Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar reoliadau drafft, cod ymarfer a chanllawiau statudol ar baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. 

Roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig cychwyn adran 144B o Ddeddf 2014, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad (yr Adroddiadau), a chyflwyno rheoliadau a fyddai’n: 

  • golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol weithio mewn partneriaeth i baratoi ac i gyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer pob un o’r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru
  • pennu bod rhaid ystyried y materion a ganlyn mewn perthynas â gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio sy'n darparu gofal a chymorth:  
    • digonolrwydd gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio sy’n darparu gofal a chymorth
    • ansawdd cyffredinol gwasanaethau gofal a chymorth sy’n cael eu rheoleiddio
    • tueddiadau cyfredol neu sy’n datblygu mewn gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio sy’n darparu gofal a chymorth
    • heriau sylweddol o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth sy’n cael eu rheoleiddio nawr neu yn y dyfodol 
    • effaith comisiynu ac ariannu gofal a chymorth 
  • pennu mai'r cyfnod asesu fydd y cyfnod ers cyhoeddi'r asesiad diweddaraf o anghenion y boblogaeth
  • mynnu bod adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cael eu cyhoeddi ar ffurf electronig ar eu gwefannau erbyn 1 Mehefin 2022, ac adroddiadau dilynol bob pum mlynedd

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar god ymarfer drafft o dan adran 145 o Ddeddf 2014, ar arfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, a chanllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol o dan adran 169 o Ddeddf 2014, ar weithio mewn partneriaeth i baratoi ac i gyhoeddi’r adroddiadau hyn ar sail ranbarthol. Byddai’r cod a’r canllawiau’n cynnwys gofynion ychwanegol, gan gynnwys:   

  • ymgysylltu â darparwyr neu ddarpar ddarparwyr gwasanaethau gofal a chymorth ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector
  • cymryd camau rhesymol i ymgysylltu â dinasyddion, yn enwedig oedolion a phlant y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt
  • penodi corff cydgysylltu arweiniol i gynnal yr asesiad a pharatoi a chyhoeddi’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad
  • adolygu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn rheolaidd a chynhyrchu adroddiadau diwygiedig neu atodiadau yn ôl yr angen

Y broses ymgynghori

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 16 Medi a 25 Tachwedd 2020. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oedd yn bosibl ymgysylltu â’r cyhoedd wyneb yn wyneb, ond gwahoddodd dwy bartneriaeth ranbarthol swyddogion Llywodraeth Cymru i roi cyflwyniad mewn cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Gogledd Cymru) a digwyddiad ymgynghori (Gorllewin Cymru).

Ymatebion 

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno y dylid paratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ar sail ranbarthol, gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol drwy’r byrddau partneriaeth rhanbarthol?  Os nad ydych chi, rhowch eich rhesymau.  

Roedd cytundeb cyffredinol ynghylch mabwysiadu dull rhanbarthol o gynhyrchu Adroddiadau, a chydnabyddiaeth bod hyn yn cyd-fynd yn dda â rôl Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan roi modd o nodi tueddiadau, heriau a chyfleoedd cyffredin. Nodwyd hefyd y cysylltiad ag asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau ardal ar y cyd, sydd hefyd yn cael eu cynhyrchu’n rhanbarthol. Fodd bynnag, mynegodd llawer o’r ymatebion bryder hefyd ynghylch colli gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol mewn adroddiad rhanbarthol ar y cyd, a phwysleisiwyd bod angen i’r adroddiadau asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad ar lefel awdurdod lleol unigol yn ogystal â rhoi trosolwg rhanbarthol. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gwaith o gomisiynu gofal a chymorth yn dal i gael ei wneud gan awdurdodau lleol unigol, hyd yn oed pan fo gwasanaethau’n cael eu comisiynu ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac felly dylai’r Adroddiadau fod yn adnodd i ategu penderfyniadau lleol a lliniaru risg, yn ogystal ag yn arf i ategu’r gwaith o ddatblygu dulliau rhanbarthol o gynllunio a chomisiynu.   

Roedd nifer o ymatebion yn nodi bod pob ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn wahanol, a bod rhanbarthau’n amrywiol eu hunain. Dywedodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru fod hyn yn arbennig o wir yng ngogledd Cymru, sy’n cynnwys chwe ardal awdurdod lleol sydd â ffactorau demograffig a ffactorau eraill gwahanol i’w gilydd, a dulliau gwahanol o gomisiynu. Awgrymwyd y gallai fod yn well i awdurdodau lleol gynhyrchu Adroddiadau o’r fath ar lefel leol neu is-ranbarthol, ac yna bod materion cyffredin yn cael eu cynnwys mewn crynodeb rhanbarthol sy’n canolbwyntio ar faterion cyffredin. Roedd ymatebion eraill yn awgrymu y dylai’r cod ymarfer bwysleisio na ddylid colli’r gallu i adrodd ar lefel awdurdod lleol yn yr adroddiad rhanbarthol, fel nad yw anghenion awdurdodau lleol unigol yn cael eu glastwreiddio.

Trafodwyd y cydbwysedd rhwng darpariaeth ranbarthol a lleol mewn sawl ymateb. Roedd hyn yn debygol o amrywio yn ôl y math o wasanaeth. Roedd lleoliadau cost uchel, nifer isel (er enghraifft, ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, neu wasanaethau anabledd dysgu) yn fwy tebygol o gael eu trefnu’n rhanbarthol, tra bod darpariaeth gofal plant a phobl hŷn yn fwy lleol yn gyffredinol. Awgrymodd y Comisiynydd Plant y byddai dull gweithredu cymysg yn briodol ar gyfer gwasanaethau plant. Er enghraifft, comisiynir trefniadau maethu, gofal preswyl a ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn lleol, gan adlewyrchu mai’r awdurdod lleol yw’r rhiant corfforaethol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; ond gellid trefnu rhai gwasanaethau fel mabwysiadu, eiriolaeth, a gofal preswyl neu seibiant ar gyfer anghenion cymhleth yn well yn rhanbarthol.  

Nodwyd y gallai mabwysiadu dull rhanbarthol gysylltu’n well â’r GIG, sydd hefyd yn comisiynu lleoliadau gofal cartref a chartrefi nyrsio, yn ogystal â chyd-gomisiynu ag awdurdodau lleol unigol.  

Mynegwyd pryderon yn ymatebion yr undebau llafur a’r trydydd sector y gallai gosod cyfrifoldeb am Adroddiadau ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eithrio’n anfwriadol randdeiliaid allweddol nad ydynt yn cael eu cynrychioli o gwbl neu sy’n cael eu tangynrychioli ar y byrddau (er enghraifft, cyrff proffesiynol, undebau llafur). Pwysleisiwyd bod angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid.  

