Neidio i'r prif gynnwy

A hithau’n Ddiwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell, anfonodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, neges o ddiolch at y miloedd o wirfoddolwyr a’r cynorthwywyr cymunedol yng Nghymru, sydd wedi dangos caredigrwydd wrth bobl sydd mewn angen yn ystod pandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys tystiolaeth wyddonol bod cyflawni gweithred garedig i helpu rhywun arall yn cael effaith gadarnhaol fawr ar y sawl sy’n helpu, a’r sawl sy’n cael yr help. Gall hyd yn oed y weithred leiaf o garedigrwydd newid bywyd rhywun.

Dywedodd Jane Hutt:

Ledled Cymru, drwy gyfnod y llifogydd a’r pandemig, mae pobl wedi dangos caredigrwydd tuag at y rhai sydd angen help fwyaf. Mae’r straeon am garedigrwydd a chymorth yn hyfryd ac yn codi calon rhywun, a’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi gobaith i’w cymunedau.

Mae pobl garedig wedi sefyll ar y rhiniog ac ar garreg y drws i sgwrsio â chymdogion a fyddai, fel arall yn treulio dyddiau ac wythnosau ar eu pennau eu hunain. Mae grwpiau cymunedol wedi bod yn cynnal sesiynau cadw mewn cysylltiad ar-lein i bobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn bell. Sefydlwyd grwpiau cymorth gan elusennau i helpu gweithwyr cymorth sy’n gweithio ar y rheng flaen. Canfuwyd ffyrdd amhrisiadwy o gydweithio ymysg cymdogion, i godi arian neu wneud cynnyrch i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Oherwydd eich caredigrwydd a’ch ymdrechion chi, mae awdurdodau lleol, y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi gallu canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

Rwyf eisiau diolch i bawb, un ac oll, sydd wedi dangos caredigrwydd wrth bobl yn eich cymunedau, a hynny mewn cynifer o ffyrdd. Rydych chi wedi gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fod yn ddyfeisgar.

Rwy’n gofyn yn garedig i chi barhau i edrych am ffyrdd cadarnhaol o roi cymorth i bobl sydd ei angen, fel bod caredigrwydd yn beth normal. Gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau caredicach, sy’n fwy clos ac yn gryfach. Yr unig beth i’w gofio yw – cadwch yn ddiogel a dilynwch ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru.