Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 22 Mehefin 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Yn dilyn y cyhoeddiad ein bod wedi cynnig dos cyntaf y brechlyn COVID-19 i bob oedolyn cymwys yng Nghymru, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru’n annog unrhyw un 18 i 29 oed sydd heb gael y brechlyn i wneud apwyntiad.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Nid yw byth yn rhy hwyr ac mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan.

Rydym yn disgwyl cyrraedd carreg filltir 3 yn ein Strategaeth – bod 75% wedi manteisio ar y dos cyntaf o’r brechlyn ar draws pob grŵp blaenoriaeth a grŵp oedran – cyn y targed. 

Mae ein rhaglen ar gyfer yr ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen ar gyfer y dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae tystiolaeth dda yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn yn helpu i leihau risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Byddwn yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 dros y pedair wythnos nesaf – sef pawb dros 50, pob gweithiwr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, a grwpiau eraill sy’n agored i niwed, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

Byddwn yn cynnig apwyntiadau cynharach i bobl dros 40 oed, yn amodol ar gyflenwad, fel na fydd raid iddynt aros mwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a’u hail ddos.

Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy’n cael ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac wedi cael cefnogaeth y pedwar Prif Swyddog Meddygol yn y DU.

Crynodeb cyfredol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 3.7 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru.
  • Mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.
  • Mae dros 2.2 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 1.5 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn y brechlyn.
  • Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd.
  • Mae 83% o’r grŵp 40-49 oed wedi cael y dos cyntaf, 73% o’r grŵp 30-39 oed  wedi cael y dos cyntaf a 69% o’r grŵp 18-29 oed wedi cael y dos cyntaf.
  • Mae 3 o bob 5 oedolyn wedi cael eu hail ddos ac felly wedi’u diogelu’n llawn.
  • Yn gyffredinol, mae 88% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 60% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos.

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • oedolion 18 oed a hŷn sydd ar ôl heb eu brechu
  • unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • ail ddosau i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 379 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 48 o ganolfannau brechu torfol
  • 242 o leoliadau practis cyffredinol
  • 38 o fferyllfeydd
  • 21 o leoliadau ysbyty
  • roedd 25 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei bumed adroddiad ar gydraddoldeb o ran darparu’r rhaglen frechu COVID-19. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd yn y gyfran o bobl sydd wedi’u brechu yn yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol a grwpiau ethnig a nodwyd, gyda’r gyfran o bobl mewn grwpiau oedran hŷn sydd wedi cael un dos yn gwastatáu. Mae hefyd yn dangos bod bylchau anghydraddoldeb o ran darparu o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol ymysg oedolion hŷn yng Nghymru wedi lleihau ychydig ers mis Mawrth, ond mae bylchau anghydraddoldeb mewn grwpiau oedran iau wedi ehangu. Gwelwyd yr anghydraddoldeb mwyaf yn y ddarpariaeth rhwng grwpiau ethnig mewn oedolion rhwng 30 a 39 oed.

Mae’r rhaglen yn dal i fynd rhagddi ac nid yw’r ffigurau o ran cyfran y bobl sydd wedi’u brechu yn derfynol, felly mae cyfle o hyd i leihau anghydraddoldebau. Mae lleihau anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth rhwng rhai grwpiau dros y mis diwethaf yn amlygu pwysigrwydd cynnig cyfleoedd i ddal i fyny a gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus lleol.

Mae sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn un o egwyddorion allweddol ein rhaglen frechu, gan ymdrechu i leihau anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth. Bydd y GIG bob amser yn barod ichi. Os na wnaethoch chi fanteisio ar eich cynnig cyntaf o frechlyn COVID-19 am ba reswm bynnag ond eich bod wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19 a hefyd yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol.

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth.  

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.