Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ers 2012, bu'n ofynnol i awdurdodau unigol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru gyhoeddi datganiad blynyddol ar bolisïau tâl. 

Er bod y canllawiau hyn yn cael eu rhoi i awdurdodau unigol ac awdurdodau tân ac achub o dan adran 40 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, dylai'r cyfryw awdurdodau fod yn ymwybodol o adolygiadau diweddar o drefniadau cydnabyddiaeth uwch aelodau o staff yn y sector cyhoeddus datganoledig. Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Dâl Uwch Reolwyr ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 a chyflwynodd adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw ym mis Tachwedd 2014. Nododd ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus nifer o faterion trawsbynciol a oedd yn ymwneud â phrosesau tryloywder ac atebolrwydd a bwriadwyd i'w argymhellion fynd i'r afael ag anghysondebau o ran yr hyn a oedd yn cael ei gyhoeddi a'i ddatgelu bryd hynny gan gyrff cyhoeddus; gan gynnwys cyrff yn y sector llywodraeth leol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i egwyddor partneriaeth gymdeithasol a chydfargeinio ar lefel genedlaethol a lleol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder tâl uwch aelodau o staff. Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen fframwaith a oedd yn nodi cyfres gyffredin o egwyddorion lefel uchel a safonau gofynnol ar gyfer trefniadau adrodd mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub). Ni fwriedir i'r ddogfen fframwaith dorri ar draws strwythurau sydd eisoes yn bodoli neu sy’n cael eu datblygu ar gyfer trafodaethau tâl mewn sectorau gwasanaethau cyhoeddus penodol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru arddel yr egwyddorion hyn y dylid eu darllen ar y cyd â'r canllawiau hyn.

Mae Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus (y Comisiwn) wedi ystyried sut mae cyrff cyhoeddus wedi mabwysiadu dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru yn ystod 2016.  Ymgynghorodd y Comisiwn Staff ag amrywiaeth o gyrff cyhoeddus ynghylch y mater hwn a chyflwynodd ei ganfyddiadau i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ym mis Tachwedd 2016. 

Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd y Comisiwn “Cyngor a chanllawiau ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar ‘Dryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru’”. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys enghraifft o ddatganiad ar bolisïau tâl ac yn awgrymu arfer da i'w gynnwys mewn adroddiadau blynyddol. Bwriedir iddo helpu cyrff cyhoeddus i gydymffurfio â gofynion y ddogfen fframwaith. Ystyriwyd canllawiau'r Comisiwn wrth ddiweddaru'r canllawiau statudol hyn. Mae'r canllawiau hyn yn disodli unrhyw ganllawiau blaenorol a gyhoeddwyd o dan adran 40 o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

Cyflwyniad

Dim ond i Gymru y mae'r canllawiau hyn yn gymwys. 

Mae adrannau 38 i 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ('y Ddeddf') yn gymwys i 'awdurdodau perthnasol'.  Yng Nghymru, mae'r awdurdodau perthnasol fel a ganlyn:

  • cyngor sir
  • cyngor bwrdeistref sirol
  • awdurdod tân ac achub sydd wedi'i greu gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo  

Mae adran 38(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol baratoi datganiadau ar bolisïau tâl.  Rhaid i'r datganiadau hyn gyflwyno polisïau'r awdurdod ei hun ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â thâl ei weithlu, yn enwedig ei uwch aelodau o staff (neu ei 'brif swyddogion') a'r cyflogeion a delir y lleiaf. Rhaid i ddatganiadau ar bolisïau tâl gael eu paratoi ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan gyngor llawn, neu gyfarfod o aelodau yn achos awdurdod tân ac achub (ATA), a'u cyhoeddi. 

O dan adran 38(4) o'r Ddeddf rhaid i ddatganiad awdurdod perthnasol ar bolisïau tâl gynnwys polisïau'r awdurdod ar y canlynol:

  • lefel ac elfennau cydnabyddiaeth ariannol pob prif swyddog
  • cydnabyddiaeth ariannol prif swyddogion ar adeg recriwtio
  • unrhyw gynnydd ac ychwanegiad at gydnabyddiaeth ariannol pob prif swyddog
  • y defnydd o dâl ar sail perfformiad ar gyfer prif swyddogion
  • y defnydd o fonysau ar gyfer prif swyddogion
  • sut y telir prif swyddogion pan ddaw eu cyfnod mewn swydd o dan neu yng nghyflogaeth yr awdurdod i ben
  • cyhoeddi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol prif swyddogion a sicrhau mynediad iddi

Er mwyn dangos arfer da, dylai awdurdodau hefyd ystyried cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • gwybodaeth sy'n dangos tystiolaeth o fforddiadwyedd a gwerth am arian
  • nifer y swyddi uwch yn y corff â phecyn cydnabyddiaeth ariannol o fwy na £100,000 mewn bandiau o £5,000
  • dull y corff o reoli talent
  • dull y corff o ymdrin â thâl sy'n seiliedig â pherfformiad
  • dull y corff o ddarparu cymorth i staff sy'n derbyn tâl is
  • y pwyntiau tâl uchaf ac isaf a osodir gan y corff
  • y polisïau diswyddo y mae'r corff yn eu gweithredu a sut, ac o dan ba amgylchiadau, y ceir amrywio'r rhain

O dan adran 39 o'r Ddeddf, rhaid i ddatganiad awdurdod perthnasol ar bolisïau tâl gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad yr awdurdod cyn iddo ddod i rym a rhaid i bob datganiad dilynol gael ei baratoi a'i gymeradwyo cyn diwedd 31 Mawrth yn union cyn y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi. Gall awdurdod perthnasol benderfynu diwygio ei ddatganiad ar bolisïau tâl (gan gynnwys ar ôl i'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi ddechrau). Cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol ar ôl cymeradwyo neu ddiwygio datganiad ar bolisïau tâl, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r datganiad neu'r datganiad diwygiedig mewn modd sy'n briodol yn ei farn ef (sy'n gorfod cynnwys ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod).

Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r egwyddorion polisi allweddol sy'n sail i'r darpariaethau atebolrwydd tâl yn y Ddeddf. Fe'u cyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn unol ag adran 40(2) o'r Ddeddf. Rhaid i awdurdodau perthnasol yng Nghymru ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau sy'n ymwneud â pharatoi a chymeradwyo datganiadau ar bolisïau tâl. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer da y dylai awdurdodau perthnasol eu hystyried wrth baratoi a chymeradwyo datganiadau ar bolisïau tâl. 

