Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 30 Mehefin 2021.

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 30 Mehefin 2021 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yn y swydd ar 30 Mehefin 2020 a 310 Mehefin 2021 yn ôl grŵp staff (cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 30 Mehefin 2020 a 2021. Mae pob grŵp oni bai am Cynorthwywyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd wedi cynyddu ers 30 Mehefin 2020.
  • Bu cynnydd o 2,825 (3.3%) yng nghyfanswm nifer staff i 88,283.
  • Bu cynnydd o 262 (3.7%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,278.
  • Bu cynnydd o 33 (0.1%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,930.
  • Bu cynnydd o 2,529 (5.9%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 45,075.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 3,130 (3.1%) i 102,791.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.