Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rheoliadau ar Deithio Rhyngwladol

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor hunanynysu a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal lledaeniad pellach y coronafeirws.  Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ers hynny, mae'r Rheoliadau hyn wedi'u hadolygu'n rheolaidd ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud. Ar 18 Ionawr 2021, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ymhellach, diwygiwyd y Rheoliadau i osod gofyniad ychwanegol ar deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin. Mae hefyd yn ofynnol bellach i bob teithiwr o'r fath feddu ar hysbysiad o brawf negyddol am y coronafeirws, er bod rhai eithriadau penodedig.

Rwyf heddiw wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn y Senedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ymhellach drwy:

  • leihau hynny o wybodaeth am deithiwr y mae’n ofynnol i bobl sy'n teithio i Gymru ei darparu ar y Ffurflen Lleoli Teithwyr, ac
  • ychwanegu eithriad fel nad oes raid i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws.

Rheoliadau ar Wybodaeth Iechyd y Cyhoedd

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Bersonau sy'n Teithio i Gymru etc.) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n dod o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i faes awyr, hofrenfa neu borthladd yng Nghymru ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â mesurau sy'n cael eu cymryd yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb nifer yr achosion o’r corofeirws a’i ledaeniad, gan gynnwys y mesurau sy'n ofynnol yn ôl y  Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. 

Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn ychwanegu at yr wybodaeth benodedig y mae'n rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr fel eu bod yn ymwybodol bod angen iddynt feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf coronafeirws negyddol a gafwyd o fewn 72 awr cyn teithio.

Rheoliadau ar Brofion Cyn Teithio

Roedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion Cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021, a ddaeth i rym ar 18 Ionawr 2021, yn gosod rhwymedigaeth ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau o'r fath yn meddu ar ganlyniad negyddol i brawf coronafeirws.

Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn gwneud newidiadau i'r gofyniad hwnnw fel ei bod yn ofynnol i weithredwyr wirio bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig.  Y teithiwr sy’n atebol am sicrhau bod y canlyniad yn deillio o brawf cymwys.

Bydd y diwygiadau hyn sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau sy'n cael eu gosod heddiw yn dod i rym am 4.00am ar 23 Ionawr 2021.