Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, gan amlinellu ein cynlluniau cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r setliad am flwyddyn unigol a ddarparwyd drwy’r Adolygiad o Wariant wedi ein hatal rhag rhoi sicrwydd ar gyfer ein cynlluniau seilwaith yn y dyfodol. Felly, rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran datblygu ein buddsoddiad seilwaith hirdymor.

Wrth inni ddod i ddiwedd cyfnod deng mlynedd cyfredol y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2012, rydym wedi ystyried sut y gallwn ychwanegu at y cynllun cyfredol a llunio olynydd sy’n addas ar gyfer y blaenoriaethau a’r heriau yr ydym ni a’n partneriaid yng Nghymru’n eu hwynebu yn awr. Mae hyn yn cynnwys sut y mae angen i seilwaith ymateb i heriau newid hinsawdd a sut y gallwn ddefnyddio manteision arloesi digidol i sicrhau bod ein buddsoddiad seilwaith yn y dyfodol yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Felly heddiw, rwy’n amlinellu’r egwyddorion a fydd yn siapio datblygiad olynydd y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru dros yr 18 mis nesaf.

Er mwyn bod yn ddigon hyblyg i addasu i heriau mewn sylfaen dystiolaeth, blaenoriaethau a’r cyllid sydd ar gael dros gyfnod arfaethedig o 10 mlynedd, bydd fframwaith yr olynydd i’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn seiliedig ar set o ddeilliannau. Bydd y Strategaeth yn amlinellu sut y bydd ffocws y penderfyniadau buddsoddi ar yr hyn y gall seilwaith yng Nghymru ei wneud a beth y gall ei alluogi, yn hytrach na beth y dylai fod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod rhwymedigaeth ar Weinidogion i “wneud pethau gyda’r nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru”. Bydd seilio ein huchelgeisiau seilwaith trawslywodraethol ar y pedair egwyddor a nodwyd yn sicrhau bod ein fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cyflawni’r buddsoddiad cyfalaf sydd orau i Gymru ac yn sicrhau bod seilwaith yng Nghymru’n cefnogi cyflawni ein Nodau Llesiant.

Sefydlwyd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn 2018, i roi cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros gyfnod o bump i dri deg o flynyddoedd. Byddwn yn datblygu olynydd a fydd yn ystyried yr argymhellion yn adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd i’w gyhoeddi’n fuan.

I gefnogi’r gwaith cyflawni, a chan ystyried egwyddorion seiliedig ar le y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, bydd y Strategaeth yn seiliedig ar gyfres o gynlluniau cyllid seilwaith. Bydd y rhain yn dod â darpariaeth ein strategaethau seilwaith unigol ynghyd i sefydlu’r rhaglenni seilwaith allweddol y bydd Llywodraeth Cymru’n eu hariannu dros gyfnod penodol er mwyn cyflawni’r deilliannau a nodwyd yn y Strategaeth.

Yn ganolog i hyn fydd ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd gan gynnwys ein hymrwymiad i Sero Net a mynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Gwnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019, a’r wythnos ddiwethaf cawsom gyngor pellach gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod llwybr ymarferol a fforddiadwy at sero net yng Nghymru erbyn 2050 bellach. Rydym yn ystyried y cyngor ac yn bwriadu cyflwyno rheoliadau i’r Senedd ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. Byddwn yn diweddaru llwybr lleihau allyriadau Cymru ymhell cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) ym mis Tachwedd 2021, lle byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hail Gynllun Cyflawni Carbon Isel.

Bydd olynydd y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru hefyd yn amlinellu ein dull gweithredu o ran ariannu seilwaith yng Nghymru, a sut y byddwn yn defnyddio ein hysgogiadau cyfalaf i sicrhau ein bod yn cyflawni ein deilliannau strategol. Byddwn yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ein pwerau benthyca cyfalaf yn yr hirdymor, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Cyllid yn eu hymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd.

Byddwn hefyd yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu defnyddio dulliau arloesol o ariannu seilwaith. Er enghraifft, mae ein Model Buddsoddi Cydfuddiannol eisoes yn cyflawni buddsoddiad ychwanegol a fyddai fel arall yn anfforddiadwy. Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar brosiect deuoli’r A465 yn fuan a bydd yn brosiect seilwaith mawr gyda buddiannau eang ar gyfer rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, gan gynnwys swyddi a phrentisiaethau. Sefydlwyd cyd-fenter Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru gyda’r sector preifat a bydd yn hwyluso cynllunio a chyflawni hyd at £500m o fuddsoddiad ychwanegol mewn cyfleusterau addysgol newydd dros y saith mlynedd nesaf. Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi argymell y dylid parhau i ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer prosiectau priodol.

Wrth inni wneud y paratoadau pwysig hyn, byddwn yn rhoi sicrwydd i’r sector adeiladu lle gallwn. Ochr yn ochr â Chyllideb derfynol 2021-22, byddwn yn cyhoeddi iteriad diweddaraf y llif prosiectau Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru diweddaraf gan amlinellu’r gwariant a gynlluniwyd ar fuddsoddiadau seilwaith sector cyhoeddus a sector preifat yn awr ac yn y dyfodol.