Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein gweledigaeth ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO) yng Nghymru. Mae ein Gweledigaeth, sy'n seiliedig ar nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ceisio adeiladu ar gryfderau ein sector AHO presennol er mwyn ymateb yn well i'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

Mae chweched dosbarth ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant a dysgu oedolion yn hanfodol i ymateb i'r heriau y bydd Cymru'n eu hwynebu yn y dyfodol: adfer o bandemig Covid-19, sefydlu perthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd, a newidiadau technolegol, amgylcheddol, diwylliannol a demograffig hirdymor dramatig.

Caiff y datganiad o weledigaeth ei ategu gan y ddogfen 'Egwyddorion ar gyfer Newid' sy'n crynhoi’r heriau hyn ac yn amlinellu'r egwyddorion a fydd yn llywio ein taith tuag at gyflawni'r weledigaeth.

Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn darparu sector AHO mwy ymroddedig, rhagorol a theg sy'n blaenoriaethu buddiannau dysgwyr ac yn cyfrannu at ffyniant cenedlaethol. Dymunwn weld system AHO gydgysylltiedig yng Nghymru sy'n hawdd i ddysgwyr ei llywio, sy'n cael ei gwerthfawrogi gan y cyhoedd, yn creu cymdeithas fedrus iawn ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Byddwn yn cyflwyno darpariaeth ragorol a gydnabyddir ledled y byd am addysg, hyfforddiant, ymchwil ac arloesi rhagorol, ac sydd â chenhadaeth ddinesig wrth ei chalon.

Bydd ein dull gweithredu’n galluogi dysgwyr i symud yn ddidrafferth o addysg orfodol i addysg ôl-orfodol, gan adeiladu ar ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg.

Rwy’n ddiolchgar am yr adborth gwerthfawr y mae fy swyddogion wedi’i gael gan ystod eang o randdeiliaid ar ddatblygu’r weledigaeth hon.

Bydd sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn hanfodol er mwyn gwireddu'r weledigaeth. Yn amodol ar ddeddfwriaeth, bydd gan y Comisiwn bwerau ariannu, cynllunio a rheoleiddio helaeth ar draws addysg uwch ac addysg bellach a bydd yn gyfrifol am wella ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y rhannau o'r sector y bydd yn eu goruchwylio, gan gynnwys chweched dosbarth ysgolion.

Cyhoeddais ymgynghoriad ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil Drafft (Cymru) ar 14 Gorffennaf 2020. Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad ac anogaf eraill i rannu eu barn cyn y dyddiad cau, sef 4 Rhagfyr 2020.

Mae'r datganiad o weledigaeth a’r ddogfen Egwyddorion ar gyfer Newid i'w gweld drwy ddilyn y ddolen a ganlyn:

https://llyw.cymru/addysg-hyfforddiant-ol-orfodol-gweledigaeth-strategol