Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru i archwilio cyflwyno STV mewn etholiadau lleol yng Nghymru yn y dyfodol fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Nodau'r ymchwil hon oedd asesu rhagoriaethau cymharol gwahanol amrywiadau ar STV a sut i’w rhoi ar waith. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio’n fanwl ar chwe agwedd ar systemau etholiadol STV.

  1. System gwotâu
  2. System drosglwyddo
  3. Dull cyfrif
  4. Strwythur y papur pleidleisio
  5. Maint y dosbarth
  6. Dealltwriaeth y pleidleiswyr a’r rhanddeiliaid

Defnyddiodd yr ymchwil ymagwedd dulliau cymysg gan gynnwys adolygu’r llenyddiaeth academaidd a’r llenyddiaeth lwyd bresennol; cyfweliadau lled-strwythuredig â rhanddeiliaid,  gan gynnwys swyddogion etholiadol, academyddion, cyn wleidyddion a grwpiau lobïo; ac efelychu canlyniadau etholiadol o dan wahanol amrywiadau ar systemau etholiadol STV. Bu’r efelychiadau hyn yn edrych yn benodol ar y system gwotâu a ddefnyddiwyd (Hare vs Droop) a'r dull trosglwyddo ar gyfer dyrannu’r dewisiadau (dull trosglwyddo ar hap, dull Gregory syml, dull Gregory Cynhwysol, a dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli).

Prif ganfyddiadau

System gwotâu

Y cwota sy’n pennu’r trothwy o ran nifer y pleidleisiau y mae'n rhaid i’r ymgeisydd eu sicrhau er mwyn cael ei ethol. Hoeliodd yr ymchwil sylw ar ddefnyddio dau amrywiad cwota: cwota Hare a chwota Droop. Mae cwota Droop yn cynhyrchu trothwy is i’r ymgeiswyr ei gyrraedd na chwota Hare.

Cwota Droop yw'r cwota mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio mewn systemau etholiadol STV ac mae wedi disodli cwota Hare bron yn llwyr. Mae hyn yn cynnwys yn y Deyrnas Unedig, lle mae etholiadau yng Ngogledd Iwerddon ac etholiadau lleol Alban ill dau yn defnyddio cwota Droop. Ni welodd yr efelychiadau ddim gwahaniaeth sylweddol bron o ran canlyniadau’r etholiadau wrth ddefnyddio’r naill gwota a'r llall. O gofio ei fod yn cael ei ddefnyddio eisoes mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig, rydym felly'n argymell y dylai cwota Droop gael ei fabwysiadu. 

Dull trosglwyddo

Mae ‘dull trosglwyddo’ yn cyfeirio at y modd y caiff dewisiadau’r pleidleiswyr eu trosglwyddo unwaith y bydd ymgeisydd wedi ei ethol neu wedi ei fwrw allan. Mae'r adroddiad hwn yn pwyso a mesur sut y defnyddir  pedair system drosglwyddo: dull trosglwyddo ar hap fel yr un a geir yng Ngweriniaeth Iwerddon, Dull Gregory Syml a ddefnyddir yng Ngogledd Iwerddon, Dull Gregory Cynhwysol a ddefnyddir mewn sawl etholiad yn Awstralia, ac yn olaf Dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli a geir yn etholiadau lleol yr Alban.

Mae’n hymchwil ni’n nodi dau ddull sy'n addas i'w defnyddio yn etholiadau lleol Cymru: Dull Gregory Cynhwysol wedi’i Bwysoli a Dull Gregory Syml.

