Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chan ddefnyddio’r pwerau o dan adran 45C o Ddeddf 1984, gwnes Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (“Rheoliadau 2021”) er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad Covid-19. Daeth y rheoliadau i rym ar 11 Ionawr a byddant yn dod i ben ar ddiwedd dydd 31 Mawrth 2021.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a phu’n a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt:

  • o leiaf unwaith yn y cyfnod o 11 Ionawr 2021 i 28 Ionawr 2021; ac
  • o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 diwrnod.

Yn unol â’r gofyniad hwnnw, rwyf wedi cwblhau’r trydydd adolygiad o’r Rheoliadau. Er bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos gostyngiad positif yn nifer yr achosion, y nifer sy’n cael canlyniad positif i brawf a’r rhif atgynhyrchu ledled Cymru, pery ansicrwydd sylweddol ynghylch pa mor gyflym y gallai achosion gynyddu eto pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu codi’n rhy gyflym. Parheir ar drywydd gofal felly, gan lacio ond ychydig iawn ar y cyfyngiadau sydd wedi bod mewn grym dros yr ychydig fisoedd diwethaf.  Mae’r angen am Reoliadau 2021 yn parhau gan fod risg uwch o hyd y gallai pobl sy’n cael eu troi allan gael eu hunain yn ddigartref a ninnau o dan Rybudd Lefel 4 o hyd.  Rwyf felly wedi dod i’r casgliad yn yr adolygiad hwn bod y mesurau gwarchod a gynigir gan Reoliadau 2021 yn parhau’n gymesur ac y dylid eu cadw.

Fel yr esbonnir uchod, mae’r adolygiad hwn yn ymdrin â chadw’r rheoliadau sy’n atal pobl rhag cael eu troi allan.  Fodd bynnag, disgwylir i’r rheoliadau hyn, a’r rheini sy’n gofyn am gyfnodau rhybuddio hwy i ddod â thenantiaethau i ben, ddod i ben ar 31 Mawrth.  Rydym wrthi’n ystyried ar hyn o bryd a ddylai’r ddau fesur gwarchod gael eu cadw ar ôl mis Mawrth.  Penderfynir ar hyn cyn hir, ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (dolen allanol)

Memorandwm Esboniadol -  Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (dolen allanol)