Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2 miliwn fel rhan o gytundeb gyda Chyngor Sir Benfro i sefydlu parc bwyd o safon yn Sir Benfro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y cynigion uchelgeisiol hyn yw creu canolfan o safon uchel yn Llwynhelyg ger Hwlffordd a bydd yn dod yn gartref i nifer o gynhyrchwyr bwyd.

Nod buddsoddi yn y parc bwyd yw creu lleiniau sy'n barod i'w datblygu ar draws y safle 23 erw sydd ym mherchnogaeth y cyngor.

Wedi'i leoli ar gyrion Hwlffordd, mae gan y safle gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, y môr a'r awyr, gyda cham cyntaf y gwaith seilwaith ar y safle bron â'i gwblhau ar hyn o bryd.

Mae Sir Benfro yn enwog am ei chynnyrch o ansawdd uchel a bydd y parc bwyd hwn yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr gaffael lleiniau i ddatblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu bwyd a fydd yn creu gwerth ychwanegol a swyddi newydd yn y rhanbarth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae y coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cefnogi ardaloedd ledled Cymru ac yn rhoi hwb i'n busnesau a'n gweithwyr.

"Mae gan Sir Benfro sector bwyd amrywiol a chyfoethog a byddai'r cynllun uchelgeisiol hwn yn rhoi parc bwyd o safon iddo fanteisio'n llawn ar hynny.

"Mae gan y datblygiad cyffrous hwn y potensial i ychwanegu gwerth pellach at yr arbenigedd sydd gan gynhyrchwyr yn yr ardal a darparu cyfleoedd cyflogaeth a thwf busnes pwysig.

Croesawodd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod Cabinet Sir Benfro gyda Chyfrifoldeb dros yr Economi, y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Meddai:

"Mae Parc Bwyd Sir Benfro yn rhan bwysig o'n nod hirdymor o gefnogi a chryfhau diwydiant bwyd a diod Sir Benfro drwy gadw mwy o'r gwerth ychwanegol o gynhyrchu lleol

"Rydym yn falch iawn o ymrwymo i fenter ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn yr hyn rydym yn rhagweld fydd yn brosiect trawsnewidiol i gynhyrchwyr Sir Benfro.

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi derbyn £1 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ar gyfer cyflawni cam cyntaf gwaith seilwaith yn y parc bwyd.