Nod yr arolwg oedd darparu llinell sylfaen a gwella ein dealltwriaeth o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ddysgwyr yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Anelwyd yr adroddiad at ddysgwyr cyfredol 16 oed neu'n hŷn, mewn chweched dosbarth ysgol, addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith neu ddysgu oedolion yn y coleg neu yn y gymuned.
Roedd ganddo dri phrif faes ffocws:
- dewisiadau dysgu a dysgu cyfredol a chyn-COVID-19
- profiad dysgu a dysgu ar-lein a
- lles a diogelwch
Roedd modiwl byr hefyd ar brofiad ymatebwyr o ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac adran ddemograffeg fer ar y diwedd.
Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein rhwng 16 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2020, gan dderbyn 6,088 o ymatebion.
