Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen hon yn nodi cwmpas a chynnwys yr hyfforddiant sydd i'w ddarparu i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru ar ddeall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso, gwella ac atebolrwydd mewn ysgolion. Disgwylir i lywodraethwyr gael hyfforddiant, ac i awdurdodau lleol ddarparu hyfforddiant, yn y meysydd a nodir yn y ddogfen hon sy’n berthnasol i’w hysgolion.

Mae rhan 1 - yn nodi cwmpas a chynnwys gorfodol yr hyfforddiant ar ddeall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwell mewn ysgolion a gynhelir heblaw ysgolion arbennig.

Mae rhan 2 - yn nodi cwmpas a chynnwys gorfodol yr hyfforddiant ar ddeall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwell mewn ysgolion arbennig.

Mae cyrff llywodraethu’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hunanwerthuso ysgol yn seiliedig ar dystiolaeth, cynllunio gwelliant dilynol a monitro cynnydd, a dwyn y pennaeth a'r uwch arweinwyr i gyfrif am berfformiad ac effeithiolrwydd yr ysgol. Rhaid i'r hyfforddiant hwn roi i lywodraethwyr:

  • ddealltwriaeth hanfodol o'r rôl hollbwysig y mae data yn ei chwarae yn y broses hon, gan gynnwys cydnabod yr angen i ystyried y cyd-destun wrth ddefnyddio'r data, a dealltwriaeth o derfynau data
  • ymwybyddiaeth o'r ystod o ddata sydd ar gael, pryd y gallai fod ar gael a sut i gael gafael arno
  • ymwybyddiaeth o bartïon eraill sy'n defnyddio data ar yr ysgolion
  • rhai offer i’w helpu i ddefnyddio data’n ddeallus a phriodol

er mwyn iddynt gyflawni eu rôl yn effeithiol wrth nodi meysydd ar gyfer ymchwil pellach i bennu blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau penodol, a lle mae'r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau gwella yn anfoddhaol.

Mae’r ddogfen hon ond yn nodi’r meysydd y dylid eu cwmpasu gan yr awdurdodau lleol wrth ddarparu hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall rôl data. Fel darparwr yr hyfforddiant, yr awdurdodau lleol fydd yn penderfynu ar fanylion hyfforddiant o'r fath, gan ystyried unrhyw ffactorau cyd-destunol penodol ar gyfer eu hawdurdod a'r math o ddata sy'n berthnasol i ysgolion y llywodraethwyr sy'n bresennol. Byddai rhagnodi cyfres gyfyngedig o fesurau a dadansoddiadau fel ffocws yr hyfforddiant yn tynnu oddi wrth y gofyniad ar gyfer hunanwerthusiad effeithiol a chynllunio gwelliannau gan ystyried yr ystod lawn o ddata lleol sydd ar gael sy’n adlewyrchu’r ysgol yn ei chyfanrwydd.

Ni fydd y gofynion hyfforddi yn y ddogfen hon yn berthnasol i unrhyw lywodraethwr a gwblhaodd yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion cyn y daeth Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016 i rym, fel y nodwyd yn nogfen 2014 (Dogfen ganllaw rhif 140/2014).

Mae'r ddogfen hyfforddi hon yn rhoi rôl data mewn hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion yn y polisi cyfredol. Mae hefyd yn adlewyrchu rhai themâu sy'n dod i'r amlwg o drefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion mewn perthynas â rôl data. Mae'r rhaglen waith ar weithredu’r diwygiadau i'r cwricwlwm yng Nghymru yn parhau a bydd angen diwygio’r gofynion ar gyfer hyfforddiant llywodraethwyr yn y dyfodol yn unol â hynny er mwyn cyd-fynd â'r Fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd sy'n dod i'r amlwg a fydd yn sail i drefniadau’r cwricwlwm newydd. Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu canllawiau wedi'u diweddaru ar hyn wrth i'r trefniadau gael eu cwblhau.

Un o egwyddorion pwysig y fframwaith newydd y dylai'r system ysgolion fod yn gweithio tuag ato yn awr, ac y dylai fod yn rhan o’r hyfforddiant, yw bod gwaith gwerthuso a gwella ar wahân i atebolrwydd. Ni ddylai gwaith hunanwerthuso a gwella ysgolion gael ei lywio gan ofynion canfyddedig y system atebolrwydd, ond gan yr amcan sylfaenol i gyflwyno safonau uchel ac addysg ragorol i bob disgybl.

Serch hynny, rhaid i lywodraethwyr ddeall bod gan gyrff llywodraethu rôl i'w chwarae o ran gwella ac atebolrwydd. Fel rhan o’r broses hunanwerthuso a gwella, drwy ddeall data a gwybodaeth arall am eu hysgol, dylent gytuno ar nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol i’w cyflawni drwy gynllun gwella’r ysgol. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys cryfderau'r ysgol, meysydd i'w datblygu a'u blaenoriaethau gwella. Ar wahân i hynny, dylai’r cyrff llywodraethu, fel y corff atebol ar gyfer ysgol, fonitro'r broses o weithredu cynllun gwella'r ysgol a chymryd camau lle mae'r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau gwella’n anfoddhaol, gan ddwyn penaethiaid ac uwch arweinwyr i gyfrif fel y bo'n briodol, a dylent ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol wrth wneud hyn. Gellir defnyddio’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i gefnogi prosesau atebolrwydd ar lefel yr ysgol, gyda’r ffocws yn dibynnu ar feysydd penodol a nodwyd ar gyfer datblygu a gwella.

Rhan 1: Cynnwys gorfodol ar gyfer ysgolion a gynhelir ac eithrio ysgolion arbennig

Diwygio'r cwricwlwm a'r fframwaith Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd newydd

Rhaid i lywodraethwyr fod yn ymwybodol o'r rhaglen ddiwygio yn y system ysgolion, disgwyliadau presennol Llywodraeth Cymru o ran trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd a rôl data o fewn y system. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld i Trefniadau gwerthuso a gwella ysgolion.

Dylai llywodraethwyr ddeall bod y camau hyn yn cael eu cymryd mewn ymateb i'r consensws cryf bod angen newid rhai elfennau canolog o'r system werthuso, gwella ac atebolrwydd flaenorol, gan ei bod yn cymell ymddygiadau sy'n wrthgynhyrchiol i'r nod o ddarparu'r cyfleoedd gorau i bob dysgwr (ee gormod o bwyslais ar un neu ddau o’r mesurau perfformiad gan dynnu sylw tuag at leiafrif o ddisgyblion ar draul darparu’r cymorth gorau i bob dysgwr unigol) ac felly roedd perygl iddo atal a chyfyngu ar wireddu Cwricwlwm Cymru a'n Cenhadaeth Genedlaethol.

Dylai llywodraethwyr ddeall yr amserlen ar gyfer trosglwyddo i drefniadau'r cwricwlwm newydd a sut y bydd hyn yn effeithio ar y data sydd ar gael iddynt, yn enwedig o ran unrhyw ddata cynnydd a chyrhaeddiad ar ddysgwyr.

Dylai llywodraethwyr ddeall:

  • abod defnyddio data'n ddeallus yn rhan annatod o hunanwerthuso, ac fe ddylai hyn ymestyn ymhellach ym mhob ysgol na data perfformiad dysgwyr neu ysgol yn unig i gynnwys yr ystod lawn o ddata ansoddol a meintiol sydd ar gael. Rhaid ystyried yr ystod ehangaf o ddata er mwyn llywio a chefnogi taith wella barhaus ysgol ym mhob agwedd ar ei gweithrediad
  • bod y system ysgolion yng Nghymru yn gyfoethog o ran data, gan ymestyn ar lefel leol ymhell y tu hwnt i unrhyw ddata cyson yn genedlaethol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bob ysgol. Unwaith y caiff ei dadansoddi'n briodol, bydd yn darparu gwybodaeth y dylid ei defnyddio yn effeithiol ar eu taith i wella.

Pam mae angen data arnom?

Dylai llywodraethwyr ddeall bod data:

  • yn air arall am ffeithiau y mae'n rhaid eu trefnu, eu hystyried, eu dadansoddi neu eu prosesu'n briodol er mwyn eu defnyddio fel gwybodaeth sy'n cefnogi hunanwerthuso
  • yn gallu bod yn feintiol ac yn ansoddol
  • yn gallu cael eu cipio mewn sawl ffordd
  • yn gallu dod o sawl ffynhonnell
  • yn gallu cael eu cyfuno mewn sawl ffordd
  • yn gallu bod yn destun craffu mewn sawl ffordd wahanol.

