Neidio i'r prif gynnwy

Penaethiaid Cynllunio,

Awdurodau Cynllunio Lleol

15/03/21

Annwyl Gyfaill

Ysgrifennaf atoch i roi gwybod ichi am gyhoeddi'r fersiwn ddiweddaraf o'r Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu’r Rhwydwaith Ffonau Symudol. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf hon ar 10 Mawrth.

Diben y Cod yw annog cyfathrebu ac ymgynghori gwell rhwng gweithredwyr telathrebu, awdurdodau cynllunio lleol a chymunedau lleol, a helpu i safoni gweithdrefnau cynllunio ac arferion gweithredwyr er mwyn gwella cysondeb wrth wneud penderfyniadau a gweithredu. Mae'r Cod hefyd yn helpu i esbonio nodweddion technegol systemau symudol, ac yn darparu canllawiau arfer da ar leoli a dylunio datblygiadau telathrebu newydd.

Cyhoeddwyd y Cod blaenorol yn 2003. Ers hynny, bu newidiadau sylweddol yn y diwydiant telathrebu. Mae nifer y dyfeisiau symudol wedi parhau i godi – ffonau symudol yn ogystal â dyfeisiau eraill sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd. Mae dyfodiad 4G wedi gweld llwyth y data digidol a ddefnyddir gan ddyfeisiau symudol yn cynyddu’n ddramatig, ac mae'r galw cynyddol am wasanaethau wedi arwain at ddefnyddio rhagor o seilwaith telathrebu ledled Cymru. Mae cyflwyno technoleg 5G yn rhoi rhagor o bwysau ar seilweithiau ac yn gofyn am welliannau i gapasiti’r rhwydwaith.

Cafodd yr amcan i ddiwygio'r Cod ei nodi yng Nghynllun Gweithredu Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017. Mae’r Cod newydd wedi cael ei baratoi ar y cyd. Gweithiodd gweithgor a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffonau symudol, awdurdodau cynllunio lleol a swyddogion o Lywodraeth Cymru gyda'i gilydd i ddiwygio'r Cod. Mae’r diwygiadau i'r Cod yn rhan o gyfres ehangach o newidiadau i'r system gynllunio sydd â'r nod o ategu'r gwaith o weithredu seilwaith ffonau symudol ledled Cymru. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu’r polisïau cynllunio ar gyfer datblygu technoleg delathrebu. Mae hyn yn cael ei ategu ar hyn o bryd gan Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 19: Telathrebu (2002). Mae cyflwyno'r Cod diweddaraf yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn adolygu TAN 19, sy'n cael ei ystyried yn hen i raddau helaeth. Ein disgwyliad yw y byddwn yn canslo TAN 19, a bydd unrhyw rannau ohono yr ystyrir eu bod yn parhau i fod yn berthnasol yn cael eu hintegreiddio i Bolisi Cynllunio Cymru. Ysgrifennaf atoch eto ar y mater hwn, pan fydd y gwaith wedi dod i ben. Mae diwygiadau i Ran 24 o Orchymyn Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru), hefyd wedi cyfrannu at sefydlu amgylchedd cynllunio cadarnhaol ar gyfer telathrebu. Daeth diwygiadau diweddar i rym ym mis Ebrill 2019 a mis Rhagfyr 2020.

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r Cod yn fwy cryno na'r fersiwn flaenorol. Mae'n amlinellu pwysigrwydd technoleg symudol heddiw ac yn y dyfodol mewn cymdeithas fodern, a sut y mae'n berthnasol i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Cod hefyd yn mynd i'r afael â lleoli a dylunio seilwaith symudol, yn enwedig ystyriaethau sy'n berthnasol i gyflwyno technolegau mwy newydd (heb amharu ar Bolisi Cynllunio Cymru na gofynion cyffredinol y Gorchymyn Datblygu a Ganiateir), a gofynion technegol a gweithredol rhwydweithiau ffonau symudol mewn gwahanol amgylchiadau. Mae'r Cod yn trafod yn fanwl y broses ymgynghori ac ymgeisio ar gyfer cynlluniau sy'n gysylltiedig â datblygu telathrebu ac, yn Atodiad C, mae'n rhoi templed ar gyfer ffurflen wybodaeth atodol. 

Yn gywir,

Neil Hemington 

Prif Gynllunydd | Chief Planner 
Cyfarwyddiaeth Cynllunio | Planning Directorate