Cwmpas

Nid yw'r darpariaethau yn y Ddeddf yn gymwys i staff ysgolion awdurdodau lleol ac, felly, nid oes angen i staff addysgu gael eu cynnwys yn statudol yng nghwmpas datganiad ar bolisïau tâl. Fodd bynnag, mae Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol eisoes yn cynnwys gofyniad i bob corff perthnasol (sy'n cynnwys cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol) sy'n cyflogi athrawon  roi polisi tâl ar waith. Dylai'r polisïau fod ar gael yn hawdd i athrawon. Dylai awdurdodau lleol annog cyrff llywodraethu i gyhoeddi eu polisïau tâl presennol ar wefan yr ysgol.

Ni fwriedir i unrhyw beth yn narpariaethau atebolrwydd tâl y Ddeddf na'r canllawiau hyn ddisodli cyfrifoldebau a dyletswyddau presennol awdurdodau fel cyflogwyr, o dan ddeddfwriaeth cyflogaeth berthnasol, a rhaid i awdurdodau, wrth gwrs, gofio'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau hyn wrth lunio datganiad ar bolisïau tâl. Ni fyddai Deddf Diogelu Data 1998 yn gymwys i drafod polisïau tâl awdurdod oherwydd nid yw'n ymwneud â data ynghylch unigolyn penodol. 

Mae pob awdurdod lleol yn gyflogwr unigol yn ei rinwedd ei hun ac mae ganddo'r hawl i wneud penderfyniadau ar dâl sy'n briodol i amgylchiadau lleol ac sy'n cyflawni gwerth am arian i drethdalwyr lleol. Nid yw darpariaethau'r Ddeddf hon yn ceisio newid hyn na phennu pa benderfyniadau ar dâl y dylid eu gwneud neu pa bolisïau y dylai awdurdodau cyflogi unigol eu rhoi ar waith. Yn hytrach, maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fod yn fwy agored ynghylch eu polisïau lleol eu hunain a sut y caiff penderfyniadau lleol eu gwneud.

Egwyddorion polisi

Ym mis Mehefin 2010, gofynnodd Llywodraeth y DU i Wil Hutton gynnal adolygiad annibynnol o Gyflog Teg yn y sector cyhoeddus. Cafodd Adroddiad Terfynol Hutton ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2011 a gwnaeth sawl argymhelliad o ran hyrwyddo cyflogau teg yn y sector cyhoeddus drwy ymdrin ag anghysondebau rhwng y rheini sydd ar y cyflogau isaf ac uchaf mewn sefydliadau sector cyhoeddus.

Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf yn dwyn ynghyd elfennau atebolrwydd cliriach, tryloywder a thegwch ym maes tâl lleol. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorwyr (yn achos awdurdodau lleol) neu aelodau (yn achos ATAau) chwarae mwy o ran yn y gwaith o bennu tâl, gan sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan y rhai sy'n uniongyrchol atebol i bobl leol. Mae darpariaethau'r Ddeddf yn sicrhau bod cymunedau yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn pennu a yw cydnabyddiaeth ariannol, yn enwedig cydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau o staff, yn briodol ac yn gymesur â chyfrifoldebau. Hefyd, maent yn sicrhau bod polisïau ar dalu a gwobrwyo'r aelodau o staff uchaf wedi'u nodi'n glir yng nghyd-destun tâl y gweithlu ehangach. 

Atebolrwydd

Ym marn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, dylai penderfyniadau ar bolisïau tâl gael eu gwneud gan gynghorwyr ac aelodau sy'n uniongyrchol atebol i gymunedau lleol.  Dylai awdurdodau sicrhau bod pob aelod sy'n atebol yn ddemocrataidd yn cael mewnbwn sylweddol i'r modd y caiff penderfyniadau ar dâl eu gwneud, yn enwedig penderfyniadau ar dâl uwch aelodau o staff, a'u bod yn agored ynghylch y polisïau sy'n llywio'r penderfyniadau hynny. 

Dyna pam y mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiadau ar bolisïau tâl, ac unrhyw ddiwygiadau iddynt, gael eu hystyried gan gyfarfod cyngor llawn neu gyfarfod o aelodau'r ATA perthnasol, ac na ellir dirprwyo'r fath gyfrifoldeb i unrhyw is-bwyllgor.  Wrth drefnu cyfarfodydd o'r fath, dylai awdurdodau weithredu yn unol â gofynion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

Gan fod datganiadau ar bolisïau tâl yn cynnwys yr egwyddorion cyffredinol sy'n sail i benderfyniadau ar dâl, ac nid data personol, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn y byddai unrhyw un o'r rhesymau dros wahardd y cyhoedd yn gymwys i drafod y datganiadau. Felly, dylai'r fath gyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd a pheidio â hepgor arsylwyr. Rhaid i bob penderfyniad ar dalu a gwobrwyo prif swyddogion gydymffurfio â'r datganiad cyfredol ar bolisïau tâl. 

Mae'r enghraifft o ddatganiad ar bolisïau tâl yn Atodiad A yn cynnwys gwybodaeth am rôl y prif weithredwr a disgrifiad cryno o ddeiliad y swydd, gan gynnwys manylion ei brofiad blaenorol. Ystyrir bod hyn yn arfer da ac yn cyfrannu at sicrhau tryloywder tâl.  Mae cynnwys datganiadau cyflwyniad yr arweinydd gan y Cadeirydd neu Arweinydd yr awdurdod lleol o fewn y datganiad ar bolisïau tâl, sy'n nodi atebolrwydd am benderfyniadau, hefyd yn cael ei ystyried yn arfer da.

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn gosod adran newydd sef 143A ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Rhydd y ddarpariaeth bwerau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) wneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw bolisi yn natganiad awdurdod ar bolisïau tâl sy'n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig, neu unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig mewn prif gyngor neu awdurdod tân ac achub. 

Rhaid i unrhyw awdurdod sy'n cynnig newid cyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig (heblaw am un sy'n gymesur â newid sy'n effeithio ar aelodau staff eraill yr awdurdod yn fwy cyffredinol) ymgynghori â'r Panel am y newid arfaethedig. Yna mae'n ofynnol i'r awdurdod ystyried argymhellion y Panel ynghylch y cynnig.

