Neidio i'r prif gynnwy

1. Amcanion a methodoleg yr ymchwil

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau ymchwil a wnaed gan Wavehill ar ran Llywodraeth Cymru rhwng Gorffennaf a Hydref 2020. Comisiynwyd yr ymchwil i gasglu ynghyd y dystiolaeth sydd ar gael am waith ieuenctid yng Nghymru, ac i alluogi Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i bwyso a mesur y dystiolaeth gyfredol ac i lywio cyfeiriad strategol eu gwaith wrth iddynt weithio i gefnogi model darparu cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Wrth fwrw ati i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer gwaith ieuenctid, penododd Llywodraeth Cymru Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn 2018 a chyhoeddi Strategaeth Gwaith Ieuenctid lefel uchel ym mis Mehefin 2019. Er mwyn cefnogi ei gwaith parhaus yn y maes hwn, comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill i gynnal prosiect ymchwil ac iddo ddau amcan lefel uchel, sef yn benodol:

  • creu dealltwriaeth o ymyriadau gwaith ieuenctid effeithiol a’r dystiolaeth gyfredol am amrywiaeth ac ansawdd modelau gwaith ieuenctid sy’n bodoli ledled Cymru, gan gynnwys unrhyw rwystrau a chyfleoedd y dylid rhoi sylw iddynt.
  • hwyluso’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i greu theori newid a rennir ar gyfer y Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn seiliedig ar y ddealltwriaeth honno.

Methodoleg

Yn dilyn cyfres o gyfweliadau cwmpasu gyda rhanddeiliaid allweddol cytunwyd y dylid cynnal yr ymchwil hwn drwy ddefnyddio dulliau cymysg. Gan adlewyrchu’r angen i gydgrynhoi’r hyn a oedd eisoes yn hysbys yn y sector ac mewn llenyddiaeth ehangach ar waith ieuenctid, roedd yr astudiaeth wedi cyfuno mewnwelediadau o ymchwil desg â chanfyddiadau’r ymgynghoriadau â rhanddeiliaid y sector a chynrychiolwyr pobl ifanc. Roedd y tasgau allweddol wedi cynnwys:

  • cyfweliadau cwmpasu â 17 o randdeiliaid
  • cyfweliadau manwl â 60 o randdeiliaid eraill yn y sector a chynrychiolwyr pobl ifanc
  • tri gweithdy theori newid gydag aelodau’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth, a Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
  • dau weithdy theori newid gyda chynrychiolwyr pobl ifanc
  • adolygu llenyddiaeth sy’n berthnasol i’r prif themâu ymchwil
  • adolygu data am y sector a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru

Oherwydd pandemig COVID-19, cynhaliwyd yr holl gyfweliadau, gweithdai a chyflwyniadau o bell drwy ddefnyddio Microsoft Teams. Roedd pob elfen o’r ymchwil isod ar gael yn ddwyieithog. Mae copïau llawn o’r canllawiau trafod a ddefnyddid i hwyluso’r cyfweliadau hyn wedi’u cynnwys fel atodiad yn yr adroddiad ymchwil llawn.

2. Canfyddiadau ac argymhellion

Yr hyn y mae’r dystiolaeth gyhoeddedig yn ei ddweud wrthym am fuddion dull Gwaith Ieuenctid

Yn ôl ymchwil a gynhyrchwyd am Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, diffinnir y dull gwaith ieuenctid yn ôl pwrpas y gwaith a wneir gyda phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad cyfannol pobl ifanc ac ar eu cynnwys yn bartneriaid wedi’u grymuso.

Mae’r llenyddiaeth a adolygwyd yn dangos nad yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer buddion a manteision gwaith ieuenctid yn gryf iawn, yn enwedig mewn perthynas â gwaith ieuenctid a wneir yng Nghymru. Hyd yn ddiweddar, ni chafwyd llawer o ymchwil sydd wedi archwilio buddion y dull gwaith ieuenctid. Mae’r sylfaen dystiolaeth hon yn gwella, fodd bynnag, yn sgil cyhoeddi sawl astudiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys astudiaethau o ansawdd uchel a gomisiynwyd yn Iwerddon a’r Alban. Gwnaed llawer o’r ymchwil ddiweddar hon yn defnyddio methodolegau gwerthuso cyfranogol fel Gwerthuso Trawsnewidiol, sy’n defnyddio egwyddorion gwaith ieuenctid yn eu methodolegau. Nid oes sylfaen dystiolaeth debyg ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Cymru.