Dylai llywodraethwyr fod yn ymwybodol o'r ystod eang o ddata sydd ar gael ar wahanol agweddau ar ysgol a'i gweithrediad. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gellir ei gasglu’n lleol, yn ogystal ag unrhyw ddata cyson yn genedlaethol a fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru neu asiantaethau eraill.

Erbyn diwedd yr hyfforddiant dylai llywodraethwyr ddeall y canlynol:

  • bod data a gwybodaeth yn ganolog i hunanarfarnu effeithiol
  • bod data dibynadwy a phriodol yn bwydo i mewn i gyfres o dystiolaeth a ddefnyddir gan arweinwyr ysgolion a llywodraethwyr i hunanwerthuso a nodi meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau
  • ond bod hynny'n fan cychwyn ar gyfer ymchwilio a thrafod pellach, i ystyried y materion sylfaenol posibl allai fod angen sylw
  • a dylid eu defnyddio ynghyd â gwybodaeth a gesglir o feysydd ehangach i ategu neu wrthddweud tueddiadau ymddangosiadol. Gall hyn fod yn ffynonellau tystiolaeth amgen sy'n ymwneud â'r un agwedd a archwilir, neu agweddau gwahanol ar yr ysgol, yn dibynnu ar y pwynt sy'n cael ei ystyried.

Rhaid i lywodraethwyr ddeall bod angen iddynt ddefnyddio data i'w cynorthwyo i gyflawni eu rolau'n effeithiol, gweithredu fel cyfaill beirniadol a nodi'r meysydd hynny y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt ac, wrth ochr yr wybodaeth arall a gesglir o feysydd ehangach, diffinio blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella a monitro cynnydd.

Rhaid i lywodraethwyr ddeall lle mae dyletswyddau statudol wedi’u gosod arnynt sy'n gofyn am ddefnyddio data at ddibenion hunanwerthuso, cynllunio gwelliant neu adrodd.

Pwy arall sy'n defnyddio data ysgolion?

Dylai llywodraethwyr fod yn ymwybodol o bartïon a rhanddeiliaid eraill a allai ddefnyddio data ar lefel ysgolion (e.e. Estyn, yr awdurdod lleol a'r consortiwm rhanbarthol) neu ddata ysgolion fel rhan o set gyfunol neu ddienw (e.e. Llywodraeth Cymru, ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, dosbarthu cyllid a llunio polisïau, ac ymchwilwyr).

Pa fath o ddata sydd ar gael a sut mae cael gafael arno?

Rhaid sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r wahanol fathau o ddata y dylid eu defnyddio wrth hunanwerthuso ac ystyried perfformiad ysgol. Mae hyn yn cwmpasu rhychwant enfawr o wahanol agweddau ar weithrediad a darpariaeth yr ysgol a gallai gynnwys y canlynol, ymysg eraill:

  • Data cyrhaeddiad o asesiadau o fewn yr ysgol
  • Data cyrhaeddiad o asesiadau safonol ac arholiadau a asesir yn allanol
  • Sgoriau PISA
  • Data cynnydd dysgwyr
  • Data presenoldeb
  • Dyfarniadau allanol (e.e. gan y consortiwm rhanbarthol neu Estyn)
  • Data cyd-destunol a nodweddion disgyblion
  • Data cymharol (e.e. data gwahanol ddosbarthiadau, pynciau neu grwpiau o ddysgwyr o fewn yr un ysgol, yn ogystal ag ysgolion eraill sy'n wynebu heriau tebyg, data awdurdodau lleol neu ddata rhanbarthol, er mwyn helpu i ddehongli’r data mewn cyd-destun fel rhan o’r hunanwerthusiad)
  • Perfformiad sydd â gwerth ychwanegol
  • Data ar unrhyw feysydd galluogi (e.e. lles, darpariaeth cwricwlwm, materion staffio)
  • Cynnydd yn erbyn targedau neu flaenoriaethau gwella penodol
  • Data ar agweddau ehangach ar weithrediad ysgolion (e.e. cyllid, hyfforddi a datblygu staff, cyfathrebu)

