Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021) yn nodi’r deg amcan llesiant y bydd y llywodraeth yn eu defnyddio i wneud y cyfraniad mwyaf posibl at saith nod llesiant hirdymor Cymru a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.

Mae’r ddogfen hon, y Datganiad Llesiant, yn nodi sut rydym wedi pennu ein hamcanion llesiant yn unol â’n dyletswydd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf).

Mae’n amlinellu:

  • Sut y pennwyd ein hamcanion llesiant, gan gynnwys sut rydym wedi’u pennu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Sut mae ein hamcanion llesiant yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant fel y nodir yn y Ddeddf.
  • Sut y byddwn yn cymryd y camau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion llesiant, gyda chymorth adnoddau a llywodraethu effeithiol.

Ein hamcanion llesiant ar gyfer 2021 i 2026

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi’r deg amcan llesiant a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud y cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant.

Mae’r camau unigol y bwriadwn eu cymryd yn cyd-fynd â phob amcan llesiant. Mae camau penodol ar gyfer pob un o’r deg amcan llesiant. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y Rhaglen Lywodraethu a byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn flynyddol fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf.

Mae ein hamcanion llesiant yn defnyddio’r meysydd sydd wedi’u datganoli inni o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Maent hefyd yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r ysgogiadau ehangach sydd ar gael inni i helpu i gyflawni’r saith nod llesiant. Maent yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n allweddol i alluogi pobl a chymunedau i ffynnu a bod yn llewyrchus nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diogelu ac yn adfer amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan Weinidogion Cymru rôl benodol o dan y Ddeddf gan fod eu dyletswydd i bennu amcanion llesiant yn cael ei sbarduno bob 5 mlynedd gan etholiad Senedd Cymru. Roedd etholiad 2021 Senedd Cymru yn gyfle i bobl ledled Cymru, gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed am y tro cyntaf, ddweud eu dweud ar ba gamau yr oedd angen eu cymryd i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach ar gyfer pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Mae ein hamcanion llesiant wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r llais etholiadol pwerus hwn, gan sicrhau bod pobl yn gallu gweld y dyfodol y gwnaethant bleidleisio drosto yn digwydd yn ymarferol.

Bydd ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen gweithredu i ymateb i bandemig y coronafeirws ac adfer ohono, gan osod hefyd sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol. Byddant yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam o’u bywydau, ble bynnag maent yn byw, beth bynnag fo eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae pob amcan llesiant yn cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant, neu nifer ohonynt, a bydd yr amcanion llesiant a’r camau yn cael eu hadolygu’n barhaus. Mae’n bwysig nodi bod yr amcanion llesiant yn parhau â’r daith tuag at gyflawni’r saith nod llesiant.

Mae'r 10 amcan llesiant

Dyma’r deg amcan llesiant:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

Sut y pennwyd yr amcanion llesiant

Mae’r amcanion llesiant wedi’u cynllunio i adlewyrchu ein blaenoriaethau ar gyfer diogelu a datblygu ein heconomi, ein cymdeithas, ein hamgylchedd a’n diwylliant. Maent yn canolbwyntio ar ffactorau allweddol megis llesiant personol, gwaith teg sy’n rhoi boddhad a mynediad agored i’n diwylliant a’n hamgylchedd cenedlaethol cyfoethog – y ffactorau sy’n helpu pawb i fyw bywydau ystyrlon a phwrpasol.

Maent yn seiliedig ar y swyddogaethau yr ydym yn eu harfer, gan gynnwys pwerau datganoledig ffurfiol ac ysgogiadau mwy anffurfiol er mwyn dylanwadu a sicrhau cydweithredu. Maent yn dysgu gwersi o dymhorau blaenorol y llywodraeth ac yn defnyddio’r rhain i nodi lle y gallwn wneud mwy neu wneud pethau’n wahanol. Maent yn mynd i’r afael â’r heriau strategol sy’n ein hwynebu, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a natur.

Cefnogir ein hamcanion llesiant gan y camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd. Byddant hefyd yn helpu cyrff cyhoeddus ac unigolion yng Nghymru i wneud eu cyfraniad mwyaf posibl eu hunain at ddyfodol ein gwlad ar y cyd.