Mae’r sylfaen dystiolaeth sy’n codi o’r astudiaethau hyn mewn gwledydd eraill ar ei chryfaf wrth nodi’r canlyniadau meddal sy’n deillio o ymwneud â gwaith ieuenctid, gan gynnwys hunanhyder a meithrin perthnasoedd rhyngbersonol cadarnhaol, yn ogystal â thystiolaeth fod y canlyniadau meddal hyn yn cyfrannu at ganlyniadau ‘caletach’ i’r tymor hirach, gan gynnwys gwella cyfranogiad a chyrhaeddiad addysgol.

Cyfanswm, natur a chwmpas gwaith ieuenctid yng Nghymru

Canfu’r ymchwil hwn mai anghyson ac anghyflawn yw’r darlun am y ddarpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Yn sgil y gofynion adrodd ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid statudol, mae gennym ddarlun da o’r hyn a ddarperir gan ddarparwyr statudol yng Nghymru, ond llai o lawer yw’r wybodaeth sydd ar gael am y ddarpariaeth gan sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector.

Mae data am waith ieuenctid gan ddarparwyr statudol yn dangos bod tua 15% o bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru yn 2018/2019 yn aelodau cofrestredig o waith ieuenctid awdurdodau lleol. Mae’r ffigwr i lawr o 20% o’r holl bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru yn 2013/2014. Dengys y cyfweliadau â rhanddeiliaid fod y sector gwaith ieuenctid o’r farn fod hyn o ganlyniad i lai o gyllid a mwy o bwyslais ar waith ieuenctid sy’n fwy targededig. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth a yw’r lleihad yn y gwaith ieuenctid sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol wedi’i wrthbwyso gan gynnydd ymhlith darpariaeth wirfoddol a darpariaeth y trydydd sector.

Argymhelliad 1: O ystyried y diffyg gwybodaeth systematig am waith ieuenctid yng Nghymru, yn enwedig mewn cysylltiad â darpariaeth anstatudol, dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu cwmpas y data y mae’n ei gasglu am ddarpariaeth gwaith ieuenctid i gynnwys yr holl sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth gwaith ieuenctid gwirfoddol. Byddai hyn yn mynd y tu hwnt i’r wybodaeth bresennol y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi i Lywodraeth Cymru a byddai’n galluogi Llywodraeth Cymru i sefydlu i ba raddau y cyflawnir yr hawl gyffredinol i ddarpariaeth gwaith ieuenctid.

Mae cryn wahaniaethau rhwng awdurdodau lleol o ran faint o waith ieuenctid sy’n cael ei ddarparu, natur y ddarpariaeth honno, nifer y bobl sy’n ei defnyddio, a’r cyllid sydd ar gael i’w chefnogi.

Mae cryn amrywiaeth hefyd yng nghyfanswm y gwaith ieuenctid a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn genedlaethol, mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn nodi bod tua 17 y cant o’r prosiectau gwaith ieuenctid a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hynny, dengys ffigyrau rhanbarthol bod holl brosiectau gwaith ieuenctid yr awdurdod lleol yng Ngwynedd wedi’u cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2018/2019, tra na chafodd unrhyw brosiect ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir y Fflint yn ystod yr un cyfnod.

