Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid amgen y Dreth Trafodiadau Tir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTTT/7023 Rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid amgen

(Atodlen 11)

Darperir y rhyddhad hwn i sicrhau na fydd trafodiadau tir sy'n digwydd o ganlyniad i ddyroddi bondiau sy'n fondiau buddsoddi cyllid amgen, yn arwain at bridiant Treth Trafodiadau Tir na fyddai’n codi yn achos bondiau a ddyroddir o dan fondiau nodweddiadol sy'n cynnwys llog.

Dyroddir bondiau fel ffordd o gyllido busnes.  Yn aml, mae'r bondiau'n talu ffrwd incwm i'r deiliaid bondiau. Mae’n bosibl cael bondiau lle na thelir llog.  Gelwir y rhain yn fondiau buddsoddi cyllid amgen.  Bydd dyroddwr bond yn trefnu dyroddi’r bondiau i ddeiliaid bond ar ran y sawl sy'n chwilio am gyllid. Mewn bondiau nodweddiadol sy'n cynnwys llog, nid oes angen i ddyroddwr y bond gymryd rheolaeth o unrhyw ased, er y gellir cymryd rheolaeth dros holl asedau cwmni, neu rai ohonynt.

Pan fydd trethdalwr yn dymuno dyroddi bondiau drwy fond buddsoddi cyllid amgen fel na thelir llog i ddeiliaid bondiau, ond yn hytrach incwm o renti neu elw arall, bydd y trefniadau'n cael eu strwythuro mewn modd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r dyroddwr bond gymryd rheolaeth dros ased, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir o dir neu adeiladau, er mwyn cynhyrchu ffrwd incwm ar gyfer y deiliaid bondiau - sef rhenti, yn gyffredin.

Gan hynny, mae angen i'r unigolyn sy'n ceisio cyllid drosglwyddo'r ased, sef tir ac adeiladau at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, i’r dyroddwr bond. Bydd y dyroddwr bond wedyn yn dyroddi les i'r sawl sy'n ceisio cyllid.  Mae'r trosglwyddiad neu'r gwerthiant cyntaf yn rhoi'r cyllid i'r sawl sy'n ei geisio, ac mae dyroddi’r les i'r sawl sy'n ceisio cyllid yn cynhyrchu'r ffrwd incwm a gaiff ei throsglwyddo i’r deiliaid bondiau. Bydd y deiliaid bondiau wedi rhoi'r asedau i'r dyroddwr bond dalu'r arian i'r sawl sy'n ceisio cyllid (neu eu digolledu am y trosglwyddiad hwnnw).

Ar ddiwedd tymor y bondiau (a all barhau am ddim mwy na 10 mlynedd) bydd y tir a'r adeiladau a drosglwyddir i'r dyroddwr bond yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r sawl a geisiodd y cyllid.

Fel y gwelir, mae tri thrafodiad tir:

  • yr eiddo sy'n cael ei drosglwyddo gan y sawl sy'n ceisio cyllid (y 'gwerthwr', a'r 'perchennog gwreiddiol') i ddyroddwr bond ('y trafodiad cyntaf' ar gyfer rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid amgen)
  • y les a ddyroddwyd gan y dyroddwr bond i'r sawl sy'n ceisio cyllid y tu allan i'r buddiant a drosglwyddwyd iddo (y gellir hawlio rhyddhad gwerthu ac adles ar gyfer y cam adles, ac
  • ar derfyn y bond, trosglwyddir perchnogaeth yr eiddo o ddyroddwr y bond i'r sawl sy'n ceisio’r cyllid ('yr ail drafodiad' ar gyfer rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid amgen).

DTTT/7024 Dehongli

(paragraff 2 atodlen 11)

Mae 'bond buddsoddi cyllid amgen' yn golygu trefniadau cymwys dan adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007.

Mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw gynllun, unrhyw drafodiad neu unrhyw gyfres o drafodiadau, neu unrhyw un o’r pethau hynny, pa un a ellir ei orfodi’n gyfreithiol ai peidio.

Mae 'asedau bond', 'deiliad bond', 'dyroddwr bond' a 'chyfalaf' yn golygu’r ystyron a roddir yn adran 564G o Ddeddf Treth Incwm 2007.

Mae ‘buddiant cymwys’ yn golygu buddiant sylweddol mewn tir ac eithrio les am gyfnod o 21 mlynedd neu lai na hynny.

