Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford MS, First Minister

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar ymgynnull, symud gan bobl ac ar y ffordd y caiff busnesau eu gweithredu. Eu bwriad yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2). Roedd yn ofynnol i’r rheoliadau hynny gael eu hadolygu erbyn 17 Rhagfyr ac, o ganlyniad, caiff y rheoliadau eu disodli gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer cyflwyno system newydd o lefelau rhybudd yng Nghymru, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sydd wedi’i ddiweddaru. Caiff y rheoliadau newydd hyn eu gwneud heddiw a byddant yn dod i effaith ar 21 Rhagfyr.

Cynlluniwyd y lefelau rhybudd er mwyn darparu fframwaith o fesurau a ragfynegwyd ar gyfer pob un lefel o gyfyngiadau. Nodir y cyfyngiadau hynny yn y rheoliadau newydd. Mae’r cynllun hefyd yn egluro pa ddangosyddion a ystyrir wrth benderfynu a ddylid tynhau neu lacio’r cyfyngiadau, a symud i fyny neu i lawr y lefelau rhybudd felly.   

Bydd y rheoliadau hyn – ar bob lefel rhybudd – yn gorfodi cyfyngiadau ar ymgynnull, symud gan bobl a’r ffordd y caiff busnesau eu gweithredu, gan gynnwys cau busnesau dros dro, er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws a diogelu iechyd pobl.

Caiff y lefelau rhybudd eu cymhwyso i gychwyn ar lefel Cymru gyfan, ond mae hyblygrwydd hefyd i fynd ati mewn gwahanol ffyrdd. Rydym yn gwybod ar sail profiad fod mesurau cenedlaethol yn fwy effeithiol ac yn symlach, a bod y cyhoedd yn eu deall yn well. Fodd bynnag, os ceir tystiolaeth glir a dibynadwy o amrywiadau parhaus ar draws y rhanbarthau, mae’r rheoliadau hefyd yn darparu cyfyngiadau y gellir eu cymhwyso ar lefel ranbarthol neu leol.  

Er gwaetha’r ffaith bod mesurau cenedlaethol wedi cael eu cryfhau dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws ledled Cymru yn parhau i gynyddu bob dydd. Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws wedi cyrraedd lefel ddigynsail, sef dros 2,200 – yn gyfystyr â phump o ysbytai cyffredinol. Mae un o bob pump o’r profion sy’n cael eu cynnal yn rhai positif.

Yr wythnos hon, cefais gyfarfod â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn o Lywodraeth y DU i drafod y trefniadau cyffredin dros gyfnod o bum niwrnod adeg y Nadolig, rhwng 23 a 27 Rhagfyr (22 a 28 Rhagfyr yn achos y rheini sy’n teithio i Ogledd Iwerddon ac oddi yno).  Yn yr ychydig wythnosau ers inni gytuno ar y trefniadau hyn, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu’n sylweddol a’r coronafeirws wedi tynhau ei afael ar y DU unwaith yn rhagor.

O ganlyniad, yma yng Nghymru, bydd y rheoliadau yn ei wneud yn gwbl glir mai dim ond dwy aelwyd (gyda’r opsiwn o gynnwys un aelwyd un person hefyd) a gaiff ffurfio swigen Nadolig yn ystod y cyfnod hwn o bum diwrnod. Mae hyn yn cyfyngu mwy ar bobl na’r trefniant oeddem wedi gobeithio ei ddilyn, sef cyfyngiad o dair aelwyd, ond mae’n adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru. Y lleiaf o bobl yr ydym yn cymysgu â nhw yn ein cartrefi, y lleiaf o berygl sydd inni ddal y feirws neu ei ledaenu dros gyfnod yr ŵyl.

Bydd y rheoliadau felly yn darparu er mwyn i Gymru symud i lefel rhybudd 4 – y lefel uchaf un – am 6pm ddydd Nadolig. Golyga hyn y bydd rhaid i fusnesau lletygarwch, pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gwasanaethau cysylltiad agos a chanolfannau hamdden a ffitrwydd gau.

Bydd cyfyngiadau tynnach ar deithio, cymysgu rhwng aelwydydd, gofynion i aros gartref a llety gwyliau yn gymwys o 28 Rhagfyr ymlaen, ar ôl y cyfnod o bum diwrnod adeg y Nadolig.

Rydym wedi darparu £340m yn barod i gefnogi busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sydd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau i mewn i’r Flwyddyn Newydd. Bydd £110m yn rhagor o gymorth ar gael i helpu busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Yn unol â’r rheoliadau, rhaid adolygu’r cyfyngiadau’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur, yn angenrheidiol ac yn effeithiol. Cynhelir adolygiadau bob tair wythnos, gyda’r cyntaf i gael ei gynnal erbyn 7 Ionawr.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhoi cyngor penodol i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain cyn hyn ynglŷn â chymysgu â phobl eraill dros gyfnod y Nadolig.

Mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru ar gael i’w weld yn:

https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-lefelau-rhybudd-yng-nghymru

Nid yw cyflwyno’r cyfyngiadau tynnach hyn ar adeg mor bwysig o’r flwyddyn yn rhoi dim pleser imi. Rwy’n gwybod y byddant yn gorfodi llawer o bobl i newid eu cynlluniau. Fodd bynnag, diogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac achub bywydau yw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o hyd. Rhaid inni barhau i Ddiogelu Cymru y Nadolig hwn ac ymlaen i’r Flwyddyn Newydd.