Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer y wobr Dyngarol

Mae Angharad Paget-Jones, ymgyrchydd hawliau anabledd o Bort Talbot, wedi defnyddio ei phrofiad ei hun o fyw gyda cholled golwg difrifol i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu'r rhai sydd â nam ar eu golwg.

Mae wedi ymgyrchu dros welliannau ar lawer o faterion gan gynnwys ymgyrch ynghylch gwahardd Byrddau A yng Nghymru am eu bod yn cymryd lle gwerthfawr ar balmentydd ac yn achosi rhwystr i lawer o bobl gan gynnwys pobl hŷn, rhieni â chadeiriau gwthio yn ogystal â phobl â golwg cyfyngedig.

Arweiniodd 100 o Gŵn Tywys a'u defnyddwyr i San Steffan i lobïo yn erbyn gwrthodiadau mynediad, mater y mae hi ei hun wedi'i wynebu.

Mae hi hefyd yn gweithio gyda phedwar llu Heddlu Cymru i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb anabledd yn dilyn camdriniaeth a wynebodd hi yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Ysgrifennodd at ASau ac Aelodau Senedd Cymru i dynnu sylw at y materion hyn, sydd wedi arwain at Aelodau Seneddol yn gofyn cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin i dynnu sylw at y mater hwn.

Mae hi'n ymdrechu i weld yr ochr gadarnhaol ym mhob profiad ac mae'n troi profiad negyddol yn un cadarnhaol.