DTTT/7025 Deiliad bond ddim i’w drin fel pe bai ganddo fuddiant yn asedau’r bond

(paragraff 3 atodlen 11)

Nid yw deiliad bond bondiau buddsoddi cyllid amgen yn cael ei drin fel un sydd â buddiant yn yr asedau bond; yn yr un modd, nid yw’r dyroddwr bond o dan fond o’r fath i’w drin fel ymddiriedolwr asedau’r bond.

DTTT/7026 Trin deiliad bond fel pe bai ganddo fuddiant os caffaelir rheolaeth dros yr ased sylfaenol

(paragraff 4 atodlen 11)

Mae deiliad bond o dan fond buddsoddi cyllid amgen yn cael ei drin fel un sydd â buddiant yn yr asedau bond os caffaelir rheolaeth dros yr ased waelodol naill ai gan y deiliad bond neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig.

Mae deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol:

  • os yw hawliau’r deiliad bond o dan fond buddsoddi cyllid amgen yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros yr asedau, ac
  • os yw deiliad bond, neu’r grŵp, yn caffael hawliau digonol i’w alluogi ef, neu aelodau’r grŵp yn gweithredu ar y cyd, i arfer hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond arall.

Fodd bynnag, mae dau achos lle nad yw deiliad bond neu grŵp o ddeiliaid bondiau sy'n cymryd rheolaeth o'r ased waelodol yn cael eu trin fel rhai sydd â buddiant yn yr ased waelodol a gafwyd.

Yr achos cyntaf yw:

  • ar yr adeg y cafodd y deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yr hawliau, nad oeddent yn gwybod, ac nad oedd ganddynt unrhyw reswm i amau, eu bod mewn sefyllfa i reoli ac arfer rheolaeth dros asedau'r bond, a hefyd
  • cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o'u gallu i arfer rheolaeth dros y deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, trosglwyddo digon o hawliau (y bondiau) fel na fyddant bellach yn gallu rheoli.

Yr ail achos yw pan fydd deiliad y bond:

  • pan fo deiliad bond yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a hefyd
  • pan na fo deiliad bond yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

Mae'r ail achos yn sicrhau na chaiff y deiliad bond ei drin fel rhywun sydd â buddiant yn yr ased waelodol a gafwyd lle mae gofyn i'r sawl sy'n gwarantu dyroddi'r bondiau gael digon o fondiau, oherwydd nad oes tanysgrifiad digonol ar gyfer y dyroddiad, i fod mewn sefyllfa i arfer eu rheolaeth, ond nad ydynt yn ymarfer y rheolaeth honno.

DTTT/7027 Amodau ar gyfer gweithredu'r rhyddhad

(paragraffau 5-12 Atodlen 11) 

Mae saith amod sy'n gymwys i’r rhyddhad:

  • Amod 1
    Bod y sawl sy'n ceisio cyllid ('A') a'r dyroddwr bond ('B') yn ymgymryd â threfniadau lle mae A yn trosglwyddo buddiant cymwys mewn tir i B (‘y trafodiad cyntaf’), a bod y ddau yn cytuno y bydd B yn trosglwyddo'r buddiant i A pan fydd y buddiant yn peidio â bod yn ased bond.
  • Amod 2
    Bod y dyroddwr bond yn ymrwymo i fond buddsoddiad cyllid amgen naill ai cyn gwneud y trafodiad cyntaf neu ar ôl hynny, a bod y buddiant mewn tir yn cael ei ddal gan y dyroddwr bond fel ased bond.
  • Amod 3
    Er mwyn cynhyrchu incwm neu enillion ar gyfer y bond buddsoddi cyllid amgen, bod y dyroddwr bond a'r sawl sy'n ceisio cyllid yn ymrwymo i gytundeb adles. Cychwynnir ar y cytundeb adles os yw'r dyroddwr bond yn rhoi les neu is-les tir i'r sawl sy'n ceisio cyllid.
  • Amod 4

    Cyn diwedd y 120 diwrnod, yn dechrau ar y dyddiad y daw'r trafodiad cyntaf i rym, mae'r dyroddwr bond yn rhoi tystiolaeth ragnodedig i'r Awdurdod Cyllid bod pridiant cyfreithiol boddhaol wedi ei gofnodi ar y teitl a gedwir gan y Prif Gofrestrydd.

    Mae'r pridiant yn foddhaol os mai dyma'r pridiant cyntaf ar yr eiddo, ei fod o blaid yr Awdurdod Cyllid, a’i fod am gyfanswm y dreth sy'n daladwy, gan gynnwys unrhyw log a chosb, a fyddai wedi bod yn ddyledus pe na bai rhyddhad ar gael ar y trafodiad cyntaf.

    Mae'r 'dystiolaeth ragnodedig' wedi ei nodi yn Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018. Y dystiolaeth yw:

    • unrhyw ddogfen a ddarperir gan y Prif Gofrestrydd Tir i gadarnhau bod pridiant cyfreithiol wedi ei gofnodi yn y gofrestr o deitl o blaid yr Awdurdod Cyllid, a bod
    • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r perchennog gwreiddiol i'r dyroddwr bond.
  • Amod 5
    Cyn terfynu’r bond, nid yw cyfanswm y taliadau cyfalaf a wneir i roddwr y bond yn llai na 60% o werth y buddiant yn y tir ar y dyddiad y daw’r trafodiad cyntaf i rym..
  • Amod 6
    Bod rhoddwr y bond yn dal y buddiant yn y tir fel ased bond hyd derfyn y bond.
  • Amod 7
    Pan fydd y buddiant mewn tir yn peidio â chael ei ddal gan y dyroddwr bond fel ased bond, trosglwyddir y buddiant i'r perchennog gwreiddiol o fewn 30 diwrnod (yr 'ail drafodiad'). Mae'n rhaid i'r ail drafodiad gael ei weithredu hefyd o fewn 10 mlynedd i'r trafodiad cyntaf.

DTTT/7028 Rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf

(paragraff 13 atodlen 11)

Gellir hawlio'r rhyddhad am y trafodiad cyntaf os yw'n ymwneud â buddiant mewn tir yng Nghymru ac y bodlonir amodau 1 i 3 uchod o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym.

Os bydd buddiant arall mewn tir yn disodli'r ased bond, mae'r rheol hon yn berthnasol.

DTTT/7029 Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer y trafodiad cyntaf

(paragraff 14 atodlen 11)

Tynnir y rhyddhad yn ôl os:

  • trosglwyddir y llog a ddelir gan y dyroddwr bond i'r perchennog gwreiddiol heb i amodau 5 a 6 gael eu bodloni
  • nid yw'r ail drafodiad wedi digwydd o fewn 10 mlynedd i'r trafodiad cyntaf
  • daw'n amlwg na ellir neu na fydd amodau 5 i 7 yn cael eu bodloni am unrhyw reswm, neu
  • nid yw'r pridiant wedi ei gofrestru o blaid yr Awdurdod Cyllid fel y nodir yn amod 4.

Pan fydd y rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl, mae swm y dreth sy'n daladwy wedi ei seilio ar werth marchnad y trafodiad cyntaf, ond heb yr hawliad am ryddhad.

DTTT/7030 Rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiad

(paragraff 15 atodlen 11)

Gellir hawlio'r rhyddhad am yr ail drafodiad os cwrddir â'r 7 amod a bod y trethdalwr wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a DCRhT mewn perthynas â'r trafodiad cyntaf. Hynny yw, bod y trafodiad cyntaf yn destun hawliad am ryddhad ac y cyflwynwyd ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn hawlio'r rhyddhad hwnnw.

Os bydd buddiant arall mewn tir yn disodli'r ased bond, mae'r rheol hon yn berthnasol.

DTTT/7031 Gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad

(paragraff 16 atodlen 11)

Os yw rhoddwr y bond, ar ôl y dyddiad y mae’r ail drafodiad yn dod i rym, yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i’r Awdurdod Cyllid bod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni, mae’r tir yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant a gofrestrwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir.

Pan fydd y pridiant yn cael ei ryddhau, mae’n rhaid i'r Awdurdod Cyllid roi gwybod i'r Prif Gofrestrydd Tir am y rhyddhad yn unol â'u rheolau o fewn 30 diwrnod i'r dyroddwr bond yn darparu'r dystiolaeth briodol i'r Awdurdod Cyllid.

Mae'r 'dystiolaeth ragnodedig' wedi ei nodi yn Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018. Y dystiolaeth yw:

  • datganiad gan y dyroddwr bond, neu unigolyn a awdurdodwyd i weithredu ar ran y dyroddwr bond, bod yr holl amodau o 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni
  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r perchennog gwreiddiol i'r dyroddwr bond
  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r dyroddwr bond i'r perchennog gwreiddiol, ac
  • unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir yn cadarnhau bod y tir wedi cael ei gofrestru yn enw'r perchennog gwreiddiol.

DTTT/7032 Rhyddhad heb fod ar gael pan fo’r deiliad bond yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol

(paragraff 17 atodlen 11)

Nid yw rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf neu’r ail drafodiad ar gael os yw'r deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth o'r ased sylfaenol (yr ased bond).

Mae deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth dros yr ased sylfaenol:

  • os yw hawliau deiliaid bond o dan fond buddsoddi cyllid amgen yn cynnwys hawliau rheoli a rheolaeth dros yr asedau, ac
  • os yw’r deiliad bond, neu’r  grŵp, yn caffael hawliau digonol i alluogi deiliad y bond, neu aelodau’r grŵp sy’n gweithredu ar y cyd, i arfer hawl reoli a rheolaeth dros asedau’r bond gan eithrio unrhyw ddeiliaid bond eraill.

Nid yw rhyddhad mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf ar gael os yw'r deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yn caffael rheolaeth o'r ased sylfaenol o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y daw'r trafodiad cyntaf i rym. Mewn achos o'r fath, os nad yw'r ffurflen wedi ei chyflwyno eto, ni ddylid hawlio'r rhyddhad. Os cyflwynwyd y ffurflen, gall y trethdalwr (y dyroddwr bond) wneud diwygiad i'r ffurflen os gwneir hynny cyn dyddiad ffeilio’r ffurflen, neu mae'n rhaid iddo gyflwyno ffurflen arall o fewn 30 diwrnod i'r digwyddiad a arweiniodd at y rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl.

Mae rhyddhad mewn perthynas â'r trafodiad cyntaf hefyd yn cael ei dynnu'n ôl os yw'r deiliad bond neu'r grŵp yn caffael rheolaeth o'r ased waelodol ar unrhyw adeg ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod yn dilyn y dyddiad dod i rym a bod amodau 1 i 3 wedi cael eu cwrdd. Yn yr achos hwn, mae’n rhaid i'r trethdalwr (y dyroddwr bond) gyflwyno ffurflen arall o fewn 30 diwrnod i'r digwyddiad a arweiniodd at y rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl.

Fodd bynnag, os cafodd rheolaeth o’r ased sylfaenol ei gaffael gan y deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, ond bod y naill neu'r llall o'r ddau achos yn berthnasol, mae'r rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf neu’r ail drafodiad ar gael o hyd, ac nid yw'n cael ei dynnu'n ôl.

Yr achos cyntaf yw:

  • ar yr adeg y cafodd y deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, yr hawliau, nad oeddent yn gwybod, ac nad oedd ganddynt unrhyw reswm i amau, eu bod mewn sefyllfa i reoli ac arfer rheolaeth dros asedau'r bond, a hefyd
  • cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o'u gallu i arfer rheolaeth dros y deiliad bond, neu grŵp o ddeiliaid bond cysylltiedig, trosglwyddo digon o hawliau (y bondiau) fel na fyddant bellach yn gallu rheoli.

Yr ail achos yw pan fydd deiliad y bond:

  • pan fo deiliad bond yn gwarantu cynnig cyhoeddus o hawliau o dan y bond, a hefyd
  • pan na fo deiliad bond yn arfer yr hawliau rheoli a rheolaeth dros asedau’r bond.

Mae'r ail achos yn sicrhau na chaiff y rhyddhad ei wrthod lle mae gofyn i'r sawl sy'n gwarantu dyroddi'r bondiau gael digon o fondiau, oherwydd nad oes tanysgrifiad digonol ar gyfer y dyroddiad, fel eu bod mewn sefyllfa i arfer eu rheolaeth, ond nad ydynt yn ymarfer y rheolaeth honno.

DTTT/7033 Amnewid ased bond ar gyfer ased arall

(paragraff 18 atodlen 11)

Mae'n bosibl i'r deiliad bond newid un ased bond am un arall ac i ryddhad gael ei hawlio o hyd a pheidio â chael ei dynnu'n ôl. Y rheswm pam y gallai fod angen amnewid tir yw bod unigolyn sy'n chwilio am gyllid ac sydd wedi ymrwymo i un eiddo fod yn ased sylfaenol mewn bond buddsoddi cyllid amgen, ar ryw adeg yn ystod y cyfnod y mae'r trefniadau bond yn eu lle, angen yr eiddo at ddiben arall, gan gynnwys fel y gellir ei werthu.

Mae’n rhaid cwrdd â rhai amodau mewn perthynas â'r tir a ddefnyddiwyd yn gyntaf fel ased bond (y 'tir gwreiddiol') a'r tir sy'n disodli’r tir gwreiddiol (y 'tir newydd').

Mae rhyddhad yn parhau i fod ar gael mewn perthynas â'r tir gwreiddiol, a daw ar gael ar gyfer y tir newydd:

  • os bodlonir amodau 1 i 3 a 7 mewn perthynas â’r tir gwreiddiol
  • os yw dyroddwr y bond yn peidio â dal y tir gwreiddiol fel ased bond (ac yn ei drosglwyddo i’r perchennog gwreiddiol) cyn terfyn y bond buddsoddi cyllid amgen
  • os bydd y perchennog gwreiddiol a'r dyroddwr bond yn ymrwymo i drefniadau pellach sy'n dod o dan amod 1 sy'n ymwneud â buddiant yn y tir newydd, ac
  • mae gwerth y buddiant yn y tir newydd ar yr adeg y caiff ei drosglwyddo o'r perchennog gwreiddiol i'r dyroddwr bond yn fwy na neu'n gyfartal â gwerth y buddiant yn y tir gwreiddiol ar adeg y trafodiad cyntaf.

Pan fo tir yn cael ei ddisodli mewn bond buddsoddiad cyllid amgen, nid yw'n bwysig na fydd amod 6 mewn perthynas â'r tir gwreiddiol yn cael ei fodloni (bod y tir yn ased bond tan derfyn y bond) os yw amodau 1, 2, 3, 6 a 7 yn cael eu bodloni mewn perthynas â'r tir newydd.

O ran y tir amnewid:

  • mae amod 5 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y buddiant mewn tir yn gyfeiriad at y buddiant yn y tir gwreiddiol, ac
  • mae amod 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at y trafodiad cyntaf yn gyfeiriad at y trafodiad cyntaf sy’n ymwneud â’r tir gwreiddiol.

Os yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd yn unol ag amod 4 pan fo:

  • rhoddwr y bond yn darparu’r dystiolaeth i’r Awdurdod Cyllid bod amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a
  • bod amod 4 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

Pan fydd pridiant yn cael ei ryddhau, mae’n rhaid i'r Awdurdod Cyllid roi gwybod i'r Prif Gofrestrydd Tir am ryddhau’r diogelwch o fewn 30 diwrnod i'r dyroddwr bond yn darparu'r dystiolaeth briodol.

Mae'r 'dystiolaeth ragnodedig' wedi ei nodi yn Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018. Y dystiolaeth yw:

  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r perchennog gwreiddiol i'r dyroddwr bond
  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r dyroddwr bond i'r perchennog gwreiddiol, ac
  • unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir yn cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi cael ei gofrestru yn enw'r perchennog gwreiddiol.

Os nad yw’r tir amnewid yng Nghymru, mae’r tir gwreiddiol yn peidio â bod yn ddarostyngedig i’r pridiant tir a gofrestrwyd gyda’r Prif Gofrestrydd Tir yn unol ag amod 4 pan fydd rhoddwr y bond yn darparu’r dystiolaeth ragnodedig i’r Awdurdod Cyllid bod:

  • amod 7 wedi ei fodloni mewn perthynas â’r tir gwreiddiol, a bod
  • pob un o amodau 1 i 3 wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir amnewid.

Pan fydd pridiant yn cael ei ryddhau, mae’n rhaid i'r Awdurdod Cyllid roi gwybod i'r Prif Gofrestrydd Tir am y rhyddhad diogelwch o fewn 30 diwrnod i'r dyroddwr bond yn darparu'r dystiolaeth briodol.

Mae'r 'dystiolaeth ragnodedig' wedi ei nodi yn Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018. Y dystiolaeth yw:

  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r perchennog gwreiddiol i'r dyroddwr bond
  • y Rhif Cyfeirnod Treth Unigryw ar gyfer y ffurflen lle cafodd y rhyddhad treth ei hawlio mewn perthynas â'r trafodiad lle trosglwyddwyd tir o'r dyroddwr bond i'r perchennog gwreiddiol
  • unrhyw ddogfen sy'n profi nad yw'r tir newydd yng Nghymru a bod amodau 1 i 3 yn Rhan 3 o'r Atodlen wedi cael eu bodloni mewn perthynas â'r tir hwnnw, ac
  • unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir yn cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi cael ei gofrestru yn enw'r perchennog gwreiddiol. 

Mae'r holl reolau uchod yn berthnasol i dir cyfnewid arall fel y maent yn gymwys i dir newydd.