Tryloywder

Hygyrchedd. Mae'n hanfodol bod y modd y mae awdurdod yn ymdrin â thâl, fel y'i nodir mewn datganiad ar bolisïau tâl, yn hygyrch i ddinasyddion ac yn galluogi trethdalwyr lleol i lunio barn hyddysg ynghylch p'un a yw penderfyniadau lleol ar bob agwedd ar gydnabyddiaeth ariannol yn deg ac yn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

Mae'n ofynnol i awdurdodau baratoi eu datganiadau ar bolisïau tâl bob blwyddyn a dylent nodi sut a phryd y cynhelir yr adolygiad nesaf yn eu datganiadau. Dylai awdurdodau hefyd nodi pryd y cafodd eu polisïau tâl drafft eu hystyried yng nghyfarfod y cyngor llawn.

Rhaid i ddatganiadau ar bolisïau tâl a gymeradwywyd gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod, ac mewn unrhyw ffordd arall sy'n briodol yn ei farn ef, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo neu eu diwygio. Dylai awdurdodau sicrhau bod modd dod o hyd i ddatganiadau'n hawdd ar eu gwefan. Dylai'r datganiad ei hun gael ei gyhoeddi fel dogfen annibynnol ar ei ffurf derfynol, efallai yn adran tryloywder y wefan neu gyda gwybodaeth arall am dâl a'r gweithlu.

Wrth ystyried hygyrchedd datganiadau ar bolisïau tâl a gyhoeddir gan Awdurdodau, mae rhai Awdurdodau yn dangos arfer da drwy gyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau o dan naill ai pennawd y dudalen flaen ‘Amdanom ni’ neu ‘Cyhoeddiadau’. Wedyn, mae'r gwefannau mwyaf hygyrch yn cyfeirio'r defnyddiwr at wybodaeth berthnasol drwy wneud un clic i fynd i'r penawdau dilynol 'Trefniadau Tâl Uwch Reolwyr' neu 'Datganiad ar Bolisïau Tâl'. O'r mannau cychwynnol hyn y mae'n hawdd dod o hyd iddynt, gallai defnyddwyr wedyn glicio i fynd i wybodaeth berthnasol arall yn cynnwys cylch gorchwyl penodol, polisïau a gweithdrefnau, adroddiadau ar gydnabyddiaeth ariannol, datganiadau ariannol a chyfrifon blynyddol.

Mae'r datganiad ar bolisïau tâl yn nodi'r polisi a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch tâl uwch reolwyr a thâl aelodau eraill o staff. Mae rhai awdurdodau yn mabwysiadu arfer da drwy gyhoeddi eu hadroddiadau ar gydnabyddiaeth ariannol ochr yn ochr â'r datganiad ar bolisïau tâl, gan ddangos canlyniad eu penderfyniad.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau nodi, yn eu datganiadau ar bolisïau tâl, sut maent yn mynd ati i gyhoeddi gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol prif swyddogion a sicrhau mynediad iddi. Mae cydnabyddiaeth ariannol prif swyddogion at ddibenion datganiadau ar bolisïau tâl (fel y'i diffinnir yn adran 43(3) o'r Ddeddf) yn cynnwys:

  • cyflog (ar gyfer prif swyddogion sy'n gyflogeion) neu daliad o dan gontract gwasanaeth (ar gyfer prif swyddogion hunangyflogedig)
  • bonysau
  • taliadau, ffioedd a lwfansau
  • buddion heblaw cyflogau
  • unrhyw gynnydd neu welliant i hawliad pensiwn y prif swyddog lle mae'r fath gynnydd yn deillio o benderfyniad gan yr awdurdod
  • unrhyw symiau sy'n daladwy os bydd y prif swyddog yn gadael ei swydd neu os na chaiff ei gyflogi gan yr awdurdod mwyach (taliadau diswyddo yn y dyfodol)  

Nid yw'r diffiniad o brif swyddogion (fel y'i nodir yn adran 43(2) o'r Ddeddf) yn gyfyngedig i benaethiaid gwasanaeth cyflogedig neu brif swyddogion statudol. Mae'n cynnwys y rheini sy'n uniongyrchol atebol iddynt (prif swyddogion anstatudol), i'w llinellau adrodd uniongyrchol (dirprwy brif swyddogion) ac, yn achos awdurdod tân ac achub, ddirprwy brif swyddog tân. 

Caiff awdurdodau eu hatgoffa bod y Ddeddf yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid iddynt ei chynnwys yn eu datganiadau ar bolisïau tâl. Dylai awdurdodau ystyried, o gofio amgylchiadau lleol a'u strwythurau gwobrwyo eu hunain, p'un a fyddai'n briodol ehangu cwmpas eu datganiadau ar bolisïau tâl i gynnwys staff ar gyflog uchel na fyddent yn perthyn i'r diffiniad o brif swyddog. 

Nid yw'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddefnyddio eu datganiadau ar bolisïau tâl i gyhoeddi data rhifol penodol ar systemau talu a gwobrwyo. Fodd bynnag, dylai awdurdodau ystyried sut mae'r wybodaeth a roddir yn eu datganiadau ar bolisïau tâl yn gweddu i'r data ar systemau talu a gwobrwyo a gyhoeddir ar wahân. Mae hyn yn cynnwys data y mae'n rhaid ei gyhoeddi o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Yn wir, rhydd datganiadau ar bolisïau tâl gyfle i roi'r data'n gadarn yng nghyd-destun polisïau cytûn y cyngor a rhoi cyfiawnhad clir i'r cyhoedd o'r ffordd y caiff ei arian ei wario'n briodol wrth dalu a gwobrwyo uwch aelodau o staff. 

Cyflogau ar adeg penodi

Yn ogystal â chytuno ar y paramedrau ar gyfer pennu tâl prif swyddogion, mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai cyngor llawn neu gyfarfod o aelodau ATA gael y cyfle i bleidleisio ar becynnau cyflog mawr a gynigir mewn perthynas â phenodiadau newydd yn unol â'u datganiadau cytûn ar bolisïau tâl. Ym marn Gweinidogion Cymru, £100,000 yw'r lefel gywir ar gyfer y trothwy hwnnw. 

