Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Sefydlwyd y Tîm Peirianneg Gofynnion Offer Critigol (CERET) ym mis Mawrth 2020 i ymateb i angen brys am ddyfeisiau meddygol gan gynnwys cyfarpar diogelu personol oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Ymgysylltodd corff caffael GIG Cymru (NWSSP) â Llywodraeth Cymru a diwydiant Cymru am gymorth gyda ffynonellau cyflenwi newydd o'u cadwyn gyflenwi neu i sefydlu cadwyni cyflenwi lleol cadarn newydd.

Ymatebodd CERET i ofynion brys iechyd a gofal, gan gynnwys feisorau, masgiau wyneb, sgrybs, gynau, glanweithydd, gan geisio cyfateb i'r galw a'r cyflenwad.  Cwmnïau fel y Bathdy Brenhinol, Penderyn, Rototherm ymhlith llawer yn ogystal â bron i 200 o wirfoddolwyr yn y gymuned yn gwneud 5000 o sgrybs a ffedogau.

Roedd CERET hefyd yn hyrwyddo arloesedd yng Nghymru ac mae nifer o ddyfeisiau meddygol wedi'u datblygu ac yn cael eu treialu gan gynnwys dyfais resbiradol, Oximeter a masg ocsigen.

(Tîm CERET – Adrannau Iechyd, yr Economi, Arloesedd a Chaffael Llywodraeth Cymru, NWSSP, SMTL, Hwb Gwyddorau Cymru ac Industry Wales).