Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

I chwilio drwy ein hadroddiadau penderfyniad, defnyddiwch Ctrl + F.

Gwariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

27 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Wariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021 i 2022.

Cadeirydd Annibynnol i Fwrdd Cynghori Cymru ar Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân

25 Mai 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ailbenodi Michael Prior yn Gadeirydd Annibynnol ar Fwrdd Cynghori Cymru ar Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân am gyfnod o bedair blynedd o 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2025.

Penodi Aelod Annibynnol o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

25 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Helen Wilkinson yn Aelod Annibynnol o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae hyn yn ychwanegol at gytundeb y Gweinidog i benodi Ruth Glazzard yn Aelod Annibynnol arall o’r Panel yn gynharach eleni.

Cynigion Cyllid ar gyfer Ymchwil ac Ymchwiliadau Addysg

20 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r Cynigion ar gyfer Ymchwil ac Ymchwiliadau Addysg yn y Flwyddyn Ariannol 2021 hyd 2022.

Sefydlu Cwmni Datblygu Safle Trawsfynydd

19 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo camau i sefydlu Cwmni Datblygu Safle Trawsfynydd.

Hyrwyddo Ansawdd Perthnasau a Chymorth i Deuluoedd

19 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i hyrwyddo ansawdd perthnasau a chymorth i deuluoedd.

Gwobrau CREST Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain yng Nghymru – parhad cyllid

19 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo parhad cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 tuag at Wobrau CREST Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain yng Nghymru.

Datganoli darlledu

17 Mai 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Edrych ar ddatganoli darlledu: Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni. 

Ymchwil addysg

17 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion cyllid ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysg  yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cymhwystra ar gyfer profion adwaith cadwynol polymeras trawsgrifiad gwrthdro (RT-PCR) COVID-19

17 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fanylion cymhwystra ar gyfer profion adwaith cadwynol polymeras trawsgrifiad gwrthdro COVID-19.

Profion Covid-19

14 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fanylion cymhwystra ar gyfer profion adwaith cadwynol polymeras trawsgrifiad gwrthdro Covid-19.

Cyllid brys Covid-19 ar gyfer hosbisau - 2021 i 2022

11 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi hosbisau yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19 am chwe mis.

Ceisio cymeradwyaeth i werthu tir yn Abertawe

11 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir yn Abertawe.

Cais i’r Cyfrin Gyngor

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo argymhellion swyddogion ynghylch cais gan Brifysgol Abertawe i’r CyfrinGyngor i ddiwygio ei Statud 5 mewn perthynas â chyfansoddiad Cyngor y Brifysgol.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif ar gyfer achosion busnes ychwanegol a chyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer rhaglen ôl-16

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Llythyr cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y Llythyr Cylch Gwaith i Drafnidiaeth Cymru.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 20 Ebrill 2021

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid gan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghastell-nedd Port Talbot. 

Trefniadau ar gyfer Llwybrau Amgen mewn Addysg Gychwynnol Athrawon

7 Mai 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar drefniadau i ddarparu llwybrau amgen mewn addysg gychwynnol athrawon ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Cynlluniau Dulliau Adeiladu Modern ychwanegol y Rhaglen Tai Arloesol

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu £2.2 miliwn i Tai ATEB i adeiladu 40 o dai fforddiadwy ac, yn amodol ar argaeledd cyllideb, i ddyfarnu £3.9 miliwn i Pobl i adeiladu 74 o dai fforddiadwy.

Noddi Cynhadledd Arweinyddiaeth y Pedair Gwlad

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo noddi Cynhadledd Arweinyddiaeth y Pedair Gwlad.

Cyllido Cost Les Fibrespeed 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant yn ymwneud â pharhau i ddarparu a chynnal a chadw buddiannau Fibrespeed Llywodraeth Cymru yn y Gogledd.

Cais am dystysgrif ar gyfer Prosiect Effaith Weledol Eryri

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi'r Hysbysiad o Fwriad i roi tystysgrif o dan Baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Caffael Tir 1981 at ddibenion darparu hawliau mynediad "mannau agored" newydd i alluogi prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri i fynd yn ei flaen.

Cynnig i ddod â'r ddarpariaeth chweched dosbarth i ben yn Ysgol Wirfoddol Gatholig Gatholig Caerell Newman

7 Mai 2021

Cymeradwyodd y Gweinidog Addysg gynnig Cyngor Rhondda Cynon Taf i newid ystod oedran Ysgol Gatholig Cardinal Newman o 11 i 19 oed i 11 i 16 oed, gan ddod â darpariaeth chweched dosbarth i ben o 1 Medi 2022.

Cronfa Teithio Llesol

7 Mai 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyrannu cyllid o'r Gronfa Teithio Llesol i awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022.

Dileu costau llys

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ddileu costau llys sy'n ddyledus gan fyfyriwr.

Cyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – Adolygiad a Diweddariad o Ganllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnal adolygiad o Ganllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru.

Cyllid ar gyfer Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes

7 Mai 2021

Cymeradwyodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth £900,000 i dargedu Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes yn y Cymoedd Technoleg, yn ardaloedd awdurdodau lleol Torfaen a Chaerffili.

Datgan dileu dyledion hanesyddol

7 Mai 2021

Mae Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddileu dyledion hanesyddol Oyster World Ltd a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2016.

Datgofrestru Tir Comin

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r cais i ddatgofrestru rhan o Gomin Gelligaer a Merthyr, a rhoi tir yn ei le o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

Gwerthu tir ar safle Cibyn

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu’r tir yng Nghaernarfon.

Marchnata Busnes Cymru 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgyrch ac asedau creadigol i hybu gwasanaethau cymorth busnes a blaenoriaethau eraill yn strategaeth Ailstrwythuro a Chadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Cyllid ar gyfer Playworks i fynd i’r afael â llwgu yn ystod y gwyliau

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Playworks i fynd i’r afael â llwgu yn ystod y gwyliau yn 2021-2022.

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

7 Mai 2021
 
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apeliadau Annibynnol i wrthod Cynllun y Taliad Sylfaenol 2018.

Gwerthu tir ym Mharc Technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Astudiaeth beilot 20mya

7 Mai 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i Trafnidiaeth Cymru hyrwyddo a rheoli parhad yr Astudiaeth Aneddiadau Peilot 20mya, parhad y Prosiect Parcio Palmant a dechrau cyflwyno 20mya ar draws Cymru Gyfan ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cymorth i Brynu

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymrwymo i gontract gyda Help to Buy Wales Ltd i gyflawni cam 3 o’r cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru.

Cymorth i Brynu

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd cynllun ecwiti a rennir Cymorth i Brynu - Cymru yn parhau tan fis Mawrth 2023.

Cymorth i Brynu

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid i barhau cynllun ecwiti a rennir Cymorth i Brynu – Cymru tan fis Mawrth 2023.

Cymorth i fusnesau

7 Mai 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid am fusnes yng Nghonwy.

Addysg bellach arbenigol

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Marchnata Busnes Cymru

7 Mai 2021

Mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgyrch ac asedau creadigol i hyrwyddo gwasanaethau cymorth i fusnesau a blaenoriaethau eraill o fewn strategaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi.

Cyflawni rhaglen Chwarae Teg

7 Mai 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyflawni gweithgareddau rhaglen Chwarae Teg sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol drwy gymeradwyo’r Llythyr Dyfarnu Grant Blynyddol.

Penodiadau i’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Richard Eynon, Shubha Sangal a Versha Sood Mahindra yn aelodau annibynnol i’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai.

Penodiadau i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Nerys Llewellyn Jones i swydd Cadeirydd y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ynghyd â Janatha Stout a Steve Hughson yn Aelodau Annibynnol.

Cymorth ar gyfer WEFO

7 Mai 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyrannu cyllid i gefnogi Cyllideb Cymorth Technegol WEFO.

Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar

7 Mai 2021

Cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ail-ddyrannu cyllid i gefnogi Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar amrywiad i'r achos busnes ar gyfer nifer o brosiectau.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r achosion busnes ar gyfer: Mynydd Isa, Sir y Fflint; Coleg Pen-y-bont ar Ogwr; Grwp Llandrillo Menai, Y Rhyl; Grwp Llandrillo Menai, Pwllheli a Dolgellau; Grwp Llandrillo Menai, Bangor; Grŵp Landrillo Menai, Llangefni; Canolfan Dysgu a Llesiant ac Ysgol Y Deri, Bro Morgannwg; Ysgol Yr Hafod, Wreham; Coleg Gwent, Campws Brynbuga; Willow High, Caerdydd; ac Ysgol Gynradd Y Santes Fair, Casnewydd.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r achosion busnes ar gyfer: Ysgol Gymraeg y Trallwng, Powys; ac, Ysgol Corn Hir, Ynys Môn.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar amrywiad i'r achos busnes ar gyfer nifer o brosiectau.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r achos busnes dros Ysgol Treferthyr, Gwynedd.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r achosion busnes ar gyfer: Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr; Ysgol Croes Atti, Sir y Fflint; Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg, Parc Borras, Wrecsam; Ysgol Gyfun Is-Coed, Casnewydd; ac Ysgol Gyfun Rhydywaun, Rhondda Cynon Taf.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prynu tir i ddisodli Ysgol Uwchradd Willows Caerdydd.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ymestyn y Gronfa Ariannol Wrth Gefn i gynnwys cyfnod yr haf 2021 ac i ddyrannu cyllid ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Rhaglen Sgiliau Cyflogadwedd

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddyraniadau ar gyfer y rhai sy’n cyfrannu at ddarparu hyfforddiant i’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau cyn cyflwyno’r rhaglen ReAct+ Mwy newydd yn 2021 i 2022.

Cefnogaeth i Fforwm y Ganolfan Gyswllt Gymreig

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Trafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer 2021 i 2022 i gefnogi gwaith Fforwm y Ganolfan Gyswllt Gymreig.

Prynu tir

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i brynu tir i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â datblygu prosiect yn gysylltiedig â’r rheilffyrdd yn ardal De Cymru.

Rhaglen Heneiddio’n Iach

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyrannu £227,642 i Age Cymru ar gyfer y Rhaglen Heneiddio’n Iach ar gyfer 2021 i 2022.

Y Lwfans Myfyrwyr Anabl

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar ymarfer tendro ar y cyd â’r Adran Addysg i gaffael y ddarpariaeth i asesu anghenion myfyrwyr addysg uwch sy’n gymwys am y Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Chynlluniau Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y cyfarwyddyd i baratoi ar gyfer drafftio cynlluniau addysg uwch 2021 i 2022 a’r Hysbysiad Penodiadau ar gyfer Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. 

Y Cynllun Adfer yn sgil y Coronafeirws

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid i gefnogi estyniad Cyngor Celfyddydau Cymru o’r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, i gefnogi y Cynllun Adfer yn sgil y Coronafeirws ar gyfer ysgolion.

Cymorth ar gyfer profi yn y maes gofal cymdeithasol

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno; i ddiwygio ac ymestyn y pecyn cyllido ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru i gynnal y baich ychwanegol o gostau profi mewn cartrefi gofal am 13 wythnos arall tan ddiwedd Mehefin 2021; ac, mewn dull gymesur, i ymestyn y pecyn cymorth ariannol i’r sector gofal cymdeithasol ehangach ar gyfer y cyfnod Ebrill – Mehefin 2021.

Cynllun Gweithredol drafft Cyngor Llyfrau Cymru

7 Mai 2021
 
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar Gynllun Gweithredol drafft Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Cynllun Busnes a Chyllideb Cymru Greadigol

7 Mai 2021
 
Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno ar gynigion ar gyfer Cynllun Busnes Cymru Greadigol 2021 i 2022.

Cyllideb Fferyllfeydd a Phresgripsiynau Dewis Fferyllfa 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllideb Fferyllfeydd a Phresgripsiynau – Dewis Fferyllfa 2021 i 2022. 

Cytundeb Menter ar y Cyd Lime Avenue

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymrwymo i Gytundeb i ddatblygu tir yn Lime Avenue, Glynebwy.

Profion gwrthgyrff coronafeirws ar gyfer grwpiau allweddol: Strategaeth cadw gwyliadwriaeth 2021

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi'r gorau i brofion gwrthgyrff ar gyfer gweithwyr gofal cartref.

Adran 83; cydsyniad i Gyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb ar gyfer Pant-y-wal

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb prydlesu gyda Pennant Walters Ltd mewn perthynas â rhan o Ystad Goed Llywodraeth Cymru ger Pant-y-wal.

Adran 83; cydsyniad i Gyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb ar gyfer Abergorci

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb prydlesu gyda REG Power Management mewn perthynas â rhan o Ystad Goed Llywodraeth Cymru ger Abergorci.

Adran 83; cydsyniad i Gyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb ar gyfer Foel Trawsnant

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb prydlesu gyda Pennant Walters Ltd mewn perthynas â rhan o Ystad Goed Llywodraeth Cymru ger Foel Trawsnant.

Adolygiad Burns

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyrannu cyllideb refeniw ar gyfer gwaith i barhau i weithredu canfyddiadau craidd Adolygiad Burns i liniaru tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd.

Y Sector Addysg Awyr Agored Preswyl

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i sefydlu Cronfa ar gyfer y sector Addysg Awyr Agored Preswyl oherwydd rheoliadau COVID-19 sy'n golygu bod y sector yn wynebu cyfyngiadau wrth fasnachu.

Cyffordd 16 ac 16A yr A55

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyhoeddi Gorchmynion Statudol drafft, Gorchmynion Prynu Gorfodol, Datganiadau Amgylcheddol a dogfennau cysylltiedig yn ogystal ag ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd mewn perthynas â Chynllun Gwella Cyffordd 16 a 16A yr A55, i'w cyhoeddi ym mis Mawrth 2021.

Cyffordd 3 i 6 yr A483

7 Mai 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar y gwelliannau teithio llesol a ffefrir ar gyfer llwybrau sy'n croesi'r gefnffordd wrth Gyffyrdd 3, 5 a 6 yr A483 yn ogystal â gwelliannau priffyrdd a theithio llesol ar gyfer Cyffordd 4.

Cyffyrdd 14 a 15 yr A55

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gyhoeddi'r Gorchymyn Llinell drafft, Gorchmynion Ffyrdd Ymyl, y Gorchymyn Prynu Gorfodol a’r Datganiad Amgylcheddol cysylltiedig mewn perthynas â Gwelliannau i Gyffyrdd 14 a 15 yr A55.

Gwaredu Tir i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer Darparu Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i waredu'r parsel tir 2.6 hectar sy'n ffinio â Fferm Cosmeston i Gyngor Bro Morgannwg ar werth marchnadol y cytunwyd arno o £224,000 (ynghyd â TAW), er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu ysgol anghenion dysgu ychwanegol.

Penodiadau i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Dafydd Iestyn Tudur-Jones, Catherine Nakielyn, Sara Pederson, Gary Yeomans a Phillip Jones yn aelodau o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru am gyfnod o 3 blynedd, a fydd yn dechrau ar 1 Mehefin 2021 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

Adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar y Seilwaith Digidol

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar y Seilwaith Digidol.

Ymestyn y Prosiectau Rhannu Prentisiaeth a Recriwtiaid Newydd

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyfraniad ariannol i ymestyn y prosiectau Rhannu Prentisiaeth presennol a’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd sy'n gysylltiedig â'r prosiectau y cytunwyd arnynt tan fis Gorffennaf 2022.

Datblygu Campws Parc y Maendy

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo talu'r grant yn erbyn cyflawni yn 20/21 a gwneud cais am estyniad i'r cyfnod hawlio grant a’r proffil talu diwygiedig ar gyfer Prifysgol Caerdydd er mwyn datblygu Campws Parc y Maendy.

Ffi Aelodaeth Vanguard 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i dalu ffi Aelodaeth Vanguard ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Ymrwymiadau parhaus ymwybyddiaeth o arloesi Mawrth 2021

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cronfa ddirprwyedig fach i dalu costau’r ymrwymiadau parhaus sydd eu hangen i gyflawni'r gweithgareddau o ddydd i ddydd a gynhelir gan y tîm Arloesi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Ariannu atebion ar-lein ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol

7 Mai 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r cyllid i ddarparu atebion ar-lein ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol fel rhan o raglen drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dyraniad Craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad craidd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Busnes yn y Gymuned i’w alluogi i ehangu a meithrin cysylltiadau ymhellach â busnesau yng Nghymru, i hybu ac annog arferion busnes cyfrifol.

Setliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Castell y Waun

7 Mai 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar setliad gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn perthynas â blwydd-dal Castell y Waun. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cefnogi Cymru Carbon Isel ac adferiad gwyrdd.

Ysgol Haf 2021 – gwesteiwr rhithwir

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gaffael gwasanaeth cwmni rheoli digwyddiadau drwy'r Fframwaith Cyfathrebu a Marchnata i gyflwyno Ysgol Haf rithwir yn 2021.

Datblygu Profion Pwynt Gofal

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddefnyddio dyfeisiau profi Pwynt Gofal i gefnogi ein llinyn Profi i Wneud Diagnosis o'r Strategaeth Brofi.

Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol 2021 i 2022

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y trefniadau a'r dyraniadau cyllid ar gyfer Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol mewn perthynas â 2021 i 2022.

Ford - Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo trefniadau i Lywodraeth Cymru reoli Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni - Mawrth ac Ebrill 2021 - Taliadau Ychwanegol

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwneud amrywiaeth o daliadau yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 o dan y Rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni.

Darllenwyr ‘tap off’ ar gyfer gwasanaethau bws lleol

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y gellir darparu cyllid grant cyfalaf yn 2020 i 2021 a 2021 i 2022 i Trafnidiaeth Cymru i gaffael a gosod darllenwyr 'tap off' newydd ar fysiau ledled Cymru, er mwyn casglu gwybodaeth i wella gwasanaethau bysiau lleol.

Cyhoeddi adroddiad Prydain Fawr

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi'r adroddiad ar weithredu Rheoliad 1143/2014 yr UE ym Mhrydain Fawr.

Cyllid i barhau â'r Gronfa Datblygu Plant

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i barhau â'r Gronfa Datblygu Plant.

Grantiau gwella gofal sylfaenol i Fyrddau Iechyd

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £1.5 miliwn o gyllid anghylchol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021 i 2022 ar gyfer grantiau gwella gofal sylfaenol i Fyrddau Iechyd.

Grant Atal Digartrefedd - swyddi a ariennir drwy raglen

7 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo tair rôl o fewn y gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio o gyllidebau presennol rhwng 2021 a 2022 mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. 

Cwch pysgota’r Nicola Faith

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i Long Patrolio Pysgodfeydd y Rhodri Morgan gynorthwyo’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol am hyd at bum diwrnod i chwilio am weddillion llongddrylliad cwch pysgota’r Nicola Faith.

Ailbenodi Aelodau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi Mrs Julie James a Dr Rachel Heath-Davies yn Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro am bedair blynedd, gyda’u hail dymhorau’n parhau o 1 Mehefin 2021 i 31 Mai 2025. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno i ailbenodi Mr Brian Angell am bedair blynedd rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 30 Mehefin 2025, a Mr Owain Wyn am drydydd tymor a fydd yn parhau o 1 Mehefin 2021 i 31 Gorffennaf 2022 fel aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Gwaredu Tir

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwaredu eiddo rhydd-ddaliad yn y Drenewydd, Powys.

Adnodd Asesu Risg COVID-19

7 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyfathrebu pellach ynglŷn  â’r adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol.

Gwaredu Tir

7 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu tir yn Llanandras, Powys.

Adfer wedi COVID-19 – Darparu Gweithgareddau i blant a phobl ifanc

8 Ebrill 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i gefnogi darparu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gydol tymor yr haf 2021 a gwyliau haf yr ysgol, fel rhan o gynlluniau adfer wedi COVID-19, ar gost o hyd at £7m, i gynnwys cynlluniau braenaru Chwaraeon Cymru.

Cyhoeddi'r Llawlyfr Gorchmynion Prynu Gorfodol

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Llawlyfr Gorchmynion Prynu Gorfodol Llywodraeth Cymru.

Diweddariad ar Orsaf Bŵer Bae Baglan

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar fesurau i liniaru effaith diddymu Baglan Operations Ltd ar yr amgylchfyd preifat a chyhoeddus.

Prosiect Adfer Castell y Gelli

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid amodol tuag at adfer Castell y Gelli i alluogi Ymddiriedolaeth y castell i dynnu pecyn ehangach o gymorth o ffynonellau eraill, gan gynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cais Cyfoeth Naturiol Cymru – Tollau pysgota â rhwyd 2021 i 2023

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn unol â darpariaethau Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975, wedi gwrthod cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru i osod tollau newydd ar gyfer pysgota â rhwyd oherwydd nifer y gwrthwynebiadau sy'n weddill, a'r gwaith pellach sydd ei angen.

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru - penodiad

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Gymraeg wedi penodi Christopher Brereton OBE, Helen Taylor, Dr John Williams a Georgia Taylor yn Aelodau o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024.

Ymgyrch Gyfathrebu – Gweithgareddau Plant yn yr Awyr Agored

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgyrch gyfathrebu ar gyfer gweithredu gweithgareddau diogel i blant yn yr awyr agored.

Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnal a datblygu Galluoedd Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yn 2021 i 2022.

Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid benthyciadau i awdurdod lleol i gefnogi sefydlu prosiect sy'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd.

Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang - Sefydlu Cwmni

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i sefydlu cwmni Cerbydau Diben Arbennig, penodi aelodau dros dro o'r bwrdd, cyflwyno'r cais cynllunio terfynol a chytuno ar fargen tir i sicrhau tua 550Ha gan y perchnogion presennol, mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd.

Cynnig Grant Cyfalaf Bws Casnewydd

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyfarnu cyllid grant cyfalaf i Gyngor Dinas Casnewydd ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Cyllid y Gronfa Cyfalaf Bach i Fusnesau a’r Gronfa Ysgogi Cyfalaf i’r Canolbarth a’r De-orllewin

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i bob un o'r chwe awdurdod unedol yn rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin, Sir Benfro, Powys a Cheredigion) i gefnogi nifer o gynlluniau seilwaith cyfalaf sydd â'r nod o gefnogi adferiad economaidd yng ngoleuni Covid 19 ac mae hefyd wedi cymeradwyo dyraniad ychwanegol i awdurdodau unedol Powys a Cheredigion i gefnogi'r Gronfa Cyfalaf Bach i Fusnesau.

Llinell gymorth Cyflogadwyedd a Sgiliau a gwasanaethau wyneb yn wyneb i gyflogwyr

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid i gynnal llinell gymorth Cyflogadwyedd a Sgiliau a gwasanaethau wyneb yn wyneb i gyflogwyr drwy'r Porth Sgiliau i Fusnesau hyd at fis Medi 2022.

ARUP - ymestyn y contract

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant ychwanegol i alluogi Arup i barhau i ddarparu cyngor technegol allanol mewn perthynas â'r atebion posibl i gefnogi'r Rhwydwaith Gwifrau Preifat cyn i fusnes Calon Energy ddechrau cael ei ddiddymu.

Llythyr Cylch Gwaith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y llythyr cylch gwaith blynyddol at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer 2021 i 2022. 

Deunyddiau Ar Drywydd Dysgu haf 21

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyhoeddi rhagor o ddeunyddiau Ar Drywydd Dysgu haf 21.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru - penodiadau

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ail-benodiad yr Athro Aaqil Ahmed a'r Athro Christine Ennew yn Aelodau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Adolygiad o Reolau Sefydlog Enghreifftiol, Cadw a Dirprwyo Pwerau a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i adolygu rheolau sefydlog enghreifftiol, cadw a dirprwyo pwerau a chyfarwyddiadau ariannol sefydlog i Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.  Cytunwyd hefyd ar ddiwygio'r rheolau sefydlog enghreifftiol a gosod a dirprwyo pwerau ar gyfer y pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Gofal Plant Awdurdodau Lleol 2022

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gellir cyhoeddi Cylchlythyr 003/21 Llywodraeth Cymru i roi estyniad i awdurdodau lleol i'r dyddiad ar gyfer cyflwyno eu Hasesiadau Digonolrwydd Gofal Plant a'u cynlluniau gweithredu o'r dyddiad gwreiddiol, sef 31 Mawrth 2022 i 30 Mehefin 2022. 

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar ddefnyddio Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn; dyrannu £1.6 miliwn yn 2020 i 2021 i fodloni'r cynnydd disgwyliedig mewn hawliadau grant Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn; a'r dyraniad o hyd at £2.6 miliwn yn 2021 i 2022.

Datblygu Cerrig Milltir Cenedlaethol – Cyflogaeth, Tlodi Incwm ac Incwm Gwario Aelwydydd Gros

25 Mawrth 2021
   
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddatblygu dangosyddion cerrig milltir cenedlaethol i'w datblygu yn 2021 mewn perthynas â Chyflogaeth, Tlodi Incwm ac Incwm Gwario Aelwydydd Gros.

Cyfreithwyr Geldards - Ymestyn contract

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant ychwanegol i alluogi Geldards Limited Liability Partnership i barhau i ddarparu cyngor cyfreithiol allanol mewn perthynas â'r atebion posibl i gefnogi'r Rhwydwaith Gwifrau Preifat cyn i fusnes Calon Energy ddechrau cael ei ddiddymu.

Carreg Filltir Genedlaethol - Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant 

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo'r cynigion i ddatblygu Carreg Filltir Genedlaethol ymhellach - Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Cronfa Rhyddhau Tir

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Threfnydd wedi cytuno ar ymrwymiadau cyllidebol i gefnogi datblygiad cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy gydag Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.

Cronfa Rhyddhau Tir 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar ymrwymiadau cyllidebol o £10m ar gyfer 2021 i 2022 i gefnogi datblygiad cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy gydag Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru.

Seithfed Adroddiad (a’r un terfynol) am Ddeddf Cymru 2014

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar y seithfed adroddiad a'r adroddiad terfynol gan Weinidogion Cymru ynghylch gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014, i'w gyhoeddi ar 6 Ebrill 2021.

Ail-benodi tri Chadeirydd Iechyd

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Ann Lloyd yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am 4 blynedd o 3 Gorffennaf 2021 tan 2 Gorffennaf 2025; Jan Williams yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am 4 blynedd o 5 Medi 2021 tan 4 Medi 2025 a Chris D V Jones yn Gadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru o 1 Hydref 2021 tan 30 Medi 2025.

Sector cynghorau cymuned a thref

25 Mawrth 2021

Cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gefnogi'r sector cynghorau cymuned a thref i barhau â'r gwaith a ddechreuwyd yn 2020-21 i gryfhau rheolaeth ariannol a llywodraethu i'r egwyddor o archwilio cynigion ar gyfer polisi gyda'r sector yn y dyfodol; ac i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig cyn diwedd mis Ebrill 2021, gan gwblhau'r gwaith ar y 'Meysydd Gweithredu' ar ei ffurf bresennol.

Arian ychwanegol ar gyfer Gofal Plant yng Nghymru, dysgu a gweithio a Chwarae Cymru gyda'i gilydd

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer Gofal Plant yng Nghymru, dysgu a gweithio a Chwarae Cymru yn ystod 2020-21. 

Rhaglen cadwyn gyflenwi Hinkley

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i barhau i ddarparu cyllid ar gyfer rhaglen cadwyn gyflenwi Hinkley ar gyfer 2021 i 2022.

Cronfa Dyfodol yr Economi - Bwrdd Cynghori Datblygu Diwydiannol Cymru – Cyfarfod ar 2 Mawrth 2021

25 Mawrth 2021

Cytunodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar gyllid Cronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer posiect ym Mlaenau Gwent.

Cyllid Gwasanaeth Genomeg Pathogenau

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i'r cais am gyllid ar gyfer Gwasanaeth Genomeg Pathogenau.

Ymgyrch Hawliau'r Gweithlu – Iechyd a Diogelwch – Negeseuon Allweddol a Chynlluniau Lansio

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gynnwys yr ymgyrch a'i chynlluniau lansio.

Gwefan Cyflog Byw

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar wariant o ddim mwy nag £8,000 i gefnogi gwaith Cynnal Cymru i hyrwyddo achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru drwy greu gwefan bwrpasol.

Ymchwil TUC Cymru - Iechyd a Diogelwch yn ystod Covid-19

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gymorth ariannol o £4,608 tuag at ymchwil TUC Cymru i brofiad gweithwyr o iechyd a diogelwch yn y gwaith yn ystod COVID-19.

Datganiadau Technegol Rhanbarthol ynghylch Agregau

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo Datganiadau Technegol Rhanbarthol Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru fel canlyniad pwysig yn sgil cydweithio i baratoi cynlluniau datblygu ac fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio perthnasol.

Cyllid i Ddatblygu Academi Sgiliau at y Dyfodol

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer adnewyddu hen adeilad Monwell Hankinson fel academi sgiliau at y dyfodol fel rhan o raglen y Cymoedd Technoleg.

Cronfa Bontio’r UE - Porth Gwybodaeth

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ysgwyddo gwariant refeniw er mwyn cefnogi gwaith Fforwm y Gymdeithas Sifil ar Brexit.

Cyllid i Cefnogi Trydydd Sector Cymru a Sefydliad Cymunedol Cymru

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i roi arian grant i Cefnogi Trydydd Sector Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac i Sefydliad Cymunedol Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Adnodd gwybodaeth am gapasiti gofal a chymorth

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer yr adnodd gwybodaeth am gapasiti gofal a chymorth ar gyfer 2021 i 2022.  

Ymestyn cymorth iechyd a chyflogadwyedd ar gyfer ymrwymiadau Covid yn 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno i ymestyn y cymorth ariannol o hyd at £0.360 miliwn yn 2021/2022 i barhau i ymateb i lefelau cynyddol problemau iechyd meddwl a diweithdra yng Nghymru o ganlyniad i bandemig Covid19.

Parhau i ariannu gwaith sy'n ymwneud ag ystadegau economaidd

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i wario hyd at £6.3 miliwn i barhau i ariannu gwaith sy'n ymwneud â'r seilwaith ystadegau economaidd yng Nghymru ar gyfer 2021/2022 hyd at 2025/2026.

Cysylltiad Grid, Bro Tathan

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i fuddsoddi mewn seilwaith ym Mro Morgannwg.

Cymorth i’r sector bysiau 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i ddarparu cymorth ar gyfer gwasanaethau bysiau yn 2021/2022, gan gynnwys drwy'r cynllun pris siwrnai consesiynol gorfodol, cynllun teithio rhatach fyngherdynteithio i bobl ifanc, y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau a'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau.

Cyllid ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu yn 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid grant ar gyfer cynllun peilot a grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i helpu gyda phrosiect, a phrosiectau Trafnidiaeth eraill sy'n gysylltiedig â diogelwch ar y ffyrdd.

Manyleb ar gyfer Ehangu Rôl Diffoddwyr Tân

25 Mawrth 2021

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gynnwys y fanyleb ar gyfer rôl ehangach i ddiffoddwyr tân ac y dylid rhannu copi o'r fanyleb ag Undeb y Brigadau Tân a chyrff eraill sy'n cynrychioli Diffoddwyr Tân, ynghyd â’r TUS Iechyd, ar ôl ymgysylltu â'r Undebau. Cyhoeddir datganiad gweinidogol ar y cyd yr wythnos yn cychwyn 22 Mawrth.

Cyllid Trawsnewid Trefi

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid grant Trawsnewid Trefi ychwanegol i Gyngor Dinas Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Cymorth i wasanaethau bysiau

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i sefydlu cyfres gydgysylltiedig o fesurau i gefnogi a gwella gwasanaethau bysiau ledled Cymru drwy'r pandemig.

Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo penodi Nerys Llewelyn Jones yn Gadeirydd a Stephen Hughson a Janatha Stout yn Aelodau Annibynnol y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth.

Y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol - penodi

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno â phenodiad Ruth Glazzard yn Aelod Annibynnol ar y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru - penodi

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Ruth Glazzard yn Is-gadeirydd a Grace Quantock, Sian Doyle, David Selway, Marian Jones a Rowan Gardner yn Aelodau Annibynnol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol - penodi

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Ellen Donovan fel Aelod Cymru o’r Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Achos busnes dros Achub Bywydau Cymru

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Achub Bywydau Cymru i gefnogi rhoi’r cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar waith ymhellach.

Penodi Aelod Annibynnol Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Winston Weir yn Aelod Annibynnol Cyllid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o 1 Ebrill 2021 hyd nes 31 Mawrth 2025.

Adolygu’r Fframwaith Safonau Moesegol i Lywodraeth Leol

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y dylid comisiynu gwaith ymchwil arbenigol i ddadansoddi gweithrediad presennol y Fframwaith Safonau Moesegol i Lywodraeth Leol yng Nghymru ac i ddarparu argymhellion.

Ariannu gwasanaethau cyswllt â phlant a orchmynnir gan y llysoedd yng Nghymru

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwasanaethau cyswllt â phlant a orchmynnir gan y llysoedd yng Nghymru am 2021 i 2022.

Cynnig cynllun gweithgarwch corfforol dyddiol

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cytuno ar drefniadau i datblygu cynnig newydd ym maes gweithgareddau egnïol dyddiol mewn ysgolion yn rhan o’r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.

Swydd dros dro â blaenoriaeth yn y Gyfarwyddiaeth Addysg

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo creu swydd 24 mis â blaenoriaeth yn yGyfarwyddiaeth addysg yn ddefnyddio cyllidebau rhaglenni i baratoi am PISA 2022 drwy ysgogi ymgysylltiad ymhlith ysgolion ac awdurdodau lleol.

Fframwaith perfformiad a gwella

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i helpu awdurdodau lleol i weithredu’r fframwaith perfformiad a gwella yn 2021 hyd at 2022.

Cyllid ar Gyfer Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar grant o £215,337 i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu rhaglen waith y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn 2021 hyd at 2022.

Estyn trefniant Adran 83 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gyda’r Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno bod Gweinidogion Cymru yn estyn trefniant gyda’r Ganolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu o dan Adran 83 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â pholisi morol a rheoli pysgodfeydd hyd nes mis Mawrth 2024.

Cronfa Dyfodol yr Economi – cyfarfod y Penel Buddsoddi 16 Chwefror 2021

25 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gwarant Llywodraeth Cymru, Whiteheads, Casnewydd

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymrwymo i gytundeb gwerthu tir gyda Whiteheads Development Company ynghyd â chytundeb datblygu i hwyluso gwarant ariannol, a fydd yn ei gwneud yn bosibl i ddatblygiad Whiteheads yng Nghasnewydd fwrw yn ei flaen.

Rhaglen cymorth i wella Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu £800,000 o gyllid ar gyfer darparu rhaglen gwella a chymorth dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Cyllid Ffrind mewn Angen/Friend in Need

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer parhau â Ffrind Mewn Angen/Friend in Need am chwe mis arall.

Penodi dau ymddiriedolwr ar gyfer Amgueddfa Cymru

25 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i benodi Cai Wilshaw a Freya Stannard fel Ymddiriedolwyr i Fwrdd Amgueddfa Cymru am dymor o 4 blwyddyn yn cychwyn ar 1 Ebrill 2021.

Cyllid Cymru’n Gweithio 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddyraniad Cymru’n Gweithio a’r dyraniad cyllid gyfer parhau gyda gwerthusiad annibynnol ar gyfer 2021 i 2022.

Cyllido’r gwaith o ddatblygu unedau diwydiannol newydd ym Mharc Hawarden

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cymorth grant i gynllun ym Mharc Hawarden, Brychdyn.

Y strategaeth unigrwydd a chyllid ar gyfer cymorth Homeshare a Rhannu Bywydau

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar dîm prosiect i sicrhau bod y strategaeth unigrwydd ac ynisigrwydd cymdeithasol yn parhau i gael ei gweithredu a bod cyllid ar gyfer cynllun peilot Homeshare a chymorth ar gyfer cynlluniau Rhannu Bywydau.

Adnoddau cenedlaethol ar-lein i weithwyr proffesiynol gofal iechyd roi cymorth i bobl sydd â COVID Hir

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  wedi cytuno i’r gwaith o ddatblygu adnoddau cenedlaethol ar-lein i helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i roi cymorth i bobl sydd â COVID Hir.

Y cyfnod ar gyfer hawlio cyllid grant Arloesedd Anadlol Cymru

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y cyfnod ar gyfer hawlio cyllid grant Arloesedd Anadlol Cymru i 30 Mehefin 2023.

Grant Cymorth Tai – Dyraniadau Cyllido Terfynol ar gyfer 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau terfynol yr awdurdodau lleol ar gyfer 2021 i 2022 ar gyfer y Grant Cymorth Tai ac mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniad terfynol 2021-2022 ar gyfer y Grant Cymorth Tai i Gyngor Abertawe ar ran y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Parth Arddangos Morlais – Cais am dystysgrif o dan Ddeddf Caffael Tir 1981

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gellid rhoi Tystysgrif Man Agored o dan Baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Caffael Tir 1981.

Cael gwared ar Ased Trafnidiaeth

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar eiddo ym Mhowys.

Sector Development Wales Partnership (masnachu fel Industry Wales)

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i benodi Tom Crick, Jenifer Baxter, Huw Watkins, Hushneara Miah a Caroline Lewis yn Gyfarwyddwyr Anweithredol Sector Development Wales Partnership (masnachu fel Industry Wales) o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2024.

Cymorth i'r Prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid i barhau i gefnogi'r Prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yn 2021 i 2022.

TrawsCymru

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i Drafnidiaeth Cymru roi cymorth i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gweinyddu rhwydwaith bysiau strategol TrawsCymru o 1 Ebrill 2021.

Cyllid i gefnogi'r gwaith o gyflwyno trefniadau cymwysterau ar gyfer ymgeiswyr preifat

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi trefniadau asesu ymgeiswyr preifat ar gyfer cymwysterau cyffredinol ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Cyllid i gefnogi CBAC i gyflwyno trefniadau asesu ar gyfer cymwysterau yn 2020 i 2021

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi CBAC i gyflwyno trefniadau asesu ar gyfer cymwysterau yn 2020 i 2021.

Coffáu Robert Owen

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gefnogi gweithgareddau yn y Drenewydd sy'n ymwneud â 250 mlynedd ers geni Robert Owen.

Oedi arfaethedig i gofrestru gweithwyr gofal preswyl i oedolion yn orfodol

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ohirio'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ym mis Ebrill 2022 ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i oedolion am chwe mis, i fis Hydref 2022, er mwyn rhoi amser i'r gweithwyr hyn adfer a chryfhau o’r pandemig COVID-19.

Ail-benodi - Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Sonia Stainer i Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan tan 31 Mawrth 2023.

Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol Cymru

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynnwys Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol Cymru 2019 i 2020 ac i’w gyhoeddi, ac i ddiweddaru Adroddiad Blynyddol ar Fân-ddaliadau Awdurdodau Lleol Cymru 2018 i 2019.

Cyllideb Arweinyddiaeth

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo Cyllid Datblygu Arweinyddiaeth 2021 i 2022.

Cynllun Busnes a Chyllidebau Cadw

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno ar Gynllun Busnes Cadw ar gyfer 2021 i 2022.

Rhaglen Digwyddiadau Masnachu Tramor

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y rhaglen digwyddiadau masnachu tramor ar gyfer 2021 i 2022.

Rhaglenni Diogelwch Cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni Diogelwch Cymunedol Awdurdodau Tân ac Achub yn 2021 i 2022 yn seiliedig ar geisiadau am gyllid ar y cyd i Gymru gyfan.

Bwrdd Chwaraeon Cymru: penodiadau

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ailbenodi pedwar aelod i Fwrdd Chwaraeon Cymru. Y pedwar aelod a ailbenodwyd yw Judi Rhys, Leigh Robinson, Phil Tilley a Martin Veale. Mae'r Dirprwy Weinidog hefyd wedi cytuno i ymestyn tymor Cadeirydd Bwrdd Chwaraeon Cymru, Lawrence Conway am hyd at 12 mis.

Cynllun Busnes Academi Cymru 2021 i 2022

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar flaenoriaethau cyflawni Academi Cymru fel y nodir yn ei chynllun busnes wedi'i gostio ar gyfer 2021 i 2022.

Caffael Offer Dadansoddi Gwybodaeth am y Farchnad Lafur Ryngweithiol

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ymarfer caffael ar gyfer Offer Dadansoddi i helpu i gynllunio darpariaeth ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Aelodaeth Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru 2021 – Ymgyrch Recriwtio

25 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr argymhellion ynghylch ail-benodiadau i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, aelodau sy'n ymadael, recriwtio tri aelod newydd a'r cynllun penodi cysylltiedig.

Cronfa Dyfodol yr Economi - Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod ar 2 Mawrth 2021

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cronfa Dyfodol yr Economi - Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol – Cyfarfod ar 2 Mawrth 2021

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Ail-benodi Aelod Annibynnol (TGCh) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi'r Athro Ian Wells yn Aelod Annibynnol (TGCh) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am 4 blynedd, o 08 Mai 2021 tan 07 Mai 2025.

Canllawiau ar gau cartrefi gofal

25 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £8562.53 i Brifysgol Abertawe i ddrafftio canllawiau sy'n ymwneud â chau cartrefi gofal.

Cyllid ar gyfer rhaglen ôl-16

25 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y Rheolau Sefydlog a’r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yr Awdurdod Iechyd Arbennig newydd a ddaw yn weithredol ar 1 Ebrill 2021.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig – cynigion prosiectau

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbartyhau Cwm Taf a’r Gogledd.

Cronfa Canol Trefi o £3 miliwn

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cynnig ar gyfer Cronfa Fusnes Canol Trefi i gyfrannu at adfywio canol trefi ledled Cymru, i gyd-fynd â’r rhaglen Trawsnewid Trefi, yn ategu menter ‘Blwyddyn Trefi SMART’.

Cyllideb Cydraddoldeb a Chydlyniant

24 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu Cyllid Ychwanegol i’r gyllideb Cydraddoldeb a Chydlyniant am ran o’r flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer Gyrfa Cymru

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo Cyllid i Gyrfa Cymru ar gyfer gweithio’n uniongyrchol â phobl ifanc a addysgwyd yn y cartref a chydag awdurdodau lleol yn 2021/22.

Cytundeb Menter ar y Cyd Mangreoedd Cyflogaeth Gwledig

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ymrwymo i gytundeb i ddatblygu tir yn Sir Gaerfyrddin.

Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwerthu tir o dan Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae ac yr mae Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae wedi’i hadeiladu arno i Gyngor Caerdydd.

Cyllid adferCovid i Affrica Is-Sahara

24 Mawrth 2021

Mae’r Prif weinidog a’r Dirprwy weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyrannu £1 miliwn o gyllid i ganiatau gwneud grantiau i sefydliadau Cymreig i gefnogi adfer o Covid, atal Covid a pharatoi ar gyfer brechu yn Affrica Is-Sahara – rhannwyd y Cyllid rhwng United Purpose, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Pwyllgor Argyfyngau.

Penodi Prif Weithredwr Dros Dro ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru

24 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Helen Thomas yn Brif Weithredwr Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru tan 1 Medi 2021.

Datblygiad Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf

24 Mawrth 2021

Yn dilyn cau Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid yn 2020, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar ddatblygiad y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Canolfan Ganser newydd Felindre – Cymeradwyo Caffael

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno y caiff y broses gaffael ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre gychwyn.

Caffael tir yn Sir Benfro

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gaffael tir yn Sir Benfro.

Cyngor Celfyddydau Cymru

24 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo penodi Keith Murrell, Ceri Ll Davies, Ruth Fabby MBE, Elen ap Robert, Prue Thimbleby a Tafsila Khan yn aelodau newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru o 1 Ebrill 2021 hyd nes 31 Mawrth 2024.

Ailbenodi Aelod Annibynnol y Prifysgolion i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dr Frances Gerrard yn Aelod Annibynnol y Prifysgolion o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am 15 mis, o 1 Ebrill 2021 hyd nes 30 Mehefin 2022.

Ailbenodi Aelod Annibynnol yr Undebau Llafur i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Jackie Davies yn Aelod Annibynnol yr Undebau Llafur i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am 4 blynedd, o 29 Awst 2021 hyd nes 28 Awst 2025.

Penodi i Fwrdd Dewis Gyrfa Careers Choices (Gyrfa Cymru)

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo penodi Helen Bulkeley, David Matthews, Anthony Smith, Neil Coughlan ac Andrew Clark yn aelodau o fwrdd Dewis Gyrfa Careers Choices (Gyrfa Cymru).

Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu

24 Mawrth 2021

Mae’r Prif Weinidog, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid i sefydlu Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu.

Penodi Aelod Annibynnol yr Awdurdodau Lleol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cynghorydd Gareth John yn Aelod Annibynnol yr Awdurdodau Lleol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o 1 Ebrill 2021 hyd nes 31 Mawrth 2024.

Penodi Aelod Annibynnol y Trydydd Sector i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Iwan Thomas yn Aelod Annibynnol y Trydydd Sector ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o 1 Mai 2021 hyd nes 30 Ebrill 2024.

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Jayne Sadgrove yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o 1 Mehefin 2021 hyd nes 31 Mawrth 2024.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mrs Ceri Jackson yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am flwyddyn, o 1 Ebrill 2021 hyd nes 31 Mawrth 2022.

Cronfa Entrepreneuraidd Canol Trefi

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Prif Weinidog wedi cytuno i sefydlu Cronfa Entrepreneuraidd Canol Trefi peilot o £3 miliwn ar gyfer pedair tref â blaenoriaeth yn Nghynllun Adfywio Gogledd Cymru – Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor.

Penodi Ymddiriedolwyr ar gyfer Llyfrgell genedlaethol Cymru

24 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo penodi Lydia Rumsey, David Hay, a Janet Wademan yn benodiadau Llywodraeth Cymru i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel rhan o’r un ymgyrch recriwtio ar y cyd, mae hefyd wedi nodi penodi dau ymddiriedolwr arall i’r Bwrdd gan y llyfrgell, sef Susan Davies and Elaine Treharne. Bydd y pum ynddiriedolwr newydd i gyd yn dechrau tymor 4 mlynedd yn eu swyddi ar 1 Ebrill 2021.

Gwaredu tir yn Carys Close, Penarth, Bro Morgannwg

24 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mhenarth yn rhydd-ddaliadol, yn amodol ar gyfamod cadarnhaol.

Penodi Aelod Annibynnol y Gymuned (y Gymraeg yn hanfodol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mrs Delyth Raynsford yn Aelod Annibynnol y Gymuned (y Gymraeg yn hanfodol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 4 blynedd o 1 Ebrill 2021 hyd nes 31 Mawrth 2025.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

24 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru.

Cyfraddau ardollau’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer 2021 nes 2022

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyfraddau ardollau’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaethar gyfer llaeth, garddwriaeth, tatw, ydau a hadau olew am y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyllideb adnoddau’r Gymraeg mewn addysg

24 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar ailddyrannu’r hyn sy’n weddill o gyllideb adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg ar gyfer 2020 i gyllideb 2021.

Gwella’r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Phenblewin

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i lunio Gorchmynion drafft (gydag addasiadau) yn dilyn Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus a chytundeb mewn egwyddor i ddyfarnu contractau adeiladu ar gyfer y gwelliannau i’r A40.

Gwelliannau i’r A40 rhwng Penblewin a Chroesffordd Maencoch

24 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i lunio Gorchmynion drafft (gydag addasiadau) yn dilyn Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus.

Cymorth ar fater osgoi Ardrethi Annomestig i Gyngor Caerdydd

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cymorth ariannol i Gyngor Caerdydd i gefnogi ei waith ymchwilio i herio achosion lleol parhaus o osgoi ardrethi annomestig.

Cyllid glasbrint

23 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyllid i helpu i roi’r Glasbrintiau Cyfiawnder ar waith.

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Iolo Doull yn Gadeirydd Dros Dro ar Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Llythyrau cynnig grant terfynol Plant a Chymunedau 2021 i 2022

23 Mawrth 2021

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi llythyrau cynnig grant terfynol un flwyddyn i'r cyrff perthnasol ar gyfer y grant Plant a Chymunedau.

Iaith Lleferydd a Chyfathrebu

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynnig i ddefnyddio £250,000 fel rhan o’r ymateb Covid ar gyfer gwasanaethau therapi iaith a lleferydd arbenigol yn y blynyddoedd cynnar.

Cylch gwaith a chynllun gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru 2021 i 2022 i gefnogi’r gweithlu Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gylch gwaith a chyllid cysylltiedig £345,100 i Gofal Cymdeithasol Cymru i wneud gwaith i gefnogi'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant Ebrill 2021 i Mawrth 2022.

Ymestyn y Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn y Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth tan 30 Medi 2021.

Penodi Aelod Cyffredinol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mr Ronnie Alexander yn Aelod Cyffredinol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am 4 blynedd, o 21/06/2021 tan 20/06/2025.

Adolygiad Annibynnol Cofrestr Proffesiynol o'r gweithlu gofal plant, gwaith chwarae a’r blynyddoedd cynnar

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar broses gaffael ac amcanion ar gyfer adolygiad annibynnol i lywio'r camau nesaf ar gyfer cofrestr proffesiynol o'r gweithlu gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar.

Cymeradwyaeth ar gyfer cychwyn ymgyrch recriwtio ar gyfer chwe aelod o’r bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

23 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno a chymeradwyo cychwyn y broses benodi ar gyfer chwe aelod o'r Bwrdd, eu manyleb rôl a'u pecyn briffio.

Rhaglen Sgiliau Hyblyg 

23 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gyflwyno'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i ariannu Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2021 i 2022 mewn ysgolion uwchradd a Cham 2 yr astudiaeth ddichonoldeb ar ymestyn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a'r arolwg cysylltiedig i ysgolion cynradd.

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi - Adroddiad Blynyddol - 2019 i 2020

23 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnwys Rhagair y Gweinidog yn ail adroddiad blynyddol Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Penodi cyfreithwyr allanol mewn perthynas ag ymgyfreitha

23 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cymorth ymgyfreitha a Chwnsler ar ran Gweinidogion Cymru yn achos Casnewydd vs McDonagh et al.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig - cynigion prosiect 

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn ardal Partneriaeth Ranbarthol y Gorllewin.

Cyllid dŵr gwastraff ac arolwg o’r boblogaeth

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer monitro dŵr gwastraff ac arolwg o agweddau’r cyhoedd yng Nghymru am COVID-19 dros y 12 mis nesaf.

Ail-benodi Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

23 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Shelley Bosson yn Aelod Annibynnol (Cymunedol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am 3 blynedd, o 3 Ebrill 2021 tan 2 Ebrill 2024.

Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad Cymru

23 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ysgrifennu at Brif Gwnstabliaid y 4 heddlu yng Nghymru ynghyd â'r 4 Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gofyn am eu cefnogaeth i'r cynllun prawf 12 mis ar gyfer Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru.

Cymorth Ariannol i Reilffordd Ffestiniog

23 Mawrth 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog i adfer o effaith Covid-19.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan

23 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gyhoeddi Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru, a dogfen ategol sy'n crynhoi'r ymateb i'r ymgynghoriad.

Busnes Cymru Digidol

23 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant ar gyfer datblygu a darparu systemau cymorth digidol a gwybodaeth a ddatblygwyd ac a gynhelir ar ran meysydd busnes eraill yr economi, sgiliau ac adnoddau naturiol yn 2021 i 2022.

Arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer Adnodd Cenedlaethol Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd rhwng 2020 a 2021

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynnydd o £600,000 i gyllideb cyfalaf Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

Cyngor i bobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r cyngor i’r bobl sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar ôl 31 Mawrth 2021.

Cyllid ôl-16

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo dyraniad ychwanegol ar gyfer ôl-16 er mwyn cefnogi darpariaeth chweched dosbarth cyfrwng Cymraeg newydd yng Nghasnewydd.

Ardoll Cig Coch

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynnwys Cynllun Ailddosbarthu’r Ardoll Cig Coch y disgwylir iddo ddod i rym ar 1 Ebrill 2021.

Cynnal Cronfa Triniaethau Newydd

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal y Gronfa Triniaethau Newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn 2021-22.

Cylch Gwaith Blynyddol Estyn – 2021 hyd 2022

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo Cylch Gwaith Blynyddol Estyn – 2021 hyd 2022.

Tanwariant ar waith ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

22 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ailddyrannu’r tanwariant ar waith cyfathrebu ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestif a thrais rhywiol i waith ym maes Byw Heb Ofn.

Estyn contract ymgyrch cyfathrebu Byw Heb Ofn

22 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i estyn contract Ymgyrch Cyfathrebu Byw Heb Ofn.

Estyn penodiad Aelod Cyfreithiol Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gall Martyn Waygood barhau if od yn Aelod Cyfreithiol Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd ei benodiad yn parhau hyd 31 Rhagfyr 2021.

Arolwg Deall Cymdeithas

22 Mawrth 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyllid fel y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at yr arolwg Deall Cymdeithas ar gyfer 2020 hyd 2021.

Cymeradwyo Cais i Fenthyca – Cyngor Tref Caergybi

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cais gan Gyngor Tref Caergybi i fenthyca £200,000.

Cyllid ar gyfer rhagolygon treth

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo trosglwyddo cyllid i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol (drwy Drysorlys Ei Mawrhydi) ar gyfer cynhyrchu a chyhoeddi rhagolygon treth annibynnol yn 2021 hyd 2022 i gyd-fynd â Chyllideb Llywodraeth Cymru.

Cyllid Refeniw i Llywodraeth Leol ar gyfer Cynnal Ffyrdd

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo dyrannu gwerth £12 miliwn o gyllid refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd.

Ailbenodi Aelod Annibynnol ar gyfer Ystadau Cyfalaf i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mark Taylor yn Aelod Annibynnol ar gyfer Ystadau Cyfalaf i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am 4 blynedd, o 03 Gorffennaf 2021 hyd 02 Gorffennaf 2025.

Gofal gartref

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y cyllid cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth ‘Adre o’r Ysbyty’ ar gyfer 2021 hyd 2022.

Cyllidebau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cynlluniau gwariant arfaethedig ynghylch y cyllidebau diwygio’r cwricwlwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.

Coedwig Genedlaethol

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer Achredu Coedwigoedd a Buddsoddi mewn Coetiroedd.

Metro Gogledd Cymru

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo rhaglen datblygu Metro ‘Trafnidiaeth Cymru’ ar gyfer Gogledd Cymru.

Ysgol Aberdaugleddau

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i newid ystod oedran Ysgol Aberdaugleddau o 11-19 i 11-16 gan ddod â’r ddarpariaeth chweched dosbarth i ben.

Grantiau Diogelwch ar y Ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

22 Mawrth 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyrannu cyllid grant tuag at grantiau Diogelwch ar y Ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2021 hyd 2022.

Safleoedd sipsiwn a theithwyr

22 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyllido prosiectau a fydd yn cynnwys gwaith i gwblhau safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Adnewyddu prydlesau

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i adnewyddu prydles ar gyfer eiddo ym Mhencoed.

Arsylwi ar y Ddaear-  Sêr Cymru

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i estyn swydd Cadeirydd Arsylwi ar y Ddaear Sêr Cymru a ddelir gan yr Athro Richard Lucas ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hynny am gyfnod pellach o ddwy flynedd.

Grant Cymorth Tai

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno y gall swm bychan a chyfyngedig o gyllid y Grant Cymorth Tai gael ei ddefnyddio yn 2021 hyd 2022 gan awdurdodau lleol i gyllido gwaith rheoli prosiect tymor byr/gwaith cynllunio strategol o fewn timau’r Grant Cymorth Tai mewn awdurdodau lleol.

Penodiadau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg, Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i benodi saith aelod newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Canolfan Ganser Felindre

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cyngor y gall yr Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre a’r gwaith galluogi cysylltiedig gael eu cymeradwyo.

Adolygiad o gyflogau’r GIG

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r dystiolaeth i’w chyflwyno i gyrff Adolygu Cyflogau’r GIG ac Adolygu Cyflogau Doctoriaid a Deintyddion.

Costau prynu gorfodol

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal adolygiad holistaidd o gostau prynu gorfodol er mwyn cefnogi adferiad yr economi ar ôl pandemig COVID-19.

Undebau Credyd

22 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i ddarparu grant cyfalaf i undebau credyd er mwyn cefnogi balansu cyfalaf sydd wedi gwanhau yn ystod y pandemig a gwariant arall sy’n gysylltiedig â chynlluniau twf er mwyn hwyluso gwaith darparu credyd fforddiadwy.

Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

22 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dyraniadau cyllid o’r gyllideb llifogydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Gŵyl y Gelli

22 Mawrth 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo pecyn cyllid er mwyn cefnogi rhaglenni cymorth ar gyfer ysgolion a phobl ifanc fel rhan o Ŵyl y Gelli 2021 hyd 2022.

Cynlluniau Cyfalaf y Grant Trafnidiaeth Leol

22 Mawrth 2021

Mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer cynlluniau Cyfalaf y Grant Trafnidiaeth Leol am y flwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.

Darparwyr prentisiaethau

22 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyraniad ychwanegol ar gyfer darparwyr prentisiaethau yn 2020 hyd 2021 i wneud iawn am eu costau ychwanegol o ran cyflenwi a’r gostyngiad mewn incwm yn sgil y cyfyngiadau symud presennol.

Ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed a Diogelu

18 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gau yn ffurfiol gam 1 y ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed a Diogelu.

Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig 2019 hyd 2020

18 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2019 i 2020.

Ailbenodi Comisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

18 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ailbenodi Caroline Crewe-Read yn Gomisiynydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru am gyfnod pellach o 5 mlynedd o 31 Mawrth 2021 hyd 30 Ebrill 2026.

Cais am Dystysgrif o dan Adran 19 y Ddeddf Caffael Tir

18 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Hysbysiad o Fwriad i roi tystysgrif o dan Adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981 ar gyfer tir agored i’r gogledd-ddwyrain o briffordd gyhoeddus ddiddosbarth Maes-y-Llan ac i’r de-ddwyrain o gefnffordd yr A55 o Gaer i Fangor.

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd

18 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ymateb i Gadeirydd Pwyllgor y Senedd ar gyfer Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac i gynnwys crynodeb o’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Gwrteithiau.

Fframweithiau dros dro ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

18 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i rannu crynodebau o fframweithiau dros dro yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyda Phwyllgor y Senedd ar gyfer Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Gweithrediadau stacio nwyddau ym Mhorthladdoedd Penfro ac Abergwaun

18 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ad-dalu costau’r gweithrediadau stacio nwyddau sy’n angenrheidiol er mwyn lliniaru effeithiau unrhyw darfu ym Mhorthladdoedd Penfro ac Abergwaun.

Cymorth ag ymholiadau ynghylch band eang a negeseuon uniongyrchol i eiddo sydd wedi derbyn cyswllt band eang

18 Mawrth 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gynnal y cymorth ag ymholiadau ynghylch band eang a’r negeseuon uniongyrchol i eiddo sydd wedi derbyn cyswllt band eang o dan broses Llywodraeth Cymru o gyflwyno band eang ffeibr gydag Openreach ar gyfer 2021 hyd 2022.

Cymorth Grant y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau

18 Mawrth 2021
 
Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo amcanion a chyllid grant ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru yn 2021 hyd 2022.

Pennu Parth Gweithredu Telathrebu Symudol

18 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwerth £31,632 o gyllid i bennu Pyrth Gweithredu Telathrebu Symudol posibl.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2021 i 2022 ar gyfer datblygiadau ôl-16.

Rhaglen amlasiantaeth ar gyfer ysgolion uwchradd sydd o dan fesurau arbennig

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyflwyno dull amlasiantaeth o roi cymorth i bob ysgol uwchradd yng Nghymru sydd o dan fesurau arbennig. 

Cynlluniau penodol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2021 i 2022

17 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar y canlynol ar gyfer y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: bydd Nod ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu newydd ar Gydraddoldeb Hiliol, bydd Un Llais Cymru yn cael hyd at £41,000 o gyllid refeniw a bydd £48,000 o gyllid refeniw yn cael ei ddarparu ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2021 i 2022.  

Dyraniadau cyllid Covid i’r GIG yn 2021 i 2022

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo bod swm o £380 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynlluniau lleol a chenedlaethol y GIG yn 2021 i 2022, gan gynnwys dyrannu £170 miliwn i fyrddau iechyd lleol gan ddefnyddio’r fformiwla ar gyfer dyrannu adnoddau i’r GIG.

Trosglwyddo Perchenogaeth Cyfarpar Meddygol

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gais gan Lywodraeth y DU i’r perwyl bod yr holl asedau addas i’r diben, heb eu difrodi a roddwyd ar fenthyg ganddi yn rhad ac am ddim yn ystod y pandemig COVID-19 yn cael eu trosglwyddo’n gyfreithlon i berchenogaeth GIG Cymru.     

Cynllun Codi Tâl Cyfoeth Naturiol Cymru

17 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynllun codi tâl arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer 2021 i 2022

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cymeradwyo’r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach ar gyfer 2021 i 2022.

Profion Covid-19 ar gyfer Darparwyr Gofal Plant

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gweinyddu ychwanegol ar gyfer yr awdurdodau lleol er mwyn cynnal profion Covid-19 ar ddarparwyr gofal plant. 

Metro Gogledd Cymru – dyraniad yn ystod y flwyddyn, Mawrth 2021

17 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer cynlluniau Metro Gogledd Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021 i 2022

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar y canllawiau a’r dogfennau ategol i’w hanfon at yr awdurdodau lleol mewn perthynas â gweinyddu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021 i 2022.

Cyllid i’r awdurdodau lleol ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref 2021 i 2022

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid i’r awdurdodau lleol er mwyn darparu cymorth i deuluoedd sy’n dewis addysgu yn y cartref yn 2021 i 2022.

Gwariant arfaethedig ar gyfer Dysgu Proffesiynol

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo gwariant ar ddysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu ysgolion yn 2021 i 2022.

Datblygu gweithlu Cymraeg

17 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer datblygu gweithlu Cymraeg yn 2021 i 2022.

Datgarboneiddio Llywodraeth Leol cyllid

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhaglen gymorth er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer helpu i gyflawni’r uchelgais o greu sector cyhoeddus sero-net erbyn 2030.

Menter ar y cyd yn Sir Gaerfyrddin

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i estyn cytundeb ynghylch safleoedd datblygu yn Sir Gaerfyrddin.

Cyllid Craidd ar gyfer cefnogi mentrau cymdeithasol – Gorffennaf 2021 hyd Mawrth 2022

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyrannu £169,500 i helpu i gefnogi’r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Dyraniadau ar gyfer Prentisiaethau o 2021 hyd 2022

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r dyraniadau contract ar gyfer 2021 hyd 2022 i’r darparwyr hynny a dderbyniodd gontract i gyflenwi Prentisiaethau o 1 Awst 2021.

Safle micro Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru i ddatblygu a chynnal safle micro newydd ynghylch gwaith Bwrdd Cyflenwi Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol) ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mohammed Mehmet i weithio’n amser llawn i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru am gyfnod o flwyddyn o 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022.

Strategaethau ynni rhanbarthol

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyfeiriad strategol y pedair strategaeth ynni rhanbarthol.

Ailbennu Dibenion y £3m i Brentisiaethau ar gyfer Graddedigion

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ailbennu dibenion cyllid a ddarperir i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru er mwyn cefnogi buddsoddiad pellach mewn gwaith ymchwil ac arloesi sy’n anelu at gefnogi’r economi.

Tir yn Llangefni

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafndiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i amrywio’r telerau gwerthu mewn perthynas â thir yn Llangefni.

Penodi i Hybu Cig Cymru

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Mr Jack Evershed a Mr Emlyn Roberts i Hybu Cig Cymru yn Aelodau o Hybu Cig Cymru am gyfnod o 3 blynedd o 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2024.

Rhoi blaenoriaeth i bobl ag Anableddau Dysgu a Salwch Meddwl Difrifol yn cohort 6 Rhaglen Frechu COVID-19

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi blaenoriaeth i frechu pobl sydd â salwch meddwl difrifol neu anabledd Dysgu fel rhan o gohort 6 Rhaglen Frechu COVID-19.

Blaenoriaethu’r Boblogaeth Ddigartref yn cohort 6 Rhaglen Frechu COVID-19

16 Mawrth 2021
 
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo canllawiau ar gyfer rhoi blaenoriaeth i bobl ddigartref fel rhan o cohort 6 Rhaglen Frechu COVID-19.

Setliad Refeniw a Chyfalaf Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2021 hyd 2022

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r Setliad Refeniw a Chyfalaf Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2021 hyd 2022.

Penodi Aelod ar gyfer Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Ruth Glazzard yn Aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol am gyfnod o bedair blynedd o 1 Ebrill 2021.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Uwch ar gyfer Hamdden a Lletygarwch 2021 hyd 22 – canllawiau, llythyr derbyn grant a llythyr cynnig ar gyfer awdurdodau lleol

16 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r canllawiau a’r dogfennau ategol ar gyfer gweinyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Uwch ar gyfer Hamdden a Lletygarwch 2021 hyd 2022.

Dal carbon

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth y DU, ‘Carbon Capture, Utilisation and Storage Cluster Sequencing’.

Ynni o wastraff

16 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar derfyn o 10MW ar unrhyw ddatblygiadau ynni o wastraff ar raddfa fawr yn y dyfodol.

Cyllid cynnal a chadw ysgolion

16 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo dyfarnu £45 miliwn o gyllid yn y flwyddyn ariannol hon i ganiatáu i awdurdodau lleol ddyrannu cyllid refeniw ar gyfer cynnal a chadw i ysgolion.

Addysg nyrsys yn y sector gofal

16 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu cynllun peilot tair blynedd ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol arloesol o hwyluswyr addysgu mewn cartrefi gofal.

Penodiadau i fwrdd Comisiwn Dylunio Cymru

16 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi penodi Mike Biddulph, Jon James, Cora Kwiatkowski a Joanna Rees yn Gomisiynwyr ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Comisiwn Dylunio Cymru am 4 blynedd o 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2025.

Llythyr cylch gwaith Dewis Gyrfa

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo llythyr cylch gwaith a dyraniadau cyllid ar gyfer Dewis Gyrfa ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi i fusnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2021 i 2022

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i barhau â’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch drwy gydol y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Fersiwn derfynol y Cynllun Cyflawni ar gyfer y Dirwedd a Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored, dyraniadau cyllid 2021 i 2022, a Llythyr Cylch Gwaith Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi anfon llythyron cylch gwaith ar gyfer grant refeniw craidd blwyddyn ariannol 2021-22 at Gadeiryddion y tri Awdurdod Parc Cenedlaethol, ac mae hefyd wedi cymeradwyo fersiwn derfynol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Tirweddau a Hamdden Awyr Agored 2021-22, ynghyd â’r dyraniadau cyllid.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Ychwanegol i fusnesau Hamdden a Lletygarwch yn 2021 i 2022

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i barhau â’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Ychwanegol i fusnesau Hamdden a Lletygarwch drwy gydol blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyn Swyddfeydd y Llywodraeth yn Ffordd Dinerth, Bae Colwyn

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno mewn egwyddor y dylid cadw’r safle hwn y mae Llywodraeth Cymru’n berchen arno,  yn Ffordd Dinerth, Bae Colwyn, yn amodol ar gytuno ar delerau i’w waredu yn y pen draw i  Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (neu ei bartner datblygu) ar gyfer Rhaglen Datblygu Ffordd Dinerth.

Cyllid ychwanegol ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn a seilwaith gwefru ar gyfer y cerbydau hynny 2020 i 2021

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i roi £2.925 miliwn i Gynghorau Casnewydd, Caerdydd, Sir Fynwy, Wrecsam a Chonwy, ar gyfer prynu cerbydau allyriadau isel iawn, gyda phob awdurdod lleol yn cael £300,000 tuag at ei seilwaith gwefru.

Ymestyn menter ar y cyd i adeiladu unedau busnes newydd ym Mhenrhos, Caergybi

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer adeiladu 8 uned ddiwydiannol newydd yng Nghaergybi drwy ymestyn menter ar y cyd sy’n bodoli eisoes.

Grant y Lwfans Atgyweiriadau Mawr

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i ddyrannu grant y Lwfans Atgyweiriadau Mawr i un ar ddeg o awdurdodau tai lleol ar gyfer 2021 i 2022.

Cyllid ychwanegol i hosbisau

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i gefnogi hosbisau yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19.

Cynllun Cymelliadau i Gyflogwyr – newidiadau arfaethedig

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i wneud newidiadau pellach i’r cynllun cymelliadau i gyflogwyr, er mwyn cynnwys cymelliadau mwy ac ymestyn y cynllun hyd at 30 Medi 2021.

Prosiect Porth EZ5 – cyllid i ysgogi’r economi

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid yn 2020/2021 i Gyngor Sir Ynys Môn, i gefnogi prosiect porth EZ5 Llangefni.

Ail-benodi Aelod Annibynnol (Cymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi  Lyn Meadows yn Aelod Annibynnol (Cymuned) ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, am un flwyddyn ac wyth mis, o 1 Medi 2021 hyd at 22 Ebrill 2023.

Ffocws ar Drafnidiaeth

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn perthynas ag ymestyn penodiad yr aelod presennol sy’n cynrychioli Cymru ar fwrdd Ffocws ar Drafnidiaeth sy’n gwarchod buddion defnyddwyr, ar ôl i’w dymor o bedair blynedd ddod i ben, er mwyn caniatáu i’r Gweinidog Trafnidiaeth newydd, ar ôl etholiadau Senedd Cymru, wneud y penodiad ar gyfer y tymor pedair blynedd nesaf. 

Swyddog Galluogi Tai Gwledig – cyllid refeniw

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i neilltuo £147,368.61 yn 2021 i 2022 ar gyfer cefnogi Swyddogion Galluogi Tai Gwledig, ac mae hefyd wedi cymeradwyo swm nad yw’n fwy na £1,000 i gefnogi cyfarfodydd o’r Grŵp Strategol ar gyfer Tai Gwledig yn ystod 2021 i 2022.

Gwerthu tir ym Mharc Technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Parhau â’r cymorth ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i barhau â’r cymorth grant ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2021 i 2022, ac i greu pedwaredd bartneriaeth ar gyfer y Canolbarth ar gyfer 2021 i 2022 yn unig, a fydd yn ddarostyngedig i amodau.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - amcangyfrif o gyllideb flynyddol 2021 i 2022

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cytuno’r amcangyfrif o gyllideb flynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2021 i 2022.

Cyllid Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig – Cynigion ar gyfer Prosiectau

15 Mawrth 2021
 
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o’r Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, Gorllewin Morgannwg, a Gorllewin Cymru.

Llythyr Cylch Gwaith Diwydiant Cymru 2021 i 2022

15 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar lythyr cylch gwaith Diwydiant Cymru ar gyfer 2021-22.

Masnachu Allyriadau’r DU

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi galwad am dystiolaeth, ar y cyd â Llywodraethau eraill y DU ar y pwnc ‘Free Allocations Methodology’ o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Cymorth dysgu i’r sector Ôl-16

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu digidol a chyfunol i’r sector Ôl-16 ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Diweddariad ynglŷn â rhaglen gyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy ar gyfer Tirweddau Dynodedig a Hamdden Awyr Agored

15 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbroffilio £253,000 o’r rhaglen gyfalaf Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy bresennol i grant craidd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ar gyfer cwblhau gwaith hanfodol yn Hafod Eryri, un o safleoedd twristiaeth mwyaf eiconig Cymru.

Ymestyn y peilot ‘mae gofal plant yn gweithio’

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y peilot Childcare Works am naw mis arall. Bydd y peilot yn dod i ben fis Rhagfyr 2021.

Ailddyrannu cyllid yn 2020 i 2021

15 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno cynigion i ailddyrannu cyllid o fewn Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Datblygu a Chymorth Athrawon 4880 a Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Codi Safonau Ysgolion 5511 yn ystod 2020 i 2021, i gefnogi’r broses o bennu graddau, dysgu proffesiynol ychwanegol, ac ymchwil i gasglu adborth gan ddysgwyr. 

Pengliniau prosthetig

11 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gellir darparu pengliniau prosthetig a reolir gan ficrobrosesydd ar gyfer sifiliaid.

Cymorth i Faes Awyr Caerdydd

11 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar becyn ariannol i roi cymorth i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y tymor canolig.

Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

11 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cymorth cyfreithiol (allanol) a chymorth seicolegol i Weinidogion, staff a chyn-staff y gofynnir iddynt roi tystiolaeth yn yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.

Y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd - Cymuned Ymarfer

11 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer hyrwyddo a rheoli adnoddau ar-lein ExChange: Teulu a Chymuned yn 2021-22.

Pont ar Ddyfi Newydd yr A487 - Dyfarnu Contract Adeiladu

11 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno i ddyfarnu contract i gynllunio ac adeiladu cynllun newydd ar gyfer Pont ar Ddyfi, rhestredig Gradd II.

Bus Users Cymru a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru

11 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru gan Bus Users Cymru a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru, yn ystod 2021-22.

Grant Datblygu Busnes yn y Gaerwen, Ynys Môn

11 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cytuno ar Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes yn y Gaerwen, Ynys Môn.

Adroddiad ymchwil ar wasanaethau seibiant yng Nghymru

11 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer adroddiad ymchwil ar wasanaethau seibiant yng Nghymru.

Cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau sy'n ystyriol o oedran

11 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau sy'n ystyriol o oedran.

Fframwaith ymyriad wedi'i dargedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i fframwaith ymyriad wedi'i dargedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Datblygu rhaglen ar gyfer safleoedd gwarchodedig

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno i aildendro contract ar gyfer datblygu'r rhaglen aml-flwyddyn ar gyfer safleoedd gwarchodedig ac i ddarparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer recriwtio rheolwr prosiect.

Diogelwch Tân a phencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £1.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer diogelwch tân yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac i gymeradwyo achos busnes rhaglen seilwaith cynaliadwy pencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Cynllun dychwelyd blaendal am gynwysyddion diodydd

10 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar y dyluniad a ffefrir ar gyfer cynllun dychwelyd blaendal am gynwysyddion diodydd.  

Cynllun cyflawni'r Tîm Polisi Bioamrywiaeth

10 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gynllun cyflawni bioamrywiaeth amlinellol ar gyfer 2021 i 2022 ar gyfer darparu cyllid i'r cynllun meithrin gallu amgylcheddol o ddyraniadau cyllideb 2021 i 2022 ac, mewn egwyddor, un cynllun grant trosfwaol ar gyfer y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig sy'n cyfuno'r N2K a mynediad at ddyraniad y gyllideb natur.

Datblygu Meysydd Adnoddau Strategol ar gyfer cynllunio morol

10 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r gwaith ddechrau ar fapio Meysydd Adnoddau Strategol posibl ar gyfer cynllunio morol.

Ymateb i Adroddiad Thematig Estyn

10 Mawrth 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Thematig Estyn ar 'gaffael y Gymraeg'.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

10 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu tri phrosiect ar gyfer gwaith i gwblhau safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Rheoliadau Ailgylchu Busnes

10 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Y Strategaeth Dulliau Adeiladu Modern

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gynllun gweithredu sy'n ymwneud â darparu Dulliau Adeiladu Modern mewn tai cymdeithasol.

Recriwtio ar gyfer swyddi gwag hanfodol yn yr Is-adran Cyflogadwyedd a Sgiliau

10 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo £447,000 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021 i 2024 i gefnogi'r gwaith o gyflawni ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19 o ran cyflogadwyedd.

Cyllid iechyd meddwl ar gyfer y sector addysg bellach

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid iechyd meddwl a llesiant ar gyfer y sector addysg bellach.

Cymorth i fusnesau

10 Mawrth 2021
 
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Busnes yn Sir Ddinbych. 

Y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru

10 Mawrth 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar destun y Cyd-ddatganiad a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd rhwng Iwerddon a Chymru.

Ymateb i Adroddiad Thematig Estyn

10 Mawrth 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Thematig Estyn ‘Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd’.

Y Gronfa Cymorth Dewisol

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i lacio'r rheolau ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol am gyfnod ychwanegol o 6 mis hyd at 30 Medi 2021 gydag adolygiad pellach cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Y Rhaglen Tai Arloesol

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r dyraniad cyllid wedi'i ddiweddaru ar gyfer pob un o'r gynlluniau Rhaglen Tai Arloesol, Blwyddyn 4 (2020 i 2021).

Rheoli eiddo

10 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo cyllid i osod meddalwedd rheoli eiddo.

Dull Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y camau nesaf ar gyfer datblygu'r Dull Addysg a Gofal mewn Plentyndod Cynnar.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

10 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ceri Phillips yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, am 4 blynedd o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2025.

Bysiau trydan

10 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd wedi cymeradwyo benthyciad ar gyfer prynu bysiau trydan yn y De-ddwyrain.

Amrywiad Cyfalaf Dechrau'n Deg - Sir Gaerfyrddin

8 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar amrywiadau cyllid cyfalaf Dechrau’n Deg ar gyfer prosiectau cyfalaf Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin.

Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

8 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cytuno‘r cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; cytuno i benodi Steve Morris i arwain yr Adolygiad ac i ysgrifennu’r adroddiad, a chytuno i benodi Gwenllian Lansdown Davies, Enlli Thomas, a Rhian Huws Williams fel bwrdd ymgynghorol i awdur yr adroddiad.

Gwaredu tir yn Freshmoor Road, Caerdydd

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwerthu tir rhydd-ddaliadol yn Sblot, Caerdydd, i Gyngor Dinas Caerdydd, yn amodol ar gyfamod cyfyngol.

Rhaglen Cymorth Mathemateg Bellach

8 Mawrth 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo'r cyllid ar gyfer Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Technocamps - Cyllid ar gyfer 2021 i 2022

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i Technocamps i gefnogi cyfrifiadura mewn ysgolion ledled Cymru.

Ariannu Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg a gweithgarwch Cynhwysiant y Sefydliad Ffiseg

8 Mawrth 2021
 
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid i’r Sefydliad Ffiseg ar gyfer 2021 i 2022 i gyflawni rhaglen y Rhwydwaith Ysgogi Ffiseg a gweithgarwch Cynhwysiant (y Prosiect Gwella Cydbwysedd Rhwng y Rhywiau gynt).

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 19 Ionawr 2021

8 Mawrth 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Ddinbych.

Rhaglen Amser i Newid Cymru

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cymeradwyo trefniadau ar gyfer estyniad blwyddyn i Gam 3 i gwmpasu blwyddyn ariannol 2021 i 2022 ac i sefydlu ffrwd waith newydd i ddeall stigma iechyd meddwl mewn cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Cyngor Gwynedd

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2020 i 2021 i Gyngor Gwynedd, i ymestyn y grantiau cymorth busnes sydd ar gael yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Ardal Fenter Ynys Môn

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gynnwys Ystâd Ddiwydiannol Llwyn Onn, a hen Safle Octel yn Amlwch, o fewn Ardal Fenter Ynys Môn.

Pwyllgor Ymgynghorol Rheoliadau Adeiladu Cymru

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Dr Robert Gravelle, Trafnidiaeth Cymru, a Peter Richards, Cyngor Bwrdeistref Sirol Abertawe, i Bwyllgor Ymgynghorol Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru am gyfnod o naw mis. Cytunwyd hefyd y gallai'r penodiad gael ei ymestyn am hyd at chwe mis pe na bai'r ymgyrch recriwtio agored yn cael ei chwblhau erbyn hynny.

Cyllid WorldSkills UK 2021 i 2022

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyfraniad ariannol ar gyfer y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru i weithio gyda WorldSkills UK.

Arian ychwanegol ar gyfer Cymunedau am Waith a Mwy ar gyfer 2021 i 2022

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyfarnu cyllid ychwanegol i Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a dyfarnu cyllid refeniw i Gymunedau Digidol Cymru i barhau i ddarparu cynllun benthyca offer TG ar gyfer cyfranogwyr rhaglenni sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.

Cronfa Trawsnewid Modurol y DU - Cymru'n cymryd rhan

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i Gymru gymryd rhan yng Nghronfa Trawsnewid Modurol Llywodraeth y DU.

