Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021 ("y Gorchymyn) a Rheoliadau Senedd Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2021 ("y Rheoliadau") i rym ar 19 Mawrth. Bydd y Gorchymyn yn pennu'r uchafsymiau y gall swyddogion canlyniadau etholaethau a swyddogion canlyniadau rhanbarthol eu hawlio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynnal etholiad Senedd 2021. Mae'r Rheoliadau'n nodi sut a phryd y dylai swyddogion canlyniadau gyflwyno eu cyfrifon etholiadol er mwyn cael yr arian y darperir ar ei gyfer yng Ngorchymyn 2021. Mae'r Memoranda Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn a'r Rheoliadau wedi'u hatodi i'r datganiad hwn. Gan y bydd hwn yn etholiad cyfunol, bydd Llywodraeth y DU yn talu costau sy'n gysylltiedig ag etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Ar gyfer 2021, mae'r arian a ddarperir i swyddogion canlyniadau yn cynnwys taliad ar gyfer 'gweinyddwyr etholiadol' sy'n cynnwys y swyddog canlyniadau, eu dirprwyon, a swyddogion y cyngor ac mae'n disodli'r ffi bersonol flaenorol a dalwyd i swyddogion canlyniadau. Diben y newid hwn yw cydnabod y llwyth gwaith ychwanegol a roddir ar y tîm etholiadol cyfan, a phwysigrwydd eu gwaith, wrth gynnal etholiad y Senedd a gofynnir i'r swyddogion canlyniadau  gadarnhau eu bod wedi defnyddio'r taliad hwn at y dibenion y'i bwriadwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau o gynnal etholiad yn ystod y pandemig presennol ac mae am sicrhau bod staff a phleidleiswyr yn ddiogel. Drwy'r Gorchymyn, darparwyd cyllid ychwanegol i gwmpasu'r ystod o gyfarpar sydd ei angen i sicrhau bod iechyd staff a’r cyhoedd yn cael eu hamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys offer diogelu personol, adnoddau cadw pellter cymdeithasol, deunyddiau glanhau a staff ychwanegol i reoli’r polau.

Rydym i gyd yn ymwybodol pa mor anodd fu parhau â swyddogaethau angenrheidiol awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw gweinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau yn eithriad i hyn ac maent wedi bod yn gweithio'n ddiflino mewn amgylchedd heriol sy'n newid yn barhaus i baratoi ar gyfer yr etholiadau hyn a chynnal hyder y cyhoedd yn ein democratiaeth. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am eu hymdrechion.