Neidio i'r prif gynnwy

Ddydd Gwener 28 Mai, tyngodd Cwnsler Cyffredinol newydd Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, lw er mwyn derbyn y swydd mewn seremoni yn Llys y Goron Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru a’i chynrychiolydd yn y llysoedd. Yn gynharach yr wythnos hon pasiodd y Senedd gynnig i dderbyn yr enwebiad.

Mae Mick Antoniw yn AS ers 2011 ac roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith cyn ei ethol i’r Senedd. Astudiodd yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Prifysgol Cymru.

Fe’i penodwyd hefyd i swydd Gweinidog y Cyfansoddiad a bydd yn chwarae rhan weithredol mewn materion cyfansoddiadol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Braint oedd cael tyngu llw i fod yn Gwnsler Cyffredinol.

“Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw cyfreithiau sydd wedi’u gwneud yng Nghymru i fywydau pob dydd pobl. Mae cysylltiad agos rhwng ein cyfreithiau a’n cyfansoddiad a bwriad y Llywodraeth hon yw arwain sgwrs genedlaethol ymhlith ein dinasyddion ynghylch ein dyfodol cyfansoddiadol.

“Bydd diogelu datganoli yn hollbwysig wrth inni fynd ati i greu cenedl sy’n wyrddach, yn gryfach ac yn decach.”

Mae gan y Cwnsler Cyffredinol nifer o gyfrifoldebau statudol, yn ogystal â chyfrifoldebau eraill sy’n ymwneud â chyswllt â sector y gyfraith. Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan Ei Mawrhydi ar argymhelliad Prif Weinidog Cymru.