Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 16 Chwefror 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd
  • Sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi'r rhestr.

Rydym wedi canolbwyntio hyd at y pwynt hwn ar gynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1-4. Roedd hyn yn cynnwys holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Dywedasom, yn amodol ar y cyflenwad, mai ein huchelgais oedd gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror.

Cadarnhawyd ddydd Gwener 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir gyntaf ac wedi cynnig y brechlyn i’r holl unigolion hynny sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4. Ni oedd y gyntaf o blith pedair gwlad y DU i gyrraedd y garreg filltir allweddol hon yn ein rhaglen frechu.

Erbyn dydd Sul 14 Chwefror, roeddem wedi rhagori ar y marc o dri chwarter miliwn ac roeddem hefyd yn parhau ar y brig o blith gwledydd y DU o ran bod wedi brechu’r ganran fwyaf o’n poblogaeth. Ddydd Sul, roedd y ganran hon yn fwy na 24% o’n poblogaeth gyfan ac yn bron i 30% o’n poblogaeth o unigolion dros 16 oed.

Hyd yn hyn mae mwy na 795,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru.

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Rydym wedi bod yn adeiladu seilwaith o'r gwaelod i fyny. Mae'r model cyflawni yn fodel cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, sicrhau lleoliadau sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ym mhob rhan o’r wlad ac ym mhob cymuned. Mae hefyd yn fwriad o dan y model hwn i sicrhau bod ein cartrefi gofal i bobl hŷn a'r boblogaeth hŷn yn cael y brechlyn cyn gynted â phosibl.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechlynnau’n cael eu rhoi mewn 514 o leoliadau yng Nghymru, gan gynnwys:

  • 52 o ganolfannau brechu torfol
  • 387 o leoliadau practis cyffredinol
  • 33 o ysbytai
  • gan 38 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawni marcwyr a cherrig milltir

Yn ein Strategaeth, amlinellwyd 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni carreg filltir 1 erbyn canol mis Chwefror:  

Marciwr 1 oedd cynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr. Cyflawnwyd hyn. 

Marciwr 2 oedd cynnig y brechlyn i bob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal i bobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn.

Marciwr 3 oedd bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr. Cyflawnwyd hyn a rhagorwyd arno cyn y dyddiad a nodwyd. 

Carreg Filltir 1 yn ein strategaeth oedd bod wedi:

  • cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi i bobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; ac unigolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Fel y nodir uchod, cadarnhawyd gennym ddydd Gwener 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni’r garreg filltir hon. Mae pob unigolyn yn y 4 grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi cael cynnig y brechlyn ac mae mwy na 80% yn awr wedi derbyn eu dos cyntaf. 

Mae hwn yn gyflawniad anhygoel ac mae’n foment bwysig inni fyfyrio ar lwyddiant ein rhaglen hyd yma. Diolch i GIG Cymru, partneriaid lleol a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod ynghlwm â’r ymdrech anhygoel hon. Diolch hefyd i bob un sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn i gael brechlyn sy’n achub bywydau – diolch ichi am y rhan rydych chi wedi’i chwarae yn yr ymdrech genedlaethol hon i Ddiogelu Cymru.

Bydd rhesymau, wrth gwrs, pam nad oedd rhai unigolion yn gallu manteisio ar y cynnig o frechlyn a bydd unigolion eraill na fu modd cysylltu â nhw. Rydym wedi gweithredu polisi o ‘adael neb ar ôl’ ac rydym yn rhagweithiol wrth fynd ar drywydd unigolion nad ydynt wedi cael eu brechu hyd yma. Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un yng ngrwpiau 1-4 nad ydynt wedi clywed unrhyw beth am eu hapwyntiad i gysylltu â’u bwrdd iechyd. Mae manylion llawn i’w cael yma. 

Marcwyr a cherrig milltir sydd ar y gweill

Y pwynt allweddol nesaf yn ein Strategaeth yw Carreg Filltir 2. Rydym wedi dweud, erbyn diwedd mis Ebrill, yn amodol ar y cyflenwad, mai ein nod yw cynnig y brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 5-9, sef:

  • awb sy’n 50 i 69 mlwydd oed
  • pawb dros 16 oed sydd â chyflwr iechyd arnynt eisoes, sy’n eu rhoi mewn perygl o gael salwch difrifol
  • llawer o ofalwyr di-dâl amhrisiadwy sy’n darparu gofal ar gyfer rhywun sy’n agored i niwed yn sgil y feirws

Mae apwyntiadau yn cael eu trefnu’n barod ar gyfer y rheini sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 a 6. Rydym yn symud drwy’r grwpiau blaenoriaeth ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni hyn o fewn yr amserlen a bennwyd gennym. 

Byddwn yn dweud mwy am ein cynlluniau ar gyfer y cerrig milltir sy’n weddill yn ein strategaeth dros yr wythnosau sydd i ddod.

Rhagor o wybodaeth

Dros yr wythnosau nesaf rydym yn disgwyl gostyngiad bach yn nifer y brechlynnau a dderbynnir yn y DU. Disgwyliwyd y newid hwn i’r cyflenwad a chynlluniwyd ar ei gyfer, a bydd yn effeithio ar y DU yn gyfan.

Styriwyd hyn fel rhan o’n cynlluniau ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac yn achosi oedi i unigolion sy’n disgwyl derbyn eu hail ddos o’r brechlyn. Ar ôl y gostyngiad hwn a ddisgwyliwyd, disgwylir cynnydd cyflym a sylweddol yn y cyflenwad o ddechrau mis Mawrth. Bydd ein seilwaith a’n capasiti yn plygu dros yr wythnosau sydd i ddod i ymateb i’r cyflenwad a fydd ar gael, a byddwn yn barod i ymateb unwaith eto i’r cynnydd ym mis Mawrth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi datganiadau data gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.  

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.