Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae arweinyddiaeth ein hysgolion yn wynebu mwy o her nag erioed yn sgil COVID19. Rydym wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn her yr OECD i ni ar ddiwylliant, cyfleoedd a datblygiad arweinyddiaeth. Yn sgil pwyslais Cenhadaeth Ein Cenedl ar arweinyddiaeth fel cyfrwng i ysgogi diwygiadau, rwy'n falch bod yr OECD bellach yn cydnabod ein bod yn llwyddo i ddatblygu'r daith diwygio addysg mewn ffordd gyson a chlir.

Er mwyn parhau â'r momentwm hwn, a chefnogi ein harweinwyr ac arweinwyr y dyfodol, rwy'n comisiynu:-

  • Adolygiad strategol o'r cymorth ar gyfer arweinyddiaeth yng Nghymru sy'n cynnwys ystyried yr CPCP, y model ariannu ar gyfer cymorth arweinyddiaeth, cynllunio olyniaeth a'n disgwyliadau o ran rôl arweinyddiaeth wrth wireddu'r cwricwlwm
  • Adolygiad beirniadol o rolau a chyfrifoldebau'r holl asiantaethau yn y system sy'n rhoi cymorth ar gyfer arweinyddiaeth a sut maent yn rhyngweithio i sicrhau'r atebion gorau i dîm arwain ysgolion nodweddiadol gan gynnwys Penaethiaid, Dirprwy Benaethiaid a Phenaethiaid Cynorthwyol

Bydd hyn yn arwain at gyngor gan y tîm adolygu mewn perthynas â rolau pob un o'r asiantaethau a sut y bydd angen iddynt ryngweithio a datblygu cynllun gweithredu arweinyddiaeth.

Bydd yr Adolygiad Arweinyddiaeth hwn yn llywio datblygiadau yn y dyfodol ac yn rhoi eglurder ar y cymorth sydd gennym i arweinwyr ysgolion ar draws y system, a'r cymorth y bydd ei angen arnynt i'w galluogi i wireddu'r cwricwlwm newydd.  

Byddaf yn gofyn i dîm o arbenigwyr gynnal yr adolygiad. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Alma Harris, arbenigwr ym maes Arweinyddiaeth o Brifysgol Abertawe, arwain yr adolygiad. Bydd yr Athro Harris yn arwain tîm o bartneriaid Addysg Uwch ac ymarfer yng Nghymru wrth gynnal yr adolygiad. Mae'r Athro Carol Campbell o Brifysgol Toronto Ontario hefyd wedi cytuno i gefnogi'r adolygiad, gan ddod â safbwynt rhyngwladol a gwrthrychedd beirniadol; a gweithredu fel cyfaill beirniadol i'r grŵp. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal rhwng mis Chwefror a mis Ebrill; a'r adroddiad ar gael yn ddiweddarach yn 2021.