Enwyd dull Gregory wedi'i Bwysoli gan bobl y cyfwelwyd â nhw ac yn y llenyddiaeth bresennol fel y dull gorau posibl. Yma, mae’r holl ddewisiadau o blith gwarged yr ymgeisydd etholedig yn cael eu trosglwyddo, ond ar ffracsiwn o'u gwerth gwreiddiol. Mae’r dewisiadau’n cael eu pwysoli hefyd er mwyn atal pleidleisiau rhag cynyddu mewn gwerth wrth i'r cyfrif fynd yn ei flaen. Bernir mai dyna sy’n cynhyrchu'r canlyniadau etholiadol 'tecaf'. Serch hynny, mae'r cyfrifiadau sy'n angenrheidiol yn golygu bod y dull yn dibynnu ar ddefnyddio cyfrifiadur i helpu i gyfrif. Nid yw'n addas ar gyfer cyfrif â llaw.

Cafodd Dull Gregory Syml ei argymell gan bobl y cyfwelwyd â nhw fel dewis amgen yn lle'r Dull Gregory wedi'i Bwysoli pe bai pleidleisiau’n cael eu cyfrif â llaw. Mae’r dull hwn yn trosglwyddo’r pleidleisiau diweddaraf a gafwyd ar bentwr yr ymgeisydd a etholwyd yn unig, a hynny ar ffracsiwn o'u gwerth gwreiddiol. Yn yr efelychiadau, arweiniodd hyn at lai o  wallau na'r dull trosglwyddo ar hap a'r Dull Gregory Cynhwysol, ond mwy na’r dull Gregory wedi'i Bwysoli. Os na fydd dull cyfrif electronig yn cael ei fabwysiadu, rydym yn argymell defnyddio'r dull hwn. 

Dull cyfrif

Cafwyd consensws yn y llenyddiaeth bresennol ac ymysg y bobl y cyfwelwyd â nhw fod cyfrif yn electronig yn well na chyfrif pleidleisiau â llaw. Dadleuwyd bod cyfrif electronig yn cynyddu dilysrwydd canlyniadau etholiadau drwy leihau'r tebygolrwydd o gamgymeriadau dynol yn y broses gyfrif, a’i fod yn gwella effeithlonrwydd drwy ddarparu canlyniadau'n gyflym. Mae i gyfrif electronig fanteision ychwanegol hefyd i asiantau etholiadol a phleidiau gan y gall ddarparu data cywir safonedig ar gyfer pob man pleidleisio. Fel y nodwyd uchod, byddai hefyd yn caniatáu i ddull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli gael ei fabwysiadu.

Tynnodd ein dadansoddiad sylw hefyd at sawl anfantais mewn cyfrif yn electronig. Yr anfanteision pennaf yn eu plith yw'r costau cychwynnol sylweddol sy’n codi wrth sicrhau’r galedwedd a'r feddalwedd angenrheidiol i wneud y gwaith cyfrif a darparu’r canlyniadau, yr hyfforddiant y mae ei angen i weithredu'r systemau hyn, a’r mesurau diogelwch seibr a’r mesurau diogelwch rhwydwaith angenrheidiol. Gall y rhain fod yn rhy ddrud i awdurdodau lleol unigol. Hefyd, mae yna oblygiadau o ran dylunio, cynhyrchu a llenwi pleidleisiau a all gael eu darllen yn gywir gan feddalwedd cyfrif electronig.

Er hynny, casgliad y gwaith ymchwil ansoddol oedd bod cyfrif yn electronig, er  ei fod yn gostus, yn werth y buddsoddiad er mwyn sicrhau bod gan y pleidleiswyr hyder yn y system. Awgrymwyd y dylid creu cronfa ganolog y gallai’r awdurdodau lleol dynnu oddi arni i ariannu gwaith cyfrif electronig.

Strwythur y papur pleidleisio

Dylai papurau pleidleisio gael eu dylunio mewn modd nad yw'n arwain at unrhyw fantais etholiadol amhriodol i blaid neu ymgeisydd penodol dros un arall. Mae nifer o wahanol ffyrdd i reoleiddio trefn yr ymgeiswyr er mwyn i’r pleidleiswyr fynegi eu dewisiadau etholiadol mewn etholiadau STV, bob un â'i sgil-effeithiau ei hun.

