Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio.

Cefndir- polisi pobl hŷn

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o gefnogi pobl hŷn yng Nghymru; gan gynnwys cyflwyno’r Strategaeth gyntaf ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2003, a sefydlu’r Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd yn 2008.

Nod Strategaeth Pobl Hŷn 2013-2023 (Cam 3) Llywodraeth Cymru yw galluogi pobl i fyw yn hirach a byw yn well drwy ganolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth a nodwyd gan bobl hŷn yng Nghymru; sef cael yr adnoddau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl wrth heneiddio.

Mae Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio wedi cefnogi a monitro’r gwaith o weithredu’r strategaeth. Cafodd y Fforwm, a gafodd ei alw’n wreiddiol y Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn, ei sefydlu yn 2004 i annog sefydliadau pobl hŷn ac amrywiaeth o gyrff proffesiynol i gydweithio. Roedd y Fforwm hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion er mwyn gwella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Yng ngoleuni gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2014, a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mae Strategaeth newydd ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn cael ei datblygu i roi sylw i effeithiau’r ddeddfwriaeth hon, ac ar yr un pryd rhoi sylw hefyd i’r prif faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.

Mae COVID-19 wedi golygu y bu’n rhaid gohirio’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth newydd, a oedd i’w gynnal ym mis Ebrill 2020, er mwyn i swyddogion Llywodraeth Cymru allu canolbwyntio ar waith sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r pandemig. Mae’r ddogfen bresennol yn cael ei hailystyried yng ngoleuni’r pandemig er mwyn edrych ar sut y mae gwasanaethau wedi newid a sut y maent yn gweithredu mewn perthynas â phobl hŷn wrth inni symud at y dyfodol.

Rôl Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio

Bydd y Fforwm yn adrodd i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros faterion traws-lywodraethol sy’n berthnasol i bobl hŷn o fewn ei phortffolio. 

Bydd y Fforwm yn darparu cyngor arbenigol a chytbwys i Lywodraeth Cymru o ran:

  • cynnydd ac effeithiau’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio
  • meysydd lle y mae angen cymryd camau ychwanegol i wella llesiant pobl hŷn
  • materion newydd, neu faterion sy’n dechrau dod i’r amlwg, nad yw’r Strategaeth yn cyfeirio atynt, a allai gael effaith negyddol ar bobl hŷn

Strwythur Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 

O dan yr amgylchiadau presennol, bydd tri rhith-gyfarfod o grŵp ‘craidd’ y Fforwm yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’r seminarau a oedd i’w cynnal yn wreiddiol mewn lleoliadau cymunedol, ac a fyddai wedi bod ar agor i grŵp ehangach o bobl hŷn, wedi eu gohirio am y tro oherwydd y pandemig COVID-19. Fodd bynnag mae Age Cymru yn ystyried ffyrdd eraill o ymgysylltu â phobl hŷn tra bo mesurau pellter cymdeithasol yn parhau ar waith.  

Bydd y Cadeirydd newydd, a gaiff ei benodi gan y Dirprwy Weinidog, yn sicrhau bod y gwaith yn camu yn ei flaen, gan ddarparu craffu ychwanegol ar y gwaith hwnnw.

Nid yw unrhyw aelod na’r Cadeirydd wedi eu penodi’n gyhoeddus.

Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru â statws sylwedydd. 

Grŵp ‘craidd’ Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 

Bydd gan y grŵp craidd aelodaeth sefydlog o oddeutu 20 o unigolion. Bydd 50% o’r aelodaeth honno’n bobl hŷn. Bydd yr 50% arall yn weithwyr proffesiynol. Disgwylir i holl aelodau’r grŵp craidd wneud y canlynol:

  • cynrychioli eu sefydliadau / grwpiau cynrychiadol mewn cyfarfodydd a defnyddio hynny fel sail ar gyfer darparu cyngor cytbwys
  • rhoi adborth i’w sefydliadau / grwpiau cynrychiadol ar ôl cyfarfodydd
  • hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn eu sefydliadau unigol, er mwyn eu hannog i gymryd camau i gefnogi poblogaeth sy’n heneiddio
  • darparu ffocws a sbardun ar gyfer trafod a chefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau effeithiol ar gyfer dod â budd i bobl hŷn
  • rhannu arferion da o’u sefydliad / grŵp cynrychiadol
  • herio a thrafod syniadau a pholisïau mewn modd effeithiol

Mae’n bosibl y gallai’r aelodau ddymuno gwahodd sefydliadau eraill i helpu i ddatblygu agweddau penodol ar y rhaglen waith yn ôl yr angen; bydd hynny’n golygu sefydlu is-grwpiau ar gyfer cyflawni'r gwaith penodol dan sylw.

Seminarau  

Ar ôl iddynt gael eu hailsefydlu, bydd y seminarau’n agored i bobl hŷn sydd â diddordeb penodol yn y materion sy’n cael eu trafod. Ni fydd aelodaeth sefydlog ohonynt. Er mwyn sicrhau bod y broses ar gyfer gwahodd pobl i’r seminarau yn deg a thryloyw, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Age Cymru helpu i’w trefnu a’u rhedeg. Bydd Age Cymru yn hysbysebu’r digwyddiadau hyn yn gyhoeddus, gan wneud ymdrech i gyrraedd pobl hŷn nad ydynt â chysylltiad uniongyrchol â’r Fforwm. 

Nod y seminarau fydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl hŷn o ran y prif faterion sy’n berthnasol i’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, ac i gael eu barn ar sut y mae’n cael ei gweithredu. Bydd Age Cymru yn drafftio adroddiad ar bob cyfarfod, a bydd hwnnw’n cael ei rannu â grŵp craidd y Fforwm. Bydd hynny’n sicrhau bod gwaith y Fforwm yn cael ei lywio gan brofiadau bob dydd a barn amrywiaeth eang o bobl hŷn.

Teithio a chynhaliaeth

Dim ond yr aelodau hŷn sy’n mynychu cyfarfodydd yn wirfoddol a fydd yn cael eu costau teithio a chynhaliaeth. Mae’n bosibl y gallai costau llety dros nos fod ar gael ar gais, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn a’r pellter teithio.