Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS/MS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, penodais yr Athro Charlotte Williams OBE fel Cadeirydd y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

Gofynnwyd i’r Gweithgor roi cyngor ac argymhellion i mi ar addysgu themâu yn ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o fewn y cwricwlwm.

Heddiw (19 Tachwedd) rwyf wedi derbyn adroddiad interim gan y Gweithgor, sy’n canolbwyntio ar adnoddau dysgu, ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://llyw.cymru/gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-yn-y-cwricwlwm

Mae gwaith y Gweithgor yn edrych ar bob rhan o’r cwricwlwm ysgol gan gynnwys hanes, ac fe hoffwn ddiolch i’r Athro Williams ac aelodau’r Gweithgor am eu gwaith caled yn ymchwilio ac yn cynhyrchu’r adroddiad ardderchog hwn.

Rwy’n croesawu cyhoeddi’r adroddiad heddiw, a dros yr wythnosau nesaf byddaf yn edrych yn fanwl ar yr argymhellion, gan gyhoeddi fy ymateb yn ddiweddarach eleni.

Mae’r adroddiad yn gwneud yr argymhellion canlynol:

Argymhelliad 1: Datblygu canllaw adnoddau cychwynnol ar-lein sy’n rhestru ac yn gwerthuso’r adnoddau sydd ar gael ynghylch cyfaniadau a phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ddoe a heddiw ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad. Dylai hyn gynnwys deunyddiau ar Hwb a thu hwnt. Bydd yn cyfeirio at adnoddau gan sefydliadau cenedlaethol, grwpiau addysg a ffynonellau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Dylai’r canllaw gael ei adolygu a’i ddiweddaru’n rheolaidd.

Argymhelliad 2: Cynnwys canllawiau ar sut i lunio deunyddiau ar Hwb, gydag enghreifftiau a phrosesau, ac adnoddau rhyngddisgyblaethol a fydd yn arwain at ymestyn a datblygu deunyddiau.

Argymhelliad 3: Dosbarthu a chategoreiddio adnoddau yn well ar Hwb er mwyn sicrhau ei bod yn haws i ymarferwyr addysgu ac eraill chwilio a dod o hyd i adnoddau yn ymwneud â themâu Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Argymhelliad 4: Llywodraeth Cymru i weithio gydag awduron adnoddau Saesneg priodol ynghylch Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ddarparu fersiynau Cymraeg o ansawdd uchel, er mwyn hwyluso mynediad at fwy o adnoddau.

Argymhelliad 5: Datblygu cyfres newydd o adnoddau dysgu a datblygu proffesiynol dwyieithog sy’n edrych yn fanwl ar amrywiaeth yng Nghymru ddoe a heddiw. Dylai’r papurau cefndir hyn, a fyddai’n gwasanaethu pob Maes Dysgu a Phrofiad, gynnwys: canllaw naratif ar hanes amrywiaeth yng Nghymru; canllaw naratif ar rôl Cymru yn hanes Prydain o wladychu; bywgraffiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o amrywiol gefndiroedd sy’n edrych ar eu cyfraniadau i fywyd Cymru, Prydain a’r byd; ysgrifau llenyddol gan unigolion Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o Gymru; a chanllaw naratif ar hanes hiliaeth a gwrth-hiliaeth yng Nghymru.

Argymhelliad 6: Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid i edrych ar greu adnoddau dwyieithog newydd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg; Iechyd a Lles; a Mathemateg a Rhifedd. Dylai pob un o’r adnoddau newydd gael eu hategu gan ddeunyddiau addysgu a dysgu hyblyg o ansawdd uchel y gellid eu defnyddio gan athrawon fel rhan o’u cwricwlwm ar sawl cyfnod drwy’r continwwm dysgu 3-16. Gellid cynhyrchu’r gyfres hon o adnoddau drwy broses o gyd-gynhyrchu gydag ymarferwyr.

Argymhelliad 7: Estyn i adolygu ac adrodd ar sut mae ysgolion yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n rhoi sylw i amrywiaeth ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad, a hyrwyddo rhannu arferion da drwy astudiaethau achos ac adroddiadau thematig.

Argymhelliad 8: Creu categori newydd ar gyfer ysgolion yng Ngwobrau Addysgu Cymru’r Dyfodol er mwyn hybu cynnwys hanes/cyfraniadau/profiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws pob pwnc mewn ysgolion.

Cyn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad, hoffwn gymryd y cyfle hwn i gadarnhau’r sefyllfa o ran datblygu adnoddau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ym mis Hydref, cyhoeddais ddiweddariad i Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.

Ynddo, dywedais y bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu ar gyfer y cwricwlwm ac y byddai rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr a rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu. Bydd y rhwydwaith yn rhannu dealltwriaeth ar draws y proffesiwn, gan gasglu gwybodaeth a chyd-lunio atebion i broblemau, a chydweithio i gyflawni’r cynllun gweithredu.

Rhan o swyddogaeth y rhwydwaith cenedlaethol fydd adnabod blychau yn yr adnoddau, nid yn unig o ran cyfraniadau a phrofiadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a Hanesion Cymru, ond ym mhob rhan o’r cwricwlwm newydd, a helpu ysgolion i roi’r cwricwlwm newydd ar waith.

Rwy’n edrych ymlaen at gael adroddiad terfynol yr Athro Williams yn gynnar yn y gwanwyn, a fydd yn edrych ar faterion BAME ym maes Dysgu Proffesiynol ac Addysg Gychwynnol Athrawon.