Un o’r pryderon eraill oedd trefniadau llywodraethu, a rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wrth gytuno ar yr adroddiadau rhanbarthol. Nodwyd y bydd gan ddarparwyr ac awdurdodau lleol farn wahanol yn aml am ddigonolrwydd ffioedd a dulliau comisiynu. Mae’n bosibl y bydd problem hefyd gyda dulliau gwahanol o ymdrin â data, a’r angen i ddeall sut mae data’n cael eu trin a’u dehongli mewn gwahanol awdurdodau lleol. Awgrymwyd y dylai’r cod bwysleisio’r angen i gynrychioli safbwyntiau amgen yn yr adroddiadau, ac am fecanwaith sicrwydd priodol.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ein bwriad erioed wrth lunio a gweithredu’r darpariaethau partneriaeth yn Neddf 2014, fu taro cydbwysedd priodol rhwng yr hyn sy’n cael ei wneud gan gyrff statudol unigol (awdurdodau lleol a byrddau iechyd) a’r hyn sy’n cael ei wneud ar y cyd ar lefel ranbarthol drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae awdurdodau lleol yn cadw eu cyfrifoldebau statudol dros ddiwallu anghenion gofal a chymorth eu poblogaeth leol ac fel rhieni corfforaethol i blant sy’n derbyn gofal. Er y bydd yr Adroddiadau yn arf defnyddiol ar gyfer cynllunio strategol ar lefel ranbarthol, gan gysylltu â’r asesiadau rhanbarthol o anghenion y boblogaeth a’r cynlluniau ardal, rhaid iddynt hefyd fod yn ddefnyddiol i gomisiynwyr awdurdodau lleol, gan eu helpu i ddeall eu marchnadoedd lleol ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir ac ategu’r broses o wneud penderfyniadau lleol. 

Byddwn yn diwygio’r cod ymarfer i bwysleisio’r angen i Adroddiadau gynnwys gwybodaeth a dadansoddiadau ar lefel leol yn ogystal â throsolwg rhanbarthol. Byddwn hefyd yn egluro mai pwrpas yr Adroddiadau yw ategu penderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch cynllunio a chomisiynu gofal a chymorth.  

Byddwn hefyd yn cryfhau’r adrannau ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a rôl holl bartneriaid Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan gynnwys cynrychiolwyr dinasyddion, y trydydd sector a darparwyr, wrth baratoi’r Adroddiadau. Yn benodol, byddwn yn edrych eto ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer cytuno ar Adroddiadau a’u cymeradwyo, fel ei bod yn glir beth sy’n ofynnol gan y partneriaid statudol (awdurdodau lleol a byrddau iechyd, y gosodir y gofynion statudol arnynt yn y ddeddfwriaeth, y cod a’r canllawiau) a’r hyn a ddisgwylir gan y partneriaid eraill. Bydd hyn yn cynnwys sut mae gwahaniaethau barn neu feysydd anghydfod yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiadau.    

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno y dylid cynhyrchu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad bob pum mlynedd ochr yn ochr â’r asesiadau o anghenion y boblogaeth?  Os nad ydych chi, pa drefniadau eraill fyddech chi’n eu cynnig, a pham?

Er bod yr ymatebion, ar y cyfan, yn cydnabod ei bod yn gwneud synnwyr cysoni’r Adroddiadau â’r cylch pum mlynedd ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau ardal, mynegwyd llawer o bryderon ynghylch cadw’r dogfennau hyn yn gyfredol ac yn ‘fyw’ fel eu bod yn parhau i fod yn ddogfennau gwaith cyfredol. Gall marchnadoedd ar gyfer gofal cymdeithasol newid yn rheolaidd (yn enwedig marchnadoedd lleol) ac mae angen monitro’n barhaus y posibilrwydd o effeithiau posibl fel methiant darparwyr. Cafwyd nifer o alwadau am adolygiad blynyddol o leiaf o’r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad (mae hyn yn cysylltu â Chwestiwn 4 isod).  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae’r cylch pum mlynedd yn cysylltu â chylch etholiadol llywodraeth leol ac fe’i sefydlwyd ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth (a luniwyd gyntaf yn 2017) a chynlluniau ardal ar y cyd (2018). Mae’r cod yn egluro’r cysylltiadau rhwng yr Adroddiadau ac asesiadau poblogaeth, yr naill yn edrych ar yr ochr gyflenwi a’r llall yn edrych ar y galw, a’r naill a’r llall yn bwydo i mewn i’r cynllun ardal. Y gofyniad ar hyn o bryd yw bod asesiadau o anghenion y boblogaeth yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn ôl yr angen, ac o leiaf unwaith ar y pwynt canol tymor, a’n bwriad oedd dyblygu hyn ar gyfer yr Adroddiadau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yn rhaid diweddaru’r Adroddiadau er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad gofal cymdeithasol os ydynt am fod yn ddefnyddiol, felly rydym wedi penderfynu diwygio’r gofynion adolygu yn y cod ymarfer (gweler yr ymateb i Gwestiwn 4 isod).  

Cwestiwn 3

Ydyn ni wedi nodi’r holl faterion allweddol y mae angen eu cynnwys mewn adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad?  Os oes materion eraill rydych chi’n meddwl y dylid eu cynnwys, rhowch fanylion.  

Roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud â’r rhestr o faterion a gafodd eu cynnwys yn yr Atodlen i’r rheoliadau drafft – h.y. materion i’w cadw mewn cof wrth ystyried sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio. Fodd bynnag, defnyddiodd y rhan fwyaf o’r ymatebion y cwestiwn hwn hefyd i wneud awgrymiadau am faterion y dylid eu cynnwys neu eu cryfhau yn y cod ymarfer a’r canllawiau, ac am faterion yr oedd angen eu hegluro ymhellach. 

Awgrymwyd dau fater ychwanegol ar gyfer yr Atodlen: galwad i ystyried ychwanegu polisi datblygu gweithlu at y rhestr o faterion; a galwad benodol gan Gomisiynydd y Gymraeg y dylai’r Atodlen gynnwys gofyniad i ystyried anghenion o ran y Gymraeg mewn perthynas â phob un o’r materion eraill.   

Cafwyd nifer o awgrymiadau ynghylch ym mhle y gellid egluro, cryfhau neu ehangu’r cod a’r canllawiau.

yma rai o’r prif themâu ac awgrymiadau:   

  • cysoni’r cod yn agosach â themâu cyffredinol Deddf 2014
  • egluro drwy’r dogfennau pa ofynion sy’n berthnasol i wasanaethau rheoleiddiedig ac sy’n berthnasol i ofal a chymorth ehangach
  • sicrhau cysondeb wrth ddefnyddio’r termau ‘digonolrwydd’ a ‘sefydlogrwydd’ yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau a reoleiddir
  • egluro beth mae ‘digonolrwydd’ yn ei olygu a sut y disgwylir y bydd hyn yn cael ei fesur
  • cryfhau’r pwyslais ar ansawdd, er mwyn ei gwneud yn glir bod digonolrwydd yn cynnwys mynediad at wasanaethau o safon, a bod sefydlogrwydd nid yn unig yn ymwneud â swmp ond hefyd ansawdd
  • rhoi mwy o bwyslais ar gydgynhyrchu
  • rhoi mwy o bwyslais ar wasanaethau ataliol a llesiant ehangach, ac annog Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i fabwysiadu dull ehangach o ystyried cynaliadwyedd yr holl wasanaethau gofal a chymorth, nid dim ond y rhai sy’n cael eu rheoleiddio
  • sicrhau bod yr adroddiadau’n canolbwyntio mwy ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig, ac egluro sut bydd yr adroddiadau’n cyfrannu at fframwaith cynllunio’r GIG
  • cynnwys cyfleoedd i ailgydbwyso’r marchnadoedd gofal cymdeithasol, gan gynnwys a ddylid dod â gwasanaethau gofal yn ôl yn fewnol, a mynd i’r afael yn benodol â’r mater o wneud elw mewn perthynas â gwasanaethau gofal plant
  • sicrhau bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn nodi’n glir sut maent wedi cynnwys dinasyddion yn y gwaith o lunio’r adroddiadau
  • cynnwys yr angen i ystyried yr amrywiaeth lawn o weithgarwch yn y farchnad wrth ddiogelu plant ac oedolion
  • rhoi mwy o bwyslais ar effaith ffactorau gweithlu ar gost ac ansawdd. Dylai adroddiadau ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar weithlu sefydlog a chynnwys dadansoddiad cost gwirioneddol o’r rhain
  • defnyddio adroddiadau i fonitro lleoli plant a phobl ifanc mewn darpariaeth heb ei rheoleiddio neu heb ei chofrestru, sy’n aml yn deillio o ddiffyg angen heb ei ddiwallu a diffyg lleoliadau
  • sicrhau bod trefniadau llety â chymorth a threfniadau byw lled-annibynnol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn cael eu hystyried hefyd, yn ogystal â threfniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’
  • cydnabod na fydd gan awdurdodau lleol lawer o wybodaeth am y rhai sy’n cyllido eu hunain, ond eu bod hefyd yn ystyried traws-gyllido - hynny yw, lle gallai’r farchnad tâl preifat fod yn sybsideiddio cyfraddau’r sector cyhoeddus
  • ystyried sut mae gwybodaeth am fethiant posibl darparwyr mawr yn cael ei throsglwyddo i gomisiynwyr lleol a rhanbarthol
  • sicrhau bod adroddiadau’n rhestru’r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg, er mwyn gallu dadansoddi’r hyn sydd ar goll yn y farchnad
  • hyrwyddo’r defnydd o’r arferion gorau sy’n cael eu hargymell ar gyfer pennu ffioedd, fel y pecyn cymorth ‘Let’s Agree to Agree’ ar bennu ffioedd ar gyfer gofal preswyl i bobl hŷn. Dylai adroddiadau gynnwys gwybodaeth am y fethodoleg a’r fframweithiau a ddefnyddir gan bartneriaid i bennu ffioedd, ac esbonio unrhyw wahaniaeth rhwng y ffioedd a nodwyd a’r ffioedd a dalwyd mewn gwirionedd
  • ychwanegwyd y pwynt bod angen i awdurdodau lleol sy'n ffinio â Lloegr ymgysylltu hefyd â sefydliadau iechyd a phartneriaid eraill yn Lloegr

Roedd nifer o ymatebion yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i'r Adroddiadau ganolbwyntio nid yn unig ar wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ond hefyd ar ddigonolrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau ataliol, gwasanaethau i ofalwyr, a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n gadael gofal ac yn ymuno â’r gwasanaethau gofal, gan fod y rhain yn hanfodol i leihau’r angen am wasanaethau cymorth a gofal mwy dwys. Bu galwadau am i’r adroddiadau roi barn wybodus am wir raddfa’r cymorth ataliol sydd ar gael ar draws rhanbarth ac mewn cymunedau, y mae llawer ohono’n bodoli y tu hwnt i ffin draddodiadol gofal cymdeithasol. Mae’r Adroddiadau yn gyfle pwysig i ategu gweithio integredig ymhellach er mwyn symud tuag at weithredu ataliol.

Cafwyd awgrymiadau amrywiol gan bartneriaid eraill sydd â chyfraniad i’w wneud at yr Adroddiadau. Roedd y rhain yn cynnwys cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, cymdeithasau proffesiynol ac undebau llafur, a darparwyr gwasanaethau ataliol. 

Roedd ymatebion gan sefydliadau darparu yn gofyn yn benodol am gryfhau’r cod er mwyn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i ymgysylltu â darparwyr fod yn ystyrlon a mynd y tu hwnt i ofyn am eu barn neu ofyn am ddata yn unig. Mae gan ddarparwyr ym mhob sector wybodaeth a phrofiad a all gyfrannu at asesu sefydlogrwydd cyffredinol y farchnad, gan gynnwys dealltwriaeth o’r risgiau a’r ffactorau lliniaru. Dylai trafodaethau gyda darparwyr gynnwys yr amgylchedd gweithredu a gwir gost darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Mynegwyd rhai pryderon ynghylch dehongli’r term ‘gwerth cymdeithasol’, ac awgrymwyd bod hyn yn cael ei egluro a’i ehangu yn y cod. Nodwyd mewn un neu ddau o ymatebion fod gwerth cymdeithasol yn torri ar draws pob sector, a bod gan ddarparwyr sector preifat hefyd rôl i’w chwarae yn natblygiad modelau gofal newydd.  

Yn olaf, cwestiynwyd pa mor briodol oedd mynnu bod awdurdodau lleol yn defnyddio’r un themâu craidd ag ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth. Nid yw themâu a grwpiau poblogaeth yn cyd-fynd â gwasanaethau a reoleiddir – mae’n bosibl bod nifer o wahanol farchnadoedd o fewn themâu unigol, a rhai sy’n croesi themâu. Awgrymwyd y dylai’r cod fod yn hyblyg o ran sut y cyflwynir yr adroddiadau.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Gwnaed dau awgrym ar gyfer ychwanegu ‘materion’ ychwanegol at yr Atodlen i’r Rheoliadau drafft, mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth. Roedd y rhain yn ymwneud â pholisi datblygu’r gweithlu, a gofyniad arfaethedig i ystyried y Gymraeg mewn perthynas â phob un o’r materion eraill. 

Ein bwriad oedd cadw’r materion a restrir yn yr Atodlen ar lefel uchel iawn, gyda gofynion ac ystyriaethau manylach wedi eu nodi yn y cod ymarfer. Gan hynny, mae’r materion yn gysyniadau eang fel digonolrwydd, ansawdd cyffredinol, tueddiadau, heriau a risgiau, ac effaith gyffredinol comisiynu ar faterion o’r fath. Nid ydym o’r farn ei bod yn briodol ychwanegu maes pwnc mwy penodol fel gweithlu at y rhestr hon o faterion yn y Rheoliadau, er ein bod yn cydnabod bod digonolrwydd y gweithlu yn ffactor allweddol wrth bennu digonolrwydd cyffredinol y ddarpariaeth gofal a chymorth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio. Byddwn yn ceisio cryfhau’r cyfeiriadau at y gweithlu yn y cod, yn enwedig mewn perthynas â heriau, risgiau a chamau lliniaru. 

