Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth reoli ddiweddaraf ynghylch prentisiaid yng Nghymru a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws hyd at 24 Medi 2021.

Darperir yr wybodaeth reoli hon i Lywodraeth Cymru gan ddarparwyr prentisiaethau, ac ar sail data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Nid yw ei hansawdd wedi’i sicrhau i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol.

Mae nifer y prentisiaid y cofnodir yn y datganiad hwn eu bod yn dal i fod ar ffyrlo yn debygol o fod yn uwch na’r hyn sy’n wir go iawn.

Rhoddodd rhai prentisiaid y gorau i’w prentisiaeth tra oeddent ar ffyrlo a dechrau prentisiaeth newydd. Os nad yw eu darparwr wedi cofnodi eu bod wedi dod yn ôl ar ôl eu cyfnod ffyrlo, efallai eu bod yn dal i fod wedi’u rhestru fel rhai sydd ar ffyrlo. Gallai dryswch fod wedi codi ynghylch pa brentisiaeth yr oeddent ar ffyrlo mewn perthynas â hi.

Daeth y cynllun ffyrlo i ben ar 30 Medi 2021. Yr adroddiad hwn yw'r sefyllfa derfynol i brentisiaid yn yr wythnos cyn i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.

Prif bwyntiau

  • Roedd 285 prentis ar ffyrlo llawn ar 24 Medi 2021.
  • Gwnaeth nifer y prentisiaid sydd dal ar ffyrlo ostwng yn sylweddol; roedd llai na hanner cymaint o brentisiaid ar ffyrlo llawn ym mis Medi o gymharu â mis Awst (350 yn llai yn gyffredinol).
  • Mae nifer y prentisiaid ar ffyrlo 96% yn llai na’r hyn a oedd ar ei uchaf.
  • Rhoddwyd terfyn ar lai na 0.5% o brentisiaethau yn sgil diswyddo prentisiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Roedd 55 o brentisiaid eraill (llai na 0.5%) wedi cael eu diswyddo, ond maent yn parhau â’u rhaglen ddysgu tra bo’u darparwr yn ceisio dod o hyd i gyflogwr arall.
  • Mae llai o brentisiaethau wedi’u cwblhau, yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus, o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
  • Dim ond 36% o brentisiaid sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth neu gael swydd, o gymharu â chyfartaledd o 44% erbyn yr adeg hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y prentisiaid a oedd ar ffyrlo o hyd wrth i’r cynllun ddod i ben yn fwy tebygol o fod yn:

  • ifanc
  • gwrywaidd
  • gwyn
  • astudio prentisiaethau lefel 2
  • gweithio i gwmnïau â llai na 10 o gyflogeion
  • byw yn y de-orllewin

Ceir gwybodaeth am nifer y bobl sydd ar ffyrlo yng Nghymru yn yr ‘Ystadegau ar y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth’.

Nodiadau

Mae’r ystadegau ar gyfer prentisiaid sy’n cwblhau eu prentisiaethau yn cwmpasu cyfnod hirach ac maent yn edrych ar garfan fymryn yn wahanol o brentisiaid na’r ystadegau yn yr adroddiad Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2019 i Orffennaf 2020. Mae dysgwr sydd wedi cwblhau prentisiaeth wedi dysgu’r hyn sy’n ofynnol iddo ei ddysgu, ond ni fydd o reidrwydd wedi cyflawni pob un o'r cymwysterau gofynnol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Prentisiaid a roddwyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): hyd at 24 Medi 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 96 KB

ODS
96 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.