O ran defnyddio data cymharol, lle y bo ar gael, dylai llywodraethwyr ddeall bod hyn yn debygol o fod yn ddefnyddiol i roi'r ysgol, a'i data ehangach, yn ei chyd-destun er mwyn helpu i gynllunio gwelliannau a rhannu arfer da o fewn a rhwng ysgolion, yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd neu gyda golwg ar raddio ysgolion. Nid yw’r data cymharol wedi’i gyfyngu o ran cwmpas i’r hyn a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’n cynnwys unrhyw ddata a gynhyrchir yn lleol (ee gan yr ysgol, awdurdod lleol neu gonsortiwm rhanbarthol) a/neu a rennir rhwng ysgolion (ee o’r un teulu o ysgolion).

Rhaid i’r llywodraethwyr ddeall, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, na chaiff data am ddysgwyr neu staff unigol eu rhannu â'r llywodraethwyr, ond gall staff uwch nodi patrymau lle mae targedau a gwelliannau'n cael eu cyflawni a lle ceir amrywiadau.

Dylid sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r prosesau ar gyfer coladu a chofnodi data a sut y diogelir data unigolion a'u preifatrwydd.

Rhaid i lywodraethwyr wybod am y gwahanol ffyrdd y gellir cyflwyno data, e.e.:

  • tueddiadau dros amser neu un pwynt mewn amser
  • cyfartaleddau treigl 3 blynedd
  • dadansoddiadau bar, llinell, siart cylch neu dablau
  • pwyntiau data cymharol ar gyfer carfannau eraill (ALl, cenedlaethol neu ysgolion tebyg)
  • dadansoddiadau atchweliad
  • data ansoddol, ysgrifenedig a llafar.

Rhaid i lywodraethwyr ddeall y gwahanol ffynonellau data (e.e. data mewnol ysgolion, data a gynhyrchir gan ALl, setiau data Llywodraeth Cymru) a'u dilysrwydd a'u ddibynadwyedd.

Dylai llywodraethwyr fod yn gyfarwydd â'r cylch argaeledd data drwy gydol y flwyddyn (neu'n llai aml lle mae cylchoedd hirach yn cael eu gosod ar gyfer agweddau ar fywyd yr ysgol).

Defnyddio data i hunanwerthuso, cynllunio gwelliannau a monitro cynnydd

Dylai nodweddion sylfaenol yr hyfforddiant alluogi llywodraethwyr i gydnabod:

  • er yn hanfodol, bod data yn un elfen bwysig o hunanwerthuso ysgolion; gall fod yn fan cychwyn ar gyfer nodi meysydd i'w gwella a bod yn ddefnyddiol i ategu mathau eraill o werthuso
  • bod angen ystyried sawl math o ddata wrth asesu effeithiolrwydd a nodi gwelliannau, gan gynnwys data cyd-destunol, y sefyllfa bresennol gyda deilliannau dysgwyr, data cynnydd, tueddiadau dros amser, data cymharol a dadansoddiadau yn ôl nodweddion dysgwyr. Ni ddylid ystyried dangosyddion unigol ar wahân
  • y gallai’r amrywiaeth o ddata cyd-destunol sydd ar gael helpu i nodi heriau sy'n wynebu'r ysgol
  • bod y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn pwysleisio'r angen i ddefnyddio ystod eang o ddata a gwybodaeth sy'n casglu'r profiad dysgu cyfan, yn ogystal â chynnydd dysgwyr ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd, i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant parhaus, wedi'u teilwra i gyd-destun lleol ysgol
  • ei bod yn bwysig deall ffynhonnell y data ac at ba ddiben y mae’r data wedi’u casglu a’u cofnodi, e.e. asesiad yn yr ystafell ddosbarth i ddeall cynnydd unigolion a grwpiau, arholiadau allanol i ddeall parodrwydd unigolion ar gyfer cynnydd pellach
  • ei bod yn bwysig ystyried y garfan/grŵp y mae’r data’n berthnasol iddo ac anwadalrwydd data deilliannau ar gyfer grwpiau llai
  • bod yna wahaniaethau o ran ystyried lefelau newid rhwng gwahanol grwpiau o unigolion a lefelau newid o fewn un grŵp o unigolion
  • ei bod yn bwysig gofyn cwestiynau/gofyn am eglurhad a herio’r data er mwyn deall eu hystyr yn llawn
  • ei bod yn arfer da triongli data sy'n awgrymu patrwm gyda data arall sydd ar gael er mwyn chwilio am dystiolaeth bellach i gefnogi neu wrthddweud y stori sy'n dod i'r amlwg
  • ei bod yn bwysig gwerthuso effaith camau gweithredu a strategaethau ar ddelliannau er mwyn nodi unrhyw achos ac effaith
  • bod gan ddata derfynau a dim ond rhan o'r darlun cyffredinol ydyw.