At y diben hwn, dylai pecynnau cyflog fod yn gyson â'r categorïau a ddiffiniwyd ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Bydd hyn yn cynnwys cyflog, bonysau, lwfansau a delir yn rheolaidd, unrhyw dreuliau y gellir codi treth incwm y DU arnynt, cyfraniad yr awdurdodau perthnasol at bensiwn y swyddog ac unrhyw fuddiannau mewn da eraill y mae gan y swyddog hawl i'w cael o ganlyniad i'w gyflogaeth.

Taliadau diswyddo

Mae'n ofynnol i awdurdod lleol, yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Dod â Chyflogaeth i Ben yn Gynnar) (Iawndal Dewisol) (Cymru a Lloegr) 2006  lunio a chyhoeddi polisi y maent yn ei gymhwyso wrth arfer eu pwerau dewisol o dan Reoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau hynny a'i adolygu'n barhaus.

Dylai awdurdodau sicrhau bod y ffordd y maent yn rheoli eu gweithlu, gan gynnwys taliadau a gynigir i brif swyddogion sy'n gadael yr awdurdod, yn cyflawni'r gwerth gorau am arian i drethdalwyr lleol ac yn gosod yr esiampl gywir ar gyfyngiadau. Mae eisoes yn ofynnol i awdurdodau gyhoeddi eu polisïau ar gynnig iawndal dewisol i staff perthnasol yn achos eu diswyddo. Bwriedir i'r Ddeddf wneud yn glir pa gamau y gallai awdurdod eu cymryd wrth gynnig tâl diswyddo i brif swyddogion fel rhan o benderfyniad i derfynu contract am unrhyw reswm. Fel gydag elfennau eraill datganiadau ar bolisïau tâl, rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir gan awdurdod mewn perthynas â rhoi tâl diswyddo i brif swyddog unigol gydymffurfio â'i bolisi cyhoeddedig ar gyfer y flwyddyn honno a dylai gynrychioli gwerth am arian i drethdalwyr.

Wrth gyflwyno gwybodaeth i gyngor llawn, dylai awdurdodau nodi'n glir holl elfennau pecynnau diswyddo perthnasol gan gynnwys unrhyw elfennau statudol neu anstatudol.

Hefyd, argymhellir y dylai trefniadau craffu awdurdodau alluogi'r pwyllgor trosolwg a chraffu priodol neu unrhyw banel tâl neu gydnabyddiaeth ariannol arall a arweinir gan aelodau (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo) adolygu'r datganiadau ar bolisïau tâl ac unrhyw becynnau cyflog neu ddiswyddo unigol ar gyfer eu prif swyddogion. 

Mae enghreifftiau o arfer da o ran datganiadau ar bolisïau tâl yn cyfeirio at gyhoeddi penderfyniadau eu pwyllgor cydnabyddiaeth ariannol (neu gorff cyfatebol) ac yn rhoi crynodeb o'r prif ganlyniadau a geisiwyd drwy gynlluniau diswyddo ac adleoli ac achosion busnes. Mae enghreifftiau o arfer da yn cyfeirio'n benodol at ystyriaethau'n ymwneud â gwerth am arian a rhesymoldeb unrhyw gyfnodau ad-dalu.

Tegwch

Yn ei adroddiad interim, nododd Will Hutton fod prif reolwyr llywodraeth leol wedi gweld mwy o gynnydd o ran tâl na'r rheini ar y cyflog isaf yn eu gweithluoedd a bod y cymarebau tâl rhwng prif weithredwyr awdurdodau lleol a'r rheini ar y cyflog isaf wedi tyfu dros y deng mlynedd flaenorol. Yn ei adroddiad terfynol, tynnodd Will Hutton sylw at werth sicrhau bod penderfyniadau ynghylch tâl uwch aelodau o staff yn cael eu gwneud yng nghyd-destun penderfyniadau tebyg ynghylch staff ar gyflog is a bod y gydberthynas rhwng y penderfyniadau hynny yn cael ei hystyried.

Mae'r math o gamau gweithredu a argymhellir gan Hutton yn fodd i gynnal dadl gliriach ynghylch p'un a yw lefelau tâl sefydliad yn deg a ph'un a ellir cyfiawnhau gwahaniaethau yn y modd y caiff staff eu talu a'u gwobrwyo. Yn y cyd-destun hwn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu eu polisïau ar gydnabyddiaeth ariannol y staff a delir y mwyaf ochr yn ochr â'u polisïau ar gyfer y cyflogeion a delir y lleiaf. Yn ogystal, mae'n gofyn i bob awdurdod egluro'r math o gydberthynas a ddylai fodoli rhwng cydnabyddiaeth ariannol ei brif swyddogion a'i gyflogeion nad ydynt yn brif swyddogion, yn ei farn ef. 

Mae Hutton yn argymell y dylid cyhoeddi lluosrif tâl sefydliad, sef y gymhareb rhwng y cyflogai a delir y mwyaf ac enillion cyfartalog canolrif y sefydliad cyfan, er mwyn dangos y gydberthynas honno.

Ymhlith yr elfennau ychwanegol y dylid eu cynnwys yn y datganiad ar bolisïau tâl er mwyn dangos arfer da mae:

  • y pwynt tâl uchaf a osodir gan y corff
  • y pwyntiau tâl isaf a osodir gan y corff
  • dull y corff o ddarparu cymorth ar gyfer staff sy'n derbyn tâl is

Mae adran 38(4) o'r Ddeddf yn nodi, yn ogystal ag uwch gyflogau, fod yn rhaid i awdurdodau hefyd ddangos yn glir sut y maent yn mynd ati i ddyfarnu elfennau eraill o gydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau o staff, gan gynnwys bonysau, tâl ar sail perfformiad a thaliadau diswyddo. Dylai hyn hefyd gynnwys unrhyw bolisi ar ddyfarnu ffioedd ychwanegol i brif swyddogion am eu dyletswyddau yn ystod etholiadau lleol. Er bod rhai awdurdodau wedi gwneud y penderfyniad i gynnwys ffioedd o'r fath yng nghyflog cyffredinol prif swyddog, mae eraill yn talu ffioedd ar wahân. Dylai awdurdodau nodi'n glir yn eu datganiadau ar bolisïau tâl pa ddull gweithredu sy'n gymwys ac, os telir ffioedd ar wahân, dylent ddisgrifio'r ffordd y maent yn pennu ac yn cyhoeddi'r rhain.

