Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, mae’n ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 22 Ebrill.

Mae nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yng Nghymru wedi gostwng i dan 15 o achosion fesul 100,000 o bobl, a dyma’r gyfradd isaf yn y DU. Ochr yn ochr â hynny, mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn parhau i fynd rhagddi’n llwyddiannus iawn, a Chymru sydd â'r gyfradd frechu uchaf ond dwy ymhlith holl wledydd y byd. Mae dros ddwy ran o dair o oedolion Cymru wedi cael eu dos cyntaf ac mae 1 ym mhob 5 wedi cael y ddau ddos. Rydym eisoes wedi brechu 2/3 o bobl 40-49 mlwydd oed a 32% o’n pobl 30-39 mlwydd oed.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 20 Ebrill, dywedwyd bod newidiadau i'r rheoliadau'n cael eu cyflwyno’n gynt, gan ganiatáu i unrhyw chwech o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) gyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn 24 Ebrill ymlaen.

Roedd y datganiad hefyd yn cadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai, yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen.

Gallaf hefyd gadarnhau y bydd diwygiadau eraill i'r rheoliadau o 26 Ebrill ymlaen:

  • Caiff pyllau nofio awyr agored ac atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys ffeiriau pleser, parciau difyrion a pharciau thema, ailagor.
  • Ceir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer oedolion ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto.
  • Caiff derbyniadau priodasau ar gyfer hyd at 30 o bobl ddigwydd yn yr awyr agored mewn safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio.

Mae’r canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi cael eu diwygio i ddarparu ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr dynodedig dan do o un i ddau ac i roi mwy o hyblygrwydd o ran ymweliadau gan blant ifanc o 26 Ebrill ymlaen.

Nodwyd eisoes y bydd rhagor o newidiadau ar 3 Mai, ar yr amod bod yr amodau'n parhau'n ffafriol. Mae gwelliannau parhaus yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd a llwyddiant y rhaglen frechu wedi golygu y gallwn fynd ati’n gynt i gyflwyno'r holl elfennau sy'n weddill er mwyn inni gael gorffen symud i lefel rhybudd tri yn ystod y cylch adolygu hwn.

Byddai hynny’n golygu, o 3 Mai ymlaen, y:

  • Caiff campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio ailagor
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do
  • Caiff gweithgareddau dan do i blant ailddechrau
  • Caiff gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion ailddechrau ar gyfer hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff mewn grwpiau
  • Caiff Canolfannau Cymunedol ailagor

Os bydd y gwelliannau a welwyd yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd modd i’r Llywodraeth newydd ystyried symud fesul cam rhwng y lefelau rhybudd y darperir ar eu cyfer yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws a ddiweddarwyd.

Ar y sail hon, bydd paratoadau'n cael eu gwneud i alluogi Llywodraeth newydd ar ôl etholiadau'r Senedd i symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun 17 Mai. Bydd hynny’n dibynnu ar yr amodau iechyd y cyhoedd yn nes at yr amser. 

Mae lefel rhybudd dau yn cynnwys y newidiadau a ganlyn :

  • Caiff lletygarwch dan do ailagor
  • Caiff gweddill y lletyau gwyliau agor (e.e. safleoedd gwersylla sydd â chyfleusterau a rennir) i aelodau aelwydydd unigol neu aelwydydd estynedig
  • Caiff lleoliadau adloniant agor, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, aleau bowlio, canolfannau a mannau chwarae dan do, casinos, ac arcedau difyrion
  • Caiff atyniadau dan do i ymwelwyr agor, gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, atyniadau addysgol a threftadaeth, a safleoedd treftadaeth fel plastai
  • Bydd rheol pedwar o bobl (hyd at 4 o bobl o 4 aelwyd), neu un aelwyd os oes mwy na 4 o bobl, ar gyfer ymgynnull mewn adeiladau sy’n cael eu rheoleiddio fel caffis
  • Bydd y rheol chwech o bobl yn parhau yn yr awyr agored. Bydd cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat yn dal i fod yn gyfyngedig i'r aelwyd estynedig yn unig (swigod penodedig).
  • Bydd y terfynau ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu yn cynyddu i 30 dan do a 50 yn yr awyr agored.
  • Ceir cynnal derbyniadau priodas dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl mewn adeiladau sy’n cael eu rheoleiddio.

Bydd newidiadau i'r rheoliadau heddiw yn darparu hefyd o 26 Ebrill ymlaen ar gyfer esgus rhesymol i brotestio ar lefelau rhybudd un, dau a thri, ond bydd gofyn i brotestiadau gael eu trefnu gan gorff cyfrifol a fydd yn cyflwyno mesurau lliniaru priodol, gan gynnwys cynnal asesiad risg.

Mae'r rheoliadau’n cael eu diwygio hefyd o'r dyddiad hwnnw er mwyn caniatáu pob math o waith yng nghartrefi pobl eraill ar lefelau rhybudd un, dau a thri.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu o Gymru, ac mae amrywiolion newydd yn parhau i ddod i'r amlwg ledled y byd. Y dull gweithredu gofalus, gam wrth gam yw'r ffordd orau o hyd i gadw Cymru yn ddiogel.