Dylid sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r angen i ddefnyddio data mewnol ysgolion yn effeithiol fel rhan hanfodol o’r broses o ymchwilio i dueddiadau sylfaenol lefel uwch a lle i bennu blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella. Dyma enghreifftiau:

  • cymharu data rhwng dosbarthiadau ac adrannau pwnc, gan helpu i nodi amrywiadau o fewn yr ysgol yng nghynnydd dysgwyr a lle mae rhannu arfer da yn bwysig
  • olrhain cynnydd carfannau neu grwpiau penodol eraill o ddysgwyr
  • olrhain cynnydd dysgwyr neu grwpiau o ddysgwyr a allai fod mewn perygl o dangyflawni, e.e. y rhai sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM), y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), a’r rhai sy'n derbyn gofal (CLA)
  • olrhain tueddiadau dros o leiaf dair blynedd a chymharu blaenoriaethau cynnydd a nodwyd yn flaenorol (ar draws carfannau a grwpiau eraill o ddysgwyr).

Rhaid i lywodraethwyr wybod bod angen deall sut mae data asesu ym mhob maes dysgu yn cael eu hystyried yn yr ysgol i gefnogi datblygiad dysgwyr.

Dylid rhoi enghreifftiau i lywodraethwyr o gwestiynau priodol i'w gofyn am ddata at ddibenion hunanwerthuso a sut y gellir defnyddio'r data hwn i nodi meysydd lle mae angen gwella. Ceir rhestr o enghreifftiau yn atodiad A.

Dylai llywodraethwyr ddeall sut mae rolau is-bwyllgorau cyrff llywodraethu a llywodraethwyr cyswllt yn cyd-fynd â'r trefniadau ar gyfer hunanwerthuso a nodi data priodol i fwydo i'r broses.

Hunanarfarnu a defnyddio data mewn amgylchiadau eithriadol

Lle mae amgylchiadau eithriadol wedi effeithio ar y data, neu argaeledd data, dylai llywodraethwyr ddeall bod Llywodraeth Cymru'n disgwyl i lywodraethwyr ysgolion barhau i gymryd rhan mewn hunanwerthuso effeithiol a nodi blaenoriaethau gwella. Er ei bod yn bosibl nad yw rhywfaint o'r data a ddefnyddir fel arfer ar gael mewn rhai amgylchiadau i fwydo i mewn i'r broses hon, byddai Llywodraeth Cymru'n disgwyl i gyrff llywodraethu gael gafael ar yr ystod lawn o ddata lleol sy'n dal i fod ar gael er mwyn cyflawni eu rôl. Gall hyn olygu mwy o ffocws nag o’r blaen ar yr ystod ehangach o ddata sydd ar gael ar fywyd yr ysgol, ac ystyried ffactorau galluogi (e.e. lles staff a disgyblion) yn ogystal â pha ddata cyfyngedig ar ddeilliannau a allai fod ar gael (e.e. cyrhaeddiad neu bresenoldeb).

Wrth fynd ati i hunanwerthuso lle mae amgylchiadau eithriadol wedi effeithio ar y data sydd ar gael iddynt, dylai llywodraethwyr fod yn ymwybodol o'r ymyriadau i'r cylch arferol o weithgareddau y mae'r ysgol wedi'u profi a maint yr effaith ar ddarpariaeth ysgolion wrth gynnal eu hasesiad.

Rhan 2: Cynnwys gorfodol ar gyfer ysgolion arbennig

Mae’r adran hon yn amlinellu cwmpas a chynnwys yr hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion arbennig ar ddeall data ysgolion.

Mae'r cynnwys fel y'i nodir yn Rhan 1 hefyd yn berthnasol i lywodraethwyr mewn ysgolion arbennig, er y bydd llawer o'r mathau o ddata a ddynodir wrth gyfeirio at ba ddata sydd ar gael yn wahanol.