Yn ôl barn y sefydliadau gwaith ieuenctid yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod yr ymchwil hwn, mae gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol, nid yn unig oherwydd y gall gyfrannu at strategaethau cenedlaethol megis 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg', ond hefyd oherwydd bod ymgysylltu â phobl ifanc trwy eu dewis iaith yn hanfodol i’r fethodoleg gwaith ieuenctid. Gan mai data ar ddarpariaeth statudol yn unig sydd ar gael, a bod cryn dipyn o waith ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu gan bartneriaid y trydydd sector, mae’r prinder tystiolaeth sydd ar gael yn golygu na ellir cynnal asesiad cynhwysfawr i weld i ba raddau y gall pobl ifanc sy’n dymuno hynny ymgysylltu â gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg.

Argymhelliad 2: Dylai’r graddau y mae darpariaeth gwaith ieuenctid ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn rhan allweddol o’r broses casglu data a argymhellir yn Argymhelliad 1. Mae deall pa ddarpariaeth sydd ar gael a deall ymhle mae bylchau yn hanfodol i sefydlu pa gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau bod pob person ifanc sydd am gael mynediad at waith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny.

Heriau a chyfleoedd i waith ieuenctid yng Nghymru

Er mwyn llunio argymhellion i gael y Strategaeth Gwaith Ieuenctid i weithredu’n fodel darparu cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gofynnwyd i randdeiliaid am heriau, cyfleoedd a’u dyheadau ar gyfer y sector gwaith ieuenctid.

Nododd rhanddeiliaid mai’r brif her sy’n wynebu’r sector yw argaeledd cyllid i gefnogi gwaith ieuenctid yng Nghymru. Ar draws rhanddeiliaid statudol, gwirfoddol a’r trydydd sector, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf teimlir bod gofyn i sefydliadau gwaith ieuenctid wneud mwy gyda llai. Mae hyn oll wedi’i wneud yn waeth gan newidiadau diweddar i gyllid a chomisiynu ieuenctid, a rhanddeiliaid o’r farn ei fod wedi arwain at ddarparu gwaith ieuenctid sy’n canolbwyntio mwy ar ddarpariaeth wedi’i thargedu. Er bod tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod hon yn duedd a welir ledled Ewrop, roedd rhanddeiliaid o’r farn mai’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 oedd wedi ysgogi’r newid o gael gwaith ieuenctid yn mynd yn fwyfwy ynghlwm wrth ganlyniadau cyflogaeth. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a ganfu bod iteriad blaenorol Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014-2018 wedi canolbwyntio ormod ar ddarpariaeth wedi’i thargedu a darpariaeth yn gysylltiedig ag ysgolion. Y farn gyffredinol ymysg rhanddeiliaid oedd y gellid gwneud mwy i ddiogelu gwaith ieuenctid mynediad agored yn y strategaeth newydd.

Her arall a nodwyd gan randdeiliaid yw sicrhau bod llunwyr polisi a’r cyhoedd yn sylweddoli bod gwaith ieuenctid yn ddull gwerthfawr o weithio gyda phobl ifanc sydd angen sgiliau penodol gan weithlu proffesiynol. Nododd llawer o’r rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod yr ymchwil hwn y credid bod llunwyr polisi yn aml yn camddeall gwaith ieuenctid a bod hyn yn gysylltiedig â diffyg sylfaen dystiolaeth yn ymwneud ag effeithiau gwaith ieuenctid, yn enwedig elfennau mwy cyffredinol y ddarpariaeth nad ydynt yn gweithio tuag at ganlyniadau wedi’u diffinio ymlaen llaw.