O ran y Gymraeg, nid ydym o’r farn y byddai’n briodol nodi hynny yn yr Atodlen gan nad yw hefyd yn ‘fater’ o’r un math â’r rhai y bwriedir i’r Atodlen eu pennu. Fodd bynnag, byddwn yn gosod gofyniad yn y cod i awdurdodau lleol, wrth ystyried y materion a restrir yn yr Atodlen, ystyried hefyd gyflwr y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rhai a ymatebodd am y rhestr helaeth o awgrymiadau ynghylch pa ddeunydd ychwanegol y gellid ei ychwanegu at y cod ymarfer i’w wneud yn fwy cynhwysfawr a defnyddiol i awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r rhain i gyd wedi cael eu hystyried yn ofalus, ac mae llawer wedi cael eu hymgorffori yn y cod sydd wedi cael ei ddiwygio a’i ailysgrifennu’n drylwyr ar ôl yr ymgynghoriad. Mae bron pob un o’r pwyntiau a restrir uchod wedi eu derbyn ac wedi eu cynnwys yn y ffurf a oedd fwyaf priodol yn ein barn ni yn y fersiwn derfynol.  

Cwestiwn 4

Ydych chi’n cytuno y dylid adolygu adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn rheolaidd a’u diwygio yn ôl yr angen, ond o leiaf ar ganol y cylch pum mlynedd?  Os nad ydych chi, pa drefniadau monitro ac adolygu eraill fyddech chi’n eu cynnig, a pham?  

Er bod rhai ymatebion yn teimlo bod hyn yn ddull synhwyrol a chymesur, awgrymodd sawl un arall y dylid cael gofyniad am adolygiad blynyddol o leiaf o’r Adroddiadau. Nodwyd bod marchnadoedd yn gallu newid yn gyflym a bod ffactorau fel pandemig Covid-19 yn gallu arwain at broblemau brys ac ar unwaith o ran cyflenwadau mewn meysydd fel gofal cartref. Mae’n hanfodol bod yr Adroddiadau yn ddogfennau byw sy’n adlewyrchu’r amgylchedd sy’n newid yn gyflym y mae gofal cymdeithasol yn gweithredu ynddo, ac felly mae angen monitro ac adolygu’n amlach. Er enghraifft, yng ngogledd Cymru byddai adolygiadau amlach yn ategu’r gwaith o reoli’r fframweithiau rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau penodol sy’n cael eu rheoleiddio ac yn cysylltu â pha mor aml y dylid agor y rhain i ddarparwyr newydd. Gallai adolygiadau blynyddol hefyd helpu darparwyr annibynnol lleol i ymateb yn fwy hyblyg i ddatblygiadau yn y farchnad.

Mewn ambell ymateb, nodwyd cyn lleied a ddywedwyd yn y cod ynghylch sut dylid cynnal yr adolygiadau hyn, a beth a olygir wrth ‘fel bo’r angen’.  Awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu offeryn sgrinio y gellid ei ddefnyddio i asesu a oes angen adolygiad.

Awgrymwyd rhai dulliau eraill, gan gynnwys gofyniad bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn adrodd ar y camau a gymerwyd mewn perthynas â sefydlogrwydd y farchnad yn eu hadroddiadau blynyddol. Rhai o’r syniadau eraill oedd ein bod ni’n archwilio ffyrdd eraill a ffyrdd effeithiol o gael yr wybodaeth ddiweddaraf – er enghraifft, pennu dangosyddion allweddol o sefydlogrwydd y farchnad y gellid eu monitro’n amlach ac ymateb iddynt (awgrymiadau penodol yn cynnwys cyfradd methiant darparwyr, y gyfradd y caiff contractau eu trosglwyddo’n ôl, amseroedd aros, trosiant staff, cyfraddau swyddi gwag neu ddiffyg argaeledd). 
Nodwyd y byddai adolygiadau aml yn defnyddio llawer o adnoddau.

Mynegodd Gofal Cymdeithasol Cymru ddymuniad i weithio gydag awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod ei borth data gofal cymdeithasol cenedlaethol yn rhoi’r data perthnasol iddynt a dadansoddiadau ac adroddiadau defnyddiol o themâu a thueddiadau allweddol ar draws y cyflenwad a’r galw am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Roedd galw hefyd am i’r cod egluro rôl Gweinidogion Cymru yn y gwaith o fonitro ac adolygu’r Adroddiadau a gyflwynwyd.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dewiswyd y gofyniad am adolygiad ffurfiol yng nghanol y cylch i adlewyrchu’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth, sy’n cael eu cynhyrchu ar yr un cylch pum mlynedd ac sy’n darparu’r data ar ochr y galw i gyfateb i’r data ar ochr y cyflenwad yn yr Adroddiadau. Fodd bynnag, rydym yn derbyn yr angen i’r dogfennau hyn gael eu diweddaru a’u cadw'n ‘fyw’ os ydynt am fod yn arfau defnyddiol ar gyfer cynllunwyr a chomisiynwyr rhanbarthol a lleol. Mae hyn yn arbennig o wir am yr Adroddiadau, o ystyried y ffordd y gall y farchnad gofal cymdeithasol newid ac amrywio mewn cyfnod byr. Gan hynny, rydym wedi penderfynu newid y gofyniad er mwyn i awdurdodau lleol / Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gynnal adolygiadau o’u Hadroddiadau o leiaf unwaith y flwyddyn. Byddwn hefyd yn ystyried gofyniad adolygiad blynyddol ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth pan fyddwn yn diwygio’r canllawiau ar y rheini ar gyfer y cylch nesaf. 

Rydym wedi penderfynu peidio ag ychwanegu rhagor o fanylion ynghylch sut mae’n rhaid cynnal yr adolygiadau hyn, gan ein bod o’r farn y dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol benderfynu ar hyn. Fodd bynnag, rydym wedi ychwanegu eglurhad at y cod ynghylch sut bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r deunydd sydd yn yr adroddiadau (ac unrhyw adroddiad / adendwm diwygiedig) pan fyddant yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru ar gomisiynu, darparu adnoddau ac ail-lunio gofal a chymorth, helpu Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu dull cymesur a phriodol o oruchwylio’r farchnad, a chyfrannu at drafodaethau ar sail gwybodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynghylch eu cynlluniau ardal strategol. 

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw’r cod ymarfer drafft yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng yr hyn mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud a’r hyn sydd yn ôl eu disgresiwn?  A oes gofynion neu ganllawiau eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu hychwanegu, neu ffyrdd eraill o wella’r ddogfen?      

Ar y cyfan, teimlwyd bod y cydbwysedd yn eithaf agos i’w le, er i un rhanbarth nodi bod y ddogfen yn cynnwys llawer o bethau y mae’n ‘rhaid’ eu gwneud.  

