Neidio i'r prif gynnwy

Parciau a gerddi y mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn eu harchwilio i wirio iechyd planhigion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal archwiliadau iechyd planhigion mewn parciau a gerddi cyhoeddus ddwywaith y flwyddyn.

Mae'r parciau'n cynnwys miloedd o blanhigion a choed cyffredin a rhai llai adnabyddus. Mae'r archwiliadau'n nodi problemau posibl gyda phlâu a chlefydau planhigion niweidiol a rheoleiddiedig.

Mae 22 o safleoedd sentinel, wedi'u lleoli ym mhob rhanbarth awdurdod lleol. Mae'r gerddi a pharciau yn ffurfio rhwydwaith Safle Sentinel. Maent yn safleoedd monitro pwysig sy'n gweithredu fel system rhybudd cynnar ar gyfer plâu a chlefydau planhigion sy'n ffurfio rhwydwaith gwyliadwriaeth.

Os ydych yn gyfrifol am barc neu ardd sydd â mynediad i'r cyhoedd ac os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni: Plant.Health@llyw.cymru.

Gerddi a pharciau yn ôl sir

  1. Blaenau Gwent - Parc Bedwellte
  2. Caerffili - Parc Penallta
  3. Caerdydd - Parc Bute 
  4. Merthyr Tudful - Parc Cyfarthfa 
  5. Sir Fynwy – Gerddi Linda Vista 
  6. Casnewydd - Tŷ Tredegar (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  7. Torfaen - Parc Pont-y-pŵl
  8. Pen-y-bont ar Ogwr - Parc Gwledig Bryngarw 
  9. Sir Gaerfyrddin  - Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol
  10. Ceredigion – Llanerchaeron (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  11. Castell-nedd Port Talbot - Parc Margam 
  12. Sir Benfro - Gardd Goedwig Colby (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  13. Rhondda Cynon Taf - Parc Aberdâr
  14. Abertawe - Gerddi Clun
  15. Bro Morgannwg - Gerddi Dyffryn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  16. Conwy - Gardd Bodnant (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  17. Sir Ddinbych - Bodelwyddan
  18. Sir y Fflint - Parc Gwledig Loggerheads
  19. Gwynedd - Castell Penrhyn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  20. Ynys Môn - Plas Newydd (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  21. Powys - Castell Powis (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  22. Wrecsam - Castell y Waun (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)