Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi dadansoddiad Llywodraeth Cymru o oblygiadau perthynas newydd y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn sgil y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, cytundebau cysylltiedig a datganiadau ar y cyd.

Cwblhawyd y Cytundeb hwn rhwng y DU a’r UE ar 24 Rhagfyr 2020, ddiwrnodau yn unig cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben ar 31 Rhagfyr gan esgor ar berthynas newydd rhwng y DU a’r UE.

Nid yw’r Cytundeb yn agos i’r hyn y byddai Llywodraeth Cymru wedi dymuno ei weld. Fodd bynnag, o gael dewis plaen rhwng y Cytundeb hwn a diweddu’r cyfnod pontio heb fframwaith ar gyfer cytundeb ar y berthynas yn y dyfodol, gwnaethom gefnogi’r dewis a fyddai’n darparu’r berthynas agosaf â’r UE ac felly cyn lleied o amharu â phosibl – fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol y pedair blynedd a hanner diwethaf.

Ers diwedd y cyfnod pontio, mae newidiadau sylweddol ac ymarferol wedi bod yn ein perthynas â’n cymdogion agosaf: diwedd mynediad dirwystr i’r Farchnad Sengl, diwedd cyfranogi yn yr Undeb Tollau a diwedd gweithredu rheolau a chytundebau rhyngwladol yr UE yn y DU. Mae’r Cytundeb yn darparu fframwaith ar gyfer perthynas sylfaenol wahanol o 1 Ionawr 2021 ymlaen, ac er ei fod yn rhoi eglurder mawr ei angen ynghylch ein perthynas fasnachu newydd, mae nifer o gymhlethdodau newydd bellach yn bodoli ac mae ansicrwydd o hyd mewn sawl maes allweddol.

Fodd bynnag, er ein pryderon difrifol ynglŷn â’r Cytundeb, rydym bob amser wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau y gall Cymru ymateb i’r sefyllfaoedd newydd hyn. Nod y ddogfen hon yw nodi mewn modd gwrthrychol beth sydd wedi newid ers diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020, a chyfeirio busnesau a dinasyddion at ragor o wybodaeth, gan gynnwys beth sydd ar gael ar ein gwefan Paratoi Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth i ddinasyddion, busnesau, sefydliadau a chymunedau wrth inni ddelio â’r realiti newydd hwn. Byddwn hefyd yn parhau i ddadlau dros ymagwedd eangfrydig ar gyfer perthynas y DU â gweddill y byd, gan roi lles ein pobl wrth wraidd hynny.

Y Berthynas Newydd â’r UE Beth mae’n ei olygu i Gymru