Ffioedd claddu ac amlosgi plant a chymorth ariannol ychwanegol tuag at gostau angladd

8 Mawrth 2021

Cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i barhau â'r ymrwymiad a rennir i hepgor ffioedd safonol ar gyfer claddu ac amlosgi plant, a'r cyllid cysylltiedig, am 3 blynedd arall o 1 Ebrill 2021 ac y bydd teuluoedd yng Nghymru sydd wedi colli plentyn o dan 18 oed yn gymwys i gael cyfraniad tuag at yr angladd a chostau cysylltiedig eraill o 1 Ebrill 2021.

Penodi Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Michael Jones yn Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, am 4 blynedd o 01 Mawrth 2021 tan 28 Chwefror 2025.

Cyllid Addysg Ddewisol yn y Cartref

8 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ailddyrannu £400,000 i awdurdodau lleol i'w helpu i gefnogi teuluoedd sy'n addysgu eu plant yn y cartref yn ddewisol.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 26 Ionawr 2021

8 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mlaenau Gwent.

Gwariant ar dir ym Mhorthmadog o dan Femorandwm Cytundeb

4 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant ar dir ym Mhorthmadog o dan Femorandwm Cytundeb.

Estyniad i benodi Prifysgol Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i John Gammon barhau i wasanaethu fel Aelod Annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd ei estyniad yn parhau tan 31 Gorffennaf 2022.

Canolfan Les Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym Maelfa

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Achos Busnes Llawn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer datblygu Canolfan Les ym Maelfa, Caerdydd, gyda chefnogaeth £14m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ailbenodi Cadeirydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

4 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ail-benodi Stephen James yn Gadeirydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru am ail dymor.

Cronfa Graddio Trawsnewid – Dyrannu cyllid ar gyfer 2021 i 2022

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyfanswm o £6 miliwn o ddyraniadau i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer graddio modelau ‘adref o’r ysbyty’ o'r gronfa drawsnewid ar gyfer 2021 i 2022; a hefyd wedi cymeradwyo dyraniad cronfa drawsnewid o £180,000 i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent yn 2021 i 2022 i gryfhau gwasanaethau iechyd meddwl.

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl - Adnoddau a Llywodraethu

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno i'r cynnig i greu'r Bwrdd Gweinidogol yn ystod cam gweithredu'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Arian Adolygiad Diogelu Unedig Sengl ar gyfer ystorfa ganolog

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i grant untro o £175,000 o’r gyllideb a gytunwyd ar gyfer 2020-21 i ddatblygu Ystorfa Ganolog yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, a fydd yn galluogi cyflawni agweddau ehangach y prosiect.

Plant yn y Ddalfa – prosiect peilot

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant ar gyfer prosiect peilot tri mis a fydd yn darparu gwelyau gofal preswyl i blant a phobl ifanc sydd wedi’u cymryd i’r ddalfa gan yr heddlu yng Nghymru.

Cynnig Gofal Plant Cymru

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau monitro a gwerthuso ar gyfer blwyddyn 4 ymlaen mewn perthynas â'r cynnig gofal plant i Gymru.

Astudiaeth Delphi

4 Mawrth 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu astudiaeth delphi i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i helpu i nodi effaith COVID-19 ar blant dan bump oed, a rhoi sylw i hynny neu ei liniaru.

Adroddiad Polisi Treth Cymru 2021

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar Adroddiad Polisi Treth Cymru 2021 ac iddo gael ei gyhoeddi.

Trawsnewid Trefi – Uwchgynllun Adfywio Pillgwenlli

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid grant Trawsnewid Trefi i Grŵp Pobl i roi arian cyfatebol ar gyfer datblygu uwchgynllun adfywio Pillgwenlli, Casnewydd.

Strategaeth a chynllun gweithredu cleifion allanol 2021 i 2022

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu blwyddyn 2 y strategaeth a'r cynllun gweithredu cleifion allanol.

Cylch cymorth nesaf y Grantiau Ardrethi Annomestig

4 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo ychwanegiad ac estyniad i grantiau sy'n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig i fusnesau cymwys hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021 ac i roi grant i awdurdodau lleol weinyddu'r gronfa hon.

Cyllid Olrhain Cysylltiadau

4 Mawrth 2021
 
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Olrhain Cysylltiadau 2021 i 2022.

Dyraniadau Cyllideb 2021 i 2022

4 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad y gyllideb ar gyfer gwasanaethau tân ac achub, ac ar gyfer materion y Lluoedd Arfog, yn 2021 i 2022.

Fferyllydd arbenigol ar gyfer partneriaeth cydwasanaethau'r GIG

3 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu swydd 'Fferyllydd Arbenigol Cymru - Cynllunio Wrth Gefn (Meddyginiaethau)' o fewn Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG.

Ymestyn rhanddirymiad ar gyfer hylif diheintio dwylo

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn rhanddirymiadau presennol i ganiatáu i nifer o gynhyrchion diheintio dwylo barhau i fod ar gael er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

3 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i awdurdodau lleol yn 2021 i 2022, ar gyfer blwyddyn 2 y prosiect Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc cenedlaethol.

Gwastraff deunydd pacio

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghoriad ar y cyd ar y trefniadau a ffefrir ar gyfer cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer gwastraff deunydd pacio.

Penodiadau i'r Bwrdd Cymwysterau

3 Mawrth 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y penodiadau i Fwrdd Cymwysterau Cymru, sef Sharron Lusher a Hannah Burch ar 1 Ebrill 2021, a Douglas Blackstock, Michael Griffiths a Graham Hudson ar 15 Mehefin 2021.

Cynllun Monitro Pryfed Peillio'r DU

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i flwyddyn ychwanegol o gyfraniad ariannol i Gynllun Monitro Pryfed Peillio'r DU.

Entrepreneuriaeth a Thaliadau Cyflenwi

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo taliadau i’w rhyddhau ym mlynyddoedd ariannol 2021 hyd 2022.

Gweithgarwch i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi

3 Mawrth 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Cyllid i gyflawni rhaglen o weithgarwch yn 2021 a 2022 i gefnogi hybu mewnfuddsoddiad.

Dyrannu Contractau Aildendro am Wasanaethau a Reolir gan Bartneriaeth Cyflenwi Milfeddygol

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu dau gontract mewn dwy ardal ddaearyddol, Menter a Busnes yng Ngogledd Cymru (Lot 1) a Iechyd Da (gwledig) Cyf. De Cymru (Lot 2) i gynnal profion TB ar dda byw ac ymgymryd â gofynion cysylltiedig am wasanaethau milfeddygol o dan y Bartneriaeth Cyflenwi Milfeddygol.

Banc Datblygu Cymru - Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru - Cyfalafu

3 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyrannu Cyllid ategol i Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, a weithredir gan Fanc datblygu Cymru.

Gwobrau ymrwymiad ymgynghorwyr a rhagoriaeth clinigol ar gyfer 2021 i 2022

3 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y taliadau i ymgynghorwyr ar bwyntiau 00, 01, a 02 o raddfa gyflog ymgynghorwyr yng Nghymru.

Ailbenodi Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

3 Mawrth 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Vivienne Harpwood barhau i wasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd ei hailbenodiad yn para hyd nes 30 Medi 2022.

Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru

3 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid grant adferiad diwylliannol i fusnes yng Nghymru.

Cynigion ar gyfer dychwelyd i hyfforddiant cyflogadwyedd

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gynigion i hyfforddiant cyflogadwyedd ar gyfer rhaglenni cyflogaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ddychwelyd yn raddol.

Ymchwil Annibynnol i Gydymffurfiaeth Banc Cymunedol â Chymorth Gwladwriaethol

1 Mawrth 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid yn 2021 hyd 2021 ar gyfer ymchwil i gydymffurfiaeth cynnig am fanc cymunedol yng Nghymru o ran cymorth gwladwriaethol.

Cyllid Buddsoddi er mwyn cefnogi rhaglen waith Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant yn 2020 hyd 2021

1 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo £40,000 ar gyfer Cyngor Sir Caerdydd ar ran Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru er mwyn buddsoddi yn y gwaith datblygu a’r gwaith cynllunio sydd ynghlwm wrth yr ymgyrch marchnata ar gyfer brand maethu i holl awdurdodau lleol Cymru. Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd wedi cymeradwyo £50,000 ar gyfer recriwtio i un swydd a fydd yn dechrau cynllun peilot y prosiect Cysylltiadau Gydol Oes o fewn y gwasanaeth cymorth i deuluoedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd.

Cymorth Ariannol gan Cymru Greadigol ar gyfer Pum Prosiect Sgiliau yn y Sector Sgrîn

1 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddarparu grant gwerth £153,000 i gefnogi pum prosiect sgiliau yn y sector sgrîn ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru.

Diweddaru Mynegai Heneiddio y DU

1 Mawrth 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Prifysgol Abertawe i ddiweddaru Mynegai Heneiddio y DU a chyflwyno dangosyddion cydraddoldeb Newydd.

Gorsaf Integredig yn Shotton a’r Rhaglen Mynediad i Bawb

25 Chwefror 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno y ceir cynnwys mynediad heb risiau i Riwabon ac mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y cynllun ar gyfer Gorsaf Integredig yn Shotton.

Menter Drafnidiaeth o’r Cymoedd i’r Gwaith

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid i gefnogi estyniad i Gynllun Peilot Trafnidiaeth y Cymoedd am flwyddyn arall rhwng 2021 a 2022.

Canllawiau ar Ardrethi Annomestig − Cynllun Rhyddhad Ardrethi Ychwanegol ym maes Lletygarwch a Hamdden

25 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar weinyddu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Ychwanegol ym maes Lletygarwch a Hamdden.

Penodi Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro, Cymru

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cymeradwyo penodi Dr Nerys Llewelyn Jones yn Asesydd Dros Dro Diogelu'r Amgylchedd, Cymru.

Estyn cyllid rhaglenni ar gyfer swyddi o fewn yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd

25 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn cyllid rhaglenni ar gyfer deuddeg swydd sy’n bodoli eisoes/newydd yn yr Is-adran Cartrefi a Lleoedd.

Penodi Ymgynghorwyr Prisio Asedau

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar broses ar gyfer penodi ymgynghorwyr i ddarparu'r prisiad asedau blynyddol.

Covid-19 – Diweddariad ar Addysg Uwch –Adolygiad mis Chwefror

25 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Prif Weinidog wedi cytuno ar y bwriad i ganiatáu carfan fach o Fyfyrwyr Addysg Uwch i ddychwelyd.

Prosiect Datblygu'r Gweithlu Ôl-16

25 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid o’r gyllideb Buddsoddi mewn Ansawdd addysg bellach i ddatblygu'r prosiect datblygu'r gweithlu Ôl-16.

Yr Ymddiriedolaeth Garbon – Cynllun Benthyca

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gau'r Cynllun Benthyciadau presennol i BBaChau mewn ffordd gyfrifol ac i gynnal rhagor o drafodaethau â'r Ymddiriedolaeth Garbon i addasu’r ffordd y defnyddir gweddill yr arian, gyda'r bwriad o lansio prosiect newydd erbyn 1 Ebrill 2021.

Gwerthu tir yn Abertawe

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y ceir gwerthu tir yn Abertawe.

Gwerthu tir ym Mharc Busnes Broadaxe

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y ceir amrywio’r telerau sy’n gysylltiedig â gwaredu safle yn Llanandras, Powys.

Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion gan Gomisiwn y Gyfraith

24 Chwefror 2021

Mae’r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Bontio Ewropeaidd wedi cytuno ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith.

Cyhoeddi’r Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu’r Rhwydwaith Ffonau Symudol

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Cod Arferion Gorau diwygiedig ar Ddatblygu’r Rhwydwaith Ffonau Symudol.

Datgarboneiddio Diwydiannol yng Nghymru

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen Datgarboneiddio Diwydiannol Cymru.

Cyfalaf ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o dan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro.

Penodi Aelod Cyffredinol Annibynnol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Rhobert Lewis yn Aelod Cyffredinol Annibynnol o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am 4 blynedd, o 22 Chwefror 2021 tan 21 Chwefror 2025.

Diweddariad ar VR Investment

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y dylid ad-dalu’n gynnar fenthyciad a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i gwmni, a chadw ei ecwiti ar yr un telerau masnachol â chyfranddalwyr lleiafrifol eraill.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol

24 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru – Ysgol Westward House, Sir Gaerfyrddin. 

Penodiad yr aelod dros Gymru ar fwrdd Ffocws ar Drafnidiaeth

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i estyn cyfnod penodiad yr aelod dros Gymru ar fwrdd Ffocws ar Drafnidiaeth tan ar ôl etholiadau nesaf Senedd Cymru.

Buddsoddiad i Gymdeithas Dai United Welsh o dan y Rhaglen Tai Arloesol ar gyfer Dulliau Adeiladu Modern

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cymorth o dan y Rhaglen Tai Arloesol i Gymdeithas Tai Unedig Cymru ar gyfer darparu tai fforddiadwy gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol – Sporting Chance, Casenwydd

24 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cais i gofrestru ysgol annibynnol – Sporting Chance, Casenwydd.

Ymateb i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

24 Chwefror 2021
 
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw.

Cyllideb rhaglen Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed 2021 i 2022

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer dyrannu cyllideb y rhaglen Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed 2021 i 2022.

Cyllid i sicrhau bod PYST Cyfyngedig a’r platfform digidol dwyieithog AM yn parhau i weithredu

24 Chwefror 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid i sicrhau bod PYST Cyfyngedig a’r platfform digidol dwyieithog AM yn parhau i weithredu.

Adran 83; Caniatâd i Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb ar gyfer Ogwr Uchaf

24 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i gytundeb les gyda Renewable Energy Systems dros ran o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ger Ogwr Uchaf.

Cynllun Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi

24 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cynllun Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi, hen adeilad Crown Packaging, Castell-nedd a Chynllun Creu Lleoedd ar gyfer Canol Dinas Abertawe ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Astudio mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

23 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

23 Chwefror 2021

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitaeth wedi cytuno i’r ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar ‘Effaith Covid-19 ar y Diwydiannau Creadigol’.

Cyngor Llyfrau Cymru

23 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gynllun gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

23 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ‘Effaith Covid-19 ar Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau Lleol’.

Partneriaeth Cyllido Ffeithiol Cymru Greadigol

23 Chwefror 2021

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gyllid ar gyfer partneriaeth cyd-gyllido ar gyfer cynnwys ffeithiol gyda BBC Cymru a BBC 3, i gefnogi’r sector cynhyrchu ffeithiol cynhenid.

Rhaglen Creu 5G

23 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristieth, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gostau yn gysylltiedig â chais i’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer cystadleuaeth ‘Creu 5G’.

Profiad realiti estynedig

23 Chwefror 2021

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwareon a Thwristiaeth wedi cytuno i ddyfarnu £50,000 i Fictioneers Limited am gostau’n gysylltiedig â darparu profiad realiti estynedig.

Cymorth Busnes

23 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i gyllid ar gyfer busnes yng Nghaerdydd.

Byrddau Iechyd Lleol a Chyllid Partneriaethau Gofalwyr

23 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid o £1 miliwn ar gyfer byrddau iechyd lleol a’u partneriaethau gofalwyr yn 2021 i 2022, ar gyfer gweithgareddau i gefnogi gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

Cyllid ar gyfer cam profi Cwricwlwm drafft lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal a threfniadau asesu yn ystod tymor yr Haf 2021

23 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo y trefnidadau i brofi cwricwlwm drafft lleoliadau nad ydynt yn cael eu cynnal a threfniadau asesu yn ystod tymor yr haf.

Cyllid refeniw i gefnogi darparu Gweithgareddau Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau Iechyd

23 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021 i gefnogi darparu Gweithgareddau Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau Iechyd.

Cynigion i reoli risgiau o rywogaethau estron goresgynnol yn 2021 i 2022

23 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynigion amlinellol ar gyfer gweithredu yn 2021 i 2022 i wella’r broses o reoli rhywogaethau estron goresgynnol yng Nghymru, gan helpu i fodloni ymrwymiadau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol.

Genomeg Pathogenau: y gofynion cyfalaf

22 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno’r cyllid ychwanegol ar gyfer Gwasanaeth Genomeg Pathogenau.

Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaid - allgau digidol

22 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 i 2021, er mwyn helpu prentisiaid sydd wedi eu hallgáu’n ddigidol i barhau â’u rhaglen brentisiaeth.

Cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned y Mwmbwls

22 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned y Mwmbwls.

Cyllid cyfalaf ar gyfer Hen Neuadd y Sir Llandeilo

18 Chwefror 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno cyllid o £0.2miliwn ar gyfer helpu i wneud gwaith atgyweirio ar Neuadd y Sir yn Llandeilo.

Datrys Anghydfod ynglŷn â Chontract

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y datrysiad o’r anghydfod contractiol gyda’r contractiwr Costain, mewn perthynas â’r gwaith ar yr A465 (Rhan 2).

Moderneiddio er mwyn gwireddu gweledigaeth 21ain Ganrif ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mlaenau Gwent

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer mapio a phrofi gwasanaethau digidol ar-lein a ddarperir i gwsmeriaid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Darparu Cyllid y Cymoedd Technoleg ar gyfer  Parc Cyflogaeth Lime Avenue

18 Chwefror 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu Parc Cyflogaeth Lime Avenue yng  Nglynebwy.

Prosiect 5G Cysylltu Cymunedau Gwledig y Cymoedd Technoleg

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cymeradwyo rhoi £1.2m ar gyfer prosiect arloesi a seilwaith 5G i gefnogi busnesau yn y Cymoedd Technoleg.

Banc Datblygu Cymru

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Dogfen Fframwaith ddiwygiedig rhwng Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Y Dull o Brofi mewn Lleoliadau Addysg a Gofal Plant yng Nghymru 

18 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar brofion ddwywaith yr wythnos i staff mewn Lleoliadau Addysg a Gofal Plant yng Nghymru. 

Taliadau’r Cynnig Gofal Plant a COVID-19

18 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar daliadau’r Cynnig Gofal Plant a COVID-19: trefniadau cyllid o 22 Chwefror hyd at ddiwedd gwyliau Pasg yr ysgol 2021.

Cyllid ar gyfer Groundwork

18 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid refeniw ar gyfer Groundwork Cymru yn 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer cefnogi cydnerthedd Diogelu Iechyd

18 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer recriwtio mwy na 100 o staff diogelu iechyd cyfwerth ag amser llawn ychwanegol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyngor Cymuned Saundersfoot

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Saundersfoot.

Gwerthu tir yn Llanelwy

18 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar waredu tir yn Llanelwy.

Cynigion Prosiect cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig

17 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o dan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Gogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Chaerdydd a’r Fro.

Cronfa’r Economi Gylchol

17 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid, yn 2020 i 2021, ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo adferiad gwyrdd yng nghanol ein trefi.

Cyllid cyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys

17 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar £1.669m o gyllid i gefnogi gwaith i weithredu gwasanaeth 24/7 a sefydlu’r Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol. 

Ymestyn y system atgyfeirio electronig ddeintyddol

17 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn contract y system rheoli atgyfeiriadau electronig deintyddol.

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Data Gofal Cymdeithasol

17 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y meysydd ffocws cychwynnol ar gyfer bwrw ati i rannu data gwasanaethau cymdeithasol.

Adnodd asesu risg Covid-19

16 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i hyrwyddo adnodd asesu risg Covid-19 i ymarferwyr sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Adroddiadau blynyddol gwasanaethau cymdeithasol

16 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno na fydd rhaid cyflwyno adroddiadau blynyddol gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer 2019 i 2020 tan fis Medi 2021 oherwydd effaith pandemig Covid-19.

Cymorth ar gyfer Undeb Credyd Celtic

16 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi £55,000 mewn cymorth cyfalaf i Undeb Credyd Celtic.

Adolygiadau blynyddol ar faethu

16 Chwefror 2021
 
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar estyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adolygiad blynyddol llawn gan gynnwys asesiad meddygol llawn ar gyfer gofalwyr maeth dros dro.

Rhaglen adfer Twristiaeth a Marchnata

16 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar y cyllid i gefnogi rhaglen adfer Twristiaeth a Marchnata gwerth £1.04 miliwn ar gyfer 2020 i 2021, er mwyn cynorthwyo rhan allweddol o gynllun economi Cymru i adfer yn dilyn pandemig Covid-19 ac ail-agor yn ddiogel.

Y Fframwaith Cymunedol ar gyfer rheoli Covid

16 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y Fframwaith Cymunedol ar gyfer rheoli Covid.

Cymru’r Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040

16 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y dogfennau cysylltiedig i gyd-fynd â chyhoeddi ‘Cymru’r Dyfodol – y cynllun cenedlaethol 2040’.

Rhaglen Technoleg Addysg Hwb

15 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid i barhau i gefnogi rhaglen Technoleg Addysg Hwb.

Rhaglen Seren

15 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen Seren 2021 i 2022.

Profion Covid-19

15 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i’r cynllun peilot arfaethedig ym Mhrifysgol Abertawe sy’n defnyddio dyfeisiau LAMP Optigene i gynnal profion ar fyfyrwyr asymptomatig.

Penodiad i’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

15 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gymeradwyo cyfansoddiad arfaethedig y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, ac wedi cytuno i ailbenodi Janet Swadling am ail dymor ar y Bwrdd.

Gwaredu tir

15 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu eiddo ym Mhowys.

Datblygu rhanbarthol

15 Chwefror 2021

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Prif Weinidog wedi cytuno i gomisiynu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i helpu i weithredu rhai o’u hargymhellion yn adroddiad yr OECD ar ddatblygu rhanbarthol.

Gwerthu eiddo

15 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu eiddo yng Nglyn Ebwy.

Awdurdod Harbwr Caerdydd

15 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Rhaglen dyfodol gofal cymdeithasol

15 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer secondiad i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith ar weithredu'r rhaglen dyfodol gofal cymdeithasol.

Cymorth i’r diwydiannau creadigol

15 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid i gefnogi rhaglen gwerth £1 miliwn i adfer y diwydiannau creadigol i gynorthwyo adferiad a thwf y sector.

Grantiau Trafnidiaeth Leol

15 Chwefror 2021

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn yn 2021 i 2022, ac ar ganllawiau sydd i’w rhannu ag awdurdodau lleol.

Cais am Gyllid Adfer yn sgil COVID - yr Urdd

15 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol gwerth £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21 i gefnogi adferiad yr Urdd o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19.

Safle Bro Tathan

15 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ragor o gyllid sy’n gysylltiedig â datblygu a gweithredu safle Bro Tathan.

Cymru’n Cofio Wales Remembers

11 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar y costau ychwanegol ar gyfer cyhoeddi Cymru’n Cofio Wales Remembers yn derfynol.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

11 Chwefror 2021

Mae Dirprwy Weinidog  Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gynllun strategol newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2021 i 2026.

Penodiadau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

11 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi penodi Rona Aldrich, Elin Maher a Gwyn Williams i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg am dymor o dair blynedd, sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2021.

Cynllun Cyflawni Carbon Isel

11 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol i symud ymlaen â’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf.

Cael gwared ar dir

11 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gael gwared ar dir yng Nghonwy.

Cymeradwyaeth fenthyca

11 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cais i roi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Llangefni.

Profion C19 estynedig mewn Cartrefi Gofal

9 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal profion COVID-19 estynedig mewn cartrefi gofal. 

Cynhyrchion Diogelu Planhigion a Bioladdwyr

9 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i Gytundebau Asiantaeth amgen rhwng yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gweinidogion Cymru ar Gynhyrchion Diogelu Planhigion a bioladdwyr.

Cronfa Cymunedau Arfordirol 2021-23

9 Chwefror 2021
 
Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i Rownd 6 y Gronfa Cymunedau Arfordirol ar gyfer 2021-23, a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda dyraniad o'r gronfa wedi'i thargedu at ganol trefi arfordirol.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo 2021-22

9 Chwefror 2021
 
Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i ariannu Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Gwaredu tir i'r gogledd o Lys Ynadon Port Talbot

9 Chwefror 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu tir ym Mhort Talbot.

Cyllid Ffliw Adar

9 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi awdurdodi £1 miliwn o gyllid brys ar gyfer yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i reoli achosion o’r Ffliw Adar yng Nghymru. Cytunwyd ar ddyraniad cychwynnol o £500k ar 4 Chwefror.

Cyrff adolygu cyflogau’r GIG a Meddygon a Deintyddion

9 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar lythyron cylch gwaith Corff Adolygu Cyflogau’r GIG a Chorff Adolygu Cyflogau Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2021 i 2022.

Cynlluniau peilot 20 mya

9 Chwefror 2021

Mae Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau cynlluniau peilot 20 mya.

Aelodaeth partneriaeth Ymchwil Ynni

9 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ariannu’r gwaith o adnewyddu aelodaeth y bartneriaeth Ymchwil Ynni am dair blynedd mewn un taliad ym mis Ionawr 2021.

Trosglwyddo cyllid o gronfeydd wrth gefn

9 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo trosglwyddo £1 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn i gwrdd â gorwariant a ragwelir yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Setliad yr Heddlu

9 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Setliad yr Heddlu ar gyfer 2021 i 2022.

Cyfarpar diogelu rhag Covid-19 i yrwyr tacsi

9 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gynnig pecyn cyfarpar proffesiynol personol am ddim i bob gyrrwr tacsi neu gerbyd hurio trwyddedig yng Nghymru.

Profi am COVID-19

8 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y Rhaglen Profi am COVID-19 yn y Gymuned.

Lleferydd, iaith a chyfathrebu plant

8 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar newidiadau i’r cyllid ar gyfer ‘Siarad gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’.

Y Gronfa Adferiad Diwylliannol

8 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo ymestyn y Gronfa Adferiad Diwylliannol i weithwyr llawrydd cymwys ar gyfanswm o £8.870 miliwn.

Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru

8 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyrannu cyllid atodol i Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, a weithredir gan Banc Datblygu Cymru.

Rhyddhad ardrethi i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth

8 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i sefydlu cynllun grant i ddarparu’r hyn sy’n cyfateb i ryddhad ardrethi llawn i fusnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy’n meddiannu safleoedd sydd â gwerth ardrethol o dros £500k, ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Ymestyn contract Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol

8 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn y contract Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer rhai sy’n gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu’n dod i gysylltiad â hwy.

Cyllid ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru

8 Chwefror 2021
 
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Cynllun Blynyddol Ofcom

8 Chwefror 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar yr ymateb i Gynllun Blynyddol arfaethedig Ofcom ar gyfer 2021 - 2022.

Gwerthu tir

8 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.

Y Gronfa Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol

8 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ragor o gyllid grant cydnerthu busnes ar gyfer pob un o’r wyth sefydliad newyddion cymunedol annibynnol mewn ymateb i argyfwng Covid-19.

Penodi i WGC Holdco Ltd

4 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi,Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i benodi cyfarwyddwr i WGC HoldCo Limited.

Cymeradwyaeth i gynnal Arolwg Masnach i Gymru 2021/22

4 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno i wario hyd at £200,000 ar gomisiynu Arolwg Masnach i Gymru yn 2021 hyd 2022.

Recriwtio i dair swydd wag hanfodol ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau

3 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddefnyddio cyllid y rhaglen i lenwi tair swydd wag hanfodol o fewn yr Is-adran Cyflogadwyedd a Sgiliau.

Cyllid Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol 2020-21

3 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i ddarparu’r cyllid i Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol ar gyfer 2020-21.

Cynlluniau Gwella Teithio Llesol a Chefnffyrdd

3 Chwefror 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo’r Canllawiau ar Weithdrefnau a Chyngor ar gyfer Cynlluniau Gwella Teithio Llesol a Chefnffyrdd

Grantiau Ardrethi Annomestig 25 Ionawr – 31 Mawrth

3 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cymeradwyo pecyn cymorth busnes ar gyfer siopau dianghenraid, busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.

Cytuno ar y Cynllun Cyflawni diwygiedig ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-22

3 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cytuno ar ddiwygiadau i’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau fel y’i cyhoeddwyd ar 28 Ionawr 2021

Cofrestru ysgol annibynnol

3 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo’r cais i gofrestru ysgol annibynnol yng Nghymru – Coleg Gwyddoniaeth Wadham, Park House, Park Square, Casnewydd

Cymorth ar gyfer Byrddau Gwasanaethau’r Cyhoedd

3 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i’r pecyn cymorth ar gyfer Byrddau Gwasanaethau’r Cyhoedd ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Gwaith deuoli yr A465

3 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i lunio Gorchymyn atodol ar gyfer Cynllun Deuoli Blaenau’r Cymoedd, Dowlais Top i Hirwaun ar yr A465.

Cyllid ar gyfer Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

3 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i ariannu Cymdeithas Pysgotwyr Cymru am eu cyllid craidd ar gyfer 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer Cadw

3 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cymeradwyo cyllid refeniw ychwanegol i Cadw ar gyfer 2020 i 2021.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

1 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar yr Achos Cyfiawnhad Busnes sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Waldo Williams, Hwlffordd.

Cynllun Gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru

1 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ‘Y Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Gweithredu’r Cwricwlwm, Rhwydwaith Cenedlaethol, a’r Cynllun Adfer Dysgu’.

Cyllid ar gyfer Cymunedau’n Creu Cartrefi

1 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru yn 2021 i 2022 i gefnogi’r prosiect Cymunedau’n Creu Cartrefi.

Addysg bellach arbenigol

1 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyngor mewn perthynas â statws sefydliadau addysg bellach arbenigol yn dilyn y penderfyniad i gau ysgolion a cholegau ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb fel ymateb i bandemig y coronafeirws.

Gwaith allgymorth brechu COVID-19

1 Chwefror 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo £70,000 o gymorth ar gyfer cynnal rhagor o waith allgymorth brechu COVID-19 gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

1 Chwefror 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi David Edwards fel Aelod Annibynnol, TGCh, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, am gyfnod o 4 blynedd o 01 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2025. 

Rheoliadau Gwastraff Deunydd Pacio

1 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd i’r Deyrnas Unedig gyfan ar y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 yn sgil bwriad yr Alban i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Blaendal.

Gwaith Calon Energy

1 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid gwerth £54,000 a phenodiad Arup i ddarparu cyngor technegol allanol i Waith Calon Energy.

Gwaith Calon Energy

1 Chwefror 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar wariant a phenodi cwmni cyfreithiol i ddarparu cyngor cyfreithiol allanol mewn perthynas â Gwaith Calon Energy.

Pwysau’r gaeaf ar iechyd a gofal cymdeithasol

1 Chwefror 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i fodloni cynlluniau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer y gaeaf a Covid.

Cyllid Cafcass Cymru

27 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar adnoddau i Cafcass Cymru gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws

27 Ionawr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau sy’n ceisio grantiau refeniw o’r Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws.

Cyllid Cafcass Cymru

27 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar adnoddau i Cafcass Cymru gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Cymru’r Dyfodol 2040

27 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y newidiadau terfynol i ‘Cymru’r Dyfodol 2040’.

Cyllid Cafcass Cymru

27 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar adnoddau i Cafcass Cymru gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri

25 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr Hysbysiad o Fwriad i ddarparu hawliau mynediad "mannau agored" newydd i alluogi Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri i fynd yn ei flaen.

Cau llwybrau troed cyhoeddus

25 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i roi terfyn amser o 12 mis i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer datrys achos o gau llwybr cyhoeddus, ond dylid datrys achosion yn y dyfodol o fewn 6 mis.

Gwasanaeth 111

25 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gyflwyno gwasanaeth 111 ymhellach ledled Cymru.

Cyllid Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru

21 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno i gynyddu cyllid Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru £1.5 miliwn yn rheolaidd o flwyddyn ariannol 2021 i 2022 ymlaen oherwydd y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau ychwanegol sy'n ofynnol yn dilyn cyfnod Pontio'r UE.

Niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol

21 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno i ymgynghori ar Fframwaith Cymorth a Thriniaeth drafft ar gyfer Atal, Diagnosis, Triniaeth a Chymorth ar Niwed i'r Ymennydd sy'n Gysylltiedig ag Alcohol.