Wrth osod ein hamcanion llesiant, rydym wedi ystyried Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, yr adroddiad cyntaf o’i fath, a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ym mis Mai 2020. Ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, mae’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’r ddeialog hon wedi bod yn rhan bwysig o’n hystyriaeth barhaus o’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn awgrymu gwelliannau o dan bob nod llesiant ac yn cynnwys siart llif ar sut i bennu amcanion llesiant da. Rydym wedi ystyried yr awgrymiadau hyn wrth ddiffinio ein hamcanion llesiant. Rydym yn hyderus y bydd ein hamcanion llesiant a’n dull gweithredu arfaethedig yn cysylltu meysydd â’i gilydd ac yn ffurfio rhaglen lywodraethu radical a heriol. Yn unol ag awgrymiadau’r adroddiad, maent wedi’u nodi’n glir mewn iaith hawdd ei deall.

Rydym wedi darparu diagram o sut y mae’r amcanion llesiant yn cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant ar dudalen 7, a byddwn yn parhau i fanteisio ar bob cyfle rhesymol i ddeall a defnyddio’r cysylltiadau ar draws ein hamcanion llesiant.

Mae’r amcanion llesiant wedi’u pennu yn unol â’r egw yddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio:

  • Hirdymor

    Mae ein hamcanion llesiant yn cydnabod yr heriau allweddol sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a natur, effaith pedwar degawd o ddad-ddiwydiannu a chanlyniadau ymadael â’r UE. Maent hefyd wedi’u pennu yn unol ag adnodd Deall Dyfodol Cymru, ar sail ein dadansoddiad o’r ffactorau byd-eang a’r ystyriaethau lleol sy’n debygol o effeithio ar Gymru yn y tymor hwy.

    Mae ein hamcanion llesiant a’r camau cysylltiedig yn nodi camau gweithredu priodol, hirdymor i fynd i’r afael â’r heriau strategol allweddol y mae Cymru yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Bydd ein dull gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, ac adolygiadau o’n hamcanion llesiant yn y dyfodol, yn defnyddio Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 unwaith y caiff ei gyhoeddi.

  • Integreiddio

    Mae’r amcanion llesiant yn ymwneud â’i gilydd ac yn ffurfio dull gweithredu integredig. Maent yn atgyfnerthu ei gilydd drwy ganolbwyntio ar themâu cyffredin megis cryfhau ein cymunedau, cefnogi pobl ar hyd eu hoes ac elwa ar ein diwylliant bywiog a’n hadnoddau naturiol cyfoethog.

    Fel cyfres o amcanion llesiant byddant yn adeiladu ar gynnydd tuag at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, gan ein galluogi i gymryd camau mwy cynaliadwy wrth inni werthuso ein penderfyniadau allweddol mewn perthynas â’r amcanion.

    Mae’n bwysig nodi bod yr amcanion llesiant a’r camau wedi’u cynllunio i gefnogi dull gweithredu integredig er mwyn cyflawni. Bydd y Prif Weinidog a’r Cabinet yn gyfrifol amdanynt ar y cyd, a byddant yn cael adroddiadau cynnydd rheolaidd. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfleoedd i gyflawni mwy drwy integreiddio polisïau a rhaglenni yn cael eu nodi’n gynnar ac y gweithredir ar y cyfleoedd hynny.

  • Atal

    Mae ein hamcanion llesiant wedi’u cynllunio i atal problemau rhag digwydd neu waethygu. Maent yn canolbwyntio ar weithredu’n gyflym i nodi heriau yn gynnar ym mhob maes o’n gwaith, gan roi’r adnoddau a’r cymorth sydd eu hangen ar bobl a chymunedau er mwyn iddynt ffynnu mewn ffordd sy’n gynaliadwy.

    Mae hyn yr un mor wir ar lefel strategol tymor hwy. Mae ein hamcanion llesiant yn cynrychioli’r meysydd lle mae angen inni weithio gyda phartneriaid i chwalu rhwystrau, canolbwyntio ar y newid rhwng gwasanaethau a deall anghenion newidiol pobl drwy wahanol gamau eu bywydau, nawr ac yn y dyfodol, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

  • Cynnwys

    Roedd etholiad 2021 Senedd Cymru yn fodd i bobl ledled Cymru ddweud eu dweud ar ba weithgarwch sydd ei angen i greu Cymru well. Mae’r amcanion llesiant yn adlewyrchu’r llais etholiadol hwn, gan sicrhau bod y camau y pleidleisiodd pobl drostynt yn cael eu rhoi ar waith.

