Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, bûm mewn cyfarfod â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn o Lywodraeth y DU, ac rydym wedi cytuno ar gynllun cyffredin i’r pedair gwlad ar gyfer cyfnod yr ŵyl.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i ni i gyd, a bu'n rhaid i bob un ohonom wneud aberth sylweddol yn ein bywydau bob dydd. Rydym yn cydnabod y cyfraniad y mae pawb wedi’i wneud i reoli lledaeniad y feirws.

Mae llawer o grwpiau crefyddol a chymunedol eisoes wedi gorfod newid neu anghofio eu dathliadau arferol i arafu lledaeniad y coronafeirws ac achub bywydau. Nadolig yw’r adeg pan fydd pethau yn arafu fwyaf yn y DU fodern, ac mae’r cyfnod naturiol hwn o leihad mewn gweithgarwch economaidd yn gyfle i deuluoedd a ffrindiau ddod ynghyd, o unrhyw ffydd neu ddim ffydd o gwbl.

Er bod pob un ohonom yn edrych ymlaen at allu gweld teulu a ffrindiau am gyfnod byr, ni all hwn fod yn Nadolig 'normal'; bydd yn rhaid bod yn ofalus a chadw at gyfyngiadau. Hyd yn oed os yw’r rheolau’n cael eu dilyn, bydd cyfarfod â ffrindiau a theulu dros y Nadolig yn gyfrifoldeb personol i unigolion ei gymryd, gan gofio'r risgiau iddynt hwy eu hunain ac eraill. Rydym angen i bawb feddwl yn ofalus am yr hyn y maent yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, gan gydbwyso rhywfaint mwy o gyswllt cymdeithasol â'r angen i gadw'r risg o drosglwyddo'r feirws mor isel â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried y rhai sy'n agored i niwed. Er mwyn eu diogelu nhw, mae angen inni ystyried a ddylem gwrdd wyneb yn wyneb neu a oes ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad.

Mae’r pedair gweinyddiaeth wedi dod i gytundeb ar un set o fesurau ar gyfer y DU gyfan i helpu pobl i ddod at ei gilydd gyda'u hanwyliaid mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.

  • Bydd cyfyngiadau teithio ar draws y pedair gweinyddiaeth a rhwng yr haenau yn cael eu codi i ddarparu ffenestr benodol i aelwydydd ddod at ei gilydd rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
  • Gall hyd at dair aelwyd ffurfio 'swigen' Nadolig’ unigryw i gyfarfod gartref yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl ffurfio swigen, mae’n sefydlog, ac ni ddylid ei newid nac ychwanegu aelwyd arall ati ar unrhyw adeg.
  • Gall pob swigen Nadolig gyfarfod gartref, mewn man addoli neu mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored, ond bydd y rheolau mwy cyfyngol presennol ar gyfer lletygarwch a chyfarfod mewn lleoliadau eraill yn parhau drwy gydol y cyfnod hwn.

Mae'n bwysig bod pawb yn parchu ac yn cadw at reolau pob gwlad, ble bynnag y maent yn dewis treulio cyfnod yr ŵyl. Os bydd unrhyw amrywiadau, cânt eu hamlinellu mewn canllawiau.

Bydd pwysau yn benodol ar ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn, felly os oes angen i ni deithio, rhaid i ni gynllunio o flaen llaw.

Mae llawer eisoes wedi dechrau gwneud eu trefniadau, ac mae’r pedair gwlad wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y neges mor syml a chlir â phosibl i helpu pobl i wneud y dewisiadau iawn er mwyn iddynt allu mwynhau amser gyda'r rhai sydd agosaf atynt, a chadw at y rheolau i ddiogelu pawb.