Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o Wariant, yn nodi ei chynlluniau gwario yng nghyd-destun y pandemig Covid-19 sy'n esblygu ac ar drothwy ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wrth i'r cyfnod pontio ddirwyn i ben. Mae'r Datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y goblygiadau uniongyrchol i Gymru.

Ochr yn ochr â'r Adolygiad o Wariant, darparodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei set lawn gyntaf o ragolygon economaidd a rhagolygon cyllid cyhoeddus ers i’r argyfwng Covid-19 ddechrau. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn disgwyl i incwm cenedlaethol (GDP) grebachu 11.3% eleni ac ni ddisgwylir iddo ddychwelyd i'r lefel a welwyd cyn y pandemig tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Nid yw rhagolygon 5 mlynedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu o gwbl y bydd y twf mewn cynhyrchiant yn dychwelyd i’r gyfradd gyfartalog a gofnodwyd cyn yr argyfwng ariannol. Oherwydd hynny, bydd y twf real mewn cyflogau yn siomedig o’i gymharu â’r normau hanesyddol a bydd y rhagolygon economaidd yn llawer gwaeth eto os bydd y DU yn gadael yr UE ar ddiwedd y cyfnod pontio heb Gytundeb Masnach Rydd cynhwysfawr.

Mae'r Adolygiad o Wariant yn darparu, am y tro cyntaf, fanylion ein cyllideb ar gyfer 2021-22. Mae Terfyn Gwariant Adrannol adnoddau craidd Llywodraeth Cymru wedi codi £694m yn 2021-22, sef cynnydd o 4.6% mewn termau arian parod. Yn ogystal, mae'r Canghellor hefyd wedi cadarnhau cyllid ychwanegol mewn perthynas â COVID-19 yn 2021-22 a fydd yn rhoi £766m yn ychwanegol inni.

Dangosodd Cyllideb Mawrth 2020 gynnydd o 19% yn nherfynau gwariant adrannol cyfalaf cyffredinol y DU rhwng 2020-21 a 2021-22. Byddai cyfran gymesur o hynny wedi golygu cynnydd o £400m yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi cael cynnydd o £60m neu lai na 3% yn unig mewn termau arian parod.

Mae hi felly’n peri syndod bod y Canghellor wedi hawlio heddiw ei fod yn gwneud buddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn y seilwaith. Nid oedd unrhyw beth newydd i Gymru yn y datganiad heddiw. Er gwaetha’r galwadau ar i Lywodraeth y DU roi sicrwydd hirdymor i’r cymunedau yng Nghymru sydd wedi dioddef effaith stormydd a phroblemau diogelwch tomenni glo, ni wnaeth y Canghellor ymateb o gwbl i’r blaenoriaethau Cymreig hyn. Mae gennym gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan y gallem eu rhoi ar waith pe bai mwy o gyfalaf ar gael i hybu ein hymdrechion i gefnogi economi Cymru wrth iddi adfer o effeithiau’r argyfwng Covid.

Er bod y Canghellor wedi cyhoeddi hwb i’r rhaglen ‘Restart’ i helpu pobl ddi-waith i ddod o hyd i waith, nid oes digon yn cael ei wneud i helpu i greu swyddi newydd, o gymharu â maint y gwymp mewn swyddi gwag a’r cynnydd yn y nifer sy’n colli eu swyddi. Ac mae angen o hyd am fwy o uchelgais wrth fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau.

Er fy mod yn croesawu ymrwymiad y Canghellor i weithredu cyngor y corff adolygu cyflogau i gynyddu cyflogau gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, rwy’n siomedig ei fod wedi penderfynu rhewi cyflogau’r sector cyhoeddus yn hytrach na chefnogi’r holl weithwyr rheng flaen sydd wedi aberthu cymaint eleni ac sy’n parhau i chwarae rhan hanfodol i gynnal gwasanaethau. Mae’r penderfyniad hwn yn un annheg, ac mae’n lleihau’r cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflogau yng Nghymru.

Soniodd y Canghellor hefyd am ddiogelu bywydau a bywoliaethau, ac eto ni wnaeth gynnig dim byd i atal cynnydd annerbyniol mewn tlodi. Rwyf wedi galw’n gyson am i’r system fudd-daliadau ddarparu lefel ddigonol o gymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd, heb fai o gwbl arnyn nhw, yn colli eu swyddi. Mae’r ffaith fod y Canghellor wedi gwrthod diogelu taliadau credyd cynhwysol ychwanegol yn golygu y bydd baich yr argyfwng hwn yn cael ei rhoi ar ysgwyddau’r rhai sy’n gallu ei fforddio leiaf.

Mae’n peri pryder mawr imi hefyd fod yr Adolygiad o Wariant heddiw wedi datgelu bod Llywodraeth y DU wedi methu â chadw at ei hymrwymiad ei hun na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i ymadael â’r UE ac i ddarparu cyllid llawn yn lle’r cyllid ar gyfer ffermwyr, pysgodfeydd, datblygu gwledig a buddsoddi rhanbarthol. Mae hyn i’w weld yng nghynigion y Canghellor ar gyfer cyllid yn lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, a fydd yn gadael ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru £137m yn brin o’r cyllid disgwyliedig yn 2021-22.

Mae'n gwbl glir bellach fod Llywodraeth y DU am anwybyddu Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, os gallant berswadio Senedd y DU i roi iddynt y pwerau gwario newydd y maent yn awyddus i’w cael.  Mae’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn barod i sathru ar y gwaith caled yr ydym wedi’i gyflawni dros flynyddoedd lawer gyda rhanddeiliaid i ddarparu mwy o rôl i’n rhanbarthau mewn penderfyniadau ynglŷn â sut i wario cyllid drwy ein fframwaith buddsoddi rhanbarthol. At hynny, mae'r cyllid y maent yn ei gynnig yn chwerthinllyd – dim ond £220 miliwn ar draws y DU gyfan yn y flwyddyn ariannol nesaf, tra byddai Cymru'n unig wedi gallu disgwyl £375 miliwn yn ychwanegol, sef yr hyn yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd drwy’r Rhaglenni Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd.

Er mwyn rhoi cymaint o eglurder â phosibl i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid rwy’n paratoi i gyflwyno ein cynlluniau a chyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr. Bydd y Gyllideb wedi’i seilio ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu’r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau Cymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfiawn fel rhan o adferiad teg.