Wrth gyflwyno eu polisïau ar dâl ar sail perfformiad, dylai awdurdodau ystyried argymhellion Will Hutton ar werth system dalu 'adennill'. Ym marn Hutton, gallai uwch aelodau o staff gael elfen o 'risg' yn eu cyflogau sylfaenol a fyddai'n cael ei hadennill bob blwyddyn drwy gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Roedd o'r farn y byddai camau o'r fath yn fodd i amrywio tâl yn ôl perfformiad a sicrhau nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn gwobrwyo methiant. 

Nid oes gan y rhan fwyaf o awdurdodau perthnasol system tâl sy'n seiliedig ar berfformiad sy'n arwain at dalu bonws neu roi dyfarniad ychwanegol arall mwyach. Byddai'n fuddiol i'r awdurdod perthnasol nodi'n glir y trefniadau sydd ar waith lle maent yn gymwys. Fel arall, dylai'r awdurdod perthnasol gadarnhau a ydynt yn cael eu hystyried a'u dyfarnu, eu dyfarnu ond nid eu derbyn, neu eu hystyried ac nid eu dyfarnu.

Mae gan drethdalwyr yr hawl i ddisgwyl i'w buddiannau gael eu diogelu, gan gynnwys pan fydd uwch aelodau o staff yn newid swyddi o fewn y sector cyhoeddus, yn enwedig pan ellid ystyried bod hynny'n cynyddu lefelau cyflog cyfartalog o fewn y sector cyfan. Dylai trethdalwyr hefyd gael y cyfle i ofyn a yw'r trefniadau yn cynnig gwerth am arian lle gallai ymddangos bod y sector cyhoeddus yn talu unigolyn ddwywaith - drwy gyflog a phensiwn - am wneud yr un gwaith. Dylai fod gan awdurdodau bolisi penodol yn eu datganiadau ar bolisïau tâl ynghylch p'un a ganiateir hyn yn eu gweithluoedd.

Dylai awdurdodau ddefnyddio eu datganiadau ar bolisïau tâl i egluro eu polisïau o ran gwobrwyo prif swyddogion a gyflogwyd gan yr awdurdod yn flaenorol ac a gafodd, ar ôl i'r gyflogaeth honno ddod i ben, dâl diswyddo gan yr awdurdod hwnnw. Dylai hyn gynnwys unrhyw bolisi lleol ar gyn-gyflogeion sy'n cyflawni rôl prif swyddog yn ddiweddarach o dan gontract gwasanaeth. Yn yr un modd, dylai awdurdodau gynnwys eu polisïau ar gyfer gwobrwyo prif swyddogion sydd hefyd yn cael pensiwn o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn perthnasol diffoddwyr tân.  Dylai'r polisïau hyn ystyried eu dull cytûn o leihau pensiwn. 

Mae Prif Ysgrifennydd blaenorol y Trysorlys wedi nodi'n glir fod Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i drechu pob math o gamau osgoi treth. Gall penodiadau cyhoeddus sy'n cynnwys trefniadau lle gwneir arbedion ar ffurf treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol fod ar draul trethdalwyr eraill neu rannau eraill o'r sector cyhoeddus.

Mae enghreifftiau o arfer da yn esbonio lle mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn debygol o gael eu hystyried yn briodol, sut a phwy sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, a sut y caiff y trefniadau hynny eu hadolygu a chan bwy.

Wrth ymdrin â phenodiadau, yn enwedig uwch benodiadau, dylai awdurdodau ystyried y gwerth am arian a gynigir i'r sector cyhoeddus cyfan. Wrth ddatblygu eu datganiadau ar bolisïau tâl, dylai awdurdodau adolygu telerau cydnabyddiaeth ariannol uwch benodiadau, yn enwedig lle ceir trefniadau a allai gael eu hystyried yn gais i leihau taliadau treth. Dylai awdurdodau ddatblygu, a chynnwys yn eu datganiadau ar bolisïau tâl, bolisi lleol ar ddefnyddio trefniadau o'r fath yn eu gweithluoedd. 

Amrywiadau lleol

Rhaid i ddatganiadau ar bolisïau tâl gynnwys polisi awdurdod o ran cydnabyddiaeth ariannol y cyflogeion a delir y lleiaf. Hefyd, nid yw'r Ddeddf yn ceisio cyflwyno un diffiniad o ‘a delir y lleiaf’ at y dibenion hyn. Yn hytrach, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddatblygu eu diffiniadau eu hunain o ‘a delir y lleiaf’, sy'n briodol i'w hamgylchiadau lleol eu hunain ac sy'n egluro pam eu bod wedi dewis y diffiniad hwnnw. Wrth lunio diffiniad o'r fath, efallai y bydd awdurdodau am ystyried unrhyw ganllawiau a ddarparwyd gan y sector at y diben hwn a ph'un a yw'n briodol ymgynghori â phartïon perthnasol. 

Mae adran 38(4) yn nodi'n fanwl yr elfennau penodol y mae'n rhaid i ddatganiad ar bolisïau tâl eu cynnwys mewn perthynas â thalu uwch aelodau o staff. Yn ogystal â'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 38(2) (b) (polisïau ar gydnabyddiaeth ariannol y cyflogeion a delir y lleiaf o fewn awdurdod), gall awdurdodau adlewyrchu'r fath fanylder yn y datganiad ar bolisïau tâl y rheini nad ydynt yn brif swyddogion. 

Er bod adran 38 o'r Ddeddf yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad ar bolisïau tâl, gall awdurdodau gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol am eu polisïau tâl sy'n briodol yn eu barn hwy. 