Bydd ysgolion arbennig yn cofnodi ac yn dadansoddi i ba raddau y mae dysgwyr yn cyflawni eu nodau dysgu unigol a dylai llywodraethwyr ddisgwyl i'r ysgol ddarparu gwerthusiad o hyn. Yn ôl anghenion mwy penodol unigolion, bydd yr ysgol hefyd yn cofnodi i ba raddau y mae dysgwyr yn:

  • Datblygu ymddygiad aeddfed a phriodol
  • Dysgu i ddefnyddio dyfeisiau a systemau cyfathrebu i oresgyn rhwystrau i ddysgu
  • Datblygu sgiliau bywyd pwysig
  • Datblygu annibyniaeth
  • Datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Mynychu'r ysgol
  • Defnyddio lleoliadau mwy cynhwysol a phriodol i'w hoedran
  • Cyflawni cymwysterau achrededig (sy'n addas i'w anghenion)

Rhaid i’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgolion arbennig gynnwys y meysydd canlynol:

  • Cymwysterau achrededig lle bo’n briodol. Defnyddir amrywiaeth o gyrsiau ar draws ysgolion arbennig yng Nghymru. Er enghraifft, ASDAN (cynradd ac uwchradd), Edexcel (cynradd ac uwchradd), TGAU Lefel Mynediad, City and Guilds Lefel 1, a BTEC Lefel 1.

Atodiad A

Mathau o gwestiynau y dylai llywodraethwyr eu gofyn am ddata ysgolion at ddibenion hunanwerthuso a nodi meysydd i'w gwella ym mherfformiad ysgol.