Effaith COVID-19 ar y sector gwaith ieuenctid

Fel sawl sector arall yng Nghymru, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar waith ieuenctid. Awgryma’r dystiolaeth sydd ar gael fod gwaith ieuenctid wedi addasu’n dda i’r heriau a ddaeth yn sgil COVID-19, ond bod effaith y pandemig a’r tarfu economaidd dilynol yn debygol o arwain at heriau hirdymor. Mae’n bosib y bydd yn rhaid integreiddio’r mathau presennol o ddarparu digidol i fodelau gwasanaeth yn dibynnu ar unrhyw gyfyngiadau posibl yn y dyfodol oherwydd COVID-19. Mae tystiolaeth yn datblygu hefyd y bydd gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid eraill yn gweld nifer uwch o heriau mwy cymhleth mewn pobl ifanc, yn enwedig ym maes iechyd meddwl. Bydd hi’n bwysig ystyried hyn wrth ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Nododd llawer o’r sefydliadau gwaith ieuenctid yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod yr ymchwil hwn fod y pandemig yn gyfle i ymgorffori mathau o weithio digidol integredig yn fwy effeithiol, ac i gydweithio â gwasanaethau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Er bod COVID-19 wedi achosi cau darpariaeth gwasanaeth ieuenctid neu ei symud ar-lein, dywedodd llawer o randdeiliaid fod gweithwyr ieuenctid wedi mynd ati i ymwneud mwy â darparu gwasanaethau eraill. Dywedodd rhai rhanddeiliaid fod hyn wedi hysbysebu buddion y dull gwaith ieuenctid i randdeiliaid eraill nad oeddynt o bosibl yn gwbl ymwybodol o’r hyn ydyw a’r hyn y gall ei gynnig. Fodd bynnag, er gwaethaf y farn gadarnhaol ynghylch pa mor llwyddiannus yr oedd y sector wedi addasu i ffyrdd newydd o weithio yn ystod pandemig COVID-19, soniodd y mwyafrif o’r rhanddeiliaid am y perygl y gallai darpariaeth ddigidol gael ei normaleiddio fel y model safonol o ddarparu gwaith ieuenctid, yn hytrach na rhywbeth sydd yn ategu’r modelau presennol o ddarpariaeth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Barn y sector ynghylch sut y gellir cyflawni’r strategaeth gwaith ieuenctid

Cwmpas y strategaeth

Codwyd peth pryder gan randdeiliaid nad oedd gwaith ieuenctid wedi’i wahaniaethu’n ddigonol oddi wrth ffyrdd eraill o weithio gyda phobl ifanc mewn strategaethau blaenorol. Yn benodol, mae argraff ei fod wedi’i gynnwys gyda ‘gwasanaethau cymorth ieuenctid’ eraill er nad yw’r rheiny yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr un modd. Y farn a gafwyd gan randdeiliaid oedd bod gwaith ieuenctid yn canolbwyntio ar ddatblygiad cyfannol pobl ifanc ac yn dibynnu ar bobl ifanc yn ymgysylltu o’u gwirfodd ac wedi’u grymuso i gyfranogi. Mae Ffigwr 2.1 yn dangos ymatebion rhanddeiliaid pan ofynnwyd iddynt ddiffinio gwaith ieuenctid. Roedd rhanddeiliaid yn gyffredinol o’r farn fod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yn ddigonol i ddiffinio gwaith ieuenctid, er bod rhai rhanddeiliaid a chynrychiolwyr pobl ifanc wedi awgrymu bod ‘dinasyddiaeth weithgar’ ac ‘addysg wleidyddol’ yn rhannau pwysig o waith ieuenctid nad ydynt wedi’u cynnwys yn y diffiniad ar hyn o bryd.

Image
Cwmwl geiriau sy'n dangos barn rhanddeiliaid am y diffiniad o waith ieuenctid

O gofio pwysigrwydd ymgysylltu gwirfoddol a datblygiad cyfannol pobl ifanc, nododd rhanddeiliaid y dylai gwaith ieuenctid cyffredinol mynediad agored fod yn fwy canolog i’r strategaeth. I adlewyrchu hyn, mae dadl dros gynnal mwy o ymchwil i archwilio effaith gwaith ieuenctid mynediad agored mewn cymunedau, yn enwedig o ran ei gyfraniad i amcanion meysydd blaenoriaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Ffyniant i Bawb.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried comisiynu ymchwil i’r cyfraniad y mae gwaith ieuenctid cyffredinol mynediad agored yn ei wneud. Dylai ddefnyddio’r sylfaen dystiolaeth hon i gyfiawnhau ac ailasesu gwariant yn y maes hwn.

