Cylch gorchwyl ac aelodaeth
Crynodeb o ddiben y fforwm.
Cynnwys
Diben
- Mae'r Fforwm Gofal Cymdeithasol ('y fforwm') yn grŵp partneriaeth gymdeithasol teirochrog sydd wedi ymrwymo i ymwreiddio gwaith teg, a gwella telerau ac amodau i'r rheini sy'n gweithio yn y sector gofal Cymdeithasol.
- Nod y fforwm yw galluogi cynrychiolwyr undebau llafur, cyflogwyr, rhanddeiliaid, a Llywodraeth Cymru i gydweithio i ddylanwadu ar flaenoriaethau a pholisïau cenedlaethol mewn perthynas â Gwaith Teg yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Bydd y grŵp yn mynd ati i gyfuno uchelgais â phragmatiaeth er mwyn gweithredu newidiadau ymarferol.
Egwyddorion
- Un o egwyddorion sylfaenol y fforwm yw cydnabod bod gwella canlyniadau gwaith teg yn gwella bywydau gweithwyr ac ansawdd y ddarpariaeth gofal, yn ogystal â chryfhau gwydnwch hirdymor y sector trwy ei gynorthwyo i recriwtio, datblygu a chadw gweithwyr ymroddedig, medrus, a brwdfrydig. Mae gwasanaethau gofal yn rhan greiddiol o economi sylfaenol Cymru sy'n gwneud ein cymunedau'n gryfach ac yn fwy gwydn.
- Mae pandemig Covid-19 wedi taflu goleuni ar y rôl hanfodol y mae gweithwyr allweddol, gan gynnwys y rheini mewn gofal cymdeithasol, yn ei chwarae yn ein cymdeithas. Mae hyn wedi arwain at ddiddordeb cyhoeddus o'r newydd mewn sicrhau bod cyflog, sicrwydd, ac amodau gwaith y gweithwyr hynny'n adlewyrchu'n fwy cywir y gwerth y mae cymdeithas yn ei roi ar eu gwaith. Bydd y fforwm yn adeiladu ar ddiddordeb cynyddol y cyhoedd yn y sector gofal cymdeithasol, a bydd yn helpu i gynnal barn gyhoeddus gadarnhaol tuag at bwysigrwydd gwerthfawrogi ei weithlu.
Bydd y fforwm yn gweithio'n unol â'r diffiniad o waith teg, a'r chwe nodwedd fel y'u nodir yn adroddiad 2019 y Comisiwn Gwaith Teg, Gwaith Teg Cymru:
- tâl a buddion teg
- llais y gweithwyr a chynrychiolaeth gyfunol
- sicrwydd a hyblygrwydd
- cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a datblygiad
- amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
- hawliau cyfreithiol sy'n cael eu parchu, ac sy'n cael effaith wirioneddol
Mae hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn hollbwysig i’r chwe nodwedd.
- Bydd y fforwm yn canolbwyntio ar weithredu a datrys.
Cylch gwaith
- Bydd y fforwm yn cyflawni'r cyfrifoldebau canlynol:
- nodi materion gwaith teg penodol yn y sector gofal cymdeithasol y gallai fod angen rhoi sylw brys iddynt
- nodi materion gwaith teg penodol o fewn y sector gofal cymdeithasol y gallai fod angen rhoi sylw iddynt yn y tymor canolig i'r tymor hirach, er mwyn sicrhau bod y sector yn fwy cynaliadwy
- defnyddio profiad a dealltwriaeth yr aelodau ar y cyd i nodi ffyrdd o weithredu gwaith teg mewn cyd-destun gofal cymdeithasol, gan gynnwys o ran cyflogau, amodau gwaith, a llais a hyfforddiant y gweithwyr
- cyflawni rôl arwain wrth nodi a rhannu'r arferion gorau mewn perthynas â gwaith teg ar draws y sector gofal cymdeithasol
- cytuno ar gynllun gwaith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sy'n gallu cyflawni camau gweithredu ymarferol yn ei flwyddyn gyntaf
- Wrth gyflawni'r cyfrifoldebau uchod, bydd y fforwm yn ymwybodol o waith ehangach, gan gynnwys y gwaith a wneir gan rwydweithiau eraill sydd eisoes wedi'u sefydlu i ystyried comisiynu gwasanaethau a thalu am ofal. Bydd y rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Talu am Ofal, Agenda ar gyfer Newid, a'r Cyd-gyngor Cenedlaethol.