    Mae’r amcanion llesiant eu hunain a’r camau tuag atynt yn adlewyrchu pwysigrwydd cynnwys pobl yn barhaus ar draws tymor y Senedd. Maent yn cydnabod mai cynnwys pobl yn y polisïau a’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt yw’r ffordd orau o fynd ati mewn modd cynaliadwy sy’n seiliedig ar anghenion er mwyn cyflawni. Mae’r amcanion llesiant yn ystyried ein holl waith ymgysylltu parhaus â phartneriaid cymdeithasol a grwpiau rhanddeiliaid, gan sicrhau bod ein dull gweithredu yn adlewyrchu eu cyfraniad.

    Mae ein hamcanion llesiant hefyd wedi’u seilio ar ein sgyrsiau parhaus â phobl Cymru, megis yr ymarfer ymgysylltu ‘Cymru Ein Dyfodol’ a gynhaliwyd y llynedd. Cafwyd dros 2,000 o ymatebion drwy’r blwch e-bost Cymru Ein Dyfodol, ac mae dadansoddiad o’r ymatebion hyn wedi llywio ein hamcanion llesiant.

  • Cydweithio

    Bydd yn ofynnol inni gydweithio’n agos â’n partneriaid cyflawni ac eraill er mwyn inni wneud y cyfraniad mwyaf posibl tuag at yr amcanion llesiant. Mae’r egwyddor hon wedi’i hymgorffori’n gadarn yn yr amcanion llesiant. Byddwn yn defnyddio’r mecanweithiau sydd ar gael inni i ymgysylltu, cydweithredu a llwyddo ag eraill – gan weithio gyda rhanddeiliaid, rhwydweithiau blaengar a lleisiau amrywiol ledled Cymru.

    Cydweithredu a chydweithio, yn hytrach na chystadleuaeth a rhaniadau, fydd sail ein hamcanion llesiant gan gynnwys ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Byddwn yn adeiladu ar ein hymateb cydweithredol i bandemig y coronafeirws, pan wnaeth y llywodraeth a’i phartneriaid weithio’n esmwyth ac yn effeithiol i gyflawni’n gyflym.

Mae natur gylchol y ddeddfwriaeth a’r broses o bennu amcanion llesiant newydd ar ôl etholiad Senedd Cymru yn darparu mecanwaith rheolaidd i bwyso a mesur ac edrych ymlaen at y 5 mlynedd nesaf o weithredu i wreiddio’r Ddeddf yn ddyfnach wrth galon y Llywodraeth a phopeth y mae’n ei wneud.

Byddwn bob amser yn gwella ac yn ystyried sut rydym yn gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy i gyflawni’r amcanion llesiant, gan fanteisio ar yr ymgysylltiad rheolaidd â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.

Rydym hefyd wedi ystyried effaith bosibl ein hamcanion llesiant ar gyrff cyhoeddus eraill, a byddwn yn parhau i fynd ati i ymgysylltu â chyrff cyhoeddus o ran gweithredu’r Ddeddf yn genedlaethol. Byddwn yn defnyddio’r mecanweithiau presennol hyn i ddeall effaith ein hamcanion llesiant ar gyrff cyhoeddus eraill.

Gwneud ein cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant

Mae ein hamcanion llesiant yn adlewyrchu’r meysydd lle gallwn wneud y cyfraniad unigol a chyfunol mwyaf at y nodau llesiant – yn enwedig o ran y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Mae’r tabl yn nodi sut y mae pob amcan llesiant yn cyfrannu at y nodau llesiant, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy:

  1. Cymru lewyrchus
  2. Cymru gydnerth
  3. Cymru iachach
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal
  5. Cymru o gymunedau cydlynus
  6. Cymru â  diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  7. Cymru sy’n  gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cyfraniad uniongyrchol
Cyfle am gyfraniad ehangach

Amcan llesiant 1 2 3 4 5 6 7
Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel
Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed
Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl
Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi
Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Mae’n bwysig pwysleisio y dylid deall yr amcanion llesiant nid yn unig o ran eu cyfraniad unigol at y nodau llesiant, ond hefyd o ran o sut y maent yn atgyfnerthu ei gilydd fel set sy’n cyd-fynd yn agos â’i gilydd.

