Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gam wrth gam o fis Medi 2021. 

Yn 2018, cyhoeddais gynllun gweithredu drafft, a oedd yn gosod amserlen o dair blynedd ar gyfer symud plant o oedran ysgol gorfodol ac iau o’r system anghenion addysgol arbennig sydd eisoes yn bodoli i’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd.

Roedd y cynllun gweithredu’n cynnwys dysgwyr â datganiadau a dysgwyr â darpariaeth addysgol arbennig a ddarperir drwy Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Roedd y dull gweithredu gam wrth gam hwn yn caniatáu trosglwyddo graddol er mwyn osgoi llethu dysgwyr, ysgolion ac awdurdodau lleol.   

Ers cyhoeddi’r cynllun, mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar Gymru, ac ni allaf anwybyddu’r effaith hyn ar yr adnoddau sydd ar gael i’n hysgolion, ein hunedau cyfeirio disgyblion, ein hawdurdodau lleol a’n gwasanaeth iechyd. Oherwydd hynny, rwyf wedi ystyried f’amcanion yn ofalus ar gyfer gweithredu’r system newydd, ar sail yr hyn sy’n rhesymol i’w gyflawni yn yr amgylchiadau sydd ohoni.  

Felly, o 1 Medi 2021, bydd y system ADY yn cychwyn i blant o oedran ysgol gorfodol ac iau:

  • sy’n mynychu ysgolion a gynhelir ym Mlynyddoedd Meithrin 1 a 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10 ac sydd â darpariaeth addysgol arbennig drwy Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy,
  • cael eu cadw’n gaeth, a
  • nad oes ganddynt anghenion addysgol arbennig ar neu cyn y dyddiad hwnnw, ni waeth beth fo’u lleoliad na’u grŵp blwyddyn – gan gynnwys y rheini sy’n mynychu lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol, ysgol annibynnol neu’n dewis derbyn addysg yn y cartref. 

Mae hyn yn golygu na fydd plant sydd â darpariaeth addysgol arbennig ar hyn o bryd drwy ddatganiad a'r rhai sydd mewn unrhyw fath o addysg ôl-16, yn cael eu cynnwys yn y flwyddyn gyntaf.

Mae'n parhau'n bwysig bod gennym system sy'n gweithredu'n effeithiol ac mae angen parhau i wneud gwaith pellach er mwyn datrys cymhlethdodau'r newid rhwng y system newydd a'r system bresennol. Rwy’n gobeithio ddarparu diweddariad pellach cyn diwedd tymor y Senedd hon.   

Fel rhan o’r diweddariad hwnnw bwriadaf gyhoeddi canllawiau gweithredu i gefnogi’r gwaith cynllunio ar gyfer cychwyn y system newydd a gosod nodau ac amcanion ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 o’r cynllun. Er hynny, rwy'n parhau'n benderfynol i gyflwyno’r newidiadau hyn, ac ar 4 Ionawr, yn unol â chychwyn rolau statudol y Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) a Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SADYBC), cyhoeddais y canllawiau anstatudol i sicrhau bod y rhai sy'n ymgymryd â'r rolau hyn yn gallu gwneud hynny gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o'r Cod ADY diwygiedig. 

Yn olaf, mae'n fwriad o hyd i osod y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol diwygiedig a'r rheoliadau cysylltiedig gerbron y Senedd ym mis Mawrth 2021 er mwyn gallu cychwyn a chyflwyno'r Ddeddf gam wrth gam o fis Medi 2021.