Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Busnes enillydd 2021

Mae Little Inspirations Ltd yn darparu gofal plant i fabanod a phlant ifanc mewn nifer o leoliadau ledled de Cymru. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 gyda phum aelod o staff a deg o blant a thyfodd i fod yn gwmni sy'n cyflogi 80 o staff ac sy'n gallu gofalu am 400 o blant y dydd.

Mae’r cwmni mewn wyth lleoliad yn Llantrisant, Rhydyfelin, Casnewydd, Aberdâr a dau leoliad yr un yn y Barri a Thonyrefail.

Maent yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar chwarae a phrofiadau blynyddoedd cynnar o safon. Mae eu safonau gofal plant uchel wedi cael adroddiadau rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac maent wedi ennill llawer o gontractau tendro gan dri awdurdod lleol yng Nghymru.

Roedd y cwmni'n un o ddim ond tua 10% o wasanaethau gofal plant a arhosodd ar agor yn ystod y cyfyngiadau Coronafeirws cyntaf ac a ddarparodd ofal i 144 o deuluoedd mewn chwech allan o’u wyth lleoliad yn ystod y cyfnod hwnnw i ganiatáu i rieni fedru mynd i'r gwaith. Darparodd Little Inspirations hyfforddiant COVID i bob gweithiwr, a chynhyrchodd bolisïau a gweithdrefnau sydd wedi cael eu defnyddio mewn lleoliadau eraill.

Roeddent yn darparu pecynnau gweithgareddau wythnosol i'r plant hynny a oedd yn aros gartref gyda'u rhieni. Cafodd cynllun rhoi llyfrau ei gyflwyno hefyd a darparodd Little Inspirations tua 200 o fwndeli llyfrau fel bod adnoddau darllen ar gael i bob plentyn.

Yn ystod y cyfnod heriol hwn, gweithiodd Jenine, y perchennog, fel nyrs feithrin i gyflenwi dros absenoldeb gweithwyr a helpu i sicrhau bod y safleoedd yn aros ar agor. Roedd Jenine hefyd yn mynd ati'n rhagweithiol i rannu gwybodaeth a chymorth i wasanaethau gofal plant eraill a oedd yn nerfus am ailagor.