Taliadau’r Cynnig Gofal Plant

21 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau talu Cynnig Gofal Plant yn ystod pandemig Covid-19 rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2021.

Adferiad gwyrdd

21 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid ailadeiladu Covid-19 ar gyfer ehangu siopau ailddefnyddio ac atgyweirio i hyrwyddo adferiad gwyrdd yng nghanol ein trefi.

Datblygu safleoedd

21 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid pellach sy'n gysylltiedig â'r safle datblygu yng Nghoed Ely, Tonyrefail.

Gwerthu tir

21 Ionawr 20211

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i werthu tir yng Nghasnewydd.

Cymorth busnes

21 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Grant Adferiad Diwylliannol ar gyfer busnes yng Nghymru.

Rhaglen Technoleg Addysg Hwb

19 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar fuddsoddiad pellach o £11.888 miliwn yn rhaglen Technoleg Addysg Hwb i brynu dyfeisiau addysg ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021.

Cymorth busnes

19 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mlaenau Gwent.

Sector ynni hydrogen

19 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i  gyhoeddi 'Hydrogen yng Nghymru' ar gyfer ymgynghoriad. 

Cymorth busnes

19 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar Gyllid Grant Adferiad Diwylliannol ar gyfer busnes yng Nghymru.

Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

19 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ddiweddaru'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Parc Beicio Cymru

19 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i Cyfoeth Naturiol Cymru ymrwymo i brydles newydd ar ystad goetir Llywodraeth Cymru yng Nghoedwig Gethin, er mwyn ehangu Parc Beicio Cymru.

Rheoliadau adeiladau rhestredig

19 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar ymgynghoriad cyhoeddus ar reoliadau adeiladau rhestredig drafft a dogfen ganllaw gysylltiedig.

Cymorth busnes

19 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gyllid Grant Datblygu Eiddo ar gyfer datblygiad arfaethedig ar Lannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.

Cymorth i wirfoddoli yn y GIG

19 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyllid grant ar gyfer cydgysylltu ymgysylltiad y Trydydd Sector a gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Grant Plant a Chymunedau

19 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau dangosol y Grant Plant a Chymunedau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-2022 i awdurdodau lleol a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.

Cyllid ar gyfer consortiwm gofal plant Cwlwm

18 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cynnig cyllid dangosol i gonsortiwm gofal plant Cwlwm o £1,444,410 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-2022.

Cymorth busnes

18 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gydsynio i gwmni ymrwymo i gytundeb Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

18 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland i barhau i gynnal y gwaith o reoli, darparu a chydgysylltu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a chomisiynu fframweithiau prentisiaeth newydd â blaenoriaeth, a'u diwygio, yn ystod 2021 i 2022 a pharhau i ddarparu cymorth ariannol i ddatblygu NOS â blaenoriaeth yn ystod 2021 i 2022 a chomisiynu sicrwydd ansawdd cyfieithiadau Cymraeg NOS.

Cymorth busnes

18 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i alluogi prynu ac adnewyddu ffatri ym Mlaenau Gwent ynghyd â'r gwasanaethau cyfreithiol a rheoli prosiect cysylltiedig.

Grant Adfer Diwylliannol

18 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid Grant Adfer Diwylliannol ar gyfer sefydliad yng Nghymru.

Y Gronfa Adferiad Diwylliannol

14 Ionawr 2021

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno i Gyllid y Gronfa Adferiad Diwylliannol i sefydliad yng Nghymru.

Manyleb a Chanllawiau y Rhaglen Dysgu yn Seiliedig ar Waith

14 Ionawr 2021

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar ddiweddariadau i Fanyleb a Chanllawiau y Rhaglen Dysgu yn Seiliedig ar Waith i ganiatáu eithriadau cymhwysedd i daliadau cymhelliant cyflogwr i recriwtio prentisiaid.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio

14 Ionawr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-gyflwyno llacio dros-dro i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio (ar gyfer plant hyd at 12 oed) i bob darparwr gofal plant cofrestredig tan 30 Mehefin 2021.  Mae’r llacio dros dro yn gysylltiedig â safonau penodol sy’n cael eu pennu o fewn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio i blant hyd at 12 mlwydd oed ac mae yn ymateb i Covid-19.  Bydd unrhyw lacio yn cael ei gyfyngu i ganllawiau Llywodraeth Cymru, ac yn amodol ar gymeradwyaeth yr awdurdod lleol fesul achos.

Cronfa Band Eang Lleol

14 Ionawr 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cynlluniau Cyfalaf a Refeniw y Gronfa Band Eang Lleol ar gyfer Cyfnod 1 ac i ymestyn cyfnod y gronfa i gynnwys blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Cymorth ar gyfer ymchwil

14 Ionawr 2021

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i gyllideb o £2 filiwn yn gysylltiedig â chais i gystadleuaeth ‘Strength in Places’ Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

Cymorth ar gyfer dysgu o dan arweiniad yr undebau

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni Blwyddyn 3 Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a TUC Cymru. 

Grant Tai Cymdeithasol

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog Tai Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyraniad Grant Tai Cymdeithasol 2020 i 2021 a dyrannu cyllid i Grŵp Pobl.  

Prosiect deuoli yr A465

14 Ionawr 2021

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i daliad iawndal i fusnes a chaffael eiddo.

Adfer benthyciad

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidaeith wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer setliad/adferiad rhannol o gronfeydd benthyciad masnachol sy’n weddill o weinyddiaeth cwmni o Dde Cymru.

Parc Busnes Clawdd Offa

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidaieth a Gogledd Cymru wedi cytuno i adeiladu a lesio adeilad newydd ym Mhowys.

Cymorth Dysgu Ychwanegol

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gyllid ar gyfer Cymorth Dysgu Ychwanegol i gefnogi dysgwyr yng Nghymru sy’n defnyddio darpariaeth ddydd mewn sefydliadau addysg bellach yn Lloegr.

Y Grant Cymorth Tai

14 Ionawr 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar ddyraniad dangosol y Grant Cymorth Tai i Gyngor Abertawe ar gyfer 2021-2022. Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y dyraniadau dangosol ar gyfer yr awdurdodau lleol eraill.

Y Gronfa Gofal Integredig

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid o hyd at £40 miliwn o dan y Gronfa Gofal Integredig ar draws ardaloedd y byrddau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer 2021-2022.  

Y Gronfa Gofal Integredig

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid o dan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gogledd Cymru, Gorllewin Morgannwg a Gorllewin Cymru.

Gwaith ychwanegol i helpu i Ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol 2020-2021 i ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel.

Canolfan Cymru ar gyfer tystiolaeth coronafeirws

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno i sefydlu canolfan ar gyfer tystiolaeth coronafeirws i Gymru, a fydd yn darparu rhaglen − penodol i Gymru − o waith ymchwil a gwaith i gyfuno tystiolaeth a defnyddio gwybodaeth er mwyn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a’r anghenion brys sy’n codi yn sgil pandemig y coronafeirws.   

Cyfarwyddyd gyrfaoedd

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ddod â Chynllun Peilot Gatsby i ben ar 31 Rhagfyr yn unol â’r bwriad gwreiddiol, ac y dylai Gyrfa Cymru fynd ati i ddatblygu Dyfarniad Ansawdd newydd ar gyfer cyfarwyddyd da ar yrfaoedd mewn ysgolion, gan fynd ati hefyd i ddatblygu proses ar gyfer cyflwyno’r dyfarniad hwnnw ar draws Cymru.    

Y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar y taliadau sydd i’w rhyddhau ar gyfer y rhaglen Entrepreneuriaeth a Chyflawni yn y blynyddoedd ariannol 2020-2021, 2021-2022, 2022-2023 a 2023-2024.

Y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

14 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i lansio’r ymgynghoriad ar y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon i Gymru ym mis Ionawr 2021.

Cymorth i ddarparu addysg yn y sector nas cynhelir

14 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar gyllid grant i helpu i ddarparu addysg yn y sector nas cynhelir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-2022.

Rheoleiddio nwyon Osȏn a nwyon wedi’u Fflworeiddio

12 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Cytundeb Fframwaith Amlinellol dros dro a’r Concordat cysylltiedig dros dro sy’n pennu y llywodraethu hirdymor i reoleiddio sylweddau gostwng Osȏn a nwyon tŷ gwydr wedi’u Fflworeiddio ledled Prydain Fawr.

Rheoli llygredd diwydiannol

12 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Cytundeb Fframwaith Amlinellol dros dro a’r Concordat cysylltiedig dros dro sy’n pennu y llywodraethu hirdymor i gefnogi’r broses o osod y Dulliau Gorau sydd ar gael i reoli llygredd diwydiannol ledled y Deyrnas Unedig.

Cyllideb Cydraddoldeb a Chydlyniant

12 Ionawr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllideb Cydraddoldeb a Chydlyniant ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Adolygu cyllid Chwarae Teg

12 Ionawr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi cytuno ar wariant i gynnal adolygiad gwerth am arian annibynnol ar gyfer cyllid craidd Chwarae Teg.

Cynllun Cymunedau Treth Gwaredu Tirlenwi

12 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gwmpas yr adolygiad o’r Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i’w gynnal gan sefydliad allanol; ac i ymestyn y contract presennol gyda Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal y cynllun am 24 mis pellach.

Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon

12 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno i gyllid ar gyfer y Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Addysg Bellach ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022.

Bargen Twf y Gogledd

12 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno’r Cytundeb Bargen llawn ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

Y Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg

12 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg am 12 mis arall, hyd at fis Mawrth 2022, ac i gwmpasu a datblygu rhaglen ariannu ar gyfer y dyfodol.

Cyllid camddefnyddio sylweddau

11 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg wedi cymeradwyo dyraniadau dangosol y cyllidebau Camddefnyddio Sylweddau refeniw a chyfalaf, yn sgil cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2020.

Caffael Bysiau Allyriadau Isel Iawn

11 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i sicrhau bod cyllid ar gael i Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer prynu 8 bws allyriadau isel iawn, a’r cyfarpar cysylltiedig ar gyfer gwefru cerbydau, i’w defnyddio ar lwybr teithio TrawsCymru T1.

Cymorth busnes

11 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi cyllid  o Gronfa Dyfodol yr Economi i brosiect yn Sir y Fflint.

Cyllid y Grant Adfer Diwylliannol

7 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid Grant Adfer Diwylliannol ar gyfer 3 sefydliad.

Cyllid y Grant Adfer Diwylliannol

7 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cytuno ar gyllid Grant Adfer Diwylliannol ar gyfer 2 sefydliad.

Yr Is-adran Dysgu Digidol

7 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer chwe swydd newydd, a recriwtiwyd yn allanol, am gyfnod penodol o ddwy flynedd ar gyfer yr Is-adran Dysgu Digidol.

Cymeradwyaeth fenthyca

7 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Llandeilo Fawr.

Gweledigaeth strategol Gyrfa Cymru

7 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gweledigaeth strategol 2021 i 2026 ar gyfer 'Dyfodol Mwy Disglair' Gyrfa Cymru.

Yr Asiantaeth Ewropeaidd dros Anghenion Arbennig

7 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i adnewyddu aelodaeth Cymru o'r Asiantaeth Ewropeaidd dros Anghenion Arbennig ac Addysg Gynhwysol ar gyfer 2021.

Polisi Cynllunio Cymru

7 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gyhoeddi Argraffiad 11 o Bolisi Cynllunio Cymru ochr yn ochr â Cymru’r Dyfodol : Cynllun Cenedlaethol 2040 a dirymu Nodyn Cyngor Technegol 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Nodyn 8: Nodyn 8: Cynllunio ar gyfer Adnewyddadwy ar yr un dyddiad ag y cyhoeddir y ddwy ddogfen.

Astudiaeth ddichonoldeb carbon isel

7 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2020 i 2021 i Gyngor Sir Ynys Môn, i gefnogi astudiaeth ddichonoldeb carbon isel.

Cyllid ysgogi economaidd

7 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu cyllid yn 2020 i 2021 i Gyngor Gwynedd, er mwyn cynyddu cadernid canolfannau masnachol yng Ngwynedd.

Y Gronfa Gofal Integredig

7 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog  Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg wedi cytuno i ddyrannu'r £89 miliwn i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol drwy'r Gronfa Gofal Integredig ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022, ac na fydd y Gronfa bellach yn ariannu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru o ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd y cyfrifoldeb dros y cyllid hwn, a £2 filiwn ychwanegol, yn dod o'r Rhaglen Trawsnewid.

Cyllid Hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru

7 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyraniadau darparwyr Hyfforddeiaethau a Thwf Swyddi Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022

Mynediad at brosiect Bocs Bwyd Da

7 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i gefnogi pum ysgol ar draws ardal Parc Rhanbarthol y Cymoedd i gael mynediad at brosiect Bocs Bwyd Da.

Cyllid y Rhyngrwyd Pethau

6 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo dyrannu gwerth £100,000 o seilwaith ddigidol i bob awdurdod unedol yn rhanbarth y Canolbarth a’r De Orllewin.

Cronfa Busnesau Bychan y Canolbarth a’r De Orllewin

6 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cytuno i sefydlu Cronfa Busnesau Bychan i ddarparu buddsoddiad i bob un o’r chwe awdurdod unedol yn rhanbarth y Canolbarth a’r De Orllewin.

System TGCh i gefnogi’r sector sgiliau ôl-16

6 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o £381,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022, i ariannu penodi contractwyr TG arbenigol i gyflawni’r rhaglenni Etifeddiaeth Cyflogadwyedd, y Rhaglen Twf Swyddi Cymru a Mwy a’r Rhaglen ReAct a Mwy.

Cwricwlwm Cymru

6 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar y dull gweithredu a gynlluniwyd ar gyfer cynnal ymgyngoriadau ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer Cwricwlwm Cymru a’r amserlen a gytunwyd ar gyfer diweddaru’r Fframwaith.

Benthyciadau Canol Trefi at ddefnydd awdurdodau lleol

6 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar alwad agored ar gyfer Cyfalaf Benthyciadau Canol Trefi at ddefnydd pob awdurdod lleol ar draws Cymru.

Bargen Twf Canolbarth Cymru

6 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cytuno ar drefniadau cyllid a phenawdau’r telerau ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

6 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Patsy Roseblade fel Aelod Cyllid Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am 4 blynedd o 1 Mawrth 2021 tan 28 Chwefror 2025.

Ailbenodiadau i Addysg a Gwella Iechyd Cymru 

6 Ionawr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Dr Ruth Hall (ailbenodiad 3 blynedd o 01 Chwefror 2021 tan 31 Ionawr 2024), Gill Lewis (ailbenodiad 4 blynedd o 01 Chwefror 2021 tan 31 Ionawr 2025) a’r Athro Ceri Phillips (ailbenodiadau 4 blynedd o 01 Chwefror 2021 tan 31 Ionawr 2025) fel Cyfarwyddwyr Anweithredol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

5 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwerthuso ac i gefnogi rheolwyr cynlluniau i sefydlu cynlluniau o dan y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2021 i 2022. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cytuno ar grant i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer Partneriaethau Natur Lleol i weithredu ar yr un rhaglen tan fis Mawrth 2021.

Partneriaethau Natur Lleol

5 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer Partneriaethau Natur Lleol yn 2021 i 2022.

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

5 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno ar drefniadau i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hwyluso a chyflenwi Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2021 i 2022.

Y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

5 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau â'r trefniadau presennol gyda phartneriaid cyflenwi cyfredol am flwyddyn ac wedi cytuno ar gyllid o £1.8 miliwn ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus yn 2021 i 2022.

Y Cynllun Gweithredu ar Allforio

5 Ionawr 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid i gyflawni'r Cynllun Gweithredu ar Allforio o'r flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer Uned Gyflawni Cyllid GIG Cymru

5 Ionawr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid pellach ar gyfer Uned Gyflawni Cyllid GIG Cymru i wella ei chefnogaeth i ddatblygu a gweithredu Gofal Iechyd ar sail Gwerth, ailgyfeirio ffocws y Fframwaith Effeithlonrwydd a pharhau i ddatblygu ei swyddogaeth cefnogi a herio o fewn GIG Cymru.

Cyllideb Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

5 Ionawr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi cytuno ar y Gyllideb ddangosol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.