- Ni fydd y fforwm yn dyblygu nac yn torri ar draws gweithgarwch presennol, ond bydd yn cysylltu ag ef, yn enwedig o ystyried y rhyngberthynas rhwng comisiynu, talu am ofal, a'r potensial ar gyfer amodau gwaith gwell a fforddiadwyedd.
- Bydd y fforwm yn cyflawni'r cylch gwaith uchod yng nghyd-destun canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol cyflogedig yn y sectorau cyhoeddus, preifat, a'r trydydd sector.
- I ddechrau, bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol, ond bydd ei ystyriaethau hefyd yn ymestyn i gynnwys y sector cyhoeddus.
- Bydd y fforwm yn cymryd gofal i beidio â thorri ar draws y cytundebau bargeinio ar y cyd sydd ar waith ar y pryd.
Aelodaeth
- Fel fforwm teirochrog, bydd yr aelodaeth yn cynnwys i) Llywodraeth Cymru ii) partneriaid cymdeithasol sy'n cynrychioli undebau llafur a iii) partneriaid cymdeithasol sy'n cynrychioli cyflogwyr fel y nodir isod [gwahoddedigion]:
Llywodraeth Cymru:
Swyddogion perthnasol.
Undebau llafur:
- GMB (Cyffredinol Trefol a Berwedyddwyr).
- Unsain.
- RCN (Y Coleg Nyrsio Brenhinol).
- TUC (Cyngress yr Undebau Llafur) Cymru.
Cyflogwyr:
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
- Fforwm Gofal Cymru.
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS).
- Y Fforwm Darparwyr Cenedlaethol.
Arall:
Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gall aelodau'r fforwm fod â rôl ddeuol fel rhan o'u hymarfer gweithredol, er enghraifft, mae CLlLC ac ADSS yn cynrychioli awdurdodau lleol fel cyflogwyr, ond mae awdurdodau lleol hefyd yn comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
- Bydd aelodau'r fforwm yn ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu cynhwysfawr â'r rhan o'r sector y maent yn ei gynrychioli. Disgwylir iddynt wneud y canlynol:
- nodi eu rôl fel sefydliad yn y sector gofal cymdeithasol a'u cysylltiadau â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn y sector
- cyfathrebu diweddariadau am waith y Fforwm yn rheolaidd i'w haelodau, a'r rhan ehangach o'r sector y maent yn ei gynrychioli
- ymgysylltu'n weithredol â'u rhwydweithiau er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen waith y fforwm
- dod ag gwybodaeth i'r fforwm i lywio ei benderfyniadau
- Bydd disgwyl i aelodau'r fforwm ymrwymo eu hamser, nid yn unig i fynychu cyfarfodydd, ond i weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â rhaglen waith y fforwm y tu allan i gyfarfodydd.
- Mewn amgylchiadau lle na all unigolyn fynychu cyfarfod penodol – mae'n dderbyniol iddo gynnig dirprwy priodol a enwebwyd ymlaen llaw i fynychu ar ei ran.
- Yn ogystal â'r uchod, bydd pobl nad ydynt yn aelodau yn cael eu cyfethol i ddarparu arbenigedd i'r fforwm ar gyfer cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd fel y bo'n briodol, yn ôl yr hyn a benderfynir gan y fforwm. Gallai hynny gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac o bosibl ymgysylltu â dinasyddion.
- Bydd yr aelodaeth yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y fforwm i sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn briodol.