Un o'r prif bryderon o safbwynt yr adroddiad hwn oedd gosod yr ymgeiswyr mewn trefn ar y papur pleidleisio. Ystyriwyd tri opsiwn o sylwedd: gosod yr ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor o fewn clystyrau pleidiau; caniatáu i’r pleidiau drefnu’r ymgeiswyr yng nghlwstwr eu plaid; a math o drefnu’r ymgeiswyr ar hap. Mae'r adroddiad yn argymell yr ail opsiwn gan fod hwnnw’n dileu'r mater bach ond arwyddocaol o effaith trefn ymgeiswyr.  Er bod trefnu ar hap yn dileu'r posibilrwydd y bydd y drefn yn creu effeithiau, mae hynny’n creu heriau ychwanegol o ran hygyrchedd ac yn golygu bod pleidleisio electronig yn angenrheidiol.

Un ystyriaeth olaf ynglŷn â'r papur pleidleisio yw faint o ymgeiswyr y mae'n ofynnol i’r pleidleiswyr bleidleisio drostyn nhw: a oes rhaid iddyn nhw roi rhyw flaenoriaeth i bob ymgeisydd, neu i isafswm, ac yn y blaen. Rhoddodd y mwyafrif o'r rhai y cyfwelwyd â nhw gyfiawnhad dros eu credoau nhw ar sail yr egwyddorion cyntaf, sef y dylai system etholiadol wella dewis a thegwch, ac felly roedden nhw ar y cyfan yn erbyn pennu nifer gorfodol o ddewisiadau.

Maint y dosbarth

Mae maint y dosbarth yn cyfeirio at nifer y seddi sydd i'w llenwi mewn dosbarth (neu ward). Y consensws yn y llenyddiaeth ac ymysg y bobl y cyfwelwyd â nhw oedd bod dosbarth o faint mwy yn well gan fod hynny’n arwain at ganlyniadau etholiadol mwy cymesur.

Serch hynny, mae dosbarthau mwy yn dod â heriau yn eu sgil, yn enwedig yn y mannau mwyaf gwledig lle y gall fod yn anodd dod o hyd i'r nifer angenrheidiol o ymgeiswyr i sefyll.  Yn y dosbarthau hyn, efallai na fydd ehangu maint daearyddol y dosbarthau i ymdopi â mwy o ymgeiswyr posibl yn ddymunol gan y gall hynny erydu’r ymdeimlad o fro a chreu mwy o rwystrau sy’n atal ymgyrchoedd sy'n canolbwyntio ar ymgeiswyr. Gan hynny, dylai’r awdurdodau lleol ganiatáu ar gyfer rhywfaint o amrywiad ym maint y wardiau.

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn caniatáu ar gyfer maint dosbarth o rhwng tri a chwech. Rydyn ninnau’n argymell maint dosbarth o bump neu chwech, gyda darpariaeth i ardaloedd gwledig wneud cais am ddosbarthau sy’n dri neu bedwar o ran eu maint.

Dealltwriaeth y pleidleiswyr a’r rhanddeiliaid

Doedd dim rheswm i’w gael yn yr adolygiad o’r lenyddiaeth nac yn y cyfweliadau dros bryder ynghylch dealltwriaeth pleidleiswyr o systemau etholiadol STV. Mae cyfradd y pleidleisiau sy’n cael eu difetha yn  cynyddu ryw fymryn  o'i chymharu â systemau y cyntaf i’r felin, ond mae’r dystiolaeth o wledydd mor amrywiol ag Estonia, Seland Newydd a Gweriniaeth Iwerddon yn dangos bod dealltwriaeth pleidleiswyr o systemau STV yn gymharol uchel. Yn hytrach, pwysleisiodd y rhai y cyfwelwyd â nhw bwysigrwydd dealltwriaeth ymysg swyddogion etholiadol ac ymgeiswyr.

Roedd rhywfaint o bryder yn yr Alban ei bod yn ymddangos bod cyfran uwch o bleidleisiau’n cael eu gwrthod yn y wardiau cyngor sy’n dioddef lefelau uwch o amddifadedd economaidd. Dylai’r awdurdodau lleol gymryd camau ymlaen llaw i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Yn gyffredinol, pwysleisiodd y rhai y cyfwelwyd â nhw nad oedd hi o reidrwydd yn bwysig i’r pleidleiswyr ddeall mecaneg y dull trosglwyddo pleidleisiau, ond yn hytrach y dylen nhw ddeall sut i lenwi papur pleidleisio’n gywir.

Argymhellion

Ar sail yr adolygiad llenyddiaeth, y cyfweliadau a'r gwaith modelu a wnaed ar gyfer yr astudiaeth hon, rydym yn gwneud yr argymhellion a ganlyn ynghylch rhoi system STV ar waith ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru. Mae rhai o'r argymhellion hyn yn dibynnu ar benderfyniadau eraill; yn enwedig y berthynas rhwng rheolau trosglwyddo, dull cyfrif, a strwythur y papur pleidleisio. Gan hynny, mae'r adroddiad llawn yn dangos cyfuniadau credadwy o ddulliau trosglwyddo a chyfrif.

System gwotâu

  • Dylai etholiadau lleol yng Nghymru fabwysiadu Cwota Droop.

Dull trosglwyddo

  • Dylai etholiadau lleol yng Nghymru fabwysiadu'r dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli os defnyddir dull cyfrif electronig.
  • Os na ddefnyddir dull e-gyfrif, dylid mabwysiadu'r Dull Gregory Syml.

Dull cyfrif

  • Dylai etholiadau lleol yng Nghymru fabwysiadu dull e-gyfrif.
  • Dylai  hyn gael ei gefnogi gan gronfa ganolog y gall y cynghorau ei defnyddio.
  • Os mabwysiedir dull cyfrif â llaw, y dull Gregory Syml a ddylai gael ei fabwysiadu fel y dull trosglwyddo.

Strwythur y papur pleidleisio

  • Dylai'r ymgeiswyr gael eu clystyru fesul plaid. 
  • Dylid naill ai caniatáu i’r pleidiau osod yr ymgeiswyr mewn trefn yn eu clwstwr, neu dylid gosod yr ymgeiswyr yn nhrefn yr wyddor o fewn eu clwstwr.
  • Ni ddylid mabwysiadu dull o osod ymgeiswyr mewn trefn ar hap.

Maint y dosbarth

  • Maint dosbarth o bump neu chwech yw'r pwynt delfrydol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru.
  • Er hynny, dylid gwneud darpariaeth i’r ardaloedd gwledig wneud cais am faint dosbarth llai.

Dealltwriaeth y pleidleiswyr a’r rhanddeiliaid

  • Dylai ymdrech arwyddocaol gael ei gwneud i addysgu ymgeiswyr a phleidiau, a honno fel arfer yn cael ei harwain gan y Comisiwn Etholiadol.
  • Dylid rhoi mwy o adnoddau i Swyddogion Canlyniadau ardaloedd difreintiedig i fynd i'r afael ag unrhyw gamddeall ymhlith y pleidleiswyr.
  • Dylai deunydd addysgol i bleidleiswyr hoelio sylw ar sut i lenwi papur pleidleisio, a dylai osgoi trafod trosglwyddiadau.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Daniel Devine (Prifysgol Rhydychen), Jac Larner (Prifysgol Caerdydd), Stuart Turnbull-Dugarte a Will Jennings (Prifysgol Southampton).

Barn yr ymchwilwyr, ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd, a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Nerys Owens
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 0300 025 8586
Ebost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Image
GSR logo

Adroddiad GSR rhif 13/2021
ISBN Digidol 978-1-80082-865-0