  1. Lle mae dysgwyr yn gwneud yn dda?
  2. Lle mae angen i ddeilliannau dysgwyr wella?
  3. Beth sy’n rhaid ei wneud i wella?
  4. Sut mae niferoedd y dysgwyr yn cael eu dangos fel canrannau – beth yw nifer gwirioneddol y dysgwyr sy’n cael ei ystyried, ac a yw hyn yn effeithio ar y canlyniadau (e.e. a yw’n gohort bach iawn, a oes cyfran uchel o fechgyn neu merched etc a allai ystumio’r canlyniadau)?
  5. A yw’r canlyniadau hyn yn well/yn waeth na’r disgwyl?
  6. A yw’r canlyniadau’n well na chanlyniadau blynyddoedd blaenorol? Beth yw’r rheswm posibl am hyn?
  7. A oes unrhyw duedd i’w gweld o ran rhai pynciau? Os felly, pa strategaethau y gallwn ni eu rhoi ar waith i wella canlyniadau yn y meysydd hyn?
  8. A oes tueddiadau dros amser yn nosbarthiad y deilliannau a gyflawnwyd ar bob lefel cyrhaeddiad ym mhob pwnc? Beth yw’r rheswm posibl am hyn?
  9. Sut mae’r ysgol yn cefnogi’r dysgwyr mwyaf abl a’r rheini sydd fwyaf angen cymorth?
  10. Beth yw’r sefyllfa o ran cynnydd dysgwyr? A oes tuedd i’w weld?
  11. Beth yw’r lefelau absenoldeb cyffredinol ar gyfer yr ysgol?
  12. Beth ydym ni’n ei wneud i gefnogi ac annog gwelliant?
  13. Beth oedd y ffigurau presenoldeb ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf?
  14. A ydym wedi gwella, wedi aros yn ein hunfan, neu wedi gwaethygu? Pam?
  15. A oes patrwm neu duedd i’w gweld yn y ffigurau?
  16. Pa mor wahanol oedd deilliannau gwirioneddol yr ysgol o gymharu ag unrhyw ddeilliannau disgwyliedig neu a ragwelwyd? A oes gwahaniaeth mawr a beth allai fod wedi achosi hyn?
  17. A ydym yn rhannu arferion da rhwng pynciau ac ar draws yr ysgol?
  18. A ydym yn nodi ac yn rhannu arfer da gydag ysgolion eraill, yn enwedig y rheini sydd yn yr un teulu ystadegol?
  19. A ddigwyddodd unrhyw beth yn ystod y tymor a allai fod wedi effeithio ar y ffigurau presenoldeb, ee tywydd gwael, nifer fawr o achosion o salwch?
  20. A ystyrir bod dysgwyr penodol yn yr ysgol yn dylanwadu ar y lefelau absenoldeb?
  21. Pa strategaethau sydd wedi eu defnyddio i fynd i’r afael ag absenoldebau ymhlith dysgwyr penodol?
  22. A yw poblogaeth y dysgwyr yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) wedi newid dros amser?
  23. Sut mae lefel y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi effeithio ar y deilliannau?
  24. A oes tueddiadau i’w gweld yn y deilliannau cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r dysgwyr nad ydynt yn gymwys?
  25. Sut mae’r deilliannau cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r dysgwyr nad ydynt yn gymwys yn cymharu â deilliannau ysgolion yn yr un teulu ystadegol, yn yr awdurdod lleol ac yng Nghymru?
  26. A oes gwahaniaeth yn y canlyniadau ar gyfer bechgyn a merched?
  27. Sut mae’r deilliannau ar gyfer bechgyn a merched wedi newid dros amser? A yw cyfeiriad y newid yr un peth ar gyfer bechgyn a merched neu’n wahanol?
  28. Ym mha bwnc/pynciau y mae deilliannau’r bechgyn neu’r merched wedi gwella neu waethygu? A oes unrhyw batrwm?
  29. A oes unrhyw beth y dylem wybod am y cohort o ddysgwyr a allai effeithio ar y canlyniadau?
  30. Pa flaenoriaethau gwella manwl y gallwn eu nodi i wella deilliannau dysgwyr yn gyffredinol?
  31. A yw'r blaenoriaethau a nodwyd eisoes wedi gwella?
  32. Sut mae cyrhaeddiad grwpiau penodol o ddysgwyr e.e. plant sy'n derbyn gofal, plant mewn angen, gwahanol gefndiroedd ethnig, dysgwyr â Saesneg fel iaith ychwanegol, a dysgwyr sy'n destun darpariaeth anghenion addysgol arbennig, yn cymharu â'r dysgwyr eraill yn yr ysgol? Sut mae hyn yn cysylltu â’r lefelau eFSM?
  33. Sut mae cyrhaeddiad addysgol y disgyblion hyn yn cymharu â disgyblion cyffredinol yng Nghymru?
  34. Pa gefnogaeth ac ymyriadau sydd yn eu lle i helpu i wella cyrhaeddiad addysgol grwpiau penodol o ddysgwyr?
  35. A yw hyn wedi cael effaith ar yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol? A yw hyn wedi effeithio ar ddeilliannau dysgwyr yn gyffredinol?
  36. Pa ganran o’r dysgwyr sydd â chefndir ethnig gwahanol?
  37. Sut mae cyrhaeddiad addysgol grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cymharu â dysgwyr eraill yn yr ysgol?
  38. A oes gan ddysgwyr penodol neu grwpiau penodol o ddysgwyr anghenion addysgol arbennig?
  39. A ddarparwyd cymorth ac adnoddau ychwanegol ar gyfer y dysgwyr hyn? A yw hyn wedi effeithio ar yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol? A yw hyn wedi cael effaith ar ddeilliannau dysgwyr yn gyffredinol?
  40. Sut olwg sydd ar y gyfradd cyrhaeddiad addysgol bresennol drwy gaffael Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol?
  41. Pa gefnogaeth sydd yn ei lle i helpu’r dysgwyr hyn sydd â Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol?
  42. Sut mae cyflawniad academaidd yn cymharu ar sail Anghenion Addysgol Arbennig?
  43. Beth yw’r cyfraddau presenoldeb presennol ar gyfer dysgwyr sy’n sipsiwn, roma neu deithwyr?
  44. Sut ydych yn ymgysylltu â theuluoedd sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr i wella presenoldeb a chodi cyrhaeddiad addysgol?
  45. Pa lefel a math o gefnogaeth ydyn ni’n ei chael gan ein cynghorydd her?
  46. Pa ymyriadau a strategaethau a weithredwyd mewn mannau eraill yn yr ysgol (e.e. lles staff neu ymgysylltu â’r gymuned) a sut mae’r rhain wedi effeithio ar ddeilliannau dysgwyr?
  47. Sut mae’r dystiolaeth o’r dosbarth yn cymharu â’r deilliannau cyrhaeddiad?