Er enghraifft, efallai y bydd awdurdod sydd â pholisi lleol ar gyfer talu staff sy'n gweithio i gontractwyr allanol y mae'r awdurdod yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau, neu sy'n datblygu polisi lleol o'r fath, am gynnwys y polisi hwnnw yn ei ddatganiad ar bolisïau tâl. Yn yr un modd, efallai y bydd awdurdod o'r farn ei bod yn berthnasol neu'n briodol egluro unrhyw drefniadau a rennir sydd ganddo o ran uwch reolwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn gref, fel dull o leihau costau cyflogau ar lefel uwch, y dylai awdurdodau ystyried penodi uwch aelodau o staff ar y cyd â sefydliadau eraill.  Mewn amgylchiadau lle mae awdurdod wedi gwneud cyd-benodiad o'r fath neu'n ystyried gwneud hynny yn y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad ar bolisïau tâl yn berthnasol iddi, dylai'r datganiad ddarparu'r manylion canlynol:

  • unrhyw benodiadau o'r fath sy'n bodoli eisoes ac amcangyfrif o'r cyflog blynyddol a'r arbedion cysylltiedig a wna'r awdurdod
  • unrhyw benodiadau o'r fath sydd wrthi'n cael eu gwneud neu eu hystyried. Lle y bo'n hysbys, dylai hyn gynnwys nifer a theitl y swyddi dan sylw a'r arbedion amcangyfrifedig a fyddai'n gymwys petai cyd-benodiad yn cael ei wneud  

Mater i'r sefydliadau cyflogi yw cyflogau a delir yn achos cyd-benodiadau, a hynny ar ôl ystyried eu datganiadau ar bolisïau tâl lle bo'n berthnasol. Gall cyflogau o'r fath fod yn uwch na'r rhai a delir am benodiad unigol (os, er enghraifft, y bydd unigolyn a benodir ar y cyd yn gwasanaethu dau awdurdod) yn sylweddol is na dwywaith gymaint.

Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Wrth reswm, bu cryn dipyn o graffu cyhoeddus ar lefelau cydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau o staff llywodraeth leol. O ystyried pryderon parhaus, ac er mwyn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch gwario arian cyhoeddus yn destun lefelau atebolrwydd priodol, rhaid i awdurdodau ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011. 

Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fel y'i mewnosodwyd gan adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) 2013, yn cyfeirio at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ac yn nodi ei swyddogaethau o ran cyflogau penaethiaid gwasanaeth cyflogedig.

Gall y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys ynghylch y canlynol:

  • unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy'n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod
  • unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod

Cyn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig nad yw'n gymesur â newid cyflogau ei staff eraill, rhaid i awdurdod wneud y canlynol:

  • ymgynghori â'r Panel ynghylch y newid arfaethedig
  • ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y Panel wrth benderfynu a ddylid gwneud y newid ai peidio

Rhaid i awdurdodau ddarparu gwybodaeth y gall y Panel ofyn amdani'n rhesymol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a gall y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion a wneir ganddo.

Rhaid i'r Panel ystyried unrhyw ganllawiau a gaiff eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni ei swyddogaethau.

Dylai awdurdodau nodi yn eu datganiad ar bolisïau tâl p'un a wnaed atgyfeiriad o'r fath i'r Panel ai peidio. Os gwnaed atgyfeiriad, dylai'r datganiad gynnwys gwybodaeth am natur yr atgyfeiriad, penderfyniad y Panel ac ymateb yr awdurdod.

Nid yw Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 bellach yn ymestyn pŵer y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, o dan adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i dalu am gyflogau sy'n daladwy i brif swyddogion (gan ddefnyddio diffiniad y Ddeddf Lleoliaeth) yn ogystal â phrif weithredwyr o 31 Mawrth 2020.

Fformat a manylion y datganiadau ar bolisiau tâl

Dylai awdurdodau sicrhau bod y wybodaeth a geir yn eu datganiadau ar bolisïau tâl yn glir ac yn hygyrch, heb fawr ddim jargon, gan egluro unrhyw fyrfoddau. 

Er mwyn iddynt fod yn haws i'w darllen, caiff awdurdodau eu hannog i ddarparu gwybodaeth am ddiben a chwmpas eu datganiadau a'r fframwaith deddfwriaethol.

Dylai awdurdodau nodi eu polisïau o ran pob un o'r gofynion a restrir yn adran 38 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn glir ac ar wahân. 

Caiff awdurdodau eu hannog i gynnwys trefniadau atebolrwydd a gwneud penderfyniadau yn eu datganiadau. Dylai hyn gynnwys pwy, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch y polisïau amrywiol a amlinellir yn eu datganiad.

Caiff awdurdodau eu hannog i gynnwys adran yn eu datganiad sy'n cadarnhau bod adolygiad o'u polisïau wedi cael ei gwblhau a'u bod yn gyfredol ac yn bodloni egwyddorion tegwch, cydraddoldeb, atebolrwydd a gwerth am arian. 

Caiff awdurdodau eu hannog i gynnwys manylion trefniadau pensiwn a hawliadau gwyliau os credant eu bod yn berthnasol i'w datganiadau.

Atodir datganiad ar bolisïau tâl a awgrymir a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus yn Atodiad A. Nid yw'n hollgynhwysfawr ac mae angen i unrhyw ddatganiad ar bolisïau tâl adlewyrchu amgylchiadau ac amrywiadau lleol ym mhob awdurdod.

Adroddiad Blynyddol

Dylai awdurdodau fod yn ymwybodol bod dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai cyrff cyhoeddus datganoledig lunio adroddiad blynyddol a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • cyflog
  • pensiwn
  • buddion mewn da a buddion di-dreth
  • cyfansoddiad rhyw'r uwch dîm
  • manylion pecynnau diswyddo y cytunwyd arnynt yn ystod y flwyddyn adrodd, gan gynnwys achosion busnes cadarn sy'n cyfiawnhau'r trefniadau ymadael ac sy'n cynrychioli gwir werth am arian

Hefyd, mae dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pob corff lunio a chyhoeddi adroddiadau tâl cyfartal.

Ceir copi o'r adroddiad a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru gan Gomisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus ar ‘Tryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru’ ar gael. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys awgrymiadau ac enghreifftiau o ran arfer da ar gyfer datgeliadau mewn adroddiadau blynyddol a chyfrifon blynyddol.

Enghraifft 0 ddatganiad ar bolisiau tâl

Dyma'r <number> datganiad blynyddol ar bolisïau tâl ar gyfer y cyfnod rhwng <1 Ebrill 20bb a 31 Mawrth 20bb>. Fe'i cymeradwywyd gan y Bwrdd/Cyngor ar dd/mm/bbbb <dolen i'r cofnodion>.