Os yw gwaith ieuenctid, fel yr awgryma’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid lefel uchel, yn cael ei ystyried yn hawl gyffredinol i bobl ifanc, dylai Llywodraeth Cymru weithio i sefydlu gwasanaeth ieuenctid sydd ar gael ac yn hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru. Roedd rhan fwyaf y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â nhw o’r farn y gellid gwneud hyn drwy well clustnodi ar gyllid sydd ar gael i waith ieuenctid mynediad agored neu sefydlu safonau gofynnol ar gyfer yr hyn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu, naill ai trwy wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol neu ddarparwyr y trydydd sector.

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried mesurau i sicrhau bod cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol mynediad agored cyson ar gael ledled y wlad. Gallai mesurau gynnwys clustnodi cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid mynediad agored yn y cyllidebau gwaith ieuenctid craidd a roddir i awdurdodau lleol neu sefydlu dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod darpariaeth gwaith ieuenctid ddigonol ar gael i bobl ifanc yn eu hardal.

Er bod ysfa i sicrhau mwy o ymrwymiad i waith ieuenctid mynediad agored fel hawl gyffredinol, sylweddolai rhanddeiliaid bod angen integreiddio’r ddarpariaeth mynediad agored â darpariaeth arall, gan gynnwys gwaith ieuenctid wedi’i dargedu a gwasanaethau cymorth eraill i bobl ifanc. Mae angen mwy o dystiolaeth i ddatblygu gwell dealltwriaeth o lwybrau i ddarpariaeth arall o’r gwaith ieuenctid mynediad agored, a’r ffordd orau o integreiddio gwaith ieuenctid i wasanaethau eraill sydd ar gael i bobl ifanc.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried comisiynu ymchwil i ddeall llwybrau i bobl ifanc o waith ieuenctid i fathau eraill o gefnogaeth a sut y gall gwaith ieuenctid weithio’n agos gyda darpariaeth sydd wedi’i thargedu’n fwy penodol.

Llywodraethu ac Arweinyddiaeth

Roedd y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod yr ymchwil hwn yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch rôl y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r strategaeth newydd. Ystyrir bod y strategaeth newydd yn ‘gam i’r cyfeiriad cywir’ a bod sefydlu’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn ymrwymiad i archwilio ffyrdd mwy cydweithredol o weithio er budd y sector. Fodd bynnag, cododd rhanddeiliaid bryderon y gellid colli momentwm pe deuai gwaith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro i ben. Mynegwyd cefnogaeth gref i’r syniad o wneud rôl y Bwrdd yn barhaol.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwneud rôl y Bwrdd yn barhaol neu ei benodi am gyfnod hirach er mwyn parhau i roi mewnbwn i ddatblygiad y strategaeth gwaith ieuenctid.

Awgrymodd rhanddeiliaid hefyd mai un o broblemau strategaethau gwaith ieuenctid yn y gorffennol oedd na fu digon o adnoddau i gefnogi eu rhoi ar waith. Ystyrir bod unioni hyn yn rhan hanfodol o ddatblygu model darparu mwy cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru ac fe’i nodwyd yn flaenoriaeth ar gyfer datblygu model mwy cynaliadwy o ddarparu gwaith ieuenctid. Nodwyd bod ymchwil eisoes wedi’i gynnal ynghylch sut y gellid datblygu corff cenedlaethol i gynrychioli gwaith ieuenctid ac mae hwn yn dal i fod yn fan cychwyn da ar gyfer meddwl sut i gyflawni hyn.

Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ymchwil blaenorol wrth ystyried model darparu ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol yng Nghymru. Dylai ystyried cefnogi datblygu corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Dylai ystyried sut mae darparwyr statudol a gwirfoddol yn cael eu cynrychioli a sicrhau bod llais ieuenctid yn ganolog i’w waith. Mae’n bwysig fod beth bynnag a ddatblygir yn rhywbeth sy’n benodol i anghenion y sector yng Nghymru.

