Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 30 Ebrill 2021.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Mae’r canrannau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfanswm nifer y dysgwyr ar brentisiaethau yn y flwyddyn hyd at y dyddiad y casglwyd y data. Mae hyn yn newid o adroddiadau blaenorol, pan fo canrannau’n seiliedig ar gyfanswm nifer y dysgwyr ar brentisiaethau rhwng y cyfyngiadau symud cyntaf ar 20 Mawrth 2020 a’r dyddiad y casglwyd y data. Gwnaed y newid gan ei bod wedi bod yn flwyddyn bellach ers y cyfyngiadau symud cyntaf, ac mae’r cynllun ffyrlo wedi’i estyn hyd fis Medi 2021.

Hefyd, bydd yr adroddiad hwn yn awr yn cael ei gyhoeddi bob dau fis, yn hytrach nag yn fisol.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,235 prentis ar ffyrlo llawn ar 30 Ebrill 2021.
  • Parhaodd nifer y prentisiaid ar ffyrlo i ostwng. Roedd un pumed o brentisiaid yn llai (355) ar ffyrlo llawn y mis hwn nag yn ystod y mis blaenorol.
  • Mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo 84% yn llai na’r hyn a oedd ar ei uchaf.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 1% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Roedd 115 o brentisiaid eraill (llai na 0.5%) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 28% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 36% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r anghydraddoldebau yn llai nag a oeddent ar ddechrau’r pandemig, ond mae rhywfaint o anghydraddoldeb o hyd. Y prentisiaid yr effeithir fwyaf arnynt o hyd yw’r rhai:

  • ifanc
  • sy’n gweithio yn y meysydd hamdden, chwaraeon a theithio; lletygarwch; gwallt a harddwch;
  • sydd ddim yn astudio prentisiaethau uwch
  • sy’n gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • sydd ddim yn gweithio yn y sector cyhoeddus
  • sy’n byw yn y de-orllewin

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Nodyn

Mae’r ystadegau ar gyfer prentisiaid sy’n cwblhau eu prentisiaethau yn cwmpasu cyfnod hirach ac maent yn edrych ar garfan fymryn yn wahanol o brentisiaid na’r ystadegau yn yr adroddiad Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2019 i Orffennaf 2020. Mae dysgwr sydd wedi cwblhau prentisiaeth wedi dysgu’r hyn sy’n ofynnol iddo ei ddysgu, ond ni fydd o reidrwydd wedi cyflawni pob un o'r cymwysterau gofynnol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 30 Ebrill 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 98 KB

ODS
98 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.