Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 22 i 25.

Bwriadau tripiau sydd ar ddod

  • Mae 15% o oedolion y DU yn rhagweld trip dros nos yn y DU y gwanwyn hwn (Mawrth i Fehefin 2021), gan godi i 27% yr haf hwn (Gorffennaf i Fedi 2021). Mae preswylwyr o Gymru ychydig yn llai tebygol o ragweld trip (14% a 24% yn y drefn honno).   
  • De Orllewin Lloegr yw'r gyrchfan fwyaf poblogaidd ar gyfer trip gwanwyn a haf, 25% o bobl y DU yn cynllunio trip dros nos yno yn y Gwanwyn, a 27% yn yr haf. Mae Cymru yn gyrchfan arfaethedig ar gyfer 9% yn y gwanwyn a 10% yn yr haf.
  • Mae bron i hanner bwriadwyr y gwanwyn a'r haf sy'n byw yng Nghymru yn debygol o aros yng Nghymru ar gyfer eu trip dros nos, gyda thua 3 o bob 10 yn bwriadu teithio i Dde Orllewin Lloegr.

Tripiau busnes

  • Mae 7% o oedolion y DU mewn cyflogaeth yn bwriadu mynd ar drip busnes dros nos erbyn Mehefin 2021, o'i gymharu â 5% o oedolion sy'n gweithio sy'n byw yng Nghymru.
  • Mae oedolion y DU sy’n cynllunio trip busnes dros nos yn rhagweld cryn dipyn yn llai o dripiau o’i gymharu â’r arferol rhwng nawr a Mehefin 2021.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): Rhagfyr 2020 i Chwefror 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Stephens

Rhif ffôn: 0300 025 5236

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.