Fodd bynnag, roedd nifer o feysydd penodol lle credid y gellid gwella’r ddogfen er mwyn cael gwell cydbwysedd rhwng cyfarwyddyd a disgresiwn.  Dylid nodi bod gorgyffwrdd sylweddol rhwng yr atebion i’r Cwestiwn hwn a’r rhai i Gwestiwn 3 (ar faterion allweddol i’w cynnwys) a Chwestiwn 11 (unrhyw fater cysylltiedig arall), felly nid yw’r holl bwyntiau’n cael eu dyblygu yma. Dyma rai awgrymiadau allweddol ynghylch sut gellid gwella’r ddogfen:  

  • byddai’n ddefnyddiol cael amlinelliad o’r data penodol sydd ei angen gan bob parti, a chyd-ddealltwriaeth o sut bydd y data yn cael ei ddefnyddio yn yr Adroddiadau. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb o ran data ledled Cymru
  • yr angen am fwy o ystyriaeth a thryloywder o ran adrodd ar gost darparu
  • pwysigrwydd strategol y gweithlu o ran asesu digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad
  • cryfhau’r canllawiau ar sut dylid ystyried y rhai sy'n cyllido eu hunain wrth ddatblygu’r adroddiadau
  • rhagor o fanylion am y gwasanaethau gofal a chymorth ehangach i’w hystyried
  • rhagor o fanylion am sut dylid defnyddio’r wybodaeth hon ar gyfer cynllunio rhanbarthol a lleol, a sut bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r adroddiadau
  • tynnwyd sylw at y ffaith y gallai problem fod o ran data digonol. Dylai’r cod gydnabod y cydbwysedd rhwng gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r data sydd ar gael ac archwilio’r agenda datblygu data i fynd i’r afael â’r bylchau. Byddai’r rownd gyntaf o Adroddiadau yn gyfle i archwilio rhai o’r materion data hyn
  • dylai’r cod gynnwys canllawiau ar y mecanweithiau mae’n rhaid eu cael i gynnwys pobl ac i wreiddio egwyddorion cydgynhyrchiol. Mae angen canolbwyntio’n gliriach ar ddewis, ansawdd a chyflawni canlyniadau personol.
  • dylid cynnwys arferion caffael moesegol fel gofyniad

Roedd ymatebion llywodraeth leol yn gofyn am ragor o esboniad ynghylch sut byddai’r gwahanol ddogfennau – asesiadau o anghenion y boblogaeth, Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, cynlluniau ardal, a datganiadau mwy manwl ar sefyllfa’r farchnad a strategaethau comisiynu – yn cyd-fynd ac yn rhyngweithio, ac am esboniad cliriach o’r rhesymeg dros y llif rhwng gwahanol rannau’r cylch comisiynu. Teimlid, er enghraifft, pe bai’r Adroddiadau yn canolbwyntio ar ganlyniadau dymunol yn y dyfodol, yn enwedig o ran digonolrwydd, y byddai hyn yn symud y ddogfen i’r lle sydd fel arfer yn cael ei gymryd gan ddatganiad sefyllfa’r farchnad a dogfennau bwriad comisiynu ar gyfer gwasanaethau neu segmentau penodol o’r farchnad.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn falch bod y cydbwysedd yn cael ei weld fel y cydbwysedd iawn, ac rydym wedi ystyried a derbyn yn gyffredinol y pwyntiau a wnaed ar gyfer cryfhau ac egluro’r cod. Mae’r cod yn ddogfen statudol a’i phwrpas yw gosod gofynion clir ar awdurdodau lleol, a defnyddir y term ‘rhaid’ (ac fe’i hamlygir mewn print bras drwyddi draw) i nodi’r rhain. Yn y cod diwygiedig, rydym wedi ceisio egluro’r adran ar sut mae’r Adroddiadau yn cyfrannu at y broses cynllunio strategol a chomisiynu, a sut maent yn cyd-fynd â dogfennau perthnasol eraill. 

Rydym wedi nodi’r sylwadau am ddata. Er nad ydym wedi ceisio nodi ffynonellau data perthnasol yn y cod, byddwn yn parhau i gael trafodaethau â chyrff perthnasol fel y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a Data Cymru ynghylch yr agenda ehangach ar gyfer datblygu data, a byddwn hefyd yn trafod y materion hyn gyda chadeiryddion ac arweinwyr Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y cyfnod cyn yr ymarfer Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Fel y nodwyd yn yr ymatebion, bydd y rownd gyntaf hon o Adroddiadau yn helpu i archwilio rhai o’r materion hyn yng ngoleuni profiad a gwersi a ddysgwyd. 

Cwestiwn 6

Yn eich barn chi, a yw’r canllawiau statudol drafft yn nodi’n glir y dull partneriaeth y dylai awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ei fabwysiadu wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad? A oes gofynion neu ganllawiau eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu hychwanegu, neu ffyrdd eraill o wella’r ddogfen? 

Roedd y prif bryder a fynegwyd wrth ateb y cwestiwn hwn yn ymwneud â rôl partneriaid ar wahân i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol wrth baratoi Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, gyda nifer o ymatebion yn galw am fwy o weithio mewn partneriaeth ac am ragor o arweiniad ar sut gallai amrywiaeth eang o randdeiliaid ymgysylltu â’r broses. Roedd rhai o’r ymatebion gan sefydliadau anstatudol yn mynegi’r farn bod aelodaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn rhy gyfyngedig ar gyfer ymgysylltu’n effeithiol, a bod angen i’r canllawiau nodi’n gliriach sut gallai dinasyddion (defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl yn benodol) gael eu cynnwys, yn unol â’r pwyslais yn Neddf 2014 ar gydgynhyrchu. Mynegwyd barn debyg gan ddarparwyr gofal, o ran eu cyfraniad eu hunain. Tynnwyd sylw hefyd at farn y gweithlu gofal cymdeithasol fel maes i roi mwy o bwyslais arno.  

Awgrymodd sawl ymateb y dylid rhestru Arolygiaeth Gofal Cymru fel partner ac y dylid egluro ei chyfraniad i’r broses o baratoi’r adroddiadau hyn. Mae angen cyfeirio at Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau eraill sy’n dal data a gwybodaeth berthnasol. 

Yr oedd teimlad, er bod y canllawiau’n nodi egwyddorion gweithio mewn partneriaeth, nad oeddent yn ymdrin yn ddigonol ag ymarferoldeb hyn, gan gynnwys beth yn union y dylai mewnbwn y bwrdd iechyd lleol fod. 
Awgrymwyd y dylai’r canllawiau egluro rôl cynrychiolwyr Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar wahân i awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd lleol, a’i gwneud yn glir hefyd fod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol llawn gyfraniad gwerthfawr i’w wneud wrth drafod a dadansoddi’r Adroddiadau. Dylai’r canllawiau hefyd egluro rôl ddisgwyliedig y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle mae’r dadansoddiad cyfunol o’r asesiad o anghenion y boblogaeth a’r Adroddiadau yn dangos bod angen cymryd camau i ymateb yn effeithiol i angen lleol. 

