Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 3 Mawrth cyhoeddais fy mod wedi gwneud y Gorchymyn Cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ("y Ddeddf").

Roedd y Gorchymyn Cychwyn hwn yn cynnwys darpariaeth i ddod â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol i rym ar gyfer prif gynghorau ar 1 Tachwedd 2021 a chynghorau cymuned cymwys ar 5 Mai 2022. Bydd y darpariaethau hyn yn cychwyn ar y dyddiadau a nodwyd i ganiatáu ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth angenrheidiol a chyhoeddi canllawiau i gefnogi eu gweithredu.

Mae’n bleser gennyf roi gwybod i Weinidogion fy mod wedi lansio ymgynghoriad ar yr is-ddeddfwriaeth gyntaf, ar ffurf Rheoliadau drafft Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Dibenion Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau drafft”).  

Mae’r Rheoliadau drafft, y nodais fy mwriad i’w cyflwyno yn ystod cyfnod craffu cyntaf y Ddeddf, yn gosod amodau y mae’n rhaid i awdurdod eu bodloni wrth arfer ei bŵer cymhwysedd cyffredinol at ddibenion masnachol.

Mae’r Rheoliadau drafft a baratowyd ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i brif gynghorau yn unig. Fy mwriad yw y cânt eu diwygio yn y man i ehangu eu cymhwysedd i gynghorau cymuned cymwys cyn y daw’r pŵer cyffredinol i rym ar gyfer yr awdurdodau hynny ym mis Mai 2022.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn rhanddeiliaid ar y cynnig y dylid hefyd awdurdodi cynghorau cymuned sy’n gymwys i arfer eu pwerau cymhwysedd cyffredinol i fasnachu yn unol â’u swyddogaethau cyffredin yn ogystal, yn y naill achos neu’r llall drwy gwmni. Rydym yn cynnig gwneud hyn drwy ailwneud y Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”).  

Wrth ailwneud Gorchymyn 2006 fy mwriad hefyd yw y bydd yr un amodau a ragnodwyd yn y Gorchymyn hwnnw yn cael eu rhagnodi yn y Rheoliadau drafft.

Gellir gweld y ddogfen ymgynghori a’r Rheoliadau drafft drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/pwerau-awdurdodau-lleol-i-fasnachu

Cynhelir yr ymgynghoriad tan 11 Mehefin 2021.