Mae hyn yn golygu bod pob un o’r amcanion llesiant yn cyfrannu at yr holl nodau o leiaf yn anuniongyrchol, a bod eu gwerth cronnol yn cynyddu pan gânt eu cyfuno. Mae pob amcan llesiant yn mynd â ni tuag at y nodau llesiant gydag ystyr a phwrpas – ond dim ond pan gânt eu hystyried gyda’i gilydd y gellir gweld eu heffaith lawn.

Cyflawni yn erbyn yr amcanion llesiant

Rydym wedi ymrwymo i ystyried pob cam rhesymol o fewn ein pŵer i gyflawni’r amcanion llesiant, a’r ymrwymiadau a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu yw’r camau gweithredu strategol y byddwn yn eu cymryd. Mae ymgorffori’r amcanion llesiant yn ein Rhaglen Lywodraethu yn sicrhau y byddant wrth wraidd y Llywodraeth o’r dechrau a thrwy gydol tymor y Senedd hon.

Etholir y Llywodraeth hon ar gyfer y cyfnod 2021-2026 ac yn unol â’r Ddeddf gosodir ein hamcanion llesiant ar gyfer y cyfnod hwn. Rydym yn disgwyl cyflawni’r amcanion llesiant rhwng 2021-2026, fel rhan o’n rhwymedigaethau tymor hwy i wella canlyniadau i bobl a chymunedau yng Nghymru.

Y Prif Weinidog a’r Cabinet fydd yn gyfrifol ar y cyd am yr amcanion llesiant a’r camau cysylltiedig, gyda chymorth uniongyrchol gan swyddfa’r Prif Weinidog. Bydd hyn yn sicrhau bod pob rhan o’r llywodraeth yn cydweithio â’i gilydd yn gyflym.

Bydd gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn cefnogi Gweinidogion Cymru wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf, gan gynnwys gwireddu’r amcanion llesiant a’r camau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn gyfrifol am y camau parhaus i wreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Mae ein papur ategol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi sut rydym wedi gwneud y Ddeddf yn rhan annatod o waith y llywodraeth dros y 5 mlynedd diwethaf. Roedd y papur yn manylu ar y camau gweithredu hynny a’r fframwaith gweithredu strategol y gwnaethom ei sefydlu yn 2020 i adlewyrchu a chyfleu hyd a lled y Ddeddf yn y llywodraeth yn well. Byddwn yn parhau i wneud hyn wrth inni gyflawni ein hamcanion llesiant y tymor hwn.

Yn ogystal ag adrodd ar gynnydd tuag at ein hamcanion llesiant yn ein Hadroddiad Blynyddol, bydd Cyfrifon Blynyddol Llywodraeth Cymru yn parhau i fanylu ar sut y mae’r gwasanaeth sifil yn llywodraethu ei hun i gyflawni amcanion Gweinidogion Cymru – gan gynnwys sut rydym yn cyflawni ein dyletswyddau o dan y Ddeddf. Nod y Ddeddf yw gwneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol ar gyfer y llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Byddwn yn sicrhau bod ein dull gweithredu a llywodraethu a’n mecanweithiau yn parhau i wella i ymateb i’r gofynion hyn.

Byddwn yn defnyddio ein proses gyllidebol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i gyflawni’r amcanion llesiant a’r camau cysylltiedig ym mhob blwyddyn o’r tymor hwn. Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi Cynllun Gwella’r Gyllideb i ddangos sut rydym yn mireinio ac yn gwneud y gorau o’r broses hon. Bydd ein hamcanion llesiant a’n rhwymedigaethau ehangach o dan y Ddeddf yn cael eu hystyried yng nghyllideb ddrafft 2022-23, a fydd yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â Chynllun Gwella’r Gyllideb wedi’i ddiweddaru.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod cynnwys pobl eraill, ymgysylltu a chydweithio yn rhan flaenllaw o’n dull gweithredu. Byddwn yn defnyddio’r adnoddau a ddarperir gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â’n profiadau a’n gwybodaeth ein hunain a phrofiadau ein partneriaid a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn gwrando ar syniadau da o ble bynnag y deuant – mae hon yn llywodraeth sydd wedi ymrwymo i gydweithio er budd pawb.