Er y nodwyd y dylai cydlynu a chefnogaeth genedlaethol fod yn flaenoriaeth i fodel newydd darparu gwaith ieuenctid, eto ystyrir bod y ffocws presennol ar ddarpariaeth leol yn gryfder allweddol yn y model sy’n bodoli ar hyn o bryd. Credir bod gwybodaeth leol dda gan wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a sefydliadau darparu gwaith ieuenctid y trydydd sector, a hynny ar ôl cronni blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio gyda chymunedau yn eu hardal, ac mae’n bwysig nad yw hyn yn cael ei golli. Fodd bynnag, mae argraff, ers diwedd partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, fod y cydlynu ar ddarpariaeth leol wedi bod yn llai effeithiol nag y gallai fod. Yn benodol, ystyrir y gellid gwella’r cydlynu rhwng awdurdodau lleol a darparwyr y trydydd sector, ynghyd â gwella’r cydlynu rhwng sefydliadau gwaith ieuenctid a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau cymorth i bobl ifanc. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr y trydydd sector a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill, i nodi’r strwythurau gorau ar gyfer cefnogi cydgysylltu gwaith ieuenctid yn lleol.

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut orau i gefnogi’r cydlynu ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid, a’r cydlynu rhwng gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid eraill, ar lefel awdurdod lleol. Dylai’r strwythurau partneriaeth hyn gofleidio rôl sefydliadau gwirfoddol fel partneriaid darparu i gydweithio gydag awdurdodau lleol.

Rôl pobl ifanc wrth weithredu’r strategaeth

Yn olaf, i gyd-fynd ag ymagwedd hawliau plant i waith ieuenctid a amlinellir yn y strategaeth, roedd consensws ymhlith rhanddeiliaid ei bod yn bwysig i leisiau pobl ifanc fod yn amlwg wrth gyflawni’r strategaeth gwaith ieuenctid newydd. Mae egwyddorion cyfranogi ac atebolrwydd yn rhannau pwysig o’r ymagwedd hawliau plant, ac roedd rhanddeiliaid a phobl ifanc fel ei gilydd o’r farn y gellid gwneud mwy i sicrhau bod llunwyr polisi a rhanddeiliaid yn atebol i bobl ifanc ac y dylid eu cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch sut mae gwaith ieuenctid yn cael ei ddylunio a’i ddarparu.

Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut mae llais ieuenctid yn cael ei gynnwys mewn strwythurau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys lleisiau pobl ifanc yn y strwythurau llywodraethu ar lefel awdurdodau lleol. Dylid deall Argymhellion 1 i 8 yng nghyd-destun Argymhelliad 9, a dylid plethu llais ieuenctid i bob lefel o gynllunio a darparu gwaith ieuenctid yng Nghymru.

3. Theori newid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Gan adeiladu ar ganfyddiadau a chasgliadau’r ymchwil a amlinellwyd uchod, mae’r adroddiad yn cyflwyno theori newid ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae’r theori newid hon yn seiliedig ar gyfweliadau ag aelodau’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a rhanddeiliaid y sector, yn ogystal â chyfres o weithdai theori newid gydag aelodau’r Bwrdd a chynrychiolwyr pobl ifanc.

Trwy gydol yr ymchwil, mynegwyd pryder gan randdeiliaid y gallai datblygu theori newid a dangosyddion cysylltiedig gynyddu’r baich ar sefydliadau gwaith ieuenctid i gasglu data am y bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw ac i roi ffocws ar gyflawni canlyniadau penodol. I adlewyrchu hyn, mae’r theori newid wedi’i strwythuro i ddangos bod gan wahanol randdeiliaid gyfrifoldeb am wahanol rannau o’r theori newid a bod ganddynt flaenoriaethau cyferbyniol wrth geisio deall y gwahaniaeth y mae gwaith ieuenctid yn ei wneud.

