Neidio i'r prif gynnwy

Diben a phartneriaid y rhaglen

Mae’r Gronfa Iach ac Egnïol (Y GIE) yn fuddsoddiad o £5miliwn mewn 17 o Brosiectau sy’n gyfle i fudiadau’r sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus i ymchwilio sut i gefnogi’r rheiny sy’n byw bywyd eisteddog i fynd ati i gadw’n heini. Cafodd y rhaglen ei dylunio a’i chyflawni gan bartneriaeth ar y cyd rhwng pedwar corff sef dau dîm polisi Llywodraeth Cymru (Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Changen Polisïau Chwaraeon yn yr Adran Diwylliant a Chwaraeon), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’r GIE yn canolbwyntio ar bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol rhag byw bywydau heini.  Nod y rhaglen ydy cynyddu eu lefel o weithgarwch corfforol mewn ffordd gynaliadwy gan hefyd hybu eu lles meddyliol. Ni chafodd y gweithgareddau er mwyn cyflawni’r nodau eu presgripsiynu, felly roedd modd i ystod eang o fudiadau fanteisio ar Y GIE.

Proses ymgeisio a gwobrwyo

Aeth y pedwar partner cenedlaethol ati i geisio siapio a llywio’r Prosiectau, a bu i dîm Y GIE ymdrechu wedi hynny i gynorthwyo’r ymgeiswyr. Yn dilyn lansiad Y GIE ym mis Gorffennaf 2018 bu Galwad am Geisiadau (Hydref 2018) a cham ‘Datganiad o Ddiddordeb’ (DoDd) (gwelwch Ffigur 1). Yn dilyn y broses dewis a dethol hon, cafodd 43 o Brosiectau eu gwahodd i geisio am grant.

Image
Llinell amser misol o fis Mai 2018 hyd at fis Ebrill 2019 yn adnabod cerrig milltir amseryddol o’r broses ymgeisio a chyflwyno.

Bu i bartneriaid Y GIE siapio’r Prosiectau drwy’r canlynol:

  • cyfarwyddyd penodol am nodweddion allweddol y deilliannau arfaethedig
  • pwyslais ar bwysigrwydd partneriaeth ar lefel Prosiect
  • defnyddio proses ‘dewis a dethol’ yn ystod y cam Datganiad o Ddiddordeb
  • gofyniad i Brosiectau lunio achos busnes llawn

Nod y broses ymwybodol a llwyddiannus hon oedd:

  • cynnig y Gronfa newydd i ystod eang o ymgeiswyr dichonol
  • cyfarwyddo’r ymgeiswyr dichonol i gyflwyno ceisiadau a fyddai’n bodloni amcanion Y GIE
  • dewis a dethol ceisiadau yn dilyn y cam rhagarweiniol ‘Datganiad o Ddiddordeb’
  • cyfyngu ceisiadau llawn i’r rheiny fyddai’n gallu bodloni meini prawf y broses ymgeisio orau
  • chynnal proses asesu a dewis trylwyr er mwyn penderfynu ar geisiadau llwyddiannus

Bu i’r GIE dderbyn dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb ac fe wahoddwyd 43 i gyflwyno cais llawn. Bu i Brosiectau ganmol prosesau marchnata a chyfathrebu’r GIE ar y cyfan ynghyd â’r cyfarwyddyd a chefnogaeth i ymgeiswyr. Roedd y meini prawf o ran asesu yn eglur a manwl ac roedd y broses asesu yn drylwyr. Bu i’r GIE geisio caniatáu cymryd risgiau wedi’u mesur yn fwriadol.

Bu i hyd yn oed mudiadau a oedd yn meddu ar brofiad o baratoi ceisiadau grant ystyried gofynion cyffredinol y broses yn hynod heriol. Fodd bynnag bu i Brosiectau llwyddiannus gydnabod y bu’n sylfaen iddyn nhw fynd ati gyda’r gwaith yn fwy effeithiol. Y prif bryder oedd yr amser a gymerwyd i hysbysu am benderfyniadau. Nid tîm Y GIE oedd yn gyfrifol am hyn ond bu iddo achosi cryn sgîl-effeithiau. Dywedodd ymgeiswyr aflwyddiannus nad oedden nhw’n credu bod yr adborth cawson nhw’n gymesur â’r holl amser ac ymdrech wnaethon nhw ei fuddsoddi yn y broses.

Image
Llinell amser misol o fis Mai 2019 hyd at fis Medi 2021 yn adnabod cerrig milltir amseryddol y broses cyflwyno a gweithredu.

Elfen ychwanegol cyllid Y GIE

Bu i’r Prosiectau cafodd eu dewis i dderbyn cyllid yn cyd-fynd â’r ardaloedd y bu i’r GIE gyfeirio atyn nhw a bu’r Prosiectau hynny ar wasgar cytbwys ledled Cymru.

Bu cyllid Y GIE yn fodd i Brosiectau weithredu a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ynghyd â chynnig cyfleoedd a gwasanaethau newydd i gynulleidfa ehangach. Roedd y broses yn ddigon hyblyg i addasu wrth i bwyntiau dysgu ddod i’r amlwg.  

