Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Mae Dr Mahaboob Basha yn gweithio i’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae wedi bod yn hyrwyddwr cydlyniant cymunedol a’r gymuned Fwslimaidd yn Abertawe am nifer o flynyddoedd ac mae’n eiriolwr brwdfrydig dros y sawl sydd mewn angen - gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, myfyrwyr rhyngwladol a newydd-ddyfodiaid eraill i Abertawe. Mae wedi eu helpu mewn nifer o ffyrdd – o’u helpu nhw i fwrw eu hiraeth am adref  faterion lles, ymsyg pethau eraill.

Mae Dr Basha wedi ei hyfforddi yn ymatebwr cyntaf cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mae’n parhau i weithio fel ymatebwr. Trefnodd hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd i blant a phobl ifanc, gan weithio gyda meddygon teulu a staff meddygol arall. Mae e yn lywodraethwr mewn dwy ysgol ac yn ddiweddar wedi rhoi o’i amser i’r rhaglen brofi coronafeirws yn y brifysgol.

Yn ystod y pandemig cefnogodd y bobl sydd yn agored i niwed yn y gymuned drwy  wirfoddoli mewn cartrefi gofal a phreswyl lleol a darparu dros 1400 o bresgripsiynau a nwyddau groser i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain.