Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl i'r DU adael yr UE, rydym yn ystyried sut rydym yn diwygio'r rheoliadau caffael presennol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er mwyn deall y ffordd orau ymlaen ar gyfer diwygio caffael yng Nghymru, yn gynharach eleni bu inni drafod gyda’n rhanddeiliaid i ddeall eu hawydd am ddiwygio y broses gaffael yng Nghymru o bosibl, a'r cynigion a amlinellwyd ym Phapur Gwyrdd Llywodraeth y DU.

Canlyniad y trafod hwn oedd bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i gyfeiriad cyffredinol cynigion Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU, ond nad oedd ganddo ddigon o fanylion.

Yn ddelfrydol, hoffai Gweinidogion Cymru i’r diwygio ddigwydd ar yr un sail ac i’r un amserlen yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn i Lywodraeth newydd Cymru gael gwneud penderfyniad terfynol ynghylch y ffordd ymlaen i ddiwygio’r broses gaffael yng Nghymru unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Felly, byddwn yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth y DU ac yn parhau i drafod â'n rhanddeiliaid fel y bo'n briodol i helpu i lywio Llywodraeth newydd Cymru wrth wneud penderfyniad terfynol ar ddechrau’r tymor newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru