.

Mae llawer o waith i’w wneud rhwng nawr ac Ebrill 2021 ond rwy’n hyderus y bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi’i sefydlu ac yn gallu cael effaith gadarnhaol yng Nghymru o’r flwyddyn nesaf gan chwarae ei ran wrth sicrhau gwell canlyniadau i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.