Gofynnodd Comisiynydd y Gymraeg am i’r canllawiau ddatgan yn benodol bod yn rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, wrth weithredu fel partneriaid rhanbarthol, gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nod y canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth yw gosod gofynion ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd, fel y partneriaid statudol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, i gydweithio i gynhyrchu Adroddiadau rhanbarthol. Gan nad yw Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyrff corfforaethol, nid ydym yn gallu gosod gofynion yn uniongyrchol arnynt, ac nid ydym yn gallu rhoi cyfarwyddyd i bartneriaid anstatudol eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Yn ogystal, dim ond i osod gofynion ar awdurdodau lleol y gellir defnyddio’r cod ymarfer. Rydym wedi ceisio, yn y canllawiau statudol ac yn y cod, ei gwneud yn glir y dylai cynhyrchu Adroddiadau fod yn rhywbeth sy’n ymgysylltu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyfan a bod y Bwrdd yn berchen ar yr Adroddiadau. Mae’r bennod canllawiau statudol wedi ei chadw’n gymharol fyr, er mwyn peidio ag atgynhyrchu’r deunydd manylach yn y cod. Gan hynny, mae’r canllawiau’n canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar drefniadau partneriaeth a llywodraethu. Yng ngoleuni’r adborth i’r ymgynghoriad, rydym wedi ceisio egluro’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei gyfanrwydd, ac rydym wedi ychwanegu cyfeiriad at bartneriaid eraill fel Arolygiaeth Gofal Cymru a oedd ar goll yn y drafft ymgynghori.

Cwestiwn 7

Yn eich barn chi, beth fydd effaith ein cynigion ar ddyletswyddau cyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan Ddeddf 2014 i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, neu Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn?  

Gwnaed y pwyntiau penodol a ganlyn ynghylch effeithiau posibl neu ffyrdd o gryfhau’r cod a’r canllawiau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau: 

  • dylai’r cod hefyd gynnwys gofyniad i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, yn enwedig o ystyried y rôl anghymesur mae menywod yn ei chwarae yn y gweithlu gofal cymdeithasol ac fel gofalwyr anffurfiol
  • dylai’r cod adrodd ar anfantais economaidd-gymdeithasol, a chyfeirio at y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd
  • dylai’r adroddiadau archwilio i ba raddau mae’r cyflenwad gofal yn cynorthwyo pobl i fyw gartref cyhyd ag y bo modd (Erthygl 6, Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn) a hawl pobl anabl i fyw yn y gymuned a dewis man preswylio (Erthygl 19 y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau)
  • gyda’i gilydd, bydd yr asesiadau o anghenion y boblogaeth a’r Adroddiadau yn helpu i wella dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth sydd angen gwasanaethau mewn ieithoedd eraill ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg
  • ychwanegu cyngor ac arweiniad ynghylch pa gymorth sydd ar gael i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb
  • nid yw’r cod yn cyfeirio fawr ddim at annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu a rhannu eu profiadau wrth fonitro elfen digonolrwydd asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad. Mae gan awdurdodau lleol, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a darparwyr eiriolaeth oll systemau cyfranogi cryf y gellir eu defnyddio. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ystyried defnyddio’r adnoddau asesu’r effaith ar hawliau plant sydd ar wefan y Comisiynydd Plant
  • yn ogystal â mynnu bod awdurdodau lleol / Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, dylai’r cod hefyd gyfeirio at yr angen iddynt fonitro a chymryd camau priodol mewn ymateb
  • mewn sector sy’n gyflogwr mawr i bobl â nodweddion gwarchodedig, dylai’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb roi sylw i’r effeithiau ar y gweithlu, nid dim ond unigolion sy’n derbyn gwasanaethau
Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i’r cod yng ngoleuni’r sylwadau hyn, gan gynnwys: 

  • ychwanegu cyfeiriadau at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod ac at y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd
  • rhoi’r gofyniad i ystyried hawliau a dyletswyddau perthnasol ar flaen yr adran ar gynnal asesiadau o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad
  • cryfhau’r hyn mae’r cod a’r canllawiau yn ei ddweud am gyfranogi a chydgynhyrchu gan gynnwys ymgysylltu â dinasyddion
  • ychwanegu gofyniad bod yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb hefyd yn ystyried yr effeithiau ar y gweithlu gofal a chymorth

Cwestiynau 8 a 9

Byddem yn hoffi clywed eich barn am effaith ein cynigion ar gyfer yr adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau allai hyn eu cael?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau positif, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Hefyd, esboniwch sut rydych yn credu y gallai’r polisi arfaethedig ar adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad gael ei ffurfio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’r cwestiynau hyn yn ymwneud â’r Gymraeg ac, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad penodol hwn, trefniadau i asesu digonolrwydd gwasanaethau gofal a chymorth a’r farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio wrth ddiwallu anghenion siaradwyr Cymraeg y mae angen gofal a chymorth arnynt, neu ofalwyr Cymraeg y mae angen cymorth arnynt. Roedd yr ymatebion yn tueddu i gyfuno eu hatebion i’r ddau gwestiwn hyn, felly ymdrinnir â nhw gyda’i gilydd yma.  

Yn gyffredinol, mynegodd yr ymatebion obaith y byddai’r Adroddiadau yn helpu i greu darlun o’r gwasanaethau gofal a chymorth sydd ar gael yn Gymraeg, a gwell dealltwriaeth o ble gellid bod angen cynyddu’r ddarpariaeth gofal a chymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn diwallu’r angen a’r galw. Gall canfod lle mae’r cyflenwad yn is na’r angen arwain at gyfleoedd i gynyddu’r gweithlu sy’n siarad Cymraeg, cyfleoedd recriwtio, a hyd yn oed cyfleoedd i gychwyn ac ehangu busnesau. Cafwyd rhai galwadau i gryfhau’r elfen hon o’r cod a’r canllawiau, gan osod disgwyliadau clir a chadarn o bosibl ynghylch argaeledd gwasanaethau gofal a chymorth Cymraeg. Fodd bynnag, roedd pryder hefyd nad oedd hi’n glir sut byddai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth a nodwyd, ac mae’n galw am i'r Adroddiadau gynnwys camau gweithredu i unioni’r diffyg. 

Awgrymwyd (yng ngogledd Cymru) y byddai’r elfen hon o’r adroddiadau’n bwydo’n uniongyrchol i waith y bwrdd gweithlu rhanbarthol a hefyd i ymgyrch recriwtio genedlaethol “Gofalwn” Cymru, gan roi modd i anelu'r adnoddau at ardaloedd lle mae angen wedi ei nodi.