Mae’r theori newid, felly, wedi’i gyflwyno mewn pedair rhan, a gwahanol randdeiliaid yn gyfrifol am bob un:

  • galluogwyr strategaeth a pholisi yn cyfrannu at arlwy gwaith ieuenctid o ansawdd uchel yng Nghymru (cyfrifoldeb llunwyr polisi fel Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Gwaith Dros Dro Ieuenctid yw deall effeithiolrwydd hyn fel cynrychiolwyr rhanddeiliaid)
  • ymarfer gwaith ieuenctid a’r canlyniadau tymor byr i bobl ifanc sy’n deillio ohono (cyfrifoldeb sefydliadau sy’n darparu gwaith ieuenctid yw hyn)
  • canlyniadau hirdymor i bobl ifanc sy’n deillio o waith ieuenctid (cyfrifoldeb rhanddeiliaid y sector yw hyn, megis y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro)
  • cyfraniad gwaith ieuenctid at amcanion polisi Llywodraeth Cymru (cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn)

Yn seiliedig ar yr ymchwil a gweithdai theori newid, nodwyd y gweithgareddau canlynol yn flaenoriaethau i gefnogi model darparu gwaith ieuenctid mwy cynaliadwy.

  • Cryfhau sail ddeddfwriaethol gwaith ieuenctid, a hynny’n golygu clustnodi cryfach ar gyllid i waith ieuenctid mynediad agored neu sefydlu safonau digonol i waith ieuenctid y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu cyflawni.
  • Parhau i ddarparu arweinyddiaeth gref a chydlynol ar gyfer gwaith ieuenctid trwy ffurfio corff cynrychioliadol cenedlaethol a gwneud rôl y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn barhaol.
  • Sicrhau mwy o gydlynu ar waith ieuenctid yn genedlaethol, trwy ddatblygu corff cenedlaethol i gynrychioli gwaith ieuenctid, a hwnnw’n cynrychioli’r sector a gynhelir, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol. Gallai’r corff hwn gefnogi comisiynu darpariaeth gwaith ieuenctid, sicrhau ansawdd, datblygu’r gweithlu, a sicrhau cyllid o ffynonellau allanol.
  • Meithrin mwy o gydweithio mewn partneriaeth a chydlynu rhwng sefydliadau darparu lleol, gan adeiladu ar gryfderau’r model darparu cyfredol a sicrhau mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol a’r trydydd sector mewn ardaloedd lleol.
  • Recriwtio gweithlu sy’n gynrychioladol o amrywioldeb Cymru, bydd hyn yn sicrhau bod gan bobl ifanc o bob cefndir fodelau rôl i’w dilyn mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, a gwneud gwaith ieuenctid yn fwy hygyrch i bawb. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod pob person ifanc sy’n dymuno cael mynediad at waith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny.
  • Cefnogi datblygu’r gweithlu i sicrhau ei fod yn gallu darparu gwaith o ansawdd uchel. Bydd hyn yn golygu cefnogi mentrau megis marc ansawdd a chofrestru’r gweithlu, a’u datblygu ymhellach.
  • Llenwi bylchau mewn data a defnyddio’r data diweddaraf i deilwra arlwy gwaith ieuenctid, a hynny’n galluogi cynllunio gwaith ieuenctid a dyrannu adnoddau i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn gallu cael mynediad at waith ieuenctid. Rhan bwysig o hyn hefyd yw sicrhau bod pob person ifanc sydd am gael mynediad at waith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu gwneud hynny.
  • Sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan wrth ddatblygu strategaeth a dylunio gwasanaethau, sy’n golygu bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn atebol i bobl ifanc am y gwaith ieuenctid y maent yn ei ariannu a’i ddarparu, a sicrhau bod yr ymagwedd hawliau plant wedi’i hymgorffori’n llawn yn narpariaeth gwaith ieuenctid.

4. Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Tom Marshall, Llorenc O’Prey, Andy Parkinson, Sam Grunhut, Ioan Teifi, Sarah Usher ac Eddie Knight (Wavehill)

Adroddiad Ymchwil Llawn: Marshall, T., O’Prey, L., Parkinson, A., Grunhut, S., Teifi, I., Usher, S. & Knight, E. Ymchwil i lywio datblygiad y strategaeth gwaith ieuenctid. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 01/2021

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd farn Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil Ysgolion
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN Digidol 978-1-80082-686-1