Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae’n dda gennyf allu rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod i a’r gweinidogion Iechyd cyfatebol ym mhob un o bedair gwlad y DU wedi cytuno i godi’r gwaharddiad y cyfeirir ato’n gyffredin fel y gwaharddiad gwaed hoyw, sydd wedi bod yn atal dynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion (MSM) rhag rhoi gwaed.

Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i Wasanaeth Gwaed Cymru ddechrau paratoi ac i wneud newidiadau i rai o’r cwestiynau a ofynnir i roddwyr gwaed, er mwyn dechrau defnyddio asesiadau mwy pwrpasol sy’n canfod a yw’r unigolyn mewn perygl o fod â feirws a gludir yn y gwaed, waeth beth yw ei ryw, ei rywedd, neu ei gyfeiriadedd rhywiol. Bydd y newidiadau’n sicrhau bod yr asesiad yn decach ac yn fwy priodol ar gyfer heddiw, gan y bydd yn asesu risg mewn perthynas â phob rhoddwr yn unigol; fel na fydd fydd dynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion bellach yn cael eu gwahardd yn awtomatig rhag rhoi gwaed. 

Ers i’r polisi rhoi gwaed presennol gael ei gyflwyno yn 2017, rydym wedi cefnogi’r syniad o wneud newidiadau er mwyn sicrhau nad yw’r polisi yn gwahaniaethu yn erbyn rhai pobl. Bydd y newidiadau hyn yn adlewyrchu argymhellion grŵp llywio’r DU ar gyfer asesu risgiau ar sail unigol. Adolygwyd y cynigion y grŵp gan Bwyllgor Cynghori Adran Iechyd y Llywodraeth ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBTO), a gadarnhaodd na fyddent yn effeithio ar ddiogelwch y cyflenwad o waed a chyfansoddion gwaed i’r sawl sy’n eu derbyn yn y DU. Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau gwaed eraill y DU i wneud paratoadau a chodi ymwybyddiaeth o’r newidiadau ymysg rhoddwyr a rhoddwyr posibl. Mae’n disgwyl gweithredu’r newidiadau hyn yn ystod haf 2021.