Gan ystyried nad oedd llawer o ystyriaeth wedi ei rhoi i wasanaethau Cymraeg yn yr asesiadau o anghenion y boblogaeth a gyhoeddwyd yn 2017, mynegodd Comisiynydd y Gymraeg bryder ynghylch a allai Adroddiadau fod o unrhyw werth wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg oni bai fod yr asesiadau o anghenion y boblogaeth yn cynnwys gwybodaeth ddigonol a phriodol am yr angen am y gwasanaethau hyn ac amrywiaeth a lefel y ddarpariaeth a oedd yn angenrheidiol. Cyfeiriodd y Comisiynydd at adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar gartrefi gofal a dementia (2020), a ganfu nad yw llawer o gartrefi yn gwybod pwy sy’n siarad Cymraeg, ac nad oes gan gartrefi lle mae siaradwyr Cymraeg yn byw staff neu weithgareddau Cymraeg. Mae hyn yn niweidiol o ran llesiant pobl, a hefyd yn tresmasu ar eu hawliau. Os nad oes gan awdurdodau lleol ddigon o wybodaeth am anghenion gofal eu poblogaethau drwy'r Gymraeg, sut gallant recriwtio a chadw digon o siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a chomisiynu gwasanaethau o safon? 

Argymhellodd Comisiynydd y Gymraeg y dylai Llywodraeth Cymru: 

  • adolygu ystyriaethau’r Gymraeg mewn asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau ardal o 2017 / 2018, a chryfhau’r asesiad newydd o anghenion y boblogaeth a chanllawiau’r cynllun ardal
  • cryfhau’r cod ymarfer hwn a chanllawiau statudol ar Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad
  • cryfhau ei ddull o fonitro’r gofynion hyn o ran y Gymraeg
  • cynnal adolygiad o’r tri erbyn diwedd 2013
Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn cytuno â’r farn bod gan Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad (yng nghyd-destun dull ehangach o gynllunio a chomisiynu strategol sy’n cynnwys asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau ardal) botensial enfawr i nodi’r angen a’r galw am ofal a chymorth a ddarperir i’r gymuned Gymraeg ei hiaith drwy gyfrwng y Gymraeg, a digonolrwydd, sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y gwasanaethau a ddarperir. Yn hollbwysig, mae hyn yn cynnwys unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth, a chyfleoedd i gyfateb y cyflenwad yn well i’r galw, gan gynnwys dod â chyflenwyr newydd i’r farchnad. Rydym wedi ceisio cryfhau’r neges hon yn y cod ymarfer, ond rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion ehangach na’r rhai y gellir eu cynnwys yn y cod ar Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn unig. Wrth i ni weithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a chyrff allweddol eraill, gan gynnwys y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Gofal Cymdeithasol Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at y rownd nesaf o asesiadau o anghenion y boblogaeth, yr Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad a chynlluniau ardal, byddwn yn ystyried sut gallwn gynorthwyo awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol orau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan safonau’r Gymraeg mewn perthynas â darpariaeth gofal a chymorth.   

Cwestiwn 10

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau. Hoffem wybod i ba raddau ydych chi o’r farn y bydd ein cynigion yn ategu’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy a nodir yn y Ddeddf honno.   

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gael yma: https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/

Roedd ymatebion i’r cwestiwn hwn yn cytuno y bydd cynhyrchu Adroddiadau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd gofal a chymorth ac sy’n cyfrannu at gylch pum mlynedd cynlluniau ardal yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er nad yw’r Cod yn cyfeirio’n benodol at y Ddeddf. Dylai’r adroddiadau helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i wneud penderfyniadau sy’n creu gwasanaethau mwy cynaliadwy, a bydd yn eu helpu i olrhain effaith tymor hirach gweithgareddau comisiynu a gweithio gyda darparwyr. Awgrymwyd y byddai sefydlu strwythurau llywodraethu priodol i fonitro ac adolygu’r Adroddiadau yn galluogi dull cyfannol o gynllunio strategol gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Yn ogystal, dylid sefydlu seilwaith cynllunio a data addas i ganiatáu ar gyfer modelu hirdymor a pharhad mewn cynllunio.

Tynnwyd sylw, fodd bynnag, at y ffaith mai dim ond rhan o’r darlun ehangach y gall yr Adroddiadau fod, ac mai’r hyn sydd ei angen yw strategaeth hirdymor a model cyllido a darparu cynaliadwy ar gyfer gofal cymdeithasol a fydd yn diwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol. Gall Adroddiadau gyfrannu at hyn, ond mae angen iddynt fod yn rhan o ddarlun ehangach o newid. Mae cysylltiad hefyd rhwng gweithio ar ddulliau tymor hirach o dalu am ofal a datblygu’r gweithlu, gan fod talu am wir gost gofal a darparu telerau ac amodau teg a chyfartal yn agwedd allweddol ar gynaliadwyedd. Dylai’r cod nodi’n gliriach sut gellir cyflawni gwasanaethau gofal cymdeithasol sefydlog a chynaliadwy, yn enwedig drwy ddulliau rhanbarthol o gomisiynu, defnyddio cyllid arall a chyfuno cyllidebau mewn ffordd realistig a chyraeddadwy.

Nodwyd hefyd bod yn rhaid i Adroddiadau ystyried y tymor byr i’r tymor canolig hefyd, yn enwedig yng ngoleuni sut mae Covid-19 wedi effeithio ar y sector, a sut gellid bod angen newid cynlluniau er mwyn cynllunio ar gyfer adferiad.

Awgrymwyd, pe bai’r Adroddiadau’n cynnwys argymhellion ynghylch cynaliadwyedd yn y dyfodol, y byddai hyn yn ategu nod ‘gwneud argymhellion’ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn cytuno â’r asesiad y bydd Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y ffordd y byddant yn edrych ymlaen dros gyfnod o bum mlynedd ar faterion fel digonolrwydd a chynaliadwyedd gofal a chymorth, ac yn ceisio diogelu’r farchnad ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio yn y dyfodol i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod materion ehangach o lawer o ran siapio ac adfer cydbwysedd gofal cymdeithasol sy’n mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y rheoliadau, y cod a’r canllawiau hyn ar Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi, ar 12 Ionawr 2021, ein Papur Gwyn ar ‘Ailgydbwyso gofal a chymorth: ymgynghoriad ar wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gefnogi llesiant pobl yn well’ (https://llyw.cymru/gwella-trefniadau-gofal-cymdeithasol-gwaith-partneriaeth). Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella’r trefniadau ar gyfer gofal a chymorth a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r weledigaeth a nodir yn Neddf 2014. Mae’r cynigion yn cynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi gwasanaethau i gael eu cynllunio’n rhanbarthol a’u darparu’n lleol, ac ar gyfer cryfhau trefniadau partneriaeth. Bydd dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r cylch nesaf o asesiadau o anghenion y boblogaeth a’r Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn helpu i gyfrannu at y dull gweithredu fframwaith cenedlaethol ehangach hwn yn ystod tymor nesaf y Senedd.  

Cwestiwn 11

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.

Codwyd nifer o faterion eraill yn yr ymatebion, er bod rhai pwyntiau’n codi dro ar ôl tro wrth ateb cwestiynau cynharach.  