- Bydd cadeirydd annibynnol yn cael ei ddewis a'i benodi gan y fforwm. Os nad yw'r cadeirydd yn gallu mynychu cyfarfod, fel trefniadau interim, gall y fforwm ddewis cytuno y bydd aelod yn cadeirio. Os nad yw hyn yn bosibl (er enghraifft oherwydd byr rybudd), gall Llywodraeth Cymru weithredu fel cadeirydd dros dro.
- Bydd y cadeirydd yn cael ei benodi am dymor o dair blynedd, a bydd yn gymwys i gael ei ailbenodi. Bydd y fforwm yn adolygu penodiad y cadeirydd bob blwyddyn fel rhan o'i adolygiad o'r aelodaeth. Mae'r fforwm yn cadw'r hawl i symud y cadeirydd o'i swydd, neu ei ddisodli, trwy gonsensws os bydd angen.
Cyfarfodydd a dulliau gweithio
- Bydd y fforwm yn cyfarfod yn fisol i ddechrau er mwyn sefydlu ei hun a'i raglen waith, ac yna bydd amlder y cyfarfodydd yn dychwelyd i bob yn ail fis fel trefn arferol. Bydd amlder cyfarfodydd yn parhau i fod yn hyblyg, gan y gallai fod angen i'r fforwm adlewyrchu pwysau uniongyrchol.
- O ran cael cworwm ar gyfer cyfarfod, rhaid bod o leiaf un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, y cyflogwyr, a'r undebau llafur yn bresennol.
- Gellir cynnal cyfarfodydd rhithwir. Wrth gynnal cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, bydd yr holl gostau teithio a llety sy'n gysylltiedig â chyfarfodydd y fforwm yn cael eu talu gan yr aelod-sefydliadau.
- Wrth bennu a chyflawni ei raglen waith, bydd y fforwm yn gweithredu mewn ffordd sy'n gyson â'r egwyddorion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), gan adlewyrchu'r egwyddorion hynny.
- Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm, i drefnu cyfarfodydd, cylchredeg papurau, a darparu cofnod o drafodaethau a chamau gweithredu. Bydd papurau'n cael eu cylchredeg 7 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.
- Gall unrhyw aelod gyflwyno eitemau ar yr agenda i'w trafod yng nghyfarfodydd y fforwm.
- Bydd y fforwm yn adolygu hynt ei waith yn flynyddol i sicrhau bod ei raglen waith yn dal i fod yn berthnasol, a'i bod yn ymarferol ei gyflawni, a bod y fforwm yn ymgysylltu â grwpiau perthnasol.
- Bydd y fforwm yn anelu at ddod i benderfyniadau trwy gonsensws yn hytrach na thrwy bleidlais. Bydd angen datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod.
- Er mwyn hwyluso bod yn agored, rhaid trin trafodaethau yn y fforwm yn gyfrinachol, ac ni ddylid eu datgelu heb ganiatâd y fforwm. Gall dogfennau, gan gynnwys nodiadau cyfarfodydd, fod yn destun ceisiadau am wybodaeth a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan fydd ceisiadau o'r fath yn dod i law, bydd gweithdrefnau safonol rhyddid gwybodaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.
- O bryd i'w gilydd, bydd y fforwm yn rhoi adborth ar ei weithgareddau i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a grwpiau eraill, fel y bo'n briodol.
Atebolrwydd
- Mae'r fforwm yn cael ei gynnull gan Weinidogion Cymru, ac mae'n bosibl y bydd am wneud argymhellion iddynt. Hefyd, mae aelodau unigol y fforwm yn atebol i'w sefydliadau eu hunain, a bydd gan bob un eu trefniadau llywodraethu eu hunain ar waith mewn perthynas ag ystod o faterion, gan gynnwys gwneud penderfyniadau a llif gwybodaeth.
- Daw’r cylch gorchwyl hwn i rym yn syth ar ôl i’r fforwm gytuno arno. Gellir ei ddiwygio, ei amrywio neu ei addasu ar unrhyw adeg drwy gytundeb y fforwm.