Mae'r datganiad hwn ar bolisïau tâl yn rhoi fframwaith ar gyfer penderfyniadau a wneir ynghylch tâl ac, yn benodol, penderfyniadau ynghylch tâl uwch reolwyr.

Mae'n ategu gwybodaeth arall a gyhoeddwyd ar ein gwefan y rhoddir dolen iddi isod. Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â ni yn:<link>.

Cyflwyniad gan y Cadeirydd/Arweinydd

Datganiad personol cryno sy'n cydnabod diddordeb y cyhoedd yn nhaliadau'r sector cyhoeddus a phwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd yn erbyn nodau strategol cyfredol y sefydliad, gan gynnwys dangos gwerth am arian a'r rôl y mae uwch arweinwyr yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau.

Fframwaith Deddfwriaethol

Esboniad cryno o'r endid cyfreithiol, gan gynnwys cyfeiriad at ei sefydlu a, lle y bo'n gymwys, ei berthynas â Llywodraeth Cymru.

Gwneud penderfyniadau gan gynnwys Ystyried Gwerth am Arian

Rhowch grynodeb o'r telerau ac amodau gwasanaeth cyfredol ar gyfer pob aelod o staff yn yr awdurdod.

Dylai esboniad o'r broses gwerthuso swyddi gynnwys sut y caiff bandiau cyflog eu pennu a'u hadolygu a sut yr eir ati i ystyried dyfarniadau tâl. Dylid cyfeirio'n benodol at unrhyw delerau ac amodau a gytunwyd yn genedlaethol.

Rhowch ddolen i gorff yr awdurdod sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch tâl uwch reolwyr, ei aelodau, ei gylch gorchwyl a'i gofnodion, e.e. pwyllgor cydnabyddiaeth.

Lle y bo'n briodol, dylid hefyd gyhoeddi terfynau dirprwyedig ar gyfer penderfyniadau ynghylch tâl.

Lle yr ystyriwyd newidiadau i ddeiliaid swyddi uwch a newidiadau i raddau cyflog deiliaid swyddi presennol (hyd yn oed os na chawsant eu cytuno), dylid cynnwys naratif cryno.

Lle y cytunir i dalu uwchlaw neu'r tu hwnt i'r broses gwerthuso swyddi safonol ar gyfer swyddi uwch, dylid nodi'n glir raddau'r hyblygrwydd i wneud y cyfryw benderfyniadau, e.e. dyfarnu atodiad y farchnad, a dylid cyfeirio at y cofnod cymeradwyo perthnasol.

Nodwch y berthynas bargeinio ar y cyd ag Undebau Llafur gyda dolen i'r <cytundeb partneriaeth> perthnasol.

Nodwch y meini prawf a ddefnyddiwyd i ystyried y dyfarniadau tâl a wnaed yn ystod y flwyddyn.

Mae'n ofynnol i Awdurdod Lleol yng Nghymru ymgynghori â Phanel Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ynghylch newidiadau i dâl uwch aelodau o staff . Dylai'r datganiad ar bolisïau tâl nodi unrhyw ymgynghori a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a chanlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.

Cydnabyddiaeth Uwch Reolwyr

Rôl y Prif Weithredwr

Y Prif Weithredwr yw'r uwch swyddog sy'n arwain yr awdurdod ac yn cymryd cyfrifoldeb amdano.  Mae gan yr awdurdod drosiant o £x miliwn (£x miliwn o refeniw a £y miliwn o gyfalaf) ac mae'n gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau sy'n cyflogi tua xx o staff.

Mae rôl y prif weithredwr yn benodiad (llawn amser/parhaol). Caiff deiliad y swydd ei ddewis yn ôl teilyngdod, yn erbyn meini prawf gwrthrychol, ar ôl i'r swydd gael ei hysbysebu'n gyhoeddus. Caiff ei benodi gan (y cyngor/cadeirydd/bwrdd).

Fel pennaeth y gwasanaeth taledig/sefydliad, mae'r Prif Weithredwr yn gweithio'n agos gydag aelodau etholedig/y Bwrdd i gyflawni <crynodeb o nodau strategol>.

Dylid cynnwys unrhyw ofynion o ran gweithio y tu allan i oriau arferol er enghraifft; mae'r prif weithredwr yn gweithio'n rheolaidd gyda'r nos yn ogystal â'r wythnos fusnes arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r prif weithredwr hefyd yn arwain y trefniadau 'ar alw' sy'n cwmpasu gofynion cynllunio brys yn arbennig.

<Cefndir y Prif Weithredwr>

Rhowch gipolwg ar yrfa'r deiliad swydd a nodwch pryd yn union y gwnaethant ymgymryd â'r swydd.

Tâl y Prif Weithredwr

Nodir cyflog y prif weithredwr yn y <bandiau cyflog>: yr ystod gyfredol yw £x i £y.

Gall y Prif Weithredwr dderbyn taliadau ychwanegol ar gyfer unrhyw etholiadau lle mae'n ymgymryd â rôl Swyddog Canlyniadau.

Cyhoeddir manylion tâl y prif weithredwr, gan gynnwys unrhyw daliadau ychwanegol, yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol. (Gellir dod o hyd i'r ddogfen hon yng nghyfrifon blynyddol yr awdurdod/cyhoeddir ar wahân) a gellir ei chyrchu yma: <link>.

Caiff treuliau ar gyfer teithio ar drên, milltiroedd car, llety dros nos a pharcio eu hawlio'n ôl yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth yr awdurdod:<link>.

Caiff unrhyw fuddion mewn da neu dreuliau eraill eu datgelu yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol.

Mae'r prif weithredwr yn aelod o gynllun pensiwn <enw> a nodir manylion yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol. Ni chafwyd unrhyw gynnydd neu welliant i'r pensiwn y tu hwnt i'r trefniadau safonol.

Y cyfnod rhybudd ar gyfer y rôl yw x mis.

Uwch Aelodau o Staff

Ar hyn o bryd, diffinnir swyddi uwch fel a ganlyn:

  • cyflogau o fwy na £100,000 neu
  • bennaeth gwasanaeth taledig y corff
  • ei swyddog monitro
  • prif swyddog statudol
  • prif swyddog anstatudol
  • dirprwy brif swyddog
  • cyfarwyddwr gweithredol
  • uwch reolwr sydd â chyfrifoldeb lefel bwrdd neu nad oes ganddo hynny, sy'n adrodd yn uniongyrchol i bennaeth y corff

Rydym yn cyhoeddi pob <band cyflog> a <dadansoddiad o nifer y staff yn ôl band cyflog>. Cwmpesir y swyddi hyn gan amrywiaeth o delerau ac amodau o'r canlynol:

  • Y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion
  • Pwyllgor Soulbury
  • Y Cyd-gyngor Cenedlaethol
  • Athrawon

Grŵp gweithwyr

Telerau ac Amodau

Trefniadau pensiwn

Pob cyflogai

(ac eithrio'r rhai a restrir isod)

   

Prif Weithredwr

   

Uwch aelodau o staff

   
Soulbury    
Athrawon ysgol    
Arall    

Dylid hefyd esbonio'r trefniadau ar gyfer cymeradwyo buddion mewn da a lwfansau eraill.

Cyhoeddir manylion tâl uwch aelodau o staff yn y Datganiad o Gyfrifon / adroddiad ar gydnabyddiaeth.  Gellir dod o hyd i'r ddogfen hon yng nghyfrifon blynyddol yr awdurdod sefydliad/cyhoeddir ar wahân a gellir ei chyrchu yma:<link>.

Os na roddwyd caniatâd i gyhoeddi data personol, mae enwau wedi'u hepgor.

Mae'r bwrdd/uwch dîm rheoli yn cynnwys uwch aelodau o staff yn yr awdurdod. Caiff y bwrdd/uwch dîm rheoli ei gadeirio gan <enw> ac mae'n cyfarfod xx. Ei brif rôl yw <dolen i'r cylch gorchwyl>.

Rheoli Talent

Esboniwch sut mae'r awdurdod yn mynd ati i gynllunio olyniaeth ar gyfer swyddi arbenigol a swyddi uwch. Caiff hyn ei dargedu at ddatblygu arweinwyr y dyfodol ac arferion recriwtio a dysgu a datblygu arloesol y mae'r awdurdod yn eu defnyddio i recriwtio a chadw staff.

Tâl sy'n Seiliedig ar Berfformiad

Dylid cyfeirio'n benodol at unrhyw drefniadau tâl sy'n seiliedig ar berfformiad, hyd yn oed os na chânt eu dyfarnu ar ôl cael eu hystyried neu os nad ydynt yn berthnasol.

Caiff pob aelod o staff arfarniad blynyddol o berfformiad a ategir gan gynllun datblygu perfformiad yn unol â <pholisi rheoli perfformiad> yr awdurdod. Mae'r polisi hwn hefyd yn nodi'r trefniadau ar gyfer mynd i'r afael â thanberfformiad.

Cymorth i Staff â Thâl Is

Dylid rhoi enghreifftiau y bwriedir iddynt gynorthwyo staff â thâl is ynghyd ag asesiad o nifer yr aelodau o staff â thâl is sy'n manteisio arnynt a mesur o'r effaith.

Dylai'r awdurdod nodi ei safbwynt o ran cyfradd tâl gydnabyddedig y Sefydliad Cyflog Byw.

Pwynt Cyflog Uchaf ac Isaf

Mae'r cyflogai sy'n derbyn y tâl isaf ar (Fand x). Lleiafswm y band cyflog yw £x y flwyddyn ac mae'n codi i £x. Nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid sy'n destun trefniadau gwahanol. Hyfforddiant yw prif nodwedd y trefniadau hyn. Ni chaiff staff asiantaeth eu cynnwys ychwaith.

Y cyflogai sy'n derbyn y tâl mwyaf yw <rôl>. Lleiafswm y band cyflog yw £x ac mae'n codi i £y.  Mae deiliad presennol y swydd yn ennill £x.

Dolen i'r datgeliad yma neu yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a dylid hefyd gynnwys:

Cyflog canolrifol yr awdurdod sefydliad yn ystod y flwyddyn oedd £x (Band x).

Rhowch y ddwy gymhareb os nad y prif weithredwr sy'n derbyn y tâl uchaf.

Polisi Ymadael

Mae gan yr awdurdod <bolisi> sy'n cwmpasu trefniadau diswyddo neu ymadael.

Dylid cyfeirio at y cofnodion perthnasol ar gyfer manylion penodol y cynlluniau a ystyriwyd a/neu y cytunwyd arnynt yn ystod y flwyddyn. Dylid rhoi manylion costau a nifer y pecynnau ymadael gyda dolen i'r adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a dylid cynnwys y canlynol:

  • Cyflog a delir yn lle rhybudd
  • Cyfandaliad dileu swydd/diswyddo
  • Chost unrhyw daliad o'r gronfa pensiwn yr aiff yr awdurdod iddi pan fydd unigolyn yn ymadael

Dylai'r awdurdod esbonio unrhyw wahaniaeth rhwng y costau i'r awdurdod a'r swm a delir i'r unigolyn.

Dylai'r awdurdod nodi unrhyw drefniadau lle y caiff uwch aelodau o staff eu hailgyflogi ar ôl iddynt gael eu diswyddo neu ar ôl iddynt gymryd ymddeoliad cynnar a dylai roi crynodeb o'r rheswm dros wneud hynny gyda chyfeiriad at y cofnod cymeradwyo perthnasol.

Trefniadau oddi ar y Gyflogres

Dylai'r awdurdod esbonio'r math o amgylchiadau lle mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn debygol o gael eu hystyried yn briodol, sut a phwy sy'n gwneud y penderfyniadau hynny, a sut y caiff y trefniadau hynny eu hadolygu a chan bwy.

Dylid cyfeirio'n benodol at unrhyw drefniadau oddi ar y gyflogres a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn a'r cofnodion perthnasol gyda dolen i'r datgeliad yma neu yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol.

Dylai fod yn glir pam bod y cyfryw drefniant wedi'i gymeradwyo, pwy gymeradwyodd y trefniant hwnnw a sut y caiff y trefniadau eu hadolygu.

Atodiadau

<Bandiau Cyflog>
<Dadansoddiad o'r staff yn ôl band>
<Terfynau dirprwyo ar gyfer penderfyniadau ar dâl>
<Cytundebau partneriaeth>
<Polisi teithio a chynhaliaeth>
<Polisi dileu swyddi/diswyddo>
<Polisi rheoli perfformiad>
<Polisi gwyliau blynyddol>