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a rhai o’r ymatebion rhanbarthol, wedi cyflwyno ple i beidio â thanbrisio’r pwysau ar adnoddau llywodraeth leol a’r capasiti sydd ei angen i gynnal asesiadau manwl, gan gynnwys ymgysylltu â dinasyddion a darparwyr. Roedd rhai yn cwestiynu amseriad yr ymarfer hwn, o ystyried pwysau’r pandemig Covid-19 a’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i’w gwblhau.

Awgrymodd sefydliadau darparu y gallai fod costau ychwanegol i ddarparwyr hefyd, a phwysleisiwyd yr angen i sicrhau nad oedd dyblygu diangen o ran data sydd ar gael mewn mannau eraill. Awgrymwyd y dylid datblygu templedi safonol ar gyfer casglu gwybodaeth ar gyfer yr adroddiadau. 

Roedd peth pryder ynghylch anghysondebau posibl wrth gofnodi ac adrodd ar ddata ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, byddai rhywfaint o ddata’r farchnad yn fasnachol sensitif, a byddai angen trin unrhyw ddata o’r asesiad o anghenion unigolion yn gyfrinachol hefyd. 

Awgrymwyd y dylai’r cod gynnwys diffiniad neu ddisgrifiad o’r hyn a olygir gan y term ‘marchnad gofal cymdeithasol’ sydd hefyd yn cydnabod o bosibl na fydd comisiynwyr yn gallu cael mynediad at rai agweddau ar y farchnad (er enghraifft, gwasanaethau sy’n cael eu prynu gan bobl sy’n cyllido eu hunain). Mae llawer o farchnadoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae rhai’n fwy parod i ddylanwadu ar gomisiynwyr nag eraill. Gall sefydlogrwydd y farchnad fod yn ddibynnol ar amrywiaeth eang o benderfyniadau busnes posibl, y gellir eu gwneud heb unrhyw gyfeiriad at y cyrff comisiynu.

Awgrymodd sefydliad darparu allweddol fod darparwyr yn awyddus i gyflwyno adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad fel arf a fydd yn eu galluogi i chwarae rhan ystyrlon wrth ddiwallu anghenion a chanlyniadau. Dylai’r adroddiadau helpu i gynnal y gyfarwyddeb Dewis Llety a hyrwyddo gofal yn nes at adref, dylanwadu ar bartneriaethau cryfach a datblygu’r berthynas rhwng comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r canlyniadau posibl hyn, mae angen i’r adroddiadau fod yn seiliedig ar atebolrwydd a thryloywder.

Roedd un o ymatebion yr undebau llafur yn gweld yr Adroddiadau fel rhan o ymarfer ehangach i ailadeiladu capasiti’r sector cyhoeddus, a oedd wedi cael ei ddihysbyddu gan farchnadeiddio a chyni. Awgrymwyd, yn y cyfamser, y dylai comisiynwyr brynu gofal yn benodol gan ddarparwyr sy’n dryloyw am eu gweithrediadau, sy’n talu eu trethi, sy’n cydnabod undebau llafur, ac sy’n gallu dangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion teg a rhesymol o ran y gweithlu. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r cod ymarfer yng ngoleuni’r sylwadau hyn - yn benodol, ceisio diffinio neu ddisgrifio’r hyn a olygwn wrth ‘y farchnad gofal cymdeithasol’

Rydym yn deall y pryderon sydd wedi cael eu mynegi am amseriad yr Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad (a’r rownd nesaf o asesiadau o anghenion y boblogaeth), yn enwedig yng ngoleuni pwysau’r pandemig Covid-19. Fodd bynnag, ni ddisgwylir yr Adroddiadau tan 1 Mehefin 2022, pan fydd y pwysau presennol, gobeithio, wedi lleihau’n sylweddol, ac union ddiben cynhyrchu’r adroddiadau hyn yw sicrhau bod marchnadoedd gofal cymdeithasol yn aros yn sefydlog ac yn gynaliadwy, a’u bod wedi eu diogelu at y dyfodol rhag rhagor o heriau a risgiau. 

Mae mater costau wedi cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n rhan o’r Memorandwm Esboniadol a fydd yn cael ei gyhoeddi ynghyd â’r rheoliadau a’r cod. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried, yn benodol, sut mae manteision cynhyrchu Adroddiadau’n drech nag unrhyw gost bosibl. Er y bydd rhai costau uniongyrchol i awdurdodau lleol, yn enwedig o ran amser staff ac ymgysylltu â dinasyddion a darparwyr, mae’r canllawiau statudol yn ei gwneud yn glir ei bod yn rhaid i’r partneriaid statudol ar draws y rhanbarth rannu’r rhain, a dylid nodi y dylai awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol eisoes fod â mecanweithiau ar waith i asesu digonolrwydd y ddarpariaeth a chyflwr marchnadoedd lleol ar gyfer gofal cymdeithasol. Nod yr Adroddiadau yw eu helpu i wneud penderfyniadau comisiynu mwy strategol a chost-effeithiol, sy’n cyfateb yn agosach i’r cyflenwad a’r galw, yn ogystal â’u helpu i lunio’r farchnad ar gyfer gofal cymdeithasol fel ei bod yn diwallu anghenion ac amgylchiadau lleol yn well. 

I gloi, mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn am yr ymatebion manwl ac o ansawdd uchel a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad hwn. O ganlyniad, er na wnaed newidiadau i’r rheoliadau drafft, mae’r cod ymarfer wedi ei ddiwygio a’i ailysgrifennu’n sylweddol ac mae newidiadau sylweddol wedi eu gwneud hefyd i’r canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth. Y canlyniad, gobeithio, yw dogfen sy’n gosod gofynion clir ac ymarferol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan eu galluogi i baratoi, gyda’u partneriaid ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Adroddiadau cadarn ac ystyrlon ar sefydlogrwydd y farchnad y gellir eu defnyddio i siapio’r farchnad gofal cymdeithasol ar draws ardaloedd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, bwydo i mewn i gynlluniau ardal, ac ategu penderfyniadau lleol a rhanbarthol.

Atodiad A

Rhestr o ymatebion

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol:
Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg
Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a’r Fro  
Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
Bwrdd Comisiynu Gogledd Cymru
Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent
Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg

Cyrff llywodraeth leol eraill:

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: Tîm Contractau a Chomisiynu a Thaliadau Uniongyrchol

Trydydd sector / Sector gwerth cymdeithasol 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Cartrefi Cymunedol Cymru

Mudiadau darparu: 

Cymdeithas Gofal Cartref y Deyrnas Unedig
Fforwm Gofal Cymru

Undebau llafur: 

Y Coleg Nyrsio Brenhinol
UNSAIN Cymru

Comisiynwyr: 

Comisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd y Gymraeg 
Cyrff cyhoeddus eraill:
Gofal Cymdeithasol Cymru
Arolygiaeth Gofal Cymru

Unigolion: 

Dienw