Monitro a gwerthuso

Roedd monitro a gwerthuso ar lefelau Prosiect a Rhaglen wrth wraidd dyluniad Y GIE ac roedden nhw’n rhan o’r prosesau gweithredu a chyflawni.

Barn gyffredinol y Prosiectau am y gofynion monitro a gwerthuso oedd eu bod yn heriol. Mae rhai Prosiectau yn meddu ar gynlluniau gwerthuso hollgynhwysol ac mae’n bosib y bydd y rhain yn cynnig tystiolaeth ychwanegol gwerthfawr ynghyd â dysgu y gellir ei rannu.

Y GIE a’r pum ffordd o weithio

Roedd y pum ffordd o weithio, wedi’u cefnogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn rhan annatod o’r GIE ar lefelau Rhaglen a Phrosiect. Mae’r rhai yn fwy amlwg na’i gilydd. Bu Cydweithio yn enwedig yn thema amlwg a chyson ar lefelau Rhaglen a Phrosiect. Bu i’r GIE ddangos gradd anarferol, os nad unigryw, o gydweithredu o fewn y Llywodraeth yng Nghymru, ac yn enwedig yn ymwneud â’r agwedd cyllidebau wedi’u rhannu.

Cynaladwyedd

Bu i nifer o’r Prosiectau gyfeirio at ‘chwilio am ffynonellau cyllid eraill’ er mwyn bod yn gynaliadwy. Fodd bynnag, mae yna ‘fathau’ eraill o gynaladwyedd, fel newidiadau i ymddygiad o ganlyniad ymysg buddiolwyr y Prosiect, ac a oes modd cynnig y gweithgareddau fel rhai prif ffrwd ai pheidio.

Cyflawni’r rhaglen yn effeithiol

Mae’r GIE yn meddu ar bob un o’r chwe galluogwr ar gyfer cyflawni’r Rhaglen yn effeithiol fel y gwelwch yn Ffigur 3, gan sicrhau’r deilliannau canolradd allweddol a gosod sylfaen i gyflawni’r deilliannau uchelgeisiol y mae wedi’i ddylunio i’w cefnogi.

Image
Model yn adnabod yr amodau hanfodol er mwyn cyflawni deilliannau canolraddol sy'n arwain at ddeilliannau tymor hirach. Mae adborth dysgu ac arloesedd parhaus hefyd.

Meysydd i’w gwella ymhellach

Ymysg y rhain  mae:

  • defnydd gwell o adroddi craff yn y ffurflenni cais, yn enwedig yn ystod y cam DoDd
  • cynllunio graddfeydd amser ar gyfer y broses gyflawn, gan ddwyn i ystyriaeth y gofynion amser ar gyfer cymeradwyo penderfyniadau ar lefel uwch ar gyfer y gwahanol fudiadau
  • trafod a chadarnhau dyraniadau cyllideb ar y cyd o’r cychwyn cyntaf
  • adnoddau priodol ar gyfer y staff sy’n dylunio a gweinyddu grant newydd
  • ystyried sut i barhau i weithredu’r pum ffordd o weithio yn ystod blynyddoedd 2 i 3
  • gofalu bod cyswllt rhwng y gwerthusiadau lefel Rhaglen a lefel Prosiect
  • rhannu’r gwersi cadarnhaol ar gyfer llywio dyluniad Rhaglenni yn y dyfodol

Rydym yn argymell y pynciau canlynol ar gyfer ymholiad thematig yn ystod cyfnod nesaf y gwerthusiad cyffredinol ar Raglen Y GIE.

  • Beth oedd a fydd y goblygiadau’r pandemig coronafeirws ar Y GIE?
  • Sut bu i (a sut bydd) gymryd rhan yn Y GIE effeithio ar ddull y mudiadau oedd yn cymryd rhan, ar lefelau partner Rhaglen a Phrosiect?  
  • Pa mor bwysig ydy ‘asiantaeth’ ac ymwneud â’r gymuned er mwyn i Brosiectau allu cydweithio’n llwyddiannus gyda’u grwpiau targed a beth ydy ei rôl yn hyn o beth? A oes modd i weithredu ar lefel Rhaglen gynorthwyo gyda hyn?
  • Beth ydy amryw ystyron ‘cynaladwyedd’ a natur raddadwy Prosiectau wedi’u hariannu gan Y GIE? Sut gallai gweithredu ar lefel Rhaglen wella cynaladwyedd Prosiectau?
  • Sut gallai Rhaglen Y GIE helpu i sicrhau bod y gwerthusiadau lefel Rhaglen a Phrosiect yn gyflenwol ac yn atgyfnerthu ei gilydd?

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: UK Research and Consultancy Services Ltd

Adroddiad ymchwil llawn: RCS, (Mawrth 2021). Sicrhau Newid. Y Gronfa Iach ac Egnïol: Gwerthusiad Proses. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, GSR adroddiad rhif 22/2021.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Eleri Jones
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymu

Image
GSR logo

ISBN digidol  978-1-80195-123-4