Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddyfodol rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.

Bydd Aelodau yn cofio i mi ysgrifennu ar 22 Hydref 2020 yn benodol am y model y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei gyflwyno a fydd yn caniatáu i ni addasu ein cynlluniau ar gyfer cyfnod ar ôl Covid.  

Rwy’n falch i nodi, yn dilyn proses drawsnewid fanwl a thrylwyr, gyda Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Keolis Amey, fod Trafnidiaeth Cymru bellach, o 7 Chwefror ymlaen, yn gweithredu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau dan ein is-gwmni Transport for Wales Rail Ltd.

Mae niferoedd y teithwyr ar drenau wedi gostwng yn sylweddol yn sgil Covid-19, ond mae ein gwasanaethau’n parhau i fod yn hanfodol bwysig i bobl ar draws Cymru a’r gororau. Serch yr heriau ehangach a gyflwynwyd gan Covid-19, a chymhlethdod y broses drosglwyddo, rwy’n falch ein bod wedi parhau i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y cyfnod pontio heb gael unrhyw effaith andwyol ar deithwyr.

Mae darparu ein hymrwymiadau allweddol, megis creu’r Metro, darparu cerbydau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith reilffyrdd Cymru a’r Gororau a gwelliannau eraill yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a’i gangen ddarparu, Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn er waethaf yr heriau a wynebwn ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Mae Trafnidiaeth Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda phob partner a’u cadwyn gyflenwi i sicrhau eu bod yn darparu ein cynlluniau a’n gwasanaethau, gyda diogelwch yn brif flaenoriaeth.    

O 7 Chwefror ymlaen, bydd y bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Keolis ac Amey bellach yn cynnwys tair cydran allweddol.  

  • Bellach, cyfrifoldeb is-gwmni newydd dan berchnogaeth gyhoeddus i Trafnidiaeth Cymru (Trafnidiaeth Cymru CYF) yw darparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu’r llywodraeth i gael rôl hyd yn oed fwy wrth gyflenwi gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a’r gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol yr amgylchedd wedi Covid-19. Gan fod ansicrwydd mawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi’r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog i ni allu rheoli’r gwasanaethau rheilffyrdd wrth i ni ddod allan o’r pandemig.  
  • Bydd y gwaith o reoli seilwaith a thrawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn parhau i gael ei gyflawni dan y contract presennol gyda AMEY Keolis CYF. Bydd hyn yn cynnig sefydlogrwydd i’r rhaglen er mwyn sicrhau bod y gwaith o drawsnewid Metro De Cymru, sydd eisoes yn mynd rhagddo, yn cael ei gyflawni’n effeithiol.  
  • Datblygwyd partneriaeth newydd gyda Keolis ac Amey, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, sy’n galluogi pobl Cymru i barhau i elwa ar brofiad ac arbenigedd rhyngwladol y partneriaid hyn i helpu TrC i gyflawni ymrwymiadau pwysig fel tocynnau integredig, systemau trafnidiaeth ar-alw, dyluniad a darpariaeth ar draws dulliau teithio, yn ogystal â’r gwaith parhaus o integreiddio rheilffyrdd ysgafn a thrwm.  Mae’r bartneriaeth ar ffurf menter ar y cyd y mae TrC yn berchen arni yn bennaf, a fydd yn cael ei hadnabod fel ‘Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru’.

Mae’r Aelodau’n ymwybodol iawn ein bod yn dal mewn cyfnod anodd ac na allwn fforddio gorffwys ar ein rhwyfau wrth i ni ganfod ein ffordd allan o’r pandemig. Fodd bynnag, ein huchelgais yw parhau i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, ac mae ein hymrwymiad i wireddu gweledigaeth uchelgeisiol y Llywodraeth yn parhau.  Mae gweld yr effaith ar bobl a chymunedau ledled Cymru a’r gororau wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwasanaethau y mae TrC yn eu darparu, ac mae’r blaenoriaethau ehangach o ran y newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mor bwysig ag erioed. Beth bynnag ddaw yn y dyfodol, mae trafnidiaeth gynaliadwy, integredig o ansawdd da yn rhan hanfodol o’r ffordd yr ydym yn ailgodi’n gryfach.  

Rwy’n siŵr y bydd yr aelodau’n rhannu ein hawydd i weld y model newydd hwn yn ffynnu a’n bod yn parhau i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.