Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Gweriniaeth Namibia, Uruquay ac Ynysoedd y Wyryf yr UD yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Bydd angen i bobl sy’n teithio o’r gwledydd a’r tiriogaethau hynny hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru.

Hefyd, rhoddwyd eglurder ynghylch y sefyllfa o ran person sy'n dod i Gymru sydd wedi'i ryddhau o'r gofyniad i hunanynysu yn Lloegr o dan 'Profi i Ryddhau'. Mae hynny er mwyn ei gwneud yn glir y byddai angen i berson o'r fath gwblhau unrhyw gyfnod hunanynysu sy'n weddill yng Nghymru oni bai ei fod yn dod i mewn at ddiben penodedig ac am ddim mwy na'r angen. Wrth gwrs, byddai unrhyw berson sy'n dod i Gymru hefyd yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau lleol a